Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 12 Medi 2023.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 12 Medi, 2023 yn gywir.
|
|
Datganiad o ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad.
|
|
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Cadeirydd wneud y cyhoeddiadau canlynol:-
· Estynnwyd llongyfarchiadau i bawb fu’n cystadlu yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Ynys Môn yr wythnos ddiwethaf ym Maes Mona.
· Estynnwyd llongyfarchiadau i’r rapiwr Ren Gill sydd wedi dod dros gyfnod o salwch ac wedi dod i frig siartiau’r DU gyda’r ail albwm. Mae Ren yn wreiddiol o Ddwyran, ac yn gyn ddisgybl yn Ysgol David Hughes.
· Dymuniadau gorau i Ioan Rhun o Lanfairpwll fydd yn dringo rhan o Everest ym mis Mawrth flwyddyn nesaf er cof am ei dad ac i godi arian ar gyfer yr elusen ‘Shout’.
· Estynnwyd llongyfarchiadau i Dîm Maethu Ynys Môn am ennill gwobr i gydnabod eu cyfraniad rhagorol i ofal maeth. Canmolwyd y cymorth mae’r tîm wedi ei roi i ofalwyr maeth yr Ynys, ynghyd â’r berthynas agos gyda Chymdeithas Gofal Maeth Ynys Môn.
· Estynnwyd llongyfarchiadau i’r darlledwr Mr Hywel Gwynfryn ar dderbyn Gwobr am Gyfraniad Arbennig yn noson wobrwyo BAFTA Cymru yn ddiweddar am ei gyfraniad i ddarlledu.
· Estynnwyd llongyfarchiadau i Mr George North am greu hanes drwy fod y Cymro cyntaf i ymddangos yn rownd gogynderfynol Cwpan Rygbi’r Byd bedair gwaith.
· Estynnwyd llongyfarchiadau i Glwb Pêl-droed Amlwch am ennill pencampwriaeth Pêl-droed Cerdded dros 50 Cymru.
· Dymuniadau gorau i dîm Pêl-rwyd Ynys Môn fydd yn cystadlu yn erbyn timoedd o ynysoedd eraill yn Ynys Manaw fis nesaf.
· Dymuniadau gorau i’r holl unigolion a thimau sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobr yn seremoni wobrwyo Môn Actif ar gyfer 2023. Cynhelir y seremoni yng Nghanolfan Hamdden Biwmares.
· Bu i’r Cadeirydd ddiolch i Mr Haydn Edwards am ei waith fel Cadeirydd Fforwm yr Iaith Gymraeg Ynys Môn dros gyfnod o chwe blynedd. Dan ei arweinyddiaeth, mae’r Fforwm wedi datblygu fel llais yr awdurdod ar faterion yr Iaith Gymraeg ar yr Ynys, ac mae dros 30 sefydliad bellach ynghlwm â’r gwaith.
· Bu i’r Cadeirydd hefyd ddiolch i’r Parchedig Dr Dafydd Wyn Williams am ei waith diflino fel Gweinidog Capel Noddfa Caergybi am gyfnod o 30 mlynedd ac am ei waith fel hanesydd lleol, sydd wedi ei arwain at gyhoeddi dros 40 o lyfrau a sawl erthygl arall.
* * * * *
Cyfeiriodd y cadeirydd at y gwrthdaro cynyddol sydd wedi digwydd yn y Dwyrain Canol yn ystod y dyddiau diwethaf, ac mae ein meddyliau gyda’r plant a’r bobl gyffredin sy’n dioddef o ganlyniad i’r gwrthryfela.
Estynnwyd cydymdeimlad i deulu’r Parchedig Emlyn Richards, a fu farw ym mis Awst. Roedd wedi gwasanaethu fel gweinidog yn ardal Cemaes ers 1965 ac wedi cyhoeddi nifer o lyfrau am hanes Ynys Môn.
Estynnwyd cydymdeimlad i’r Cynghorydd Robert Llewelyn Jones a’i deulu yn dilyn marwolaeth ei chwaer yng nghyfraith.
Estynnwyd cydymdeimlad hefyd i unrhyw Aelod o’r Cyngor Sir neu Staff a oedd wedi profi profedigaeth.
