Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am
2022/23.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unfrydol ethol y Cynghorydd Dafydd Roberts yn Gadeirydd ar Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2022/23.
Wrth dderbyn y fraint o gael ei benodi, sicrhaodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y Cyngor y byddai’n ymdrechu i gyflawni ei ddyletswyddau fel Cadeirydd hyd eithaf ei allu. Diolchodd i’w ragflaenydd, y Cynghorydd Glyn Haynes, am gyflawni ei ddyletswyddau dinesig fel Cadeirydd y Cyngor Sir mor anrhydeddus.
Roedd y cyn Gadeirydd, y Cynghorydd Glyn Haynes, wedi anfon ei ymddiheuriadau.
|
|
Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2022/23.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Margaret Murley Roberts yn Is-Gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer 2022/23.
Diolchodd y Cynghorydd Margaret Murley Roberts i’w chyd Aelodau am y fraint a dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Cadeirydd a’i gefnogi gyda’i ddyletswyddau yn ystod y flwyddyn nesaf.
|
|
Cyhoeddiadau Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd neu’r Prif Weithredwr ac unrhyw sylwadau terfynol am ei gyfnod yn y swydd gan y Cadeirydd y mae ei dymor yn dod i ben.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw gyhoeddiadau.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cyflwyniad gan Ymgeisydd i Gefnogi ei Henwebiad i fod yn Arweinydd y Cyngor PDF 236 KB Yn unol â Pharagraff 2.7.3.1 y Cyfansoddiad, ar ôl cyflwyno cyflwyniad ysgrifenedig (maniffesto) eisoes i’r Prif Weithredwr cyn 5:00 pm ar 12 Mai 2022 (a gefnogwyd gan ddau Gynghorydd arall trwy ysgrifennu i’r perwyl at y Prif Weithredwr), bydd yr ymgeisydd canlynol yn rhoi cyflwyniad llafar ar ei gweledigaeth a'i gwerthoedd: -
Y Cynghorydd: Llinos Medi Huws
[Nodyn 1: Gofynnir i’r sawl a enwebwyd, i gyflwyno ei chynigion a’i rhaglenni i'r Cyngor, a dylid disgwyl iddi gymryd cwestiynau gan Aelodau].
[Nodyn 2: Ni ddylai cyflwyniadau gymryd mwy na 10 munud ac ni chaniateir i unrhyw gwestiynau o'r llawr gymryd mwy na 10 munud; caniateir dim mwy nag 20 munud felly ar gyfer yr ymgeisydd]. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Pharagraff 2.7.3.1 y Cyfansoddiad, ac wedi iddi gyflwyno cyflwyniad ysgrifenedig (maniffesto) i’r Prif Weithredwr cyn 5.00pm ar 12 Mai 2022 (a gefnogwyd gan ddau Gynghorydd arall trwy ysgrifennu at y Prif Weithredwr), rhoddodd y Cynghorydd Llinos Medi gyflwyniad ar ei gweledigaeth a’i gwerthoedd.
|
|
Penodi Arweinydd ar gyfer y Cyngor Sir Ethol Arweinydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn (fel arfer am dymor o 5 mlynedd) yn unol ag Erthygl 7, ac yn benodol y rheolau gweithdrefn dan baragraffau 2.7.3.1 a 2.7.3.2 yng Nghyfansoddiad y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Llinos Medi yn Arweinydd ar Gyngor Sir Ynys Môn am gyfnod o 5 mlynedd yn unol ag Erthygl 7, ac yn benodol y rheolau gweithdrefn a gynhwysir ym Mharagraffau 2.7.3.1 a 2.7.3.2 o Gyfansoddiad y Cyngor.
(Fe wnaeth y Cynghorwyr Paul Ellis, Jeff Evans, Douglas M Fowlie, A M Jones, Robert Ll Jones, Derek Owen a Liz Wood atal eu pleidlais.)
|
|
Dirprwy Arweinydd y Cyngor Arweinydd y Cyngor i roi gwybod i’r Cyngor pwy y mae wedi ei dewis / ddewis i fod yn Ddirprwy Arweinydd (bydd raid i’r Dirprwy Arweinydd fod yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith).
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei bod wedi penodi'r Cynghorydd Carwyn Jones i wasanaethu fel Dirprwy Arweinydd.
|
|
Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2022/23 PDF 367 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro ar Gydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau ar gyfer 2022/23.
PENDERFYNWYD:-
· dderbyn penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2022/23;
· cadarnhau y bydd deilyddion yr un swyddi â 2021/22 â’r hawl i dderbyn uwch gyflogau o 2022/23, heblaw am swydd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu lle bydd y ffioedd a bennir gan y Panel ar gyfer aelodau cyfetholedig yn berthnasol, hy:
Cadeirydd y Cyngor Is-gadeirydd y Cyngor Arweinydd y Cyngor Dirprwy Arweinydd y Cyngor Aelodau eraill y Pwyllgor Gwaith (7) Arweinydd yr Wrthblaid Fwyaf Cadeiryddion Pwyllgorau Sgriwtini (2) Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
· awdurdodi swyddogion i ddiwygio Rhan 6 o Gyfansoddiad y Cyngor (Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau) i adlewyrchu’r penderfyniadau a wnaed yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022/23.
|
|
Cadarnhau Pwyllgorau Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau canlynol fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol: -
• Panel Tâl a Graddfeydd (Is-Bwyllgor o'r Cyngor) • Panel Penodi i’r Pwyllgor Safonau • Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol • Is-Bwyllgor Indemniadau
[Gofynnir yn garedig i Aelodau nodi y cynhelir y cyfarfod a ohiriwyd o'r Cyngor hwn (yn unol â Pharagraff 4.1.1.1.2 o Gyfansoddiad y Cyngor) am 2.00pm ar Dydd Mawrth, 31 Mai, 2022]. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhaodd y Cadeirydd ailbenodi’r strwythur Pwyllgorau canlynol fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â’r canlynol:-
· Panel Tâl a Graddfeydd (is-bwyllgor o’r Cyngor) · Panel Penodi i’r Pwyllgor Safonau · Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) · Cyd-bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig · Is-bwyllgor Indemniadau
|