Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor/Rhithiol trwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 27 Hydref, 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Hydref, 2022 fel cofnod cywir.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, ARWEINYDD Y CYNGOR NEU'R PRIF WEITHREDWR (a) Cynnig diolchiadau i’r cyn gynghorwyr sydd wedi ymddeol o’r Cyngor Sir cyn etholiadau mis Mai 2022.
(b) Cynnig diolchiadau wedi oedi hir i Mr Noel Thomas am ei wasanaeth fel cyn gynghorydd Cyngor Sir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
John Griffith, Richard Griffiths, Vaughan Hughes, R Meirion Jones, Richard O Jones and Bob Parry OBE FRAgS.
Bu i Aelod o bob Grŵp Gwleidyddol roi teyrnged i Mr Thomas a chydnabod y camweinyddiad cyfiawnder yr oedd wedi’i ddioddef am un flwyddyn ar bymtheg cyn iddo lwyddo i glirio ei enw.
Cafwyd y cyhoeddiadau canlynol gan y Cadeirydd:-
· Mae prosiect arloesol i gyflenwi banciau bwyd ar Ynys Môn gyda ffrwythau a llysiau ffres wedi ennill gwobr genedlaethol. Mae'r Cyngor Sir wedi arwain ar y prosiect sydd wedi gweld cydweithio gyda Banc Bwyd Môn, Banc Bwyd Amlwch a Bwyd Da Môn, y Wallich, Care Link a Wild Elements. · Mae gwaith y Cyngor ar brosiect atal llifogydd Mill Lane - Biwmares - wedi ennill gwobr anrhydeddus ICE Cymru 2022, sef Gwobr Roy Edwards, am fod yr enghraifft orau o brosiect dylunio ac adeiladu eithriadol. · Mae’r fenter Cartrefi Clyd wedi ennill Gwobr Plant Mewn Gofal, Gwobrau ‘Children and Young People Now 2022’ a hynny am ei lwyddiant wrth ofalu am blant o fewn cartrefi lle bydd y plant yn cael gofal a magwraeth. Mae’r Wobr Plant Mewn Gofal yn cydnabod awdurdod lleol neu ddarparwr gofal sydd wedi gwneud fwyaf i wella canlyniadau ar gyfer plant neu bobl ifanc sy’n derbyn gofal boed hynny mewn gofal preswyl, gofal maeth neu leoliadau eraill. · Er bod ymgyrch tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd wedi bod yn un siomedig - roedd hi’n braf iawn gweld dau o hogiau Ynys Môn yn cynrychioli Cymru. Mae’r gôl-geidwad Wayne Hennessey (o Fiwmares) a’i hyfforddwr Tony Roberts (o Gaergybi) wrth gwrs.
* * * * *
Cydymdeimlwyd â theulu Mr Geoff Murray, cyn ofalwr Swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni. Gweithiodd Geoff i’r Cyngor rhwng 1991 a 2016 cyn ymddeol.
Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod arall o’r Cyngor Sir neu Aelod o Staff a oedd wedi dioddef profedigaeth.
Bu i Aelodau a Swyddogion sefyll am funud o dawelwch. |
|
RHYBUDD O GYNIGIAD YN UNOL Â RHEOL 4.1.13.1 O'R CYFANSODDIAD Cyflwyno’r Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorwyr Liz Wood, Derek Owen ac Aled Morris Jones:-
Gofynnwn i Gyngor Sir Ynys Môn ystyried yr holl bosibiliadau i wneud Dydd Gŵyl Dewi’n ŵyl banc. Bydd hyn yn ein galluogi i ddathlu diwrnod ein Nawddsant a’n Diwrnod Cenedlaethol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorwyr Liz Wood, Derek Owen ac Aled M Jones :-
“Gofynnwn i Gyngor Sir Ynys Môn ystyried yr holl bosibiliadau i wneud Dydd Gŵyl Dewi’n ŵyl banc. Bydd hyn yn ein galluogi i ddathlu diwrnod ein Nawddsant a’n Diwrnod Cenedlaethol.”
Bu’r Cynghorydd Aled M Jones, yn absenoldeb y Cynghorydd Liz Wood, ofyn i’r Cyngor Sir roi pwysau ar Lywodraeth y DU am i Ddydd Gŵyl Dewi fod yn wŷl banc er mwyn galluogi dathliad o’n nawddsant.
Bu’r Cynghorydd Derek Owen eilio’r cynnig.
Bu’r Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid gynnig gwelliant i’r Rhybudd o Gynigiad sef bod y Cyngor yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf yn cynnig y dylid gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn wŷl banc yng Nghymru.
Bu Arweinydd y Cyngor eilio’r gwelliant.
Cytunodd y Cynghorydd Aled M Jones i dynnu ei Rybudd o Gynigiad yn ôl gan ffafrio’r Rhybudd o Gynigiad gyda’r gwelliant.
Cafodd y Gwelliant ei basio.
|
|
PENODI AELODAU O GYNGHORAU TREF A CHYMUNED I'R PWYLLGOR SAFONAU PDF 143 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro) mewn perthynas â’r uchod.
PENDERFYNWYD:-
Yn unol â phenderfyniad ar y cyd y cynghorau tref a chymuned, cafodd y cynghorwyr tref a chymuned canlynol eu hethol ar y Pwyllgor Safonau er mwyn iddynt fod yn weithredol ar unwaith:-
Cynghorydd Margaret Thomas o Gyngor Tref / Cymuned Llangefni a Cynghorydd Iorwerth Roberts o Gyngor Tref / Cymuned Bryngwran
tan yr etholiadau llywodraeth leol nesaf neu tan na fydd y rhai a benodir yn aelodau cyngor cymuned; pa bynnag un sy’n digwydd gyntaf.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYFARWYDDWR AR EFFEITHIOLRWYDD Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2021/22 PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r uchod.
Diolchodd yr Aelodau Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol, Oedolion a Gwasanaethau Plant, i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac i staff yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith. Fel y nodwyd yn yr adroddiad, cafwyd nifer o lwyddiannau o fewn y Gwasanaeth. Fodd bynnag fe bwysleisiwyd, oherwydd yr argyfwng costau byw, y bydd mwy o bwysau ar y Gwasanaethau wrth i fwy o bobl fod angen gofal a chefnogaeth.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod yr Adroddiad Blynyddol yn adroddiad statudol ac amlygodd y llwyddiannau o fewn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol fel y nodir yn yr adroddiad. Cyfeiriodd yn benodol at lwyddiant y prosiect Cartrefi Clyd sy’n caniatáu i blant mewn gofal i dderbyn gofal o fewn eu cymunedau lleol. Nododd ymhellach fod cydweithio â’r Bwrdd Iechyd a’r trydydd sector wedi cyfrannu at lwyddiannau o fewn y Gwasanaethau.
Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones fod cyfuniad cyllideb y Gwasanaeth Oedolion a Gwasanaethau Plant wedi cynyddi 18% dros y 3 blynedd diwethaf. Holodd am weledigaeth y Gwasanaethau ar gyfer y dyfodol gan fod cynnydd o’r fath yn anghynaladwy.
Ymatebodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion fod y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd yn ael sgyrsiau parhaus er mwyn rhoi mesurau ataliol yn eu lle er mwyn sicrhau bod pobl mor iach â phosibl heb orfod mynd i mewn i’r ysbyty ac angen pecynnau gofal sy’n gallu rhoi straen ar Wasanaethau. Ymatebodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant hefyd drwy ddweud fod y prosiect Cartrefi Clyd wedi gallu cael ei sefydlu yma yn Ynys Môn o ganlyniad i grant a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol 2021/22 |