Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd canlynol o’r Cyngor Sir: -
• 3 Rhagfyr, 2024 • 12 Rhagfyr, 2024 (Arbennig) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfodydd canlynol Cyngor Sir Ynys Môn yn gywir:-
· 3 Rhagfyr, 2024; · 12 Rhagfyr, 2024 (Arbennig).
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Prif Swyddogion ddatgan budd personol yn Eitem 12 – Datganiad Polisi Tâl 2025 gan adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais.
|
|
|
Derbyn unrhyw Gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd neu'r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau canlynol:-
· Llongyfarchiadau i Mr Mike Doran a Mr Mark Wade sydd wedi derbyn cymeradwyaeth swyddogol yn ddiweddar gan yr elusen bad achub (RNLI) am achub dringwr a oedd wedi syrthio i'r môr yn Ynys Arw. Cyflwynwyd tystysgrifau i'r ddau yng Ngorsaf Bad Achub Caergybi i gydnabod hyn.
· Llongyfarchiadau i Mrs Ann Harries Jones o Undeb Amaethwyr Cymru am ennill Gwobr Aur Pencampwr y Gymraeg mewn seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Mae Mrs Harries Jones wedi darparu gwasanaethau yswiriant yn Gymraeg ar yr Ynys ers dros 30 mlynedd.
· Llongyfarchiadau hefyd i MônActif ar ennill y wobr ‘Effaith ar Nofio a Diogelwch Dŵr Ysgolion’ yn ddiweddar. Cyflwynwyd y wobr gan Nofio Cymru, y Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer Gweithgareddau Dŵr, yn eu gwobrau blynyddol yng Nghaerdydd. Cafodd MônActif ei gydnabod am ei lwyddiant wrth drefnu cyfres o ddigwyddiadau 'Nofio'n Ddiogel' ledled yr Ynys.
· Llongyfarchiadau i Mr Twm Tudur o Ynys Môn a fu’n llwyddiannus yn ddiweddar ar raglen "Y Llais".
· Llongyfarchiadau i Miss Gwen Edwards a ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2025.
· Llongyfarchiadau i Mr Gorwel Owen o Lanfaelog a enillodd wobr Cyfraniad Arbennig yng Ngwobrau Cerddoriaeth Gymraeg y Selar y mis hwn. Mae'r wobr yn cael ei rhoi i artistiaid sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gerddoriaeth Gymraeg dros nifer o flynyddoedd. · Llongyfarchiadau i Mr Will Young o Gaergybi sy'n aelod o Mencap Môn ac sydd ar daith gyda’r theatr ar hyn o bryd yn chwarae rhan Lennie yn "Of Mice and Men". Dyma'r ail dro iddo chwarae rhan Lennie, yn dilyn taith theatr lwyddiannus arall yn 2017. · Llongyfarchiadau hefyd i Ms Gwenllian Howe o Frynteg. Mae’n gyn-aelod o Fand Ieuenctid Biwmares a bellach yn fyfyrwraig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Gwenllian wedi cael ei dewis i fod yn rhan o Fand Pres Ieuenctid Ewrop a bydd yn chwarae ochr yn ochr â cherddorion ifanc o 14 o wledydd eraill pan fyddant yn dod at ei gilydd yn Stavanger, Norwy ym mis Mai. · Estynnwyd dymuniadau gorau i Mr Kevin Williams (Kev Bach) sydd wedi gadael Capital Radio ar ôl 27 mlynedd ar radio 103 gyda Champion, Heart a Capital. Mae Kevin yn un o leisiau mwyaf adnabyddus yr Ynys ac mae wedi rhoi llwyfan i'r Gymraeg dros y blynyddoedd yn ogystal â chefnogi nifer o ddigwyddiadau lleol. · Llongyfarchiadau i Gôr Ieuenctid Môn a enillodd wobr Côr Cenedlaethol Hŷn y Flwyddyn Barnardo's yn Neuadd Symffoni Birmingham yn ddiweddar. * * * * Cydymdeimlwyd â theulu Ms Marged Esli a fu farw'n ddiweddar. Roedd hi'n actores ac yn awdures adnabyddus ac fe'i magwyd yng Ngwalchmai. * * * * Cydymdeimlwyd â theulu'r cyn-Gynghorydd Sir ac Aelod o Senedd Cymru, Mr Peter Rogers a fu farw'n ddiweddar. Talodd y Cynghorwyr Jeff Evans ac Aled Morris Jones deyrnged i'r diweddar Mr Peter Rogers am ei waith fel Cynghorydd Sir ac Aelod o Gynulliad Cymru a'i gyfraniad i'r gymuned ffermio. |
|
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddeisebau.
|
|
|
Rhybydd o Gynnig I dderbyn y Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorydd Geraint Bebb.
