Rhaglen a chofnodion

Arbennig, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 16eg Ebrill, 2013 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr John Gould 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod new Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Cofnodion:

Gwnaeth y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddiaeth) a’r Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) ddatganiad o ddiddordeb yn Eitem 7 y cofnodion hyn ac nid oeddynt yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth neu bleidlais arni.

2.

Derbyn Unrhyw Gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor, y Comisiynwyr neu Bennaeth y Gwasanaeth Tâl

Cofnodion:

Dim i’w datgan.

3.

Cyflwyniad gan Gadeirydd y Cyngor i'r Aelodau sy'n Ymddeol

Cofnodion:

Talodd y Prif Weithredwr deyrnged i’r Cynghorwyr isod a oedd wedi datgan eu bwriad i ymddeol fel Cynghorwyr cyn etholiadau’r Cyngor ym mis Mai:-

 

Y Cynghorydd Cliff Everett

 

Etholwyd y Cynghorydd Cliff Everett yn Aelod Llafur dros Ward Tref Caergybi yn 1991 a bu’n Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a’r Prif Bwyllgor Sgriwtini ac yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith.

 

Y Cynghorydd Fflur M. Hughes

 

Etholwyd y Cynghorydd Fflur M.Hughes yn aelod Plaid Cymru member dros Ward Cefni ym mis Mai 1999 a bu’n Gadeirydd y Pwyllgor Dysgu Gydol Oes a Diwylliant a’r Pwyllgor Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Y Cynghorydd W.I.Hughes

 

Etholwyd y Cynghorydd W.I.Hughes yn aelod Plaid Cymru dros Ward Bodffordd yn 1999.  Bu’n aelod o’r Pwyllgor Gwaith fel yr Aelod Portffolio Tai.

 

Y Cynghorydd Eric Jones

 

Etholwyd y Cynghorydd Eric Jones yn aelod dros Ward Llanfihangel Ysgeifiog yn 2007 a bu’n Gadeirydd y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol ac yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

 

Y Cynghorydd Tom Jones

 

Etholwyd y Cynghorydd Tom Jones yn aelod dros Ward Llanfechell yn 2004.  Bu’n aelod o’r Pwyllgor Gwaith fel yr Aelod Portffolio Cyllid.  Bu hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Penodiadau. 

 

Y Cynghorydd Clive McGregor (nid oedd yn gallu bod yn bresennol heddiw)

 

Etholwyd y Cynghorydd Clive McGregor fel Cynghorydd Sir ym mis Mai 2008 fel cynrychiolydd Ward Llanddyfnan,  Fe’i penodwyd yn Aelod Portffolio Priffyrdd, Trafnidiaeth a Materion Arforol ar ôl ymuno â’r Cyngor.  Ym mis Ebrill 2009, cafodd ei ethol yn Arweinydd y Grŵp Annibynwyr Gwreiddiol a bu’n Arweinydd y Cyngor rhwng Mai 2009 a Mai 2011.

 

Y Cynghorydd Rhian Medi

 

Etholwyd y Cynghorydd Rhian Medi yn aelod Plaid Cymru ar gyfer Ward Cyngar yn 2008. Bu’n Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Addysg a Hamdden ac yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith ar adeg ei sefydlu yn 2000.

 

Y Cynghorydd J.V.Owen

 

Etholwyd y Cynghorydd J.V.Owen yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn yn 1976 ac fe’i etholwyd yn Faer y Cyngor Bwrdeistref rhwng 1985-86.  Cafodd ei ethol fel aelod ar gyfer Ward Parc a’r Mynydd, Caergybi yn 2008.  Ef yw Cadeirydd presennol y Pwyllgor Sgriwtini Datblygu Economaidd, Twristiaeth ac Eiddo.

 

Y Cynghorydd R.L.Owen

 

Etholwyd y Cynghorydd R.L.Owen yn aelod dros Ward Biwmares ym mis Mai.  Bu’n Gynghorydd ar Gyngor Tref Biwmares ers 1986 ac ef oedd Maer Biwmares rhwng 1996-97. Y Cynghorydd Owen oedd Cadeirydd y Cyngor Sir yn 2002-03, yn ystod ymweliad Ei Mawrhydi Y Frenhines â Biwmares fel rhan o ddathliadau’r Jiwbilî Aur.  Bu hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Sgriwtini yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol ac ef yw’r Is-gadeirydd cyfredol.

 

Y Cynghorydd G.O.Parry,MBE

 

Mae’r Cynghorydd G.O.Parry,MBE wedi bod yn aelod o Gyngor Cymuned Y Fali ers 1976.  Bu’n Gadeirydd Cymdeithas y Cynghorau Lleol, Gwynedd am bum mlynedd. Bu’n aelod o Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn ers 1982 ac yn aelod o’r Cyngor hwn ers 1996.

 

Bu’n Faer y Fwrdeistref yn ystod 1990-91 a bu’n ymwneud â Cyngor Ar Bopeth ers 1974 ac yn Gadeirydd CAB Gogledd Cymru ynghyd â CAB Caergybi. Ef oedd Arweinydd y Cyngor Sir rhwng 1999 a 2002 a’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Heddlu Gogledd Cymru

Bydd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd sydd newydd ei benodi ar gyfer Gogledd Cymru, sef Mr Winston Roddick, CB, QC yn gwneud cyflwyniad i’r Cyngor.

