Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft o gyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2024. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o Gyngor Sir Ynys Môn a gynhaliwyd ar 7 Mawrth, 2024 fel cofnod cywir yn amodol ar gywiriad I’r fersiwn Gymraeg o’r cofnodion a ddylai ddarllen (Eitem 8 – Cyllideb 2024/2025 - Ar ddechrau’r broses o osod y gyllideb roedd bwlch o £14.391m rhwng y gyllideb refeniw ddigyfnewid a’r cyllid oedd ar gael cyn cynyddu’r Dreth Gyngor).
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd datganiad o ddiddordeb. |
|
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni dderbyniwyd yr un ddeiseb. |
|
Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor 2023/24 PDF 200 KB Ystyried adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor yn unol â Pharagraff 4.1.16 y Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Amherthnasol. Dim angen am benderfyniad.
|
|
Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini 2023/24 PDF 775 KB Cyflwyno adroddiad gan Gadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD yn unfrydol:-
· Cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini ar gyfer 2023/24. · Nodi’r cynnydd parhaus sy’n cael ei wneud o ran ein siwrnai ddatblygu Sgriwtini a’r effaith y mae hyn yn ei gael ar ymarfer. · Penodi cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn Bencampwr Sgriwtini ar gyfer y cyfnod rhwng Mai 2024 a Mai 2025. |
|
Cynllun Strategol Rheoli Asedau Corfforaethol 2024-2029 PDF 711 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Mawrth 2024. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynllun Strategol Rheoli Asedau ar gyfer 2024-2029.
|
|
Swyddogaeth Dewis Lleol: Perfformiad PDF 178 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, yn dilyn Penderfyniad Portffolio a wnaed gan y Deilydd Portffolio ar gyfer Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer ar 29 Ebrill 2024. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:-
· Dynodi’r Hunanasesiad Corfforaethol a’r Asesiad Perfformiad gan Banel yn swyddogaethau i’w arfer gan y Pwyllgor Gwaith. · Cytuno y bydd Asesiad Perfformiad gan Banel cyntaf y Cyngor yn digwydd yn ystod 2025. · Awdurdodi penodi Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i gefnogi’r Cyngor yn ystod ei Asesiad Perfformiad gan Banel cyntaf, ar gost o oddeutu £35,000 (llai’r gost o gyd-ddylunio’r fanyleb); · Awdurdodi’r Prif Weithredwr i wneud yr holl benderfyniadau a threfniadau gweithredol, ac eithrio mewn perthynas â phenodi panel annibynnol a sefydlu cylch gorchwyl ar ei gyfer; a fydd yn benderfyniad i’r Pwyllgor Gwaith. |