Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Virtual Livew Streamed Meeting
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cyhoeddiadau Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Aelodaeth y Pwyllgor Gwaith Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 y Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae hi wedi eu dewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 o’r Cyfansoddiad, enwodd yr Arweinydd y canlynol fel y rhai yr oedd wedi eu dewis i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith, ynghyd â’u cyfrifoldebau Portffolio:-
Cynghorydd Carwyn Jones (Dirprwy Arweinydd) gyda chyfrifoldeb Aelod Portffolio am Ddatblygiad Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth; Cynghorydd Alun W Mummery gyda chyfrifoldeb Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol. Cynghorydd Gary Pritchard gyda chyfrifoldeb Aelod Portffolio am Blant (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Gwasanaethau Ieuenctid; Cynghorydd Alun Roberts gyda chyfrifoldeb Aelod Portffolio am Wasanaethau Oedolion (Gwasanaethau Cymdeithasol); Cynghorydd Nicola Roberts gyda chyfrifoldeb Aelod Portffolio am Gynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd; Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas gyda chyfrifoldeb Aelod Portffolio am Briffyrdd, Gwastraff ac Eiddo; Cynghorydd Ieuan Williams gyda chyfrifoldeb Aelod Portffolio am Addysg a’r Iaith Gymraeg; Cynghorydd Robin Williams gyda chyfrifoldeb Aelod Portffolio am Gyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer.
|
|
Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 o Gyfansoddiad y
Cyngor, penodi Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd am y flwyddyn ddinesig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 o Gyfansoddiad y Cyngor, PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Keith Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2022/2023. |
|
Cadarnhau’r Cynllun Dirprwyo Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau’r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae’r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor ydyw i’w chytuno (fel y nodir ym Mharagraff 3.5 o'r Cyfansoddiad). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau’r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae’r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor ydyw i’w chytuno (fel y nodir ym Mharagraff 3.5 o'r Cyfansoddiad).
|
|
Rhaglen Cyfarfodydd Arferol y Cyngor Sir Cymeradwyo’r rhaglen isod o gyfarfodydd arferol y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod:-
• 13 Medi 2022 - 2.00pm • 6 Rhagfyr 2022 - 2.00pm • 9 Mawrth 2023 - 2.00pm • Mai 2022 - dyddiad i’w gadarnhau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau’r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd arferol y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod:-
· 13 Medi, 2022 - 2.00 p.m. · 6 Rhagfyr, 2022 - 2.00 p.m. · 9 Mawrth, 2023 - 2.00 p.m. · Mai, 2023 - (dyddiad i’w gadarnhau)
|
|
Trefniadau Cydbwysedd Gwleidyddol yn y Cyngor PDF 65 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro ar adolygiad o drefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau yn dilyn yr Etholiad Llywodraeth Leol diweddar ar 5 Mai 2022, ac ar benodi Cynghorwyr i Bwyllgorau.
Bydd pob Pwyllgor y cyfeirir ato isod yn cyfarfod am gyfnod byr i benodi ei Gadeirydd a’i Is-Gadeirydd ei hun (ac eithrio’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a fydd wedi cael sylw dan eitem 4 uchod): -
• Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol • Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio • Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion • Pwyllgor Trwyddedu • Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio • Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd (Is-Gadeirydd)
[Noder: anfonwyd hysbysiadau ar wahân at holl Aelodau ac aelodau cyfetholedig perthnasol ar gyfer y cyfarfodydd uchod]. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros dro mewn perthynas â threfniadau cydbwysedd gwleidyddol ar gyfer eu hystyried.
PENDERFYNWYD:-
· Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddi a ddyrennir i bob un o’r Grwpiau yn unol â Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 fel y nodir yn yr adroddiad; · Bod Arweinyddion y Grwpiau yn hysbysu’r Dirprwy Brif Weithredwr a Phennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd cyn gynted ag y bo modd os bydd unrhyw newid o ran Aelodaeth Grwpiau ar Bwyllgorau. |
|
Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol PDF 173 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros dro mewn perthynas â threfniadau Penodi i Gyrff allanol ar gyfer ystyriaeth.
Cynigiodd Arweinydd y Cyngor welliant i’r gynrychiolaeth Aelodau Etholedig ar y Pwyllgor Safonau gyda’r Cynghorydd Dafydd R Thomas yn lle’r Cynghorydd Dafydd Roberts fel a nodwyd yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:-
· cytuno ar a chadarnhau’r penodiadau fel y nodir yn yr atodlen i’r adroddiad; bod y Cynghorydd Dafydd R Thomas yn dod yn gynrychiolydd Aelodau Etholedig ar y Pwyllgor Safonau yn lle’r Cynghorydd Dafydd Roberts |