Rhaglen a Phenderfyniadau

Cyngor Sir Ynys Môn - Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 3ydd Rhagfyr, 2024 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 291 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd canlynol o’r Cyngor Sir:-

 

  26 Medi 2024

  6 Tachwedd 2024 (Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd canlynol o Gyngor Sir Ynys Môn yn gywir:-

 

·       26 Medi, 2024

·       6 Tachwedd, 2024 (Arbennig)

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem of fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Fe wnaeth y Cynghorydd Derek Owen ddatgan buddiant personol yn gysylltiedig ag Eitem 4 – Rhybudd o Gynnig – Mân-ddaliadau, gan fod ei frawd yn rhentu mân-ddaliad.

3.

Derbyn Unrhyw Gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

4.

Rhybudd o Gynnig yn Unol  Rheol 4.1.13 .1 Y Cyfansoddiad

  Derbyn y Rhybuddion o Gynnig isod gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes: -

 

  “Rydym yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i fabwysiadu polisi hollgynhwysfawr o wrthwynebiad i ddatblygiad ffermydd solar yng nghefn gwlad Ynys Môn.”

 

   “Rydym yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn, o ganlyniad i’r ansicrwydd o fewn y diwydiant amaethyddol, i gadarnhau ei ymrwymiad i amaeth ar Ynys Môn drwy sicrhau bod yr holl waith trwsio angenrheidiol i adeiladau amaethyddol yn Stad Mân-ddaliadau y Cyngor Sir yn cael ei gwblhau fel mater o frys. Yn ogystal, bod adolygiad o’r fformiwla cyllido  ar gyfer y Stâd Mân-ddaliadau yn cael ei chychwyn.”

 

  Derbyn y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Derek Owen: -

 

”Rydym yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i geisio cyfarfod brys â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, Ed Miliband, er mwyn ei alluogi i gadarnhau dyddiad dechrau ar gyfer prosiect Wylfa Newydd ar safle Wylfa yng Nghemaes.

 

Safle Wylfa yw’r gorau yn Ewrop ar gyfer lletya gorsafoedd pŵer niwclear neu orsafoedd.

 

Mae hyn yn dilyn y llythyr a anfonwyd gan Gyngor Cymuned Llanbadrig yn ceisio atebion.”  

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynwyd – y Rhybuddion o Gynnig isod gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes:-

 

·     ‘Rydym yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i fabwysiadu polisi hollgynhwysfawr o wrthwynebiad i ddatblygiad ffermydd solar yng nghefn gwlad Ynys Môn.’

 

Cafodd y gynnig hwn ei dynnu’n ôl.

 

·     ‘Rydym yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn, o ganlyniad i’r ansicrwydd o fewn y diwydiant amaethyddol, i gadarnhau ei ymrwymiad i amaeth ar Ynys Môn drwy sicrhau bod yr holl waith trwsio angenrheidiol i adeiladau amaethyddol yn Stad Mân-ddaliadau y Cyngor Sir yn cael ei gwblhau fel mater o frys. Yn ogystal, bod adolygiad o’r fformiwla cyllido ar gyfer y Stâd Mân-ddaliadau yn cael ei chychwyn’.

 

Derbyniwyd y Cynnig.

 

Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Derek Owen:-

 

‘Rydym yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i geisio cyfarfod brys â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, Ed Miliband, er mwyn ei alluogi i gadarnhau dyddiad dechrau ar gyfer prosiect Wylfa Newydd ar safle Wylfa yng Nghemaes.

 

Safle Wylfa yw’r gorau yn Ewrop ar gyfer lletya gorsafoedd pŵer niwclear neu orsafoedd.

 

Mae hyn yn dilyn y llythyr a anfonwyd gan Gyngor Cymuned Llanbadrig yn ceisio atebion.’

 

Derbyniwyd y Cynnig.

5.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol a Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni dderbyniwyd yr un ddeiseb.

 

6.

Adolygiad Rheoli'r Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2023/24 pdf eicon PDF 363 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 22 Hydref 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2023/24 sy'n cadarnhau bod y gweithgareddau Rheoli Trysorlys a gynhaliwyd yn ystod 2023/24 yn unol â Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2023/24 a cydymffurfiwyd â'r cyfyngiadau a nodir yn y strategaeth.

7.

Datganiad o'r Cyfrifon 2023/2024 a'r Adroddiad ISA 260 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno’r canlynol, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 27 Tachwedd, 2024: -

 

·          Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 – Datganiad o’r Cyfrifon 2023/24.

 

·          Adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid – Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023/2024.

 

·          Adroddiad Archwilio Allanol ynghylch yr archwiliad o’r datganiadau ariannol.

(Adroddiad ISA 260).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn Datganiad Cyfrifon 2023/24 ac awdurdodi Cadeirydd y Cyngor Sir a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 i arwyddo’r cyfrifon.

8.

Cydbwysedd Gwleidyddol Pwyllgorau pdf eicon PDF 146 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

·     Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar gyfer dyrannu seddi pwyllgor.

·     Bod Arweinyddion y Grwpiau yn hysbysu’r Pennaeth Democratiaeth cyn gynted ag y bo modd ynglŷn ag unrhyw newid o ran aelodaeth grwpiau ar Bwyllgorau.

 

9.

Datganiad Polisi Gamblo 2025-2028 pdf eicon PDF 117 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Datganiad Polisi Gamblo ar gyfer 2025-2028.