Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Cyngor Sir Ynys Môn - Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 26ain Medi, 2024 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cyflwyniad gan Ymgeisydd i Gefnogi eu Henwebiad i fod yn Arweinydd y Cyngor pdf eicon PDF 55 KB

Yn unol â Pharagraff 2.7.3.2 y Cyfansoddiad, ar ôl cyflwyno cyflwyniad ysgrifenedig (maniffesto) i’r Prif Weithredwr eisoes, 5 diwrnod gwaith cyn y Cyngor llawn (a gefnogwyd yn ysgrifenedig gan ddau Gynghorydd arall at y Prif Weithredwr), bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr canlynol yn rhoi cyflwyniad llafar ar eu gweledigaeth a'u gwerthoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 2.7.3.2 o’r Cyfansoddiad, ac ar ôl cyflwyno cyflwyniad ysgrifenedig (maniffesto) i’r Prif Weithredwr, 5 diwrnod gwaith cyn y Cyngor llawn (wedi’i gefnogi yn ysgrifenedig gan ddau Gynghorydd arall), rhoddodd y Cynghorydd Gary Pritchard gyflwyniad llafar ar ei weledigaeth a'i werthoedd.

 

2.

Penodi Arweinydd y Cyngor

Ethol Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn yn unol ag Erthygl 7, ac yn benodol y rheolau gweithdrefn sydd wedi eu cynnwys dan Baragraffau 2.7.3 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unfrydol i ethol y Cynghorydd Gary Pritchard yn Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn yn unol ag Erthygl 7 ac yn benodol y rheolau gweithdrefn ym Mharagraff 2.7.3 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd y Grŵp Plaid Cymru longyfarch y Cynghorydd Gary Pritchard ar gael ei ethol yn Arweinydd y Cyngor.  Talodd deyrnged i’r cyn Arweinydd, Llinos Medi am yr hyn a gyflawnodd yn ystod ei chyfnod fel Arweinydd a’i llongyfarch ar gael ei hethol yn Aelod Seneddol dros Ynys Môn. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones ei fod yn gobeithio y bydd yr Arweinydd newydd yn sicrhau bod y prosiect Wylfa yn codi momentwm ac y bydd safle niwclear yn cael ei adeiladu ar safle Wylfa. Dywedodd yr Arweinydd y bydd yn pwyso am safle niwclear newydd ar safle Wylfa.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones ei fod yn gobeithio y bydd yr Arweinydd newydd yn ymdrechu i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei dargedau sero net erbyn 2030. Dywedodd yr Arweinydd bod y Cyngor wedi ymrwymo i fod yn gyngor sero net erbyn 2023 ac y bydd yn rhaid iddo weithio â phob gwasanaeth a sefydliadau partner i gyflawni hyn.  

 

3.

Dirprwy Arweinydd / Arweinyddion y Cyngor

Yr Arweinydd i hysbysu’r Cyngor o enw’r Dirprwy Arweinydd / Arweinyddion (bydd y Dirprwy Arweinydd / Arweinyddion yn Aelod / Aelodau o’r Pwyllgor Gwaith.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi penodi’r Cynghorydd Robin Williams i wasanaethu fel Dirprwy Arweinydd.

 

 

4.

Aelodaeth o'r Pwyllgor Gwaith

Yr Arweinydd i hysbysu’r Cyngor o enwau’r Cynghorwyr y mae wedi eu dewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae wedi eu dewis i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio:-

 

Cynghorydd Gary Pritchard (Arweinydd) â chyfrifoldeb dros y portffolio Datblygu Economaidd;

 

Cynghorydd Robin Williams (Dirprwy Arweinydd) â chyfrifoldeb dros y portffolio Cyllid a Thai;

 

Cynghorydd Neville Evans â chyfrifoldeb dros y portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol;

 

Cynghorydd Carwyn Jones â chyfrifoldeb dros y portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer;

 

Cynghorydd Dyfed Wyn Jones â chyfrifoldeb dros y portffolio Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol), Pobl Ifanc a Theuluoedd;

 

Cynghorydd Alun Roberts â chyfrifoldeb dros y portffolio Gwasanaethau Oedolion (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Diogelwch Cymunedol;

 

Cynghorydd Dafydd Roberts â chyfrifoldeb dros y portffolio Addysg a’r Gymraeg;

 

Cynghorydd Nicola Roberts â chyfrifoldeb dros y portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd;

 

Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas â chyfrifoldeb dros y portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

 

5.

