Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Blynyddol Rhithiol Wedi’i Ffrydio’n Fyw (Ar hyn o bryd, nid oes modd i’r cyhoedd fynychu)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd y Cyngor Ethol Cadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2021/22.
(Cyfeirir aelodau at y ddogfen ‘Trefn y Gweithgareddau’ ynglŷn â’r seremoni ar gyfer ethol Cadeirydd y Cyngor Sir, a fydd yn cael ei chyflwyno yn y cyfarfod). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Glyn Haynes yn Gadeirydd y Cyngor Sir 2021/22.
Wrth dderbyn yr anrhydedd o gael ei benodi, rhoddodd y Cynghorydd Glyn Haynes sicrwydd i’r Cyngor y byddai’n cyflawni ei ddyletswyddau hyd orau ei allu. Diolchodd i’w olynydd, y Cynghorydd Margaret M Roberts am y modd yr aeth ati i gyflawni ei dyletswyddau fel Cadeirydd y Cyngor Sir gydag urddas ac anrhydedd yn ystod cyfnod anodd y pandemig.
Diolchodd y Cadeirydd ymadawol, Y Cynghorydd Margaret M Roberts i’r holl Aelodau a Swyddogion am eu cefnogaeth yn ystod ei dau dymor fel Cadeirydd oherwydd y pandemig. Nododd ei bod wedi bod yn her cynnal gwasanaethau’r Cyngor ac roedd yn dymuno diolch i staff y Cyngor am eu gwaith. Dywedodd y Cynghorydd Roberts er nad oedd wedi gallu cyflawni ei dyletswyddau dinesig fel Cadeirydd y Cyngor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ei bod yn dymuno diolch i Mrs Carys Bullock a Mr J Huw Jones o’r Gwasanaethau Democrataidd am eu cefnogaeth yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd. Fodd bynnag, rhoddodd grynodeb o’i huchafbwyntiau fel Cadeirydd yn ystod blwyddyn ddinesig 2019/20 yn benodol Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghaergybi a chyflwyno Rhyddid y Sir i Wasanaeth Llongau Tanfor y Llynges Frenhinol. Ar yr un diwrnod mynychodd Wasanaeth Coffa i nodi 80 mlynedd ers colli HMS Thetis. Cyfeiriodd hefyd at Seremoni Wobrwyo’r Twrnamaint Pêl-droed a oedd yn rhan o Gemau’r Ynysoedd yng Nghaergybi a’r Diwrnod Hwyl i Blant Mewn Gofal yn Ysgol Uwchradd Bodedern. Cyfeiriodd at Sul y Cadeirydd yng Nghapel Carmel, Moelfre a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2021, gyda’r elw’n mynd tuag at Ambiwlans Awyr Cymru. |
|
Ethol Is-Gadeirydd y Cyngor Ethol Is-Gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2021/22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigodd y Cynghorydd Ieuan Williams ethol y Cynghorydd Dafydd Roberts fel Is-gadeirydd y Cyngor. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Llinos M Huws.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen y byddai aelodau’r Wrthblaid yn atal eu pleidlais gan fod dealltwriaeth wedi bod rhwng y pleidiau gwleidyddol ers 2011 y byddai’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn newid yn flynyddol rhwng y grŵp llywodraethu a’r wrthblaid bob yn ail.
Gofynnodd Arweinydd y Cyngor a oedd disgwyliad yn y Cyngor bod y Cadeiryddion a’r Is-gadeiryddion yn cael eu hethol rhwng y grŵp llywodraethu a’r wrthblaid. Atebodd y Swyddog Monitro nad oedd gofyniad statudol, nac yn y Cyfansoddiad, i ethol Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion rhwng y grŵp llywodraethu a’r wrthblaid. Roedd proses yn ei lle, sef cytundeb anffurfiol, pan roddwyd y Cyngor dan fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru ond nid yw’r broses wedi parhau wedi hynny.
Dywedodd y Cynghorydd A M Jones bod protocol anffurfiol yn bodoli yn y Cyngor yn 2013-2017 a bod y grŵp llywodraethu wedi torri’r protocol hwn. Mynegodd ei bod hi’n biti bod y grŵp llywodraethu’n mynnu gwneud y broses o enwebu Cadeirydd ac Is-gadeirydd o’r Cyngor yn un wleidyddol.
Cynigodd y Cynghorydd J Arwel Roberts bleidlais wedi’i chofnodi. Eiliwyd y cynnig o bleidlais wedi’i chofnodi gan y Cynghorydd Ieuan Williams.
Cynghorodd y Swyddog Monitro yn unol â pharagraff 4.1.18.4 yn y Cyfansoddiad y gellid cynnal pleidlais wedi’i chofnodi os oes 8 Aelod yn cefnogi’r cynnig.
Yn unol â pharagraff 4.1.18.4 yn y Cyfansoddiad gofynnodd yr aelodau canlynol am bleidlais wedi’i chofnodi:-
Y Cynghorwyr T Ll Hughes MBE, Vaughan Hughes, A M Jones, Carwyn Jones, R Meirion Jones, Nicola Roberts, Dafydd R Thomas, Robin Williams.
