Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft o gyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y cyfarfod o Gyngor Sir Ynys Môn a gynhaliwyd ar 7 Mawrth, 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gofnod cywir, yn amodol ar ddiwygio’r fersiwn Gymraeg fel a ganlyn (Eitem 8 – Cyllideb 2024/2025 - Ar ddechrau’r broses o osod y gyllideb roedd bwlch o £14.391m rhwng y gyllideb refeniw ddigyfnewid a’r cyllid oedd ar gael cyn cynyddu’r Dreth Gyngor).
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o fuddiant.
|
|
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-
· Llongyfarchiadau mawr i’r athletwyr Eli Jones a Joseff Morgan ar gael eu dewis i gynrychioli Cymru yn nigwyddiad Athletau Rhyngwladol Loughborough a gynhaliwyd dydd Sul. Roedd Eli yn rhan o dîm ras gyfnewid 100 metr Cymru a Joseff yn cystadlu yn yr 800 medr.
· Llongyfarchiadau i Tudur Jones a Begw Ffransis Roberts o Glwb Rygbi Llangefni, fu'n cynrychioli Cymru yn ddiweddar. Bu Tudur yn chwarae i dîm rygbi bechgyn Cymru dan 18 a Begw yn chwarae i ferched dan 18 Cymru yn yr Ŵyl Chwe Gwlad.
· Llongyfarchiadau i Gareth Parry, ar gael ei gydnabod gan yr Undeb Rygbi am ei waith caled yn datblygu rygbi merched ar Ynys Môn a Gogledd Cymru.
· Llongyfarchiadau i Osian Roberts, brodor o Fôn, ar ei lwyddiant fel hyfforddwr Clwb Pêl-droed Como 1907 yn yr Eidal. Llwyddodd Osian i arwain Como i ddyrchafiad o Serie B a bydd Como yn chwarae eu pêl-droed ym mhrif adran Yr Eidal, Serie A, y tymor nesaf.
· Llongyfarchiadau i Dîm Pêl-droed Gwalchmai ar ennill Cwpan Canolradd Gogledd Cymru ddydd Sadwrn diwethaf.
· Llongyfarchiadau i bawb fu’n cystadlu yn Eisteddfod Môn dros y penwythnos. Roedd hi’n Eisteddfod lwyddiannus iawn unwaith eto eleni a llongyfarchiadau mawr i’r Cynghorydd Gwilym Jones a’r cyn-gynghorydd Bob Parry ar gael eu hurddo i Orsedd yr Eisteddfod. Pob lwc hefyd i bawb o Fôn fydd yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd ym Meifod wythnos nesaf.
· Mae Mr Noel Thomas, Gaerwen wedi ei gynnwys yn y rhestr o bobl fydd yn cael eu hurddo gan Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae Noel wedi gwasanaethu ei gymuned yn gydwybodol am flynyddoedd lawer fel is-bostfeistr a chynghorydd.
· Llongyfarchiadau mawr i Gôr Ieuenctid Môn dan arweiniad Mari Lloyd Pritchard ar gyrraedd rownd derfynol Côr Cymru ar ôl ennill y categori “Corau Sioe”. Roedd y gystadleuaeth o safon ryngwladol ac yn brofiad gwych i dros 100 o bobl ifanc yr Ynys.
· Llongyfarchiadau i Seindorf Ieuenctid Biwmares a lwyddodd i ddod yn drydydd drwy Ewrop wrth gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop yn Palanga, Lithwania yn gynharach yn y mis.
· Llongyfarchiadau mawr i aelodau Ffermwyr Ifanc Môn a fu’n cynrychioli’r sir yng Ngŵyl Siarad Cyhoeddus Ffermwyr Ifanc Cymru yn Llanelwedd ym mis Mawrth gyda thîm darllen Ynys Môn yn dod yn ail ar y gystadleuaeth ddrama yn Theatr Brycheiniog, llongyfarchiadau i glwb Rhosybol am ddod yn ail. Llongyfarchiadau arbennig i Elliw Mair o glwb Bodedern am ddod yn ail fel aelod y flwyddyn dan 18 Cymru.
· Llongyfarchiadau i Mr Gerallt Llewelyn Jones, Menter Môn ar ennill gwobr ‘Ysbryd y Môr’ yng Nghynhadledd Ynni Morol Cymru yn ddiweddar. Mae’r wobr yn gydnabyddiaeth o’i gyfraniad, ymrwymiad ac angerdd fel unigolyn i’r sector ynni morol yng Nghymru ac o lwyddiant prosiect ynni llanw Morlais yma ym Môn.
· Pob dymuniad da i Mr Mark Wade yn dilyn ei benodiad i griw bad achub y RNLI yng Nghaergybi.
· Llongyfarchiadau i Lauren Amy Jones o dîm datblygu a hyfforddi'r Cyngor wedi iddi gael ei anrhydeddu fel myfyriwr ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un ddeiseb.
|
|
Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor 2023/24 PDF 200 KB Ystyried adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor yn unol â Pharagraff 4.1.16 y Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor ar gyfer 2022/2023.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod y Cyngor wedi cymeradwyo un o’i gyllidebau mwyaf heriol ym mis Mawrth ar ôl goresgyn bwlch ariannol cychwynnol o £14 miliwn. Cyfeiriodd at fabwysiadu Cynllun y Cyngor a’i weledigaeth i greu Ynys Môn fydd yn iach a llewyrchus lle gall pobl ffynnu.