Cofnodion pdf eicon PDF 208 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft o gyfarfodydd canlynol y Cyngor Sir:-

 

  21 Mai 2024 (Cyfarfod Cyffredinol) (10:30am)

  21 May 2024 (Cyfarfod Blynyddol) (2:00pm)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cadarnhawyd fod cofnodion y cyfarfodydd canlynol o Gyngor Sir Ynys Môn yn gywir:-

 

·      21 Mai, 2024 (Cyfarfod Cyffredinol) a.m.

·      21 Mai, 2024 (Cyfarfod Blynyddol) p.m.

 

 

6.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

 

7.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-

 

·          Llongyfarchiadau i drefnwyr Sioe Môn ar sioe arall lwyddiannus eleni;

 

·          Llongyfarchiadau i’r holl gystadleuwyr o’r Ynys a fu’n llwyddiannus yn y Sioe Genedlaethol a’r Eisteddfodau.

 

·          Llongyfarchiadau mawr i blant a phobl ifanc yr Ynys ar eu llwyddiant gyda chanlyniadau TGAU, Lefel A, a chymwysterau lefel 2 a 3 eraill dros yr haf. Dymuniadau gorau i’r bobl ifanc hynny fydd yn gadael eu cartrefi am brifysgolion a cholegau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.

 

·          Mae’r Cyngor yn Rhiant Corfforaethol a manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i longyfarch y Plant sy'n Derbyn Gofal ar eu llwyddiannau yn eu TGAU a chyraeddiadau eraill yn ddiweddar, mae'r rhan fwyaf wedi sicrhau lleoliadau coleg, profiadau gwaith neu gyfleoedd prentisiaeth ac mae gennym un dyn ifanc sydd newydd ddechrau ym Mhrifysgol Bolton - da iawn i chi gyd! Roedd y Cadeirydd yn dymuno diolch i’r holl staff, athrawon, rhieni a rhieni maeth sydd wedi cefnogi’r bobl ifanc. 

 

·          Llongyfarchiadau arbennig i Isaak Floyd-Eve oedd yn ddisgybl blwyddyn 13 yn Ysgol Uwchradd Caergybi ar ennill Gwobr Goronwy Jones am yr ymgeisydd Safon Uwch gorau mewn Ffiseg drwy Gymru. Da iawn Isaak.

 

·          Llongyfarchiadau i Mabli Blackshaw o Gaergybi ar gynrychioli tîm pêl-droed dan 16 Cymru a hithau yn ddim ond 12 oed. Chwaraeodd Mabli i Gymru yn erbyn Iwerddon yn Nulyn yn ddiweddar.

 

·          Llongyfarchiadau i Jenna Seddon o Rosneigr – enillydd y ras merched Firelighter a oedd yn rhan o wŷl redeg y Ring O’Fire ym mis Awst.

 

·          Llongyfarchiadau i Gethyn Evans, Bryngwran – y dyn cyntaf yn ras 5 milltir y Morglawdd a gynhaliwyd ym mis Awst.

 

·          Llongyfarchiadau i Gareth Cadwaladr, rheolwr gwasanaethau digidol yn y Cyngor, sydd wedi seiclo dros 700 milltir o Sweden i’r Iseldiroedd gyda chriw o ffrindiau i godi arian at elusen Blood Cancer UK.  Maent wedi llwyddo i hel dros £2,600 at yr elusen hyd yma.  

