Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bu’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb personol yn Eitem 3 – Canolfan Addysg y Bont – Atgyweirio’r To, gan ei fod yn Lywodraethwr yng Nghanolfan Addysg y Bont ac yn dilyn derbyn cyngor cyfreithiol roedd yn gallu cymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais ddilynol.
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 64 KB Ystyried mabwysiadau’r canlynol:-
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.” Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.
|
|
Canolfan Addysg y Bont - Atgyweirio'r Tô Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.
Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn yr argymhellion a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. |