Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2026. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2026 yn gywir.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Fe wnaeth y Cynghorydd Celfyn Furlong ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig ag eitem 7 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr.
Fe wnaeth y Cynghorydd Derek Owen ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig ag eitem 7 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr.
Fe wnaeth y Cynghorydd Alun Roberts ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig ag eitem 7 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr.
Fe wnaeth Mr Arwel Owen, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig ag eitem 7 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr.
|
|
|
Cyhoeddiadau Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd neu’r Prif Weithredwr, ac unrhyw sylwadau terfynol gan y Cadeirydd ar ei chyfnod yn yn swydd y mae ei thymor yn dod i ben. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Rhybudd o Gynnig Derbyn y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Neville Evans:-
‘Rwyf yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i gydnabod Ynys Môn fel Sir sydd a dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg fel a nodir yn adroddiad Comisiwn y Cymunedau Cymraeg a gadeiriwyd gan Dr Simon Brooks.
Gyda Llywodraeth newydd yn cychwyn ar ei gwaith ym Mae Caerdydd, rwy’n galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac i annog gweithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg er mwyn atgyfernethu’r Gymraeg fel iaith fyw o fewn ein cymunedau yma ar yr ynys.’
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cyflwynwyd Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Neville Evans : -
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynnig i alw ar Gyngor Sir Ynys Môn i gydnabod Ynys Môn fel Sir sydd â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg fel y nodir yn adroddiad Comisiwn y Cymunedau Cymraeg a gadeiriwyd gan Dr Simon Brooks. Gyda Llywodraeth newydd yn cychwyn ar ei gwaith ym Mae Caerdydd, galwodd ar Gyngor Sir Ynys Môn i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac i annog gweithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg er mwyn atgyfnerthu'r Gymraeg fel iaith fyw o fewn ein cymunedau yma ar yr ynys.’
|
|
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni dderbyniwyd yr un ddeiseb.
|
|
|
Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor 2025/26 Ystyried Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor yn unol â Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ddim yn berthnasol. Nid oedd angen penderfyniad.
|
|
|
Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno ardoll ymwelwyr yn Ynys Môn (yn unol â chanllawiau’r Cyngor a Llywodraeth Cymru).
|
|
|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2026/27.
(Cyfeirir yr Aelodau at y ddogfen ‘Trefn y Gweithgareddau’ ar gyfer Ethol Cadeirydd y Cyngor Sir). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD, yn unfrydol, ethol y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas yn Gadeirydd ar Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2026/2027.
|
|
|
Ethol Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2026/27. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Jackie Lewis yn Is-gadeirydd ar Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2026/2027.
|
|
|
Aelodaeth o'r Pwyllgor Gwaith Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 y Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae ef wedi ei ddewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 o’r Cyfansoddiad, enwodd yr Arweinydd yr Aelodau canlynol a ddewiswyd ganddo i fod yn Aelodau o’r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â’u cyfrifoldebau Portffolio:-
Y Cynghorydd Gary Pritchard (Arweinydd) gyda chyfrifoldeb dros y Portffolio Datblygu Economaidd;
Y Cynghorydd Robin Williams (Dirprwy Arweinydd) gyda chyfrifoldeb dros y Portffolio Cyllid, Busnes y Cyngor a Phrofiad y Cwsmer;
Y Cynghorydd Neville Evans gyda chyfrifoldeb dros y Portffolio Gwasanaethau Oedolion;
Y Cynghorydd Carwyn Jones gyda chyfrifoldeb dros y Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol;
Y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones gyda chyfrifoldeb dros y Portffolio Plant, pobl Ifanc a Theuluoedd;
Y Cynghorydd Alun Roberts gyda chyfrifoldeb dros y Portffolio Hamdden, Twristiaeth, Morwrol ac Eiddo;
Y Cynghorydd Dafydd Roberts gyda chyfrifoldeb dros y Portffolio Addysg a’r Gymraeg;
Y Cynghorydd Nicola Roberts gyda chyfrifoldeb dros y Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd;
Y Cynghorydd Ieuan Williams gyda chyfrifoldeb dros y Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd.
|
|
|
Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad, ethol Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y flwyddyn sirol.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Yn unol â Rhan 3.4.12.3 o’r Cyfansoddiad, PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Keith Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
|
|
|
Cadarnhau'r Cynllun Dirprwyo Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau'r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arno (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 o'r Cyfansoddiad). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Yn unol â Rhan 3.2 o’r Cyfansoddiad, PENDERFYNWYD cadarnhau'r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arno.
|
|
|
Cadarnhau Pwyllgorau Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau a ganlyn fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol: -
· Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau · Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS) · Is-Bwyllgor Indemniadau Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD ailbenodi’r strwythur Pwyllgorau fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â’r canlynol: -
· Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau; · Y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS); · Is-bwyllgor Indemniadau
|
|
|
Rhaglen Cyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer 2026/27 Cymeradwyo'r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod: -
· 24 Medi 2026 - 1:00 pm · 8 Rhagfyr 2026 - 1:00 pm · 4 Mawrth 2027 - 1:00 pm · Mai 2027 (Cyfarfod Blynyddol) - dyddiad i’w gadarnhau
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd cyffredinol y Cyngor Sir am y flwyddyn nesaf: -
· 24 Medi, 2026 - 1.00 pm · 8 Rhagfyr, 2026 - 1.00 pm · 4 Mawrth, 2027 - 1.00 pm · Mai 2027 (Cyfarfod Blynyddol) - dyddiad i’w gadarnhau
|
|
|
Cydbwysedd Gwleidyddol Pwyllgorau Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD :-
· Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddi a ddyrannwyd i bob Grŵp o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989; · Bod y seddi sydd heb eu dyrannu yn cael eu neilltuo rhwng y ddau aelod unigol; · Bod Arweinyddion Grwpiau yn hysbysu’r Pennaeth Democratiaeth cyn gynted ag y bo modd os bydd unrhyw newid o ran aelodaeth Grwpiau ar Bwyllgorau.
|
|
|
Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Demoncrataidd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cytuno a chadarnhau’r penodiadau fel y nodir yn yr atodlen i’r adroddiad.
|
|
|
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 12 Mawrth 2026. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD :-
· Derbyn penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2026-27; · Cadarnhau y bydd deiliaid yr un swyddi â 2025-26 â’r hawl i dderbyn uwch gyflogau yn 2026-27, sef:-
Cadeirydd y Cyngor; Is-gadeirydd y Cyngor; Arweinydd y Cyngor; Dirprwy Arweinydd y Cyngor; Aelodau eraill y Pwyllgor Gwaith (7); Arweinydd yr Wrthblaid Fwyaf; Cadeiryddion y Pwyllgorau Sgriwtini (2); Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
· Awdurdodi Swyddogion i newid Rhan 6 o Gyfansoddiad y Cyngor (Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau) er mwyn adlewyrchu’r penderfyniadau a wnaed yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2026/27.
|