·         Talodd y Cadeirydd deyrnged i Mr Elfed Roberts o’r Adran Gyllid sydd wedi cyrraedd carreg filltir nodedig o weithio i’r Cyngor am 50 mlynedd.

 

·          Dywedodd y Cadeirydd bod yr Awdurdod wedi llwyddo i uwchraddio ei aelodaeth Hyderus o ran Anabledd, a bod y Cyngor yn cael ei adnabod fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Diolchodd i’r staff sydd wedi bod yn rhan o’r datblygiad pwysig hwn.

 

·          Llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Jeff Evans ar ei lwyddiant diweddar ym mhencampwriaethau’r ‘Town Crier’.

·          Dymunodd y Cadeirydd yn dda i gyn-arweinydd y Cyngor, Llinos Medi ar gychwyn ei gwaith fel aelod seneddol dros Ynys Môn. 

 

*          *          *          *

 

Cydymdeimlodd â theuluoedd a ffrindiau Humphrey Pickering, Stephen a Katherine Burch a fu farw mewn damwain car ym Miwmares ddiwedd mis Awst. Er tristwch y digwyddiad, roedd ymateb y trigolion lleol yn arwydd o gryfder y gymuned. 

 

Cydymdeimlodd hefyd a theuluoedd yr aelodau staff a fu farw yn ddiweddar :-

 

-          TonyJones a fu’n gwasanaethu’r Cyngor am flynyddoedd ac a oedd yn weithgar yn y gymuned drwy ei waith gyda MônFM

-          Einir Williams, pennaeth Sbaeneg, dirprwy bennaeth 6ed  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddeisebau.

 

9.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/24 pdf eicon PDF 525 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Medi 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Medi 2024, i’w dderbyn gan y Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer ei bod yn bleser cyflwyno adroddiad mor gadarnhaol sy’n nodi bod y Cyngor wedi cwblhau 93% o’r gwaith a gynlluniwyd, fel y nodir yn y ddogfen gyflawni flynyddol.  Mae’r unig gam gweithredu allweddol sydd heb ei gwblhau yn ymwneud â phorth tenantiaid digidol newydd y Cyngor er mwyn gwella’r dulliau cyswllt i’n tenantiaid. Am resymau technegol bydd bellach yn cael ei lansio yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn nesaf. Amlygodd y Cynghorydd Carwyn Jones rai o’r gwelliannau unigol o dan bob amcan strategol a dywedodd mai’r her nawr fydd cynnal y perfformiad rhagorol hwn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Aled Morris Jones at y defnydd a wneir o Bremiwm y Dreth Cyngor i adfer eiddo gwag. Roedd o’r farn bod hyn yn annheg a bod trigolion lleol yn wynebu gorfod talu dwywaith cymaint o Dreth Gyngor gan eu bod yn y broses o werthu eiddo y maent wedi’i etifeddu a phobl ifanc sy’n cymryd mwy o amser i atgyweirio eu heiddo.

 

Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd ei fod o’r farn bod y Premiwm yn gweithio’n dda, a bod y premiwm ychwanegol wedi darparu adnoddau i ychwanegu at Stoc Dai’r Cyngor a helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eu cartref cyntaf drwy ddarparu benthyciadau rhannu ecwiti.  Er ei fod yn derbyn bod rhai pobl yn etifeddu eiddo a methu ei werthu o fewn yr amserlen a bod pobl methu â chwblhau gwaith adnewyddu mewn pryd, mae’r Adran Gyllid yn ystyried y math yma o enghreifftiau pan fydd eiddo yn wag.  

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i fabwysiadu’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/2024.

 

10.

