Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Virtual Meeting
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb I dderbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
I dderbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gyhoeddiadau. |
|
Derbyn cyflwyniad gan y Swyddog Monitro mewn perthynas a Protocol Cyn-Etholiad ar gyfer Gweithwyr ac Aelodau Etholedig – Etholiadau Llywodareth Leol – 5 Mai, 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y Protocol Cyn Etholiad ar gyfer Gweithwyr ac Aelodau Etholedig ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol – 5 Mai, 2022 i’r Cyngor er gwybodaeth.
|
|
Newidiadau i'r Cyfansoddiad PDF 602 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro Dros Dro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 25 Ebrill 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth Dros Dro (Busnes y Cyngor)/Monitro fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 25 Ebrill, 2022 i’w dderbyn gan y Cyngor.
Dywedodd yr Aelod Portffolio – Corfforaethol fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn cyflwyno newidiadau i gylch gorchwyl rhai Pwyllgorau yn bennaf y Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio a Safonau.
Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod y newidiadau i'r Cyfansoddiad yn disgyn i 2 gategori sydd yn gyntaf angen diwygiadau i adlewyrchu'r Pwyllgor Safonau a Llywodraethu ac Archwilio fel y gwelir yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad ac yn ail gan fod yr adolygiad ffiniau diweddar wedi arwain at gynnydd yn nifer yr Aelodau Etholedig ar y Cyngor o 30 i 35 ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai. Effaith hyn yw y bydd angen newid nifer yr Aelodau ar rai pwyllgorau. Nododd ymhellach y bydd traean o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cynnwys aelodau lleyg (8 Aelod Etholedig a 4 Aelod Lleyg).
PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwaith fel a ganlyn:-
· Mabwysiadu’r newidiadau i’r Cyfansoddiad fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad; · Cytuno i'r newidiadau a argymhellir a dirprwyo'r hawl i'r Swyddog Monitro wneud y newidiadau i'r Cyfansoddiad fel yr argymhellir ynghyd ag unrhyw newidiadau atodol neu ganlyniadol sy'n codi.
|
|
Penodi Aelodau Lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio PDF 221 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Archwilio a Risg, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 19 Ebrill 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 19 Ebrill, 2022 i’r Cyngor ei dderbyn.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y derbyniwyd 13 o geisiadau a bod pedwar ymgeisydd wedi'u dewis ar gyfer cyfweliad. Mae Mr Dilwyn Evans, yr aelod lleyg presennol, wedi nodi ei fod yn fodlon gwasanaethu am ail dymor o bum mlynedd. Roedd y Panel yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn cyfweld â’r pedwar ymgeisydd ym mis Chwefror 2022 a dewiswyd y canlynol i wasanaethu ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o fis Mai 2022 ymlaen:-
Mr Michael Wilson Mrs Sharon Warnes Mr William Parry
PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio:-
· Penodi'r tri ymgeisydd yn aelodau lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio; · Cytuno i benodi'r aelod lleyg presennol am ail dymor o bum mlynedd.
|