Rhaglen a Phenderfyniadau

Cyfarfod Arbennig Cyngor Sir Ynys Môn - Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mercher, 6ed Tachwedd, 2024 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bu’r Cynghorydd Alwen P Watkin ddatgan diddordeb personol  yn eitem 4 – Awdurdodi ac ariannu’r gwaith trwsio annisgwyl ac yn dilyn derbyn cyngor cyfreithiol roedd modd iddi gymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais.

 

2.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

3.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 83 KB

Ystyried mabwysiadau’r canlynol

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.”

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

4.

Awdurdodi ac Ariannu Gwaith Trwsio Annisgwyl

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

·     Nodi cyflwr peryglus yr adeilad a’r risg uniongyrchol i ddiogelwch y cyhoedd, gan olygu bod angen gweithredu ar frys.

·     Awdurdodi rhyddhau uchafswm o £500,000 o falansau cyffredinol y Cyngor er mwyn caniatáu i waith strwythurol brys gael ei wneud i sicrhau diogelwch y cyhoedd.

·     Awdurdodi swyddogion i ddwyn unrhyw achosion cyfreithiol y maent yn ystyried yn rhesymol er mwyn adennill y costau a gafwyd gan y Cyngor wrth gyflawni’r gwaith unioni ar yr adeilad/adeiladau ac ariannu unrhyw gostau cyfreithiol nad ydynt yn cael eu hadennill.

·       Caniatáu eithriad ar gyfer “contractau lle mae cymaint o frys nad yw’n bosibl cydymffurfio â’r Rheolau hyn” a bydd angen eithriad ar gyfer y gwaith hwn oherwydd y brys.