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol 2023/24 pdf eicon PDF 9 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod yr Adroddiad Blynyddol yn adroddiad statudol sy’n amlygu llwyddiannau’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd bod heriau ariannol, yn enwedig yn y Gwasanaethau Plant, sy’n gorwario ar hyn o bryd, a bod cynlluniau ar y gweill i agor Cartref Clyd arall ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Aeth ymlaen i ddweud bod prosiectau trydydd sector ar gael i gadw pobl yn eu cymuned leol i’w hatal rhag dod yn ddibynnol ar wasanaethau statudol y Gwasanaethau Plant ac Oedolion sy’n gostus. Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn dymuno diolch i staff y Gwasanaethau Plant ac Oedolion am eu gwaith.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i DDERBYN Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithlonrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol 2023/2024.

 

11.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2023/24 - Adroddiad y Cadeirydd pdf eicon PDF 412 KB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, fel y’i cyflwynwyd ’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 27 Mehefin 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 27 Mehefin 2024, i’w gymeradwyo  gan y Cyngor.

 

Dywedodd Mr Dilwyn Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio bod yr adroddiad yn cwrdd â Chylch Gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu, sy’n ei gwneud yn ofynnol i'r Pwyllgor adrodd i'r cyngor llawn yn flynyddol ar ei ganfyddiadau, casgliadau ac argymhellion ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu, rheoli risg a fframweithiau rheolaeth fewnol y Cyngor, trefniadau adrodd ariannol, ymdrin â chwynion a swyddogaethau archwilio mewnol ac allanol. Mae’r adroddiad yn nodi gweithgareddau’r Pwyllgor yn ystod 2023/2024. Roedd yn dymuno diolch i Aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac i’r staff sy’n cefnogi’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2023/24.

 

 

12.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2023/24 pdf eicon PDF 4 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i’w gymeradwyo gan y Cyngor.

 

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau gan Mr Trefor Owen, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.

 

Dywedodd Mr Owen ei fod wedi cael ei benodi’n Gadeirydd y Pwyllgor Safonau’n ddiweddar a diolchodd i’r cyn-gadeirydd, Mr Rhys Davies, am ei waith.  Eglurodd Mr Owen mai dyma drydydd adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau i’r Cyngor Sir yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Dywedodd Mr Owen bod yr adroddiad yn amlinellu dyletswyddau’r Pwyllgor Safonau, a’r gwaith a ymgymerwyd ganddo ag Aelodau’r Cyngor Sir, Arweinyddion Grŵp a Chynghorau Tref a Chymuned i gyflawni ei ddyletswyddau. Aeth Mr Owen ymlaen i ddweud bod yr adroddiad yn amlinellu gwaith y Pwyllgor yn unol â’i gyfrifoldebau yn ystod 2023/2024 a chyflwynwyd Rhaglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2024/2025 i’w gymeradwyo gan y Cyngor. 

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i:-

 

· Gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau;

· Cymeradwyo Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2024/25, gan dderbyn y gallai materion ychwanegol gael eu cynnwys, yn unol â'r galw.

 

13.

Newid y Cyfansoddiad - Cynllun Dirprwyo i Swyddogion pdf eicon PDF 179 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 23 Gorffennaf 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar  23 Gorffennaf 2024, i’w gymeradwyo gan y Cyngor.

 

