Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am
2023/24.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Margaret Murley Roberts yn Gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer 2023/2024.
Wrth dderbyn y fraint o gael ei phenodi, rhoddodd y Cynghorydd Margaret M Roberts sicrwydd i’r Cyngor y byddai’n gwneud pob ymdrech i gyflawni ei dyletswyddau fel Cadeirydd hyd orau ei gallu. Diolchodd i’w rhagflaenydd, y Cynghorydd Dafydd Roberts, am y ffordd urddasol ac anrhydeddus yr oedd wedi cyflawni ei ddyletswyddau dinesig fel Cadeirydd y Cyngor Sir. Diolchodd y Cyn-gadeirydd, y Cynghorydd Dafydd Roberts i’w etholwyr yn Ward Bodowyr ac i’r holl Aelodau a Swyddogion am eu cymorth yn ystod ei gyfnod fel Is-gadeirydd a Chadeirydd y Cyngor Sir. Cyfeiriodd at y ffaith bod y cymorth gan y Gwasanaethau Democrataidd wedi newid yn ddiweddar ac roedd yn dymuno diolch i Mrs Carys Bullock am ei chymorth. Roedd hefyd yn dymuno diolch i Mrs Debbie Jones a Miss Chloe Hughes yn y Gwasanaethau Democrataidd am eu cymorth ac i Mr Dyfan Sion a benodwyd yn Bennaeth Democratiaeth yn ddiweddar. Bu iddo gydnabod y gwaith a gyflawnwyd gan Swyddogion y Cyngor yn ystod cyfnod anodd y pandemig a’r argyfwng costau byw. Amlygodd y Cynghorydd Dafydd Roberts ei uchafbwyntiau fel Cadeirydd a chyfeiriodd yn arbennig at gael agor pabell fawr Cyngor Sir Ynys Môn yn Sioe Amaethyddol Ynys Môn. Cyfeiriodd hefyd at y fraint o gael diolch i’r Cyn-gynghorydd Noel Thomas, wedi oedi hir, a chydnabod yr anghyfiawnder yr oedd wedi’i ddioddef.
|
|
Ethol Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2023/24. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Glyn Haynes yn Is-gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer 2023/2024.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cyhoeddiadau Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd neu’r Prif Weithredwr ac unrhyw sylwadau terfynol am ei gyfnod yn y swydd gan y Cadeirydd y mae ei dymor yn dod i ben.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-
· Llongyfarchiadau i Ysgol Corn Hir ac Ysgol y Borth am gyrraedd rownd derfynol pencampwriaeth pêl-rwyd yr Urdd yn Aberystwyth. Ysgol Corn Hir oedd yn fuddugol gydag Ysgol Borth yn dod yn ail.
· Llongyfarchiadau i nifer o unigolion o Ynys Môn a gwblhaodd y ras am fywyd 5k yng Nghaernarfon ar 14 Mai, 2023 a chodi arian at achosion da.
· Llongyfarchiadau i Mr Stuart Jewell, o’r adran TG am redeg Marathon Llundain i godi arian i Awyr Las – Ysbyty Penrhos Stanley.
· Llongyfarchiadau i Mr Martin Roberts o’r Adran Gyllid ar gael ei ddewis i ddyfarnu yn nhwrnamaint Nations Cup UEFA yn Sbaen fis nesaf.
· Llongyfarchiadau i Thea Scowcroft-Roberts o Ysgol Rhoscolyn a oedd yn fuddugol mewn cystadleuaeth i greu logo newydd ar gyfer Coleg Treftadaeth Caergybi – y coleg cyntaf o’i fath yng Nghymru. · Llongyfarchiadau i Mr Alan Carter a Mr John Pritchard sydd wedi cynrychioli Clwb Pêl-droed Cerdded Cymru i bobl dros 65 oed ym mhencampwriaeth ryngwladol Cwpan 5 bob ochr y Byd yn Zurich. Llwyddodd y ddau i helpu Cymru ddod yn ail yn y gystadleuaeth.
· Llongyfarchiadau i Keith a Rhian o dîm Maethu Cymru Ynys Môn ac i Sioned a Ffion o’r tîm Teuluoedd Gwydn am ddringo’r Wyddfa, Cader Idris a Phen y Fan mewn 21 awr a 40 munud. Llongyfarchiad hefyd i un o Ofalwyr Maeth yr Awdurdod, Alina Williams am ymuno â’r tîm i ddringo’r Wyddfa.
· Llongyfarchiadau i’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd ac i Action for Children am dderbyn canmoliaeth uchel am eu gwaith gyda gofalwyr ifanc yma ar Ynys Môn yn ystod seremoni wobrwyo Gofal Cymdeithasol Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar.
· Dymuniadau gorau i’r plant a’r bobl ifanc o Ynys Môn a fydd yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri ddiwedd y mis.
· Dymuniadau gorau i bawb o Ynys Môn a fydd yn cymryd rhan yng Ngemau’r Ynysoedd yn Gurnsey ym mis Gorffennaf.
· Llongyfarchiadau i bawb sydd â chyswllt ag Ynys Môn a fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
* * * * *
Cydymdeimlwyd a theulu, ffrindiau a chydweithwyr Ms Angela Bennett a oedd yn gweithio yn yr Adran Refeniw a Budd-daliadau.