 

(Bydd sesiwn fer yn dilyn er mwyn i’r Aelodau gael gofyn cwestiynau a chael atebion iddynt).

 

Cofnodion:

Rhoes y Cadeirydd groeso cynnes i Gomisiynydd yr Heddlu.

 

Rhoes y Comisiynydd Heddlu a Throsedd sydd newydd ei benodi ar gyfer Gogledd Cymru, Mr. Winston Roddick, CB, QC, gyflwyniad mewn perthynas â’r gwahoddiad a roddodd i drigolion Gogledd Cymru i rannu eu teimladau ynghylch plismona a throsedd yn lleol.

 

Byddai’r sylwadau a fynegwyd yn cael eu defnyddio i ddatblygu Cynllun Heddlu a fyddai’n gosod cyfeiriad clir ar gyfer y gwasanaeth heddlu yng Ngogledd Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.

 

Roedd y Comisiynydd Heddlu eisiau i’r Cynllun hwn adlewyrchu anghenion y cyhoedd yng Ngogledd Cymru a cheisiodd farn y gymuned leol am y materion plismona a oedd yn eu pryderu.

 

Yn dilyn anerchiad y Comisiynydd, cafwyd sesiwn fer ar gyfer cwestiynau ac atebion yn arbennig felly mewn perthynas â’r problemau y daethpwyd ar eu traws ar yr Ynys.  Soniwyd hefyd am y ffaith y dylid ystyried codi plac coffa yn yr Orsaf Heddlu newydd yn Llangefni efallai er cof am y diweddar Dr.Tom Parry Jones o Borthaethwy, a ddyfeisiodd yr anadliedydd electronig.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Comisiynydd am ei anerchiad ac ar ran y Cyngor, dymunodd yn dda iddo yn ei swydd newydd ac roedd yn edrych ymlaen at ymweliadau pellach gan y Comisiynydd yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

5.

Rheoli Trysorlys - Adroddiad Monitro Chwarter 2 pdf eicon PDF 282 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau).

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) ar y Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys a’r Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol: Adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn ar gyfer  2012/13. Cyflwynwyd yr adroddiad hwn i’r Cyngor er mwyn cydymffurfio gydag argymhellion Côd Ymddygiad CIPFA ar Reoli Trysorlys.

 

Roedd y Cyngor wedi penderfynu y dylai’r adroddiad hwn gael ei ystyried hefyd gan y Pwyllgor Archwilio.  Trafododd y Pwyllgor Archwilio gynnwys yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 12 Rhagfyr 2012 a phenderfynwyd derbyn ei gynnwys a’i gyfeirio i’r Cyngor Sir.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad sydd hefyd wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Pwyllgor Archwilio.

6.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd

 

Ystyried mabwysiadu'r canlynol: -

 

"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth  y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” 

7.

Strwythur Penaethiaid Gwasanaeth

(a)  Cyflwyno adroddiad llafar gan y Prif Weithredwr ar argymhelliad y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ddoe.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad llafar gan y Dirprwy Brif Weithredwr ar yr argymhelliad i’r Pwyllgor Gwaith ddoe mewn perthynas â’r eitem hon a’r penderfyniad a wnaed, sef cefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad a’u cymeradwyo i’r Cyngor llawn’.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr – Bod adolygu strwythur rheoli Penaethiaid Gwasanaeth y Cyngor yn elfen hanfodol o’r Cynllun Trawsnewid a hynny’n unol â’r blaenoriaethau sy’n esblygu o’r Cynllun a’r modd y byddai’n rhaid i’r Cyngor weithredu i gyflawni’r blaenoriaethau hyn yn ystod tymor y Cyngor nesaf ar ôl Mai 2013.

 

Ailddylunio’r Strwythur Penaethiaid Gwasanaeth oedd cam nesaf y broses.  Yn yr adroddiad, nodwyd yr achos, yr egwyddorion dylunio, yr ystyriaethau allweddol, y strwythur newydd arfaethedig (gyda rhesymeg) a’r manylion ar gyfer gweithredu strwythur newydd ar gyfer Penaethiaid Gwasanaeth. 

 

Yna, byddid yn ymgynghori’n gyffredinol gyda staff a chydranddeiliaid ar ôl yr etholiad ar y newidiadau i’r gwasanaethau y cytunwyd arnynt gan y Cyngor a llunio cynllun gweithredu manwl.

 

Fely dywedwyd yn yr adroddiad, mynegwyd pryderon ynghylch gweithredu’r Adolygiad PG cyn cwblhau’r ymarfer Arfarnu Swyddi.  O’r herwydd, cynigiwyd y dylid pennu dyddiad o 1 Hydref ar gyfer gweithredu’r strwythur PG newydd ac ar gyfer gweithredu Arfarnu Swyddi hefyd a hynny i bwrpas ôl-gyflog a threfniadau diogelu cyflog.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr argymhellion yn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr.

 

(Roedd y Cynghorydd Rhian Medi yn dymuno iddo gael ei gofnodi ei bod wedi ymatal rhag pleidleisio ar y mater).

 

 

 

 

                                     Daeth y cyfarfod i ben am 3:50 p.m.

 

                                                    Y CYNGHORYDD R.Ll.JONES

                                                                   CADEIRYDD