Trwy bleidlais wedi’i chofnodi penodwyd y Cynghorydd Dafydd Roberts fel Is-gadeirydd o’r Cyngor :-
O blaid
Y Cynghorwyr R A Dew, John Griffith, Richard Griffiths, T Ll Hughes MBE, Vaughan Hughes, Llinos M Huws, Carwyn Jones, R Meirion Jones, G O Jones, Alun Mummery, Bob Parry OBE FRAgS, Dylan Rees, Margaret M Roberts, Alun Roberts, Dafydd Roberts, J Arwel Roberts, Nicola Roberts, Dafydd R Thomas, Ieuan Williams, Robin Williams. CYFANSWM 20
Yn erbyn
Neb CYFANSWM 0
YMATAL
Y Cynghorwyr Jeff Evans, K P Hughes, A M Jones, R Ll Jones, Bryan Owen, Peter Rogers. CYFANSWM 6
PENDERFYNWYD ethol y Cadeirydd Dafydd Roberts yn Is-gadeirydd o’r Cyngor Sir 2021/22.
|
|
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cyhoeddiadau Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, yr Arweinydd neu'r Prif Weithredwr, ac unrhyw sylwadau ar ei chyfnod yn y swydd gan y Cadeirydd ymadawol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gyhoeddiadau.
|
|
Cadarnhau’r Cynllun Dirprwyo Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau'r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arno (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 o'r Cyfansoddiad). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau rhan o’r fath o’r Cynllun Dirprwyo fel y mae’r Cyfansoddiad yn gorchymyn ei bod yn fater i’r Cyngor ei benderfynu fel y nodir yn Rhan 3.2 o’r Cyfansoddiad.
|
|
Cadarnhau Pwyllgorau Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau a ganlyn fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol: -
· Pwyllgor Tâl a Graddfeydd (Is-Bwyllgor o'r Cyngor) · Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau · Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) · Is-Bwyllgor Indemniadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhaodd y Cadeirydd ailbenodiad y strwythur Pwyllgorau fel y cyfeiriwyd ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol:
· Pwyllgor Tâl a Graddfeydd (Is-bwyllgor o'r Cyngor) · Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau · Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) Is-bwyllgor Indemniadau |
|
Dirprwyaeth gan yr Arweinydd - Aelodaeth o'r Pwyllgor Gwaith Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2 o'r Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau'r Cynghorwyr a ddewiswyd i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2 o'r Cyfansoddiad, enwodd yr Arweinydd y Cynghorwyr a ddewiswyd i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio :-
Cynghorydd Richard Dew gyda chyfrifoldebau Portffolio am Gynllunio a Diogelu’r Cyhoedd; Cynghorydd Llinos M Huws (Arweinydd) gyda chyfrifoldebau Portffolio am Wasanaethau Cymdeithasol; Cynghorydd Carwyn Jones gyda chyfrifoldebau Portffolio am Brosiectau Mawr a Datblygiad Economaidd; Cynghorydd R Meirion Jones gyda chyfrifoldebau Portffolio am Addysg, Pobl Ifanc, Llyfrgelloedd a Diwylliant; Cynghorydd Alun Mummery gyda chyfrifoldebau Portffolio am Dai a Chefnogi Cymunedau; Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS gyda chyfrifoldebau Portffolio am Briffyrdd, Eiddo a Gwastraff; Cynghorydd Dafydd R Thomas gyda chyfrifoldebau Portffolio am Wasanaethau Corfforaethol; Cynghorydd Ieuan Williams (Dirprwy Arweinydd) gyda chyfrifoldebau Portffolio am Drawsnewid a’r Gymraeg; Cynghorydd Robin Williams gyda chyfrifoldebau Portffolio am Gyllid.
|
|
Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2020/21 Ethol Cadeirydd yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 o'r Cyfansoddiad, PENDERFYNWYD y dylid ethol y Cynghorydd Robert Ll Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2021/22.
|
|
Trefniadau Cydbwysedd Gwleidyddol o fewn y Cyngor PDF 201 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ynghylch cydbwysedd gwleidyddol o fewn y Cyngor i’w ystyried.
PENDERFYNWYD :-
· Cadarnhau'r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddi a ddyrannwyd i bob un o'r Grwpiau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989; · Bod Arweinwyr Grŵp yn cynghori'r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd cyn gynted â phosibl os oes unrhyw newidiadau i Aelodaeth Grŵp ar Bwyllgorau.
|
|
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ynghylch Cyrff Allanol i’w ystyried.
PENDERFYNWYD cytuno a chadarnhau penodiadau fel y manylir yn amserlen yr adroddiad.
|
|
Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Hyfforddi Adnoddau Dynol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Hyfforddi Adnoddau Dynol i’w gymeradwyo gan y Cyngor.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
|
|
Rhaglen o gyfarfodydd y Cyngor Sir yn 2021/22 Cymeradwyo'r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod: -
· 7 Medi 2021 - 2.00 pm · 28 Medi 2021 - 2.00 pm · 26 Hydref 2021 (Arbennig) - 10.30 am · 7 Rhagfyr 2021 - 2.00 pm · 22 Chwefror 2022 - 2.00 pm · Mai (Cyfarfod Blynyddol) - dyddiad i’w gadarnhau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd cyffredinol y Cyngor Sir am y flwyddyn i ddod: -
• Mai 2022 (Cyfarfod Blynyddol) – dyddiad i’w gadarnhau
|