Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Mr Huw Jones
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem ar y rhaglen. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru Grid Cenedlaethol - Ymgynghoriad Cam 2 PDF 3 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Datblygu Cynaliadwy. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y Swyddogion o’r Adran Gynllunio a Mr. Peter Hulson o ARUP Consultants i’r cyfarfod.
Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio fod Adran 42 Deddf Cynllunio 2008 yn ei gwneud yn ofynnol i ‘hyrwyddwr’ prosiectau isadeiledd sydd o bwys cenedlaethol (NSIP), sef National Grid yn yr achos hwn, gynnal ymgynghoriad cyn-gwneud-cais gyda rhestr benodedig o gyrff, awdurdodau lleol a’r rheini sydd â diddordeb yn y tir y mae’r prosiect yn effeithio arno, cyn gwneud cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu. Yn ôl amserlen gyfredol National Grid, disgwylir y bydd y broses statudol hon o ymgynghori ac ymgysylltu yn digwydd yn hwyrach yn 2016.
Mae’r deunydd ymgynghori gerbron yr Awdurdod ar hyn o bryd ac mae’n ffurfio rhan o ymgynghoriad cam 2 National Grid, sef ymgynghoriad anstatudol ei natur, ynghyd â’r deunydd ymgynghori ar leoli ceblau o dan ddaear yn ardal y Fenai ac sydd i fod i gael ei ryddhau yn ystod gwanwyn – haf 2016. Pwrpas y deunydd ymgynghori yw cyfrannu at y broses a dylanwadu arni. Er bod ymgynghoriad diweddaraf National Grid o natur anstatudol, ni ellir gorbwysleisio difrifoldeb a phwysigrwydd y mater dan sylw i’r Ynys a’I thrigolion, ac mae’r Awdurdod wedi llunio ymateb yn erbyn y cefndir hwn ac mae’n ymateb sydd mor fanwl, cynhwysfawr a chadarn â’r ymateb a roddir gan yr Awdurdod fel rhan o’I ymwneud â gweithdrefnau ymgynghori ffurfiol.
Nodwyd bod ail gam yr ymgynghoriad anstatudol gan National Grid ynglŷn ag adeiladu ail linell drosglwyddo trydan foltedd uchel 400kv a pheilonau ar draws Ynys Môn wedi dechrau ar 21 Hydref, 2015 a bydd yn rhedeg am gyfnod o 8 wythnos tan 16 Rhagfyr, 2015. Roedd dogfen yr ymateb ffurfiol gan yr Awdurdod ynghlwm yn yr adroddiad. Mae ymateb yr Awdurdod wedi arwain at gynnal dadansoddiad manwl a chynhwysfawr o gyflwyniad National Grid, sydd wedi arwain at ryw 345 o sylwadau gwahanol.
Rhestrodd y Swyddog Caniatadau Mawr y prif themâu a adnabuwyd yn yr ymgynghoriad ail gam a rhoddodd ddadansoddiad manwl o’r materion a godwyd ym mhob un o’r themâu allweddol hyn i’r Cyngor Sir:-
· Yn gynamserol ac â diffygion · Cymdeithasol-economaidd · Cyfleoedd am Swyddi a chyfleoedd i’r Gadwyn Gyflenwi · Yr Iaith Gymraeg · Asesiad Effaith ar Iechyd · Effeithiau cronnus · Lliniaru · Costau
Nodwyd bod nifer o sylwadau, pwyntiau eglurhad a cheisiadau am wybodaeth bellach wedi’u cynnwys yn y ddogfennaeth fel y gallai National Grid roi sylw i’r pwyntiau a godwyd pan fo angen a chywiro unrhyw ddiffygion a ganfuwyd.
Nododd Mr. Peter Hulson, ARUP eu bod yn rhannu pryderon yr Awdurdod ynglŷn â diffiniad y prosiect, eglurder ar y strategaeth i sicrhau caniatâd ac ymgysylltu’n foddhaol â’r gymuned â budd-ddeiliaid ehangach ar gamau lliniaru a rheoli. Mae’n rhaid i National Grid amlinellu sut bydd yn ymgynghori ar groesi’r Fenai, gan gynnwys y dulliau adeiladu arfaethedig a’r camau lliniaru. Mae angen gadael digon o amser i’r awdurdod lleol gael trafodaeth ddigonol ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2. |