Adroddodd yr Arweinydd bod yr adroddiad yn cynnwys cais am Gynllun Dirprwyo mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau statudol y Cyngor yn gysylltiedig ag unrhyw ddatblygiad sydd yn Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP). Drwy ei Raglen Ynys Ynni, mae'r Cyngor, yn ymgysylltu ag amrywiaeth o ddatblygwyr sydd â diddordeb mewn adeiladu a gweithredu ar ddatblygiadau carbon isel ar yr Ynys, a oedd wedi’u hamlygu yn yr adroddiad. Gan mai’r Arolygiaeth sy’n pennu’r amserlen archwilio, nid yw'n bosibl cysoni'r terfynau amser fel bod y Cyngor yn cyflwyno sylwadau a thystiolaeth gyda chylch pwyllgorau'r Cynghorau. Felly, gofynnir i’r Cyngor gefnogi cynllun dirprwyo i alluogi’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i gyflawni holl swyddogaethau statudol y Cyngor yn gysylltiedig â phrosiectau NSIP. Nid yw’r amserlen archwilio a ddarperir gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn caniatáu digon o amser i gyfieithu cyflwyniadau’r Cyngor erbyn y dyddiad cyflwyno. Gofynnir felly am ganiatâd i wyro oddi wrth ofynion Polisi Iaith Gymraeg y Cyngor i ganiatáu cyflwyno cyfieithiad Cymraeg o gyflwyniadau'r Cyngor  i'r broses archwilio ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno. Ni fydd y mesur hwn yn effeithio ar allu’r Cyngor i gydymffurfio â’r safonau darparu gwasanaeth statudol, sy’n ei gwneud hi’n ofynnol gohebu’n Gymraeg/dwyieithog â’r cyhoedd a phersonau eraill yng Nghymru.  Bydd fersiwn Gymraeg o ddogfennau’r Cyngor ar gael bob amser ac ni chaiff unrhyw ddogfennau eu cyhoeddi na’u cyhoeddi’n gyhoeddus hyd nes y bydd cyfieithiad Cymraeg ar gael.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i:-

 

  • Ddirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad a’r Arweinydd (neu Aelod Portffolio a enwebwyd gan yr Arweinydd), i gyflawni holl swyddogaethau statudol y Cyngor 4 mewn cysylltiad ag unrhyw ddatblygiad sydd yn Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) ac sy'n gofyn am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) fel y'i diffinnir o dan Ddeddf Cynllunio 2008 fel y diwygiwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol;
  • Caniatáu i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro, mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd), i ddiweddaru adran 3.5.3.10 o’r Cyfansoddiad i adlewyrchu'r dirprwyaethau a roddwyd gan y penderfyniad.
  • Rhoi caniatâd i wyro oddi wrth ofynion Polisi Iaith Gymraeg y Cyngor er mwyn galluogi i gyfieithiad Cymraeg o sylwadau’r Cyngor gael ei anfon at yr Arolygaeth Cynllunio yn dilyn eu cyflwyno yn y Saesneg. (Mae’r eithriad yma’n angenrheidiol gan nad yw amserlen yr archwiliad NSIP yn caniatáu amser digonol i sylwadau’r Cyngor gael eu cyfieithu erbyn y dyddiad cyflwyno).

 

 

14.

Newid y Cyfansoddiad – Polisi Pryderon a Chwynion a Rheolau Gweithdrefn Contractau pdf eicon PDF 136 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Medi 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Medi 2024, i’w gymeradwyo gan y Cyngor.

 

Eglurodd yr Aelodau Portffolio Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer bod y Polisi Pryderon a Chwynion a Rheolau Gweithdrefn Contractau wedi’u cynnwys yng Nghyfansoddiad  y Cyngor ar hyn o bryd ac felly mae’n rhaid i unrhyw newidiadau gael eu cymeradwyo gan y Cyngor llawn.  Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i gynnwys y PPCh/RhGCau yn y Cyfansoddiad, ac nid yw hynny’n ddisgwyliedig gan reoleiddwyr y Cyngor chwaith. 

 

Mae’n rhaid i’r Cyngor gyhoeddi Polisi Pryderon a Chwynion (PPCh) sy’n cyd-fynd â’r polisi enghreifftiol a ddarparwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) ac sy’n dilyn safonau a chanllawiau arfer da Awdurdod Safonau Cwynion yr Ombwdsmon.

 

Mae newidiadau deddfwriaethol yn gysylltiedig â materion caffael ar y gweill a bydd rhaid diwygio RhGCau y Cyngor  i gyd-fynd â’r gofynion statudol.

