Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Arbennig, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 28ain Hydref, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhw Aelod neu Swyddog pathed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Rhybudd o Gynnig

·       I dderbyn y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Jeff Evans: -

 

     ‘Rydym ni fel Grŵp Annibynwyr Môn yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i            gymryd pob cam posibl er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ail agor Pont y Borth fel mater o frys.

 

  Cafodd y cau ei wneud heb ymgynghori ymlaen llaw ac heb hysbysu’r       Cyngor Sir’. 

 

·       I dderbyn y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Sonia Williams: -

 

         Mae’r Cyngor yna yn pryderu yn ddybryd am ddiffyg gwytnwch y ddau      groesiad presennol dros Y Fenai sydd wedi eu amlygu eu hunain unwaith eto wrth i Pont y Borth orfod cau yn gyfan gwbl unwaith yn rhagor gan adael un croesiad yn unig.

 

          Rydym hefyd yn datgan siom yn Llywodraeth Cymru am eu diffyg i ddal

          y contractwyr i gyfrif ac am eu amharodrwydd i ystyried y cysylltiadau

          rhwng Môn a’r tir mawr a’r effaith ar drigolion a chymunedau yr Ynys.

 

        Gofynnwn i Llywodraeth Cymru gamu i mewn i gynnig cymorth i

        fusnesau tref Porthaethwy sydd wedi dioddef llawer oherwydd yr holl

        broblemau efo'r Bont dros y 3 mlynedd diwethaf. Mae busnesau

        lletygarwch yn enwedig yn dioddef yn enbyd gan fod y bont ar gau dros

        nos.’

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes:-

 

Rydym ni fel Grŵp Annibynwyr Môn yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i gymryd pob cam posibl er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ail agor Pont y Borth fel mater o frys.

 

Cafodd y cau ei wneud heb ymgynghori ymlaen llaw a heb hysbysu’r Cyngor Sir’.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes bod pethau wedi symud yn eu blaen ers i Grŵp Annibynwyr Môn gyflwyno’r cynnig.  Dywedodd bod y Grŵp yn cefnogi’r Rhybudd a gyflwynwyd gan y cynghorydd Sonia Williams fel y nodir isod.

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Derek Owen.  

 

Roedd y gwelliannau i’r Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Sonia Williams fel a ganlyn:-

 

‘Rydym ni fel Cyngor yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i gyfathrebu â’r Cyngor Sir a dinasyddion ynglŷn â gwaith cynnal a chadw ar y bont ac i beidio â chau’r bont heb rybudd yn y dyfodol. 

 

Rydym hefyd yn siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi dal y contractwyr i gyfrif ac am eu hamharodrwydd i ystyried y cysylltiadau rhwng Môn a’r tir mawr a’r effaith ar drigolion a chymunedau’r Ynys.

 

Gofynnwn i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy a chynnig cymorth i fusnesau tref Porthaethwy, sydd wedi dioddef llawer oherwydd yr holl broblemau efo'r Bont dros y 3 blynedd diwethaf.  Mae busnesau, yn enwedig busnesau lletygarwch, wedi dioddef yn sgil cau’r  bont dros nos.’

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Derbyniwyd y Cynnig diwygiedig yn unfrydol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dyfed W Jones ei fod yn derbyn nad oedd dewis ond cau Pont y Borth yn ddiweddar am resymau diogelwch, fodd bynnag, mae’r ansicrwydd yn achosi problemau i bobl sydd angen croesi’r bont i’r tir mawr i weithio, ac mae busnesau hefyd wedi cael eu heffeithio yn sgil cau’r bont yn ddirybudd.   Nododd bod nifer o sesiynau briffio wedi cael eu cynnal ers 2022 i drafod cynnal a chadw a chau’r bont ond mae diffyg cyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru a’r Cyngor o hyd.     Mynegodd yn gryf y dylai Llywodraeth Cymru a’r Contractwyr a benodwyd i wneud y gwaith cynnal a chadw ar y bont  gyfathrebu’n llawn â’r Cyngor i osgoi sefyllfaoedd lle mae’n rhaid cau’r bont yn sydyn heb rybudd.  

