Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 30 Medi 2022.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Medi, 2022 yn gywir, yn amodol ar gynnwys enw'r Cynghorydd Non Dafydd yn yr aelodau oedd yn bresennol.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 4 – Hunan Asesiad Corfforaethol 2022 ac Eitem 5 - Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2021/22.
Bu i’r Cynghorydd Robin Williams ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 4 – Hunan Asesiad Corfforaethol 2022 ac Eitem 5 - Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2021/22.
|
|
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-
· Estynnwyd llongyfarchiadau mawr i Meinir Thomas o Langefni sydd wedi cynrychioli Cymru yng Ngharfan Hoci Merched dros 55 oed yng Nghwpan y Byd yn Ne Affrica yn ddiweddar. Mae hefyd yn chwarae pêl-droed i Dîm Merched Tref Amlwch. · Estynnwyd llongyfarchiadau i Steven Roberts, Rob Owen, Alan Whiston a Martin Jones o Dîm Pêl-droed Cerdded Amlwch, a gynrychiolodd Cymru yn nhîm cerdded dros 50 oed yn Bordeaux yn ddiweddar. · Estynnwyd llongyfarchiadau i John Pritchard o Amlwch a gynrychiolodd dîm cerdded Cymru dros 60 oed yn Her y Chwe Gwlad.
Ar ddydd Gwener, 21 Hydref, cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Carwyn Jones at y penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i gau Pont Menai i'r holl draffig, a hynny ar unwaith, yn unol â chyngor peirianwyr strwythurol oherwydd materion strwythurol difrifol. Ers cau'r bont, mae swyddogion o'r Cyngor Sir yn mynychu cyfarfodydd dyddiol gyda Llywodraeth Cymru ynghyd â sefydliadau partner sy'n cynnwys y sector trafnidiaeth, Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru, y Bwrdd Iechyd lleol, colegau a'r gwasanaethau brys. Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Mr Lee Waters AS ddatganiad llawn i'r Senedd yng Nghaerdydd gan ddweud bod trafodaethau'n digwydd ar y posibilrwydd o agor Pont Menai i'r gwasanaethau brys mewn argyfwng. Ar hyn o bryd mae'r bont ar agor i gerddwyr a beicwyr sy'n cerdded gyda'u beics ac mae Llywodraeth Cymru'n monitro'r effaith ac wedi ymrwymo i agor y bont cyn gynted â phosib pan fydd hi'n ddiogel gwneud hynny.
|
|
Hunan Asesiad Corfforaethol 2022 PDF 2 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 20 Hydref 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 20 Hydref, 2022 i’w dderbyn gan y Cyngor.
Cyflwynodd deilydd Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer yr adroddiad gan ddweud, fel rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 bod dyletswydd ar y Cyngor i gynnal adolygiad o'i berfformiad a gwneud yn siŵr ei fod yn arfer ei swyddogaethau'n effeithiol, ei fod yn defnyddio ei adnoddau’n ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol a bod ei drefn llywodraethu’n effeithiol ar gyfer sicrhau'r materion a nodir uchod, yn ogystal â mewn cysylltiad â'r holl flynyddoedd ariannol sy’n destun adroddiad gan amlinellu ei gasgliadau o safbwynt pa raddau y bodlonir y gofynion perfformiad. Ystyriwyd yr Hunanasesiad drafft ar gyfer 2021/2022 yn wreiddiol gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf, 2022 ac wedi hynny gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod ar 26 Gorffennaf, 2022. Mabwysiadwyd y drafft gan y Cyngor llawn fel drafft gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Medi, 2022 cyn gwahodd sylwadau pellach gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 20 Hydref, 2022 gyda 2 sylw arall y bwriedir eu cynnwys fel y nodir o fewn yr adroddiad.
Dywedodd Grŵp yr Wrthblaid fod pryderon wedi'u codi o'r blaen ynglŷn â system ffôn y Cyngor a’i bod yn dal i gael ei hystyried yn annigonol wrth ateb galwadau gan y cyhoedd. Dywedodd Deilydd Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer bod gwelliannau wedi’u nodi yn y ffordd y caiff y system ffôn ei gweithredu a bod hynny wedi'u nodi yn yr adroddiad hunan asesiad gan yr Uwch Dîm Arwain.