Wrth sôn am addysg cyfeiriodd yr Arweinydd at agor ysgol newydd Corn Hir ym mis Ebrill 2023. Dywedodd ei bod hi’n braf gweld plant yr ynys yn derbyn cyfleoedd addysgu mewn adeilad modern. Cyfeiriodd at y cyfnod heriol mewn dwy ysgol uwchradd ar Ynys Môn o ganlyniad i newid yn y ddeddfwriaeth yn ymwneud a RAAC. Ni fu’n bosib ailagor Ysgol Uwchradd Caergybi ac Ysgol Uwchradd ar ôl y gwyliau haf a bu’n rhaid i waith trwsio brys gael ei wneud mewn nifer o wahanol adeiladau ar dir y ddwy ysgol. Fe gydweithiodd nifer o wasanaethau’r Cyngor yn effeithiol iawn er mwyn sicrhau bod yr ysgolion yn parhau i ddarparu addysg tra roedd y safleoedd ar gau ac ail agor yn ddiogel cyn gynted ag y bo modd. Diolchodd i’r Penaethiaid, staff, a’r disgyblion a’u teuluoedd am gydweithio’n agos â’r Cyngor ar adeg anodd iawn. Aeth yr Arweinydd ymlaen i nodi bod proffil Estyn Ynys Môn wedi bod yn arbennig yn ystod 2023, gyda dim un ysgol yn cael ei rhoi mewn categori. Nododd bod cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy’n defnyddio llyfrgelloedd yr ynys.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at y maes gofal cymdeithasol ac fe amlygodd bod Ynys Môn ar y blaen o ran ei gweledigaeth i ddod yn Ynys Ystyriol o Drawma. Dywedodd bod y Cyngor wedi gweithio’n ddiflino i weithredu a hybu’r Strategaeth Ynys sy’n ystyriol o Drawma o fewn y cyngor, gyda phartneriaid ac yn y gymuned. Aeth ymlaen i ddweud bod y Cyngor wedi cael ei dderbyn fel aelod o Rwydwaith Byd-eang o Gymunedau Oed-gyfeillgar ym mis Mehefin 2023 a bod hyn yn arwydd o ymrwymiad y Cyngor i greu Ynys Môn Oed-gyfeillgar, lle nad oes unrhyw rwystrau’n atal pobl rhag heneiddio’n dda. Cyfeiriodd yr Arweinydd at y prosiect Dementia Actif Môn a’r cynnydd sylweddol dros y 12 mis diwethaf. Erbyn hyn mae gan y prosiect Cartrefi Clyd bedair uned sy’n darparu cartref i hyd at chwech o blant sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at yr economi ac fe amlygodd cyllid a dderbyniwyd drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r Gronfa Ffyniant Bro. Cyfeiriodd hefyd at y rhaglen Arfor. Nododd lwyddiant y prosiectau hyn a’r gwaith ychwanegol sy’n cael ei gyflawni gan staff yr Adran Datblygu Economaidd ar y cyd â chymunedau lleol. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Du wedi cymeradwyo cais Ynys Môn i fod yn un o borthladdoedd rhydd cyntaf Cymru, sydd â’r potensial i ddarparu gwir newid i gymunedau ledled Ynys Môn a rhanbarth ehangach gogledd Cymru. Aeth yr Arweinydd ymlaen i ddweud y bydd y Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru am drydedd bont dros y Fenai. Dywedodd bod canolfan ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini 2023/24 PDF 775 KB Cyflwyno adroddiad gan Gadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio i’w gymeradwyo gan y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Sgrwtini Partneriaeth ac Adfywio bod yr Adroddiad Blynyddol yn trafod gwaith y ddau bwyllgor sgriwtini rhwng mis Mai 2023 a Mai 2024. Dywedodd ei fod yn dymuno diolch i’r Tîm Sgriwtini am eu harweiniad, cymorth a pharodrwydd i gynorthwyo. Diolchodd hefyd i’w Is-gadeirydd, y Cynghorydd Gwilym O Jones ac aelodau’r ddau bwyllgor sgriwtini.
PENDERFYNWYD yn unfrydol:--
· Cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini ar gyfer 2023/24; · Nodi’r cynnydd parhaus sy’n cael ei wneud o ran ein siwrnai ddatblygu Sgriwtini a’r effaith y mae hyn yn ei gael ar ymarfer; · Penodi cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn Bencampwr Sgriwtini ar gyfer y cyfnod rhwng Mai 2024 a Mai 2025.
|
|
Cynllun Strategol Rheoli Asedau Corfforaethol 2024-2029 PDF 711 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Mawrth 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith 19 Mawrth 2024, i’w gymeradwyo gan y Cyngor.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo Cynllun Strategol Rheoli Asedau 2024-2029.
|
|
Swyddogaeth Dewis Lleol: Perfformiad PDF 178 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, yn dilyn Penderfyniad Portffolio a wnaed gan y Deilydd Portffolio ar gyfer Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer ar 29 Ebrill 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn dilyn penderfyniad gan yr Aelod Portffolio Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer ar 29 Ebrill 2024, i’w gymeradwyo gan y Cyngor.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i:-
· Dynodi’r Hunanasesiad Corfforaethol a’r Asesiad Perfformiad gan Banel yn swyddogaethau i’w harfer gan y Pwyllgor Gwaith; · Cytuno y bydd Asesiad Perfformiad gan Banel cyntaf y Cyngor yn digwydd yn ystod 2025; · Awdurdodi penodi Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i gefnogi’r Cyngor yn ystod ei Asesiad Perfformiad gan Banel cyntaf, ar gost o oddeutu £35,000 (llai’r gost o gyd-ddylunio’r fanyleb); · Awdurdodi’r Prif Weithredwr i wneud yr holl benderfyniadau a threfniadau gweithredol, ac eithrio mewn perthynas â phenodi panel annibynnol a sefydlu cylch gorchwyl ar ei gyfer; a fydd yn benderfyniad i’r Pwyllgor Gwaith.
|