Cydymdeimlwyd â theulu’r ddau Gyn-gynghorydd Sir, Mr Keith Thomas a Mr Eric Roberts.
Cydymdeimlwyd â Chyn-arweinydd y Cyngor, Mr Gareth Winston Roberts ar golli ei wraig yn ddiweddar.
Cydymdeimlwyd hefyd ag unrhyw Aelod neu aelod o staff y Cyngor a oedd wedi cael profedigaeth.
Cafwyd munud o dawelwch a safodd yr Aelodau a Swyddogion fel arwydd o barch.
* * * * * Gyda chytundeb y Cadeirydd, rhoddodd y Cynghorydd Robert Ll Jones deyrnged i Mr Sean Burns, a oedd wedi’i eni a’i fagu ym Mae Trearddur, Ynys Cybi, a fu farw’n ddiweddar. Treuliodd Mr Burns 12 mlynedd yn gwasanaethu fel Gweinyddwr Tristan da Cunha ac Ynys y Dyrchafael a Phennaeth Swyddfa’r Llywodraethwr ar Ynys Santes Helena. Dywedodd y Cynghorydd Jones bod Ynys Môn yn agos at galon Mr Burns a’i fod bod amser ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Aelodaeth o'r Pwyllgor Gwaith Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 y Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae hi wedi eu dewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 o’r Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae hi wedi eu dewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio:-
Cynghorydd Llinos Medi (Arweinydd) Portffolio Datblygu Economaidd;
Cynghorydd Robin Williams (Dirprwy Arweinydd) Portffolio Cyllid;
Cynghorydd Ieuan Williams (Dirprwy Arweinydd) Portffolio Addysg a’r Gymraeg;
Cynghorydd Neville Evans Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol;
Cynghorydd Carwyn Jones Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer;
Cynghorydd Gary Pritchard Portffolio Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol), Ieuenctid a Gwasanaethau Tai;
Cynghorydd Alun Roberts Portffolio Gwasanaethu Oedolion (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Diogelwch Cymunedol;
Cynghorydd Nicola Roberts Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd;
Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.
|
|
Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad, penodi Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y flwyddyn sirol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 o’r Cyfansoddiad Penderfynwyd Ethol y Cynghorydd Keith Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
|
|
Cadarnhau'r Cynllun Dirprwyo Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau'r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arno (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 o'r Cyfansoddiad). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Rhan 3.2 o’r Cyfansoddiad PENDERFYNWYD cadarnhau’r rhan honno o’r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arni.
|
|
Cadarnhau Pwyllgorau Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau a ganlyn fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol: -
· Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau · Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) · Is-Bwyllgor Indemniadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhaodd y Cadeirydd ailbenodi’r strwythur Pwyllgorau y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â’r canlynol:-
· Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau · Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) · Is-bwyllgor Indemniadau
|
|
Rhaglen o Gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer 2023/24 Cymeradwyo'r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod: -
· 12 Medi 2023 - 2:00 pm · 26 Hydref 2023 (Arbennig) - 2.00 pm · 5 Rhagfyr 2023 - 2:00 pm · 7 Mawrth 2024 - 2:00 pm · Mai 2024 (Cyfarfod Blynyddol) - dyddiad i’w gadarnhau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd arferol y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod:-
· 12 Medi, 2023 - 2.00 pm · 26 Hydref, 2023 - 2.00 pm · 5 Rhagfyr, 2023 - 2.00 pm Mai 2024 (Cyfarfod Blynyddol) – dyddiad i’w gadarnhau |
|
Trefniadau Cydbwysedd Gwleidyddol yn y Cyngor PDF 147 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth mewn perthynas â threfniadau cydbwysedd gwleidyddol.
PENDERFYNWYD :-
· Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddi a ddyrennir i bob un o’r Grwpiau yn unol â Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989; · Bod Arweinyddion y Grwpiau yn hysbysu’r Dirprwy Brif Weithredwr a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd cyn gynted ag y bo modd os bydd unrhyw newid o ran Aelodaeth Grwpiau ar Bwyllgorau.
|
|
Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol PDF 157 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth mewn perthynas â phenodi i Gyrff Allanol.
PENDERFYNWYD cytuno ar a chadarnhau’r penodiadau fel y nodir yn yr atodlen i’r adroddiad.
|
|
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth mewn perthynas â Phanel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-2024.
PENDERFYNWYD:-
· Derbyn penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2023-2024;
· Cadarnhau y bydd deilyddion yr un Swyddi â 2022-2023 â’r hawl i dderbyn uwch gyflogau yn 2023-2024, hy:-
Cadeirydd y Cyngor; Is-gadeirydd y Cyngor; Arweinydd y Cyngor; Dirprwy Arweinydd y Cyngor; Aelodau eraill y Pwyllgor Gwaith (7); Arweinydd Grŵp yr Wrthblaid fwyaf; Cadeiryddion y Pwyllgorau Sgriwtini (2); Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
· Awdurdodi swyddogion i newid Rhan 6 o Gyfansoddiad y Cyngor (Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau) i adlewyrchu’r penderfyniadau a wnaed yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-2024.
|