Bu i Aelodau a Swyddogion sefyll mewn munud o dawelwch.
|
|
Rhybudd o Gynnig yn Unol  Rheol 4.1.13 .1 Y Cyfansoddiad Derbyn y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Nicola Roberts:-
‘Rwy’n cyflwyno’r rhybudd o gynnig hwn er mwyn galw ar Lywodraeth y DU i ddiogelu ansawdd dŵr Ynys Môn a Chymru gyfan.
Rydym yn ystod y misoedd diwethaf wedi gweld amryw o esiamplau o ddŵr môr wedi effeithio gan fudreddi sy’n effeithio ar drigolion yr ynys, y sector twristiaeth a bywyd gwyllt. Roeddwn mewn digwyddiad gyda rhai o fy nghyd gynghorwyr dros yr haf er mwyn dangos ein cefnogaeth i’w cais am fwy o ymyrraeth gan y Llywodraeth i ddiogelu ansawdd ein dŵr.
Mae ffigyrau trychinebus gan Dŵr Cymru yn cadarnhau bod dros 20256 o oriau lle mae dŵr wast wedi ei ollwng yn rhydd i’n dyfroedd. Mae nifer uchel o oriau yma yn dangos bod y ffordd yma o waredu o dŵr wast yn cael ei ddefnyddio fel rhywbeth rheolaidd yn hytrach na fel mesur argyfwng yn unig. Mae effeithiau newid hinsawdd yn debygol o waethygu’r sefyllfa.
Nid oes modd cael datrysiad lleol gan y gallai gollwng carthion mewn un sir gael effaith ddaearyddol ar ein cymdogion mewn siroedd eraill. Mae’n rhaid felly cael datrysiad gan y Llywodraeth. Rwy’n erfyn arnoch i gefnogi fy nghais, a llythyru drwy’r Arweinydd, i alw ar Lywodraeth y DU am ymyrraeth sydyn.’
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Nicola Roberts:-
‘Rwy’n cyflwyno’r rhybudd o gynnig hwn er mwyn galw ar Lywodraeth y DU i ddiogelu ansawdd dŵr Ynys Môn a Chymru gyfan.
Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld sawl esiampl o ddŵr budr yn effeithio ar ddŵr môr, sydd yna’n effeithio ar drigolion yr Ynys, y sector twristiaeth a bywyd gwyllt. Mynychais ddigwyddiad gyda rhai o’m cyd Gynghorwyr yn ystod yr haf er mwyn dangos ein cefnogaeth i’w cais am ymyrraeth bellach gan y Llywodraeth i ddiogelu ansawdd ein dŵr.
Mae ffigyrau torcalonnus gan Dŵr Cymru yn cadarnhau bod dŵr gwastraff wedi cael ei ollwng i’n dŵr yn rheolaidd am fwy na 20256 awr. Mae’r ffigwr hwn yn dangos bod dŵr gwastraff yn cael ei ryddhau yn rheolaidd yn hytrach nag mewn argyfwng yn unig. Mae effeithiau newid hinsawdd hefyd yn debygol o waethygu’r sefyllfa.
Nid yw datrysiad lleol yn bosibl gan y byddai rhyddhau carthffosiaeth yn y Sir yn cael effaith ddaearyddol ar ein cymdogion mewn siroedd eraill. Oherwydd hyn, mae angen datrysiad gan y Llywodraeth. Rwy’n erfyn arnoch i gefnogi fy nghais i anfon llythyr drwy’r Arweinydd at Lywodraeth y DU am ymyrraeth frys.’
Bu i’r Cynghorydd Neville Evans eilio’r Cynnig. Dywedodd y Cynghorydd Evans, fel yr Aelod Portffolio ar gyfer Hamdden, Twristiaeth a Morol, ei fod yn llwyr gefnogi’r Cynnig gan fod ansawdd y dŵr yn hollbwysig i drigolion yr Ynys a thwristiaeth.
Roedd y Cynghorydd Aled M Jones yn cefnogi’r Cynnig, a bod angen cymryd camau i ddiogelu ansawdd y dŵr. Cyfeiriodd at enghraifft tebyg i’r sefyllfa hon mewn perthynas ag ansawdd y dŵr a oedd wedi ymddangos ar draeth yn Nhwrcelyn, a’r gwaith a wnaed gan yr awdurdod lleol ac asiantaethau eraill er mwyn adfer y sefyllfa. Dywedodd bod materion yn ymwneud ag ansawdd dŵr, carthffosiaeth a risg llifogydd wedi cael eu datganoli gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru. Cynigiodd y Cynghorydd Jones fod llythyr yn cael ei anfon at y ddwy Lywodraeth mewn perthynas â’r pryderon ynghylch rhyddhau dŵr gwastraff i’r môr.
Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts ei bod hi’n derbyn yr argymhelliad, a byddai’n addasu’r Cynnig fel bo’r llythyr yn cael ei anfon gan yr Arweinydd at Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Dywedodd hefyd fod materion datganoledig wedi cael eu trosglwyddo gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru, fodd bynnag, mae’r gyfrifoldeb gyffredinol yn nwylo Llywodraeth y DU, ac mae angen datrysiad ar gyfer y DU gyfan er mwyn gwella ansawdd dŵr ac atal rhyddhau dŵr gwastraff i’r môr.
Cytunodd y cyfarfod gyda’r addasiad, a chafwyd pleidlais unfrydol o blaid y Cynnig.
|
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gynnig.
|
|
Penodi Aelod Annibynnol Cyfetholedig i’r Pwyllgor Safonau PDF 147 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i’w gymeradwyo gan y Cyngor.
Cyflwynodd Mr Gordon Warren, Cynghorydd Tref ac Aelod o’r Pwyllgor Safonau - Panel Dethol, yr adroddiad i’r Cyngor yn absenoldeb Cadeirydd y Panel Dethol, y Cynghorydd Dylan Rees. Dywedodd Mr Warren bod y Pwyllgor Safonau - Panel Dethol wedi ymgymryd â phroses recriwtio yn dilyn rôl wag ar gyfer Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau. Nododd bod gofyniad i aelodau annibynnol o’r Pwyllgor Safonau gael eu penodi gan y Cyngor, dim ond ar ôl cydymffurfio gyda’r broses ddethol statudol. Er mwyn cynnal y broses recriwtio a dethol hon, mae’r Cyngor Sir wedi dirprwyo ei awdurdod i’r Pwyllgor Safonau - Panel Dethol sy’n cynnwys un aelod annibynnol o’r cyhoedd, un cynrychiolydd o’r cynghorau tref a chymuned a thri chynghorydd sir (yn dibynnu ar gydbwysedd gwleidyddol). Aeth ymlaen i nodi fod yr hysbyseb a’r broses ddethol wedi’u rhoi ar waith yn dilyn proses rhestr fer, a chafodd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer eu cyfweld gan y Pwyllgor Safonau - Panel Dethol ar 26 Medi a 3 Hydref, 2023. Cytunodd y Panel i enwebu Mr Trefor Owen i’w benodi i’r rôl fel aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau, yn dibynnu ar eirdaon boddhaol, sydd wedi’u derbyn ers hynny, ac sydd wedi cael eu hasesu gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau - Panel Dethol. Bu i’r Panel hefyd argymell pe byddai sedd wag achlysurol ar gyfer aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau yn codi yn ystod y deuddeg mis nesaf, byddai Mr Brace Griffiths yn cael ei benodi i’r rôl hon heb yr angen am broses recriwtio arall, cyn belled â’i fod yn gymwys ar gyfer y rôl. Argymhellodd y Panel hefyd, pe byddai ail sedd wag achlysurol yn codi ar gyfer aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau, neu pe byddai Mr Brace Griffiths yn methu ag ymgymryd â’r rôl, byddai Mr David Abbott yn cael ei benodi, cyn belled â’i fod yn gymwys ar gyfer y rôl.
PENERFYNWYD, yn unfrydol, i dderbyn argymhellion y Pwyllgor Safonau - Panel Dethol fel a ganlyn:-
· Penodi Mr Trefor Owen fel aelod annibynnol cyfetholedig i’r Pwyllgor Safonau ar unwaith; · Mewn achos pe byddai sedd wag achlysurol yn codi ar gyfer aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau yn ystod y deuddeg mis nesaf, byddai Mr Brace Griffiths yn cael ei benodi’n awtomatig i’r rôl heb yr angen am broses recriwtio pellach, cyn belled bod yr ymgeisydd yn gymwys ar gyfer y rôl, ac yn amodol ar eirdaon boddhaol yn cael eu derbyn cyn y penodiad; ac · Mewn achos pe byddai ail sedd wag achlysurol yn codi ar gyfer aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau yn ystod y deuddeg mis nesaf, neu pe na fyddai Mr Brace Griffiths yn gallu cyflawni’r rôl, byddai Mr David Abbott yn cael ei benodi’n awtomatig i’r rôl heb yr angen am broses recriwtio pellach, cyn belled bod yr ymgeisydd yn gymwys ar gyfer y rôl, ac yn amodol ar eirdaon boddhaol yn cael eu derbyn cyn y penodiad.