‘Yn 2014, dynododd Ystâd y Goron ardal o
wely’r môr oddi ar arfordir Ynys Cybi ar gyfer
ynni’r llanw. Y nod i gynllun Morlais yw chware rhan wrth
daclo newid hinsawdd tra’n sicrhau budd economaidd a
chymdeithasol i gymunedau Ynys Môn, ond er mwyn gwneud hynny,
mae’n rhaid talu lês blynyddol i Ystâd y
Goron.
Dangosodd arolwg barn YouGov a gynhaliwyd yn 2023 fod 58% o bleidleiswyr Cymru o blaid i Gymru gymryd rheolaeth o asedau’r stad yng Nghymru yn hytrach na’i bod yn aros yn nwylo Trysorlys y DU.
Fydd hyn yn gwneud Cymru’n gyfartal a’r Alban sydd wedi cael yr hawl ers 2017. Mae coffrau stad y goron yn yr Alban werth dros £100m y flwyddyn. Swm sy’n gallu gwneud gwahaniaeth.
Gofyn ydwyf felly i rhoi enw ein awdurdod i’r ymgyrch hon, gan y gallai newid bywydau a gwella ein holl gymunedau. Dylai cenedl Cymru fod â rheolaeth lwyr dros ei hasedau ei hun fel bod yr elw o fudd i’n cymunedau a’n gwlad fel a nodais yn yr esiampl o brosiect Morlais.
Rwyf yn gofyn i fy nghyd gynghorwyr am eu cefnogaeth i ofyn i Arweinydd ein Cyngor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a gwneud datganiad cyhoeddus yn galw am ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru a hynny fel mater o frys.’
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – Hysbysiad o Gynnig gan y Cynghorydd Geraint Bebb:-
‘Yn 2014, dynododd Ystâd y Goron ardal o
wely’r môr oddi ar arfordir Ynys Cybi ar gyfer
ynni’r llanw. Y nod i gynllun Morlais yw chwarae rhan i fynd
i’r afael â newid hinsawdd gan sicrhau budd economaidd
a chymdeithasol i gymunedau Ynys Môn, ond er mwyn gwneud
hynny, mae’n rhaid talu les blynyddol i Ystâd y
Goron.
Dangosodd arolwg barn YouGov a gynhaliwyd yn 2023 fod 58% o bleidleiswyr Cymru o blaid i Gymru gymryd rheolaeth o asedau’r ystâd yng Nghymru yn hytrach na’i bod yn aros yn nwylo Trysorlys y DU.
Bydd hyn yn gwneud Cymru’n gyfartal a’r Alban sydd wedi cael yr hawl ers 2017. Mae coffrau ystâd y goron yn yr Alban yn werth dros £100m y flwyddyn. Swm sy’n gallu gwneud gwahaniaeth.
Gofyn ydwyf felly i ychwanegu enw ein hawdurdod at yr ymgyrch hon, gan y gallai newid bywydau a gwella ein holl gymunedau. Dylai Cymru, fel gwlad, fod â rheolaeth lwyr dros ei hasedau ei hun fel bod yr elw o fudd i’n cymunedau a’n gwlad fel y nodais yn yr esiampl o brosiect Morlais.
Rwyf yn gofyn i fy nghyd gynghorwyr am eu cefnogaeth i ofyn i Arweinydd ein Cyngor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a gwneud datganiad cyhoeddus yn galw am ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru a hynny fel mater o frys.’
Eiliodd y Cynghorydd Arfon Wyn y Cynnig.
Dywedodd y Cynghorydd Pip O'Neill fod angen rheoli disgwyliadau o ran yr incwm y gellid ei gynhyrchu o ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru gan fod gan yr Alban flaendraeth sylweddol fwy. Dywedodd eu bod nhw fel Grŵp Llafur ar y Cyngor yn cefnogi'r cynnig ond eu bod yn siomedig bod y Llywodraeth Lafur yn San Steffan wedi pleidleisio yn erbyn galwadau am reolaeth dros Ystâd y Goron i weinidogion yng Nghymru.