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod yn falch o weld bod y pleidiau gwleidyddol yn unedig ynglyn â mater sy’n bwysig i’r Cyngor a thrigolion Ynys Môn sy’n rhwystredig ac yn poeni oherwydd yr ansicrwydd ynglyn â Phont y Borth a’r pryder y gallai gau’n ddirybudd eto, fel sydd wedi digwydd yn ddiweddar.   Dywedodd mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y bont ac y dylai fod yn atebol am yr aflonyddwch parhaus i drigolion a busnesau lleol.    Mae’r Cyngor, yr Aelod o’r Senedd a’r Aelod Seneddol wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gwytnwch y croesiad dros y bont i’r tir mawr.  Mae trafodaethau wedi cael eu cynnal â’r Gweinidog dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru - Mr Ken Skates AS ynglyn â’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Datganiad o'r Cyfrifon 2024/25 a'r Adroddiad ISA 260 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno’r canlynol, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 23 Hydref 2025: -

 

 Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 – Datganiad o’r Cyfrifon 2024/25.

 Adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a ThrawsnewidDatganiad Llywodraethu Blynyddol 20242025.

Adroddiad Archwilio Allanol ynghylch yr archwiliad o’r datganiadau ariannol 2024/2025.  (Adroddiad ISA 260).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 23 Hydref, 2025 i’w gymeradwyo gan y Cyngor. 

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai bod y Datganiad o Gyfrifon drafft ar gyfer 2023/24 wedi cael ei gyflwyno i archwilwyr allanol y Cyngor, Archwilio Cymru, i’w harchwilio ar 30 Mehefin, 2025.  Yn amodol ar gadarnhad Cyngor Sir Ynys Môn, bydd y Cyfrifon yn cael eu llofnodi gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a Chadeirydd y Cyngor ac yn cael eu cyhoeddi ar ôl derbyn barn derfynol yr Archwilydd. Y dyddiad cau statudol ar gyfer cwblhau'r Cyfrifon Archwiliedig ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 yw 31 Hydref 2025.

 

PENDERFYNWYD derbyn y Datganiad Cyfrifon ar gyfer 2024/25 ac awdurdodi Cadeirydd y Cyngor Sir a'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 i lofnodi'r cyfrifon archwiliedig terfynol ar gyfer 2024/25.

 

 

4.

Ailstrwythuro'r Tim Rheoli Corfforaethol pdf eicon PDF 272 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif weithredwr ar ailstrwythuro’r Tîm Rheoli Corfforaethol i’w gymeradwyo gan y Cyngor. 

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod yr adroddiad yn cyfeirio at ailstrwythuro’r Tîm Rheoli er mwyn gwneud newidiadau staffio a fydd o fudd i’r Cyngor ac yn sicrhau gwytnwch.

 

Eiliwyd y cynnig gan y Dirprwy Arweinydd ond amlygodd bod angen newid teitl y ddwy swydd Pennaeth Gwasanaeth:-

 

Pennaeth Gwasanaeth - Digidol, Perfformiad a Moderneiddio

Pennaeth Gwasanaeth - Adnoddau Dynol, Cyfathrebu a Phrofiad Cwsmer

 

 

PENDERFYNWYD :-

 

·          Dileu’r swydd Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid o strwythur Rheoli Corfforaethol y Cyngor;

 

·          Creu dau Wasanaeth penodol newydd a Phenaethiaid Gwasanaeth fel a ganlyn:

 

Pennaeth Gwasanaeth (Digidol, Perfformiad a Moderneiddio)

Pennaeth Gwasanaeth (Adnoddau Dynol, Cyfathrebu a Phrofiad Cwsmer)

 

·          Derbyn y penderfyniadau ym mharagraffau 1 a 2 uchod, i awdurdodi'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i ddiwygio'r Cyfansoddiad i adlewyrchu'r newidiadau uchod wedi i’r Pwyllgor Penodiadau gymeradwyo'r disgrifiadau swyddi newydd.