PENDERFYNWYD:-
· Cytuno â'r addasiadau a restrir uchod yn yr adroddiad ac awdurdodi swyddogion i ddiwygio'r drafft terfynol; · Mabwysiadu’r Hunan Asesiad Corfforaethol 2022 a’i anfon at y rhai y rhestr ganlynol o fewn cyfnod o bedair wythnos yn dilyn y cyfarfod hwn fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 :- · Archwilydd Cyffredinol Cymru; · Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru; · Gweinidogion Cymru.
(Bu i’r Cynghorydd Douglas M Fowlie ymatal rhag pleidleisio)
|
|
Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2021/22 PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 19 Hydref 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Craffu Corfforaethol ar 19 Hydref, 2022 i’w dderbyn gan y Cyngor.
Cyflwynodd Deilydd Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer yr adroddiad gan ddweud, yn unol â'r Cyfansoddiad, ei bod yn ofynnol i'r Cyngor baratoi a chyhoeddi Adroddiad Perfformiad Blynyddol. Mae'r adroddiad yn ddogfen sy'n dadansoddi'r perfformiad dros y flwyddyn ariannol flaenorol yn erbyn y gwelliannau a'r blaenoriaethau a amlinellwyd gan y Cyngor.
Cododd Grŵp yr Wrthblaid y premiwm ar eiddo gwag sy'n cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd a'r angen am system hyblyg er mwyn ymestyn y cyfnod pan mae'n rhaid cwblhau'r gwaith adnewyddu cyn bod y premiwm llawn yn daladwy. Mewn ymateb, dywedodd Deilydd Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer fod y cyfnod ar gyfer gwaith adnewyddu ar eiddo gwag wedi cael ei ymestyn i 2 flynedd oherwydd ei bod yn anodd cael deunyddiau adeiladu ac adeiladwyr i wneud y gwaith.
Cododd Grŵp yr Wrthblaid fater pellach, sef cyflwr gwael rhai ffyrdd gwledig ar yr Ynys. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff fod gwariant yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer ffyrdd Dosbarth A, B ac C gan mai’r ffyrdd hynny a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o'r traffig.
PENDERFYNWYD mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2021/2022.
|
|
Amseru Cyfarfodydd y Cyngor PDF 387 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 4 Hydref 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 4 Hydref, 2022 i’w dderbyn gan y Cyngor.
Yn ôl Cadeirydd y Gwasanaethau Democrataidd, dywedodd y Cynghorydd Keith Roberts, yn unol yn unol â'r canllawiau statudol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru o dan Adran 6(1) Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ei bod yn ofynnol i'r Cyngor gynnal arolwg o Aelodau mewn perthynas â’r amseroedd y cynhelir cyfarfodydd awdurdod lleol. Anfonwyd arolwg at yr holl aelodau i gael eu barn. Mae’r ymatebion i'r arolwg wedi’i cynnwys yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD derbyn argymhellion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Hydref, 2022 fel a ganlyn:-
· bod yr amseroedd cychwyn presennol yn cael eu cadw ar gyfer cyfarfodydd cyffredin y Cyngor Sir (2.00 p.m.); Pwyllgor Gwaith (10.00 y bore) a dylai’r holl bwyllgorau eraill (2.00 p.m.) yn amodol ar amseroedd cychwyn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, a'r Pwyllgor Safonau, gael eu penderfynu gan y pwyllgorau hynny, yn dilyn cyngor gan eu prif swyddogion; · lle bo'n bosibl, dylid cynnal cyfarfodydd pwyllgor ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau, gan gyfuno gwaith a chyfrifoldebau eraill gyda rôl aelod; · bod y Cyngor yn cymryd y cyfle i godi ymwybyddiaeth fod cymorth ariannol ar gael tuag at gostau gofal a chymorth personol; a · nodi, yn sgil canllawiau statudol drafft a ddisgwylir gan Lywodraeth Cymru, fod bwriad i gynnal adolygiad pellach o amseroedd, amlder a hyd cyfarfodydd pwyllgorau yn gynnar yn 2024.
|