|
|
Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2022/23 PDF 242 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Hydref 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i’w gymeradwyo gan y Cyngor.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid ei bod hi’n ofynnol i’r Cyngor, yn ôl rheoliadau a gyhoeddwyd dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, i baratoi adolygiad blynyddol ar reoli’r trysorlys yn edrych ar weithgareddau a’r dangosyddion trysorlys a chynghorus gwirioneddol ar gyfer 2022/2023. Dywedodd, yn unol â’r Cynllun Dirprwyo, fod yr adroddiad hwn wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 21 Medi, 2023, a chafodd ei drosglwyddo ymlaen i’r Pwyllgor Gwaith heb sylwadau ar 24 Hydref 2023. Penderfynodd y Pwyllgor Gwaith i drosglwyddo’r adroddiad ymlaen i’r Cyngor llawn heb unrhyw sylwadau pellach.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i:-
· Nodi y bydd y ffigyrau alldro yn yr adroddiad hwn yn rhai dros dro nes bod yr archwiliad ar Ddatganiad Cyfrifon 2022/2023 wedi’i gwblhau ac wedi’i gymeradwyo; bydd unrhyw addasiadau sylweddol i’r ffigyrau yn yr adroddiad hwn o ganlyniad yn cael eu hadrodd fel y bo’n briodol; · Nodi’r dangosyddion trysorlys a chynghorus dros dro ar gyfer 2022/2023 yn yr adroddiad hwn.
|
|
Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/23 PDF 69 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i’w gymeradwyo gan y Cyngor llawn.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Oedolion mai diben yr adroddiad yw hyrwyddo ymwybyddiaeth ac atebolrwydd am berfformiad a’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wrth ddarparu Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghyngor Sir Ynys Môn, yn ogystal â chynnwys meysydd sydd wedi’u hadnabod i’w gwella yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at yr heriau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond mae nifer o lwyddiannau o fewn y gwasanaeth, fel y nodir yn yr adroddiad. Dywedodd fod yr Awdurdod yn un o dri awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedi cael ei gydnabod fel Cymuned Oed Gyfeillgar.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn tynnu sylw at effeithiolrwydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2022/2023 fel sy’n ofynnol dan Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r prif gyflawniadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a’r pwysau ar y gwasanaeth oherwydd galw cynyddol. Dywedodd fod y gwasanaeth hefyd yn dibynnu ar grantiau rhanbarthol a grantiau gan Lywodraeth Cymru er mwyn gallu fforddio datblygiadau o fewn y gwasanaeth, ac mae gwaith ar y cyd yn mynd rhagddo gyda sefydliadau partner perthnasol a’r trydydd sector. Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ymlaen i ddweud fod strategaeth newydd wedi cael ei rhoi ar waith mewn perthynas â chyfleoedd Gofal Dydd, ac er mwyn hyrwyddo a chefnogi pobl gydag Anghenion Dysgu i fod yn rhan o’r gymuned leol, a’u gwerthfawrogi. Cyfeiriodd at gynllun Cartrefi Clyd, sydd wedi mynd i’r afael ag anghenion plant a phobl ifanc er mwyn gofalu amdanynt ar yr Ynys. Aeth ymlaen i ddweud fod y cynllun atal yn cefnogi pobl i fodloni eu gofynion cymorth personol. Mae cynllun hyfforddiant Ystyriol o Drawma yn cael ei gynnig, a gobeithir y bydd yn denu cyllid grant pellach. Hoffai’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ddiolch i staff yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith, a dywedodd bod gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau partner perthnasol yn hollbwysig o ran llwyddiant y gwasanaeth.
Roedd aelodau’r Cyngor yn dymuno diolch i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r staff am eu gwaith, ac effeithiolrwydd y cymorth a’r gwasanaeth sydd wedi’u darparu i drigolion yr Ynys.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar Effeithiolrwydd y Gwasanaeth Cymdeithasol yn ystod 2022/2023.
|
|
Adroddiad Perfformiad / Llesiant Blynyddol 2022/23 PDF 1009 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 26 Medi 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid i’w gymeradwyo gan y Cyngor.
Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer yr adroddiad, a oedd yn dadansoddi perfformiad yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn erbyn y gwelliannau a’r blaenoriaethau a amlinellwyd gan y Cyngor. Mae’r adroddiad yn dangos bod 54% o’r blaenoriaethau yn y Cynllun Pontio, sef y cynllun gwaith manwl ar gyfer 2022/23, wedi cael eu cwblhau, mae 29% yn parhau i 2023/24, ac mae 13% ar ei hôl hi, ond mae mesurau lliniaru yn debygol o’u rhoi nôl ar ben ffordd, ac mae 4% wedi cael eu canslo. Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu’r camau sydd wedi cael eu cefnogi gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn fel rhan o’i ymateb i’r argyfwng costau byw. Ar y cyfan, mae’r Cyngor wedi dangos cynnydd ac ymrwymiad da mewn sawl parth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf fel yr adlewyrchir yn yr adroddiad, a thynnir sylw at nifer o gyflawniadau nodedig. Mae’r Ddogfen Gyflawni Blynyddol yn nodi’r gwaith y bydd y Cyngor yn ymgymryd ag o yn ystod 2023/24 er mwyn cyflawni dyheadau Cynllun y Cyngor 2023-2028. Mae’n rhaid llongyfarch staff y Cyngor am eu gwaith caled yn ystod y flwyddyn o ran darparu prosiectau a ffrydiau gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Alun M Jones fod yr adroddiad yn tynnu sylw at y sefydliadau partner mae’r Awdurdod yn gweithio mewn partneriaeth â nhw, fodd bynnag, nid oes sôn yn yr adroddiad am y cyllid grant a roddwyd gan yr Awdurdod Dad-gomisiynu Niwclear (NDA) yn enwedig yng ngogledd yr Ynys.
Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd fod yr NDA yn bartner allweddol i’r awdurdod lleol. Dywedodd fod cyfarfod wedi’i gynnal yn ddiweddar gyda Swyddogion yr NDA a’r awdurdod lleol er mwyn trafod y sefyllfa economaidd-gymdeithasol yng ngogledd yr Ynys. Bu i’r Prif Weithredwr argymell fod logo bob sefydliad partner sy’n gweithio gyda’r Cyngor yn cael ei gynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol ar Berfformiad/Llesiant y flwyddyn nesaf.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo cynnwys yr Adroddiad Blynyddol ar Berfformiad/Llesiant ar gyfer 2022/2023, a’i fabwysiadu fel adlewyrchiad teg a chynhwysfawr o waith yr Awdurdod yn ystod y cyfnod hwnnw.
|
|
Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus 2023-28 PDF 450 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 26 Medi 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid i’w gymeradwyo gan y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer bod rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru baratoi Strategaeth Cyfranogiad, dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, sy’n nodi sut mae pobl leol yn cael eu hannog i gymryd rhan ym mhroses gwneud penderfyniadau’r Cyngor. Mae’r strategaeth yn ceisio annog pobl i gymryd rhan ym musnes y Cyngor ac adeiladu ar yr hyn mae’r Cyngor wedi’i gyflawni wrth ymgysylltu gyda thrigolion fel y cydnabuwyd gan Archwilio Cymru. Mae’r Strategaeth yn cynnwys enghreifftiau o gyfranogiad o fewn yr adroddiad. Cwblhawyd ymgynghoriad gyda Swyddogion y Cyngor am gyfnod o bedair wythnos. Roedd nifer uchel o’r ymatebwyr yn cytuno gyda chynnwys y Strategaeth sy’n dangos cefnogaeth tuag at y Strategaeth a’r bwriad i’w adolygu’n rheolaidd. Cydnabuwyd fod angen gwelliannau mewn perthynas â mwy o gyfranogiad gan blant a phobl ifanc ym mhenderfyniadau’r Cyngor, edrych ar ddulliau newydd o gasglu a chyflwyno adborth yn ddigidol ac ystyried ffyrdd o adroddiad ar lwyddiannau/diffyg llwyddiant o ran cyfranogiad.
PENDERFYNWYD yn unfrydol:-
· I fabwysiadu’r Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus, er bod hi’n ddogfen fyw, ac y bydd yn cael ei hadolygu a’i diweddaru’n rheolaidd, ac y bydd yn parhau i adeiladu ar lwyddiant hyd yn hyn; · Rhoi awdurdod i’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer, i baratoi’r ddogfen derfynol yn unol â’r fformat corfforaethol cyn llwytho’r ddogfen ar wefan y Cyngor.
|