Mewn ymateb i gyfeiriad gan y Cynghorydd Douglas M Fowlie a ddywedodd ei bod yn ymddangos nad yw llythyrau a anfonwyd ar wahanol bynciau at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cael eu hateb, dywedodd y Prif Weithredwr mai pwysigrwydd anfon llythyrau at y ddwy Lywodraeth yw codi'r proffil a chofnodi pryderon pwysig a godir gan y Cyngor hwn. Gan fod yr ohebiaeth yn faterion gwleidyddol, maent yn cael eu hanfon at Uwch Weinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Sicrhaodd y bydd yn mynd ar drywydd y mater ac yn gwneud yn siŵr bod ymateb yn cael ei dderbyn i'r materion a godwyd gan y Cyngor hwn.
Yn dilyn pleidlais unfrydol:-
Pasiwyd y cynnig.
|
|
|
Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli'r Trysorlys 2024/2025 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror, 2025 i'w dderbyn gan y Cyngor.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn Adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli’r Trysorlys ar gyfer 2024/2025.
|
|
|
Strategaeth Gyfalaf - 2025-2030 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 27 Chwefror 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 27 Chwefror, 2025 i'w dderbyn gan y Cyngor.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn y Strategaeth |
|
|
Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2025/2026 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 27 Chwefror 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 27 Chwefror, 2025 i'w dderbyn gan y Cyngor.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2025/2026.
|
|
|
(a) CYLLIDEB REFENIW 2025/2026
I dderbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151, fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 27 Chwefror 2025.
(b) CYLLIDEB GYFALAF 2025/2026
I dderbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 27 Chwefror 2025.
(c) GOSOD Y DRETH GYNGOR 2025/2026
I dderbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 29 Chwefror, 2024 i'w dderbyn gan y Cyngor.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai fod hon wedi bod yn gyllideb heriol i'w chyflwyno. Nododd fod y setliad terfynol yng Nghymru yn cynnwys llawr, a oedd yn codi’r isafswm cynnydd i awdurdodau lleol i 3.8%. Gan mai cynnydd o 3.6% oedd setliad dros dro Ynys Môn, mae setliad terfynol Ynys Môn wedi cynyddu o £277k, i £135.881m. Pe bai'r Cyngor yn ceisio gwneud iawn am y diffyg yn y gyllideb trwy’r Dreth Gyngor yn unig, byddai'n golygu codi'r Dreth Gyngor o 20.6%. Yn ogystal â hyn, nododd y setliad terfynol y dylid rhoi grant pellach o £30m ledled Cymru, a fyddai'n rhoi cymorth i dalu'r costau sy'n wynebu awdurdodau lleol ar gyfer costau gofal cymdeithasol gwasanaeth oedolion. Bydd y £30m ychwanegol hwn yn darparu oddeutu £750k i'r Cyngor hwn mewn cyllid grant ychwanegol. Mae wedi galluogi'r Cyngor i gynyddu'r cronfeydd wrth gefn i'w defnyddio o £2m i £2.459m i gydbwyso'r gyllideb. Yn sgil y cyllid ychwanegol ac o ystyried yr ymatebion o’r ymgynghoriad cyhoeddus, dywedodd fod y Pwyllgor Gwaith wedi cynnig y newidiadau canlynol i’r gyllideb arfaethedig gychwynnol, sef peidio â gweithredu'r cynnig i gyflwyno ffioedd gwasanaeth ar gyfer unedau diwydiannol a busnes, peidio â gweithredu'r cynnig i leihau nifer y diwrnodau y mae canolfannau ailgylchu'r Cyngor ar agor a neilltuo £217k i dalu costau newid offer TG mewn ysgolion yn y dyfodol. Eglurodd, gan fod y Pwyllgor Gwaith eisoes wedi gwneud darpariaeth ar gyfer Gwasanaethau Oedolion yn y gyllideb arfaethedig gychwynnol, gellir defnyddio'r cyllid grant mewn mannau eraill a gellir ei ddefnyddio i helpu i ostwng y cynnydd yn y Dreth Gyngor i 8.5% (7.85% ar gyfer gwasanaethau'r Cyngor a 0.65% ar gyfer y cynnydd yn ardoll y Gwasanaeth Tân) gan wneud cynnydd Ynys Môn yr ail isaf o gynghorau Gogledd Cymru. O ganlyniad bydd tâl Band D yn £1,705.95, cynnydd o £133.65 (£2.57 yr wythnos)).
Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai at y Gyllideb Gyfalaf o £44.294m ar gyfer 2025/2026. Mae sefyllfa'r gyllideb gyfalaf wedi bod yn heriol ers tro ac er bod y Cyllid Cyfalaf Cyffredinol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 £401k yn uwch na dyraniad 2024/25, dyma'r cynnydd sylweddol cyntaf y mae'r Cyngor wedi'i dderbyn ers nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, nid yw'n gwneud iawn am yr erydiad yng ngwerth y cyllid oherwydd chwyddiant ac o ystyried bod deunyddiau adeiladu wedi cynyddu dros 100% dros y blynyddoedd diwethaf.
At hyn, dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai fod angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ariannu awdurdodau lleol yn briodol a bod angen edrych ar y fformiwla a ddefnyddir yng Nghymru i ddosbarthu adnoddau i awdurdodau lleol.
Cynigiodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai yr argymhellion i'r Cyngor llawn fel y gwelir yn (a), (b) ac (c) o'r adroddiadau.
Rhoddwyd cyfle i ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9. |
|
|
Adolygu’r Polisi Iaith Gymraeg Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror, 2025 i'w gymeradwyo gan y Cyngor.
Dywedodd Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg fod polisi Cymraeg presennol y Cyngor wedi'i fabwysiadu yn 2016 pan ddaeth safonau statudol y Gymraeg i rym, ers hynny, mae'r ddealltwriaeth o'r safonau wedi aeddfedu, ac mae arferion yr Awdurdod mewn perthynas â'r iaith wedi datblygu'n sylweddol. Mae'r defnydd o'r Gymraeg wedi cael ei gryfhau o fewn gweinyddiaeth y Cyngor. Nododd fod gohebiaeth wedi cael ei derbyn yn ddiweddar yn awgrymu bod ymrwymiad yr Awdurdod i'r Gymraeg wedi cael ei wanhau. Dywedodd fod hyn yn gamarweiniol gan fod y Gymraeg yn un o'r 6 amcan yng Nghynllun y Cyngor.
Roedd y Cynghorydd Pip O'Neill yn dymuno cofnodi ei werthfawrogiad i'r Cyngor am y cyfleoedd i ddysgu'r Gymraeg.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo'r Polisi Iaith Gymraeg diwygiedig.
|
|
|
Trefniadau craffu'r Cyd-bwyllgor Corfforedig Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i'r Cyngor ei dderbyn.
Dywedodd Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer fod yr adroddiad yn tynnu sylw at y trefniadau craffu ar gyfer y Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Rhagwelir y bydd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn gyfrifol am gyflawni Cais Twf Gogledd Cymru ym mis Ebrill, 2025 yn dilyn trosglwyddo'r cyfrifoldebau gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Tynnodd sylw at y trefniadau gweinyddu wrth greu Pwyllgor Rhanbarthol.
PENDERFYNWYD:-
· Sefydlu Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar y Cyd ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, gyda’r Cylch Gorchwyl a nodir yn Atodiad1; · y bydd pwerau’r pwyllgorau sgriwtini lleol o dan Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 yn cael eu cadw; · y bydd y rhai a enwebir i’r Pwyllgor Trosolwg a Sgriwtini ar y Cyd o Gyngor Sir Ynys Môn yn adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol Cyngor Sir Ynys Môn yn hytrach nag aelodaeth y Cynghorau Cyfansoddol gyda’i gilydd; · y bydd ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Trosolwg a Sgriwtini ar y Cyd yn cael ei darparu gan y CBC yn unol â’r Cylch Gorchwyl.
(Bu i’r Cynghorydd Kenneth P Hughes ymatal ei bleidlais)
|
|
|
Datganiad Polisi Tâl 2025 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Adnoddau Dynol a Thrawsnewid i'r Cyngor ei dderbyn.
PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad Polisi Tâl y Cyngor ar gyfer 2024/2025.
|