Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mr Huw Jones
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ynghyd ag ymateb ffurfiol drafft i'r Grid Cenedlaethol gan y Prif Weithredwr.
Rhoddodd y Prif Swyddog Cynllunio gyflwyniad byr i'r Cyngor Sir ar y Datganiad o Ymgynghori Cymunedol. Dywedodd mai hon oedd y broses mewn perthynas â Ddeddf Cynllunio 2008. Mae Adran 47 o Ddeddf Cynllunio 2008 yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd baratoi 'Datganiad o Ymgynghori Cymunedol' (Y Datganiad) sy'n nodi sut mae'r ymgeisydd yn bwriadu ymgynghori â'r gymuned leol ynghylch cais arfaethedig am ganiatâd datblygu. Nodwyd mai’r adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yw sylwadau Cyngor Sir Ynys Môn mewn perthynas â'r broses. Yn unol ag Adran 47(2), ar ôl derbyn gwybodaeth am gynigion yr ymgeisydd bydd pob awdurdod lleol y mae’r cyfryw gynigion yn dod o fewn ei ffiniau yn cael 28 diwrnod i gyflwyno sylwadau ynghylch beth sydd i’w gynnwys yn y Datganiad. Unwaith y cyhoeddir y Datganiad mae'n rhaid i ymgeiswyr, yn unol ag Adran 47(6), drefnu i’r Datganiad fod ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd a chyhoeddi hysbysiad yn nodi ym mhle a pha bryd y gellir ei archwilio.
Dywedodd y rhagwelir y bydd y Grid Cenedlaethol yn rhyddhau dogfen ymgynghori ym mis Mehefin / Gorffennaf ynghylch Croesi Afon Menai. Dylai Adroddiad ar yr Atborth i’r Ymgynghoriad Cam 2 fod ar gael yn haf 2016. Cynhelir ymgynghoriad statudol ym mis Hydref 2017 ynghylch Ymgynghoriad Adran 42/47 a bydd angen cytuno Datganiad o Dir Cyffredin gyda'r Grid Cenedlaethol. Rhagwelir y bydd y ceisiadau cynllunio, os o gwbl, yn cael sylw gan y Cyngor ym mis Hydref 2017 o dan y Ceisiadau Cynllunio Gwlad a Thref (CCGT).
Amlinellodd y Swyddog Arweiniol y prif themâu a nodwyd gan y Cyngor Sir yn y Datganiad : -
· Y broses Ganiatáu - Nid oes gwahaniaeth clir rhwng y cais Gorchymyn Caniatâd Datblygu (GCD) a’r Ceisiadau Cynllunio Gwlad a Thref (CCGT) ac ystyrir bod yr eglurhad ar y datblygiad cysylltiedig o fewn y Datganiad yn annigonol i fedru penderfynu pa fathau o waith sy’n syrthio i’r gwahanol gategorïau. Yn y Datganiad Drafft Terfynol mae’r Grid Cenedlaethol wedi cyflwyno diagram llif o’r broses ar gyfer GCD. Teimlir y byddai’n ddefnyddiol cael llinell amser i roi syniad o ba bryd y cyflwynir ac yr archwilir y cais GCD, gan gynnwys y cyfnodau adeiladu, fel bod y cyhoedd yn cael gwybod am y camau nesaf yn y broses a'r amserlen debygol. Nododd fod angen i'r ddogfen ymgynghori fod yn glir ynghylch sgôp yr amserlen ar gyfer unrhyw geisiadau GCD a bod angen ei hatgyfnerthu.
· Cynllun Ymgysylltu - Cyfeiriodd y Swyddog at y Cynllun Ymgysylltu a dywedodd y caiff ei gyflwyno gyda’r Datganiad cyn yr ymgynghoriad; bydd yn tynnu sylw at fanylion ynghylch lleoliadau’r arddangosfeydd cyhoeddus o fwriadau’r Grid Cenedlaethol. Mae'n hanfodol bod y Cyngor yn cael gweld y Cynllun Ymgysylltu yn gynnar a’i fod yn cytuno ar sut y trefnir i’r ddogfen fod ar gael i'r cyhoedd ei gweld.
· Parth Ymgynghori - Mae angen mwy ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2. |