 

I hwyluso’r broses o ddiweddaru’r dogfennau hyn cynigir bod y PPCh a’r RhGCau yn cael eu tynnu o’r Cyfansoddiad, a’u bod, ynghyd ag unrhyw ddogfennau ategol, yn cael eu cyhoeddi mewn lle amlwg ar wefan y Cyngor. Drwy eu tynnu o’r Cyfansoddiad bydd modd i’r dogfennau gael eu diwygio gan y Pwyllgor Gwaith, yn hytrach na’r Cyngor llawn. Bydd y newid hwn yn sicrhau bod dogfennau’n cael eu hadolygu a’u diwygio ar amser ac yn darparu proses mwy hyblyg ac ymatebol. Bydd cyhoeddi’r PPCG a’r RhGCau ar wefan y Cyngor yn rhoi mwy o eglurder i aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno gwneud cwyn a chontractwyr / busnesau sy’n ymgeisio am gontractau’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i:-

 

• Dynnu’r canlynol o’r Cyfansoddiad:

·        Polisi Pryderon a Chwynion

·        Rheolau Gweithdrefn Contractau a

·        Dirprwyo awdurdod i’r Swyddog Monitro i wneud unrhyw newidiadau o ganlyniad i’r penderfyniadau hyn.

 

• Bod y Polisi Pryderon a Chwynion, a’r Rheolau Gweithdrefn Contractau (ynghyd â’r holl ddogfennau ategol perthnasol) ar gael yn rhwydd ar wefan y Cyngor.

 

• Ni fydd y Cyngor llawn bellach yn gyfrifol am gymeradwyo unrhyw newidiadau i’r Polisi Pryderon a Chwynion a Rheolau Gweithdrefn Contractau, a byddant yn cael eu cymeradwyo gan:

• y Pwyllgor Gwaith; neu

• y Swyddog Monitro*, o dan bwerau dirprwyedig, os nad yw’r newidiadau’n darparu dewis lleol, neu’n fân newidiadau.

 

*Bydd unrhyw newidiadau i’r Rheolau Gweithdrefn Contractau bob amser yn cael eu trafod â’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

15.

Cytundeb Cyflawni Drafft - Cynllun Datblygu Lleol Ynys Môn pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar 18 Gorffennaf 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar 18 Gorffennaf 2024, i’w gymeradwyo gan y Cyngor.  

 

Yn absenoldeb yr Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd dywedodd y Dirprwy Arweinydd bod yr adroddiad yn crynhoi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cytundeb Cyflawni Drafft  ar gyfer creu Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer Ynys Môn. Mae’r Cytundeb Cyflawni’n amlinellu’r Cynllun Cynnwys Cymunedau sy’n nodi sut a phryd y bydd rhanddeiliaid a’r gymuned yn cael eu cynnwys yn y broses o baratoi’r cynllun a’r amserlen ar gyfer paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol.   Cynhaliwyd ymgynghoriad rhwng 23 Mai 2024 a 4 Gorffennaf 2024. Roedd yr adroddiad yn nodi’r camau a gymerwyd i godi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad. Roedd nifer yr ymatebion yn siomedig. Derbyniwyd 85 o ymatebion ar-lein ond roedd 34 o’r rhain wedi’u cyflwyno heb sylwadau a 35 wedi’u llenwi’n rhannol gyda nifer yn cynnwys manylion cyswllt yn unig. Derbyniwyd 8 ymateb llawn ar y we a 8 ymateb dros e-bost. Nododd nad oedd angen unrhyw newidiadau sylweddol i'r Cytundeb Cyflawni yn dilyn y sylwadau hyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones y dylai’r Cynllun Datblygu Lleol newydd sicrhau bod modd i anheddau gael eu hadeiladu ar gyrion pentrefi llai i fynd i’r afael â’r angen lleol fel ag ym Mholisi Cynllunio 50 yn y Cynllun Datblygu Lleol blaenorol ar gyfer Ynys Môn.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i:-

 

• Nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos o hyd, yn ogystal ag ymateb yr Awdurdod Cynllunio Lleol i’r sylwadau hynny (Atodiad A);

• Cymeradwyo’r drafft terfynol o’r Cytundeb Cyflawni (Atodiad B) a chefnogi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo.