Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am
2024/25. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Glyn Haynes yn Gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2024/25.
Wrth dderbyn yr anrhydedd o gael ei benodi, dywedodd y Cynghorydd Glyn Haynes wrth y Cyngor y byddai’n ceisio cyflawni ei ddyletswyddau fel Cadeirydd hyd orau ei allu. Diolchodd i’w ragflaenydd, y Cynghorydd Margaret Murley Roberts, am gyflawni ei dyletswyddau fel Cadeirydd y Cyngor Sir mor urddasol ac anrhydeddus a chyflwynodd rodd iddi er mwyn cydnabod ei gwasanaeth.
Diolchodd y cyn Gadeirydd, y Cynghorydd Margaret Murley Roberts, i’w theulu am eu cefnogaeth yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn. Mynegodd ei thristwch o golli cyfaill annwyl a chyn aelod etholedig, Vaughan Hughes, a oedd wedi ei chynorthwyo i ddod yn aelod etholedig o’r Cyngor Sir. Cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts at y digwyddiadau lu y bu iddi eu mynychu a’r fraint o gynrychioli’r Cyngor Sir yn y digwyddiadau hynny. Nododd mai Banc Bwyd Môn oedd yr elusen a ddewisodd ei chefnogi ac roedd hi wedi cyflwyno siec am £4,300 i’r Banc Bwyd yn ddiweddar.
|
|
Ethol Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD, yn unfrydol, ethol y Cynghorydd Non Dafydd yn Is-gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2024/2025.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cyhoeddiadau Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd neu'r Prif Weithredwr ac unrhyw sylwadau terfynol gan y Cadeirydd ar ei chyfnod yn y swydd y mae ei thymor yn dod i ben. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw gyhoeddiadau.
|
|
Aelodaeth o'r Pwyllgor Gwaith Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 y Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae hi wedi eu dewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 o’r Cyfansoddiad, enwodd yr Arweinydd yr Aelodau canlynol a ddewiswyd ganddi i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith, ynghyd â’u cyfrifoldebau Portffolio:-
Y Cynghorydd Llinos Medi – Arweinydd gyda chyfrifoldeb Portffolio am Ddatblygu Economaidd;
Y Cynghorydd Robin Williams – Dirprwy Arweinydd gyda chyfrifoldeb Portffolio am Gyllid;
Y Cynghorydd Gary Pritchard – Dirprwy Arweinydd gyda chyfrifoldeb Portffolio am Blant (Gwasanaethau Cymdeithasol), Ieuenctid a Gwasanaethau Tai;
Y Cynghorydd Neville Evans – gyda chyfrifoldeb Portffolio am Hamdden, Twristiaeth a Morwrol;
Y Cynghorydd Carwyn Jones – gyda chyfrifoldeb Portffolio am Fusnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer;
Y Cynghorydd Alun Roberts – gyda chyfrifoldeb Portffolio am Wasanaethau Oedolion (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Diogelwch Cymunedol;
Y Cynghorydd Dafydd Roberts – gyda chyfrifoldeb Portffolio am Addysg a’r Gymraeg;
Y Cynghorydd Nicola Roberts – gyda chyfrifoldeb Portffolio am Gynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd;
Y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas – gyda chyfrifoldeb Portffolio am Briffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.
|
|
Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad, ethol Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y flwyddyn sirol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 o’r Cyfansoddiad, PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Keith Roberts yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
|
|
Cadarnhau'r Cynllun Dirprwyo Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau'r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arno (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 o'r Cyfansoddiad).
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau’r rhan honno o’r Cynllun Dirprwyo y mae’r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i’r Cyngor yw cytuno arno, fel y nodir yn Rhan 3.2 o’r Cyfansoddiad.
|
|
Cadarnhau Pwyllgorau Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau a ganlyn fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol: -
· Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau · Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS) · Is-Bwyllgor Indemniadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Rhaglen Cyfarfodydd Cyffredinol y Cyngor Sir ar gyfer 2024/25 Cymeradwyo'r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod: -
· 26 Medi 2024 - 2:00 pm · 3 Rhagfyr 2024 - 2:00 pm · 6 Mawrth 2025 - 2:00 pm · Mai 2025 (Cyfarfod Blynyddol) - dyddiad i’w gadarnhau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd cyffredinol y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod:-
· 26 Medi, 2024 - 2.00 pm · 5 Rhagfyr, 2024 - 2.00 pm · 6 Mawrth, 2025 - 2.00 pm · Mai, 2025 - dyddiad i’w gadarnhau
|
|
Trefniadau Cydbwysedd Gwleidyddol yn y Cyngor PDF 148 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth ynglŷn â threfniadau cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor.
PENDERFYNWYD :-
· Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddau a ddyrennir i bob Grŵp o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989; · Bod Arweinyddion Grwpiau yn hysbysu’r Pennaeth Democratiaeth, cyn gynted â phosib, os bydd unrhyw newid o ran Aelodaeth Grwpiau ar Bwyllgorau.
|
|
Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol PDF 157 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth mewn perthynas â phenodiadau i gyrff allanol.
PENDERFYNWYD cytuno a chadarnhau’r penodiadau fel y’u nodir yn yr atodlen sydd ynghlwm i’r adroddiad.
|
|
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2024/25 PDF 130 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 20 Mawrth 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth ynglŷn ag Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2024/2025.
PENDERFYNWYD :-
· Derbyn penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2024/2025; · Cadarnhau y bydd deilyddion yr un swyddi â 2023/24 â’r hawl i dderbyn uwch gyflogau yn 2024/2025, h.y.
Cadeirydd y Cyngor Is-gadeirydd y Cyngor Arweinydd y Cyngor Dirprwy Arweinydd y Cyngor Aelodau Eraill y Pwyllgor Gwaith (7) Arweinydd yr Wrthblaid Fwyaf Cadeiryddion y Pwyllgorau Sgriwtini (2) Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
· Awdurdodi swyddogion i ddiwygio Rhan 6 o Gyfansoddiad y Cyngor (Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau) i adlewyrchu’r penderfyniadau a wnaed yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2024/2025.
|