Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 28 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr, 2019 yn gywir.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Tîm Arweinyddiaeth Strategol ddiddordeb yn Eitem 14 - Datganiad ar y Polisi Tâl ac nid oeddent yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidlais ar y mater.

 

Datganodd y Cynghorwyr Richard Dew, Richard O Jones, Dafydd Roberts and Robyn Williams ddiddordeb personol yn Eitem 10 – Y Cynllun Arainnol Tymor Canol a’r Gyllideb ar gyfer 2020/21. 

3.

Derbyn unrhyw ddatganiadau gan y Cadeirydd, yr Arweinydd, neu'r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed y cyhoeddiadau isod gan y Cadeirydd:-

 

·      Llongyfarchiadau i Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos M Huws sydd wedi cael ei henwi ar restr 100 o Fenywod Cymru;

·      Llongyfarchiadau i Gruffydd Wyn o Amlwch ar ennill cystadleuaeth Cân i Gymru ar 29 Chwefror, 2020;

·      Llongyfarchiadau i aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Rhosybol ar ennill Cystadleuaeth Ddrama Cymru yn y Galeri yng Nghaernarfon yn ddiweddar.

·      Mynegodd y Cadeirydd ei gwerthfawrogiad i staff y Cyngor ac yn enwedig y Gwasanaeth Priffyrdd yn ystod y tywydd garw yn ddiweddar.

·      Mae prosiect y Cyngor i adnewyddu Neuadd y Farchnad, Caergybi wedi’i enwebu am dair gwobr genedlaethol.

 

Roedd y Cadeirydd yn dymuno atgoffa’r Aelodau fod Cyngerdd Elusennol y

Cadeirydd i’w gynnal yng Ngwesty’r Breeze Hill, Benllech ddydd Gwener, 27

Mawrth, 2020 am 7.00 p.m.

 

*          *          *          *

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod o'r Cyngor neu staff a oedd wedi cael  profedigaeth.

Safodd yr Aelodau a'r Swyddogion mewn teyrnged dawel fel arwydd o'u parch a'u cydymdeimlad.

 

 

4.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un ddeiseb.

 

5.

Rhybudd o Gynnig yn Unol â Rheol 4.1.13.1 y Cyfansoddiad

Derbyn y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd J Arwel Roberts:-

 

RHYBUDD O GYNNIG

 

Ym mis Ebrill y llynedd bu i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths AC, ddatgan argyfwng hinsawdd yng Nghymru.

 

Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi dilyn Llywodraeth Cymru ac wedi datgan argyfwng hinsawdd, ac mae awdurdodau eraill yn bwriadu cymryd camau cyffelyb.

 

Galwaf ar y Cyngor hwn i ddilyn yr un esiampl ac i gefnogi ymrwymiad i gyflawni Sector Cyhoeddus Carbon Niwtral erbyn 2030. Mae’n rhaid i ni gydnabod nad oes modd i’r cyngor hwn barhau â busnes fel arfer ac mae angen paratoi cynllun gweithredu y gellir ei fonitro a’i weithredu.

 

Mae’n rhaid i ni roi’r gorau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil, mae angen i ni ddefnyddio ein polisïau cynllunio i gyflawni datblygiadau a chymunedau sero net yn gyflymach.

 

Rydym mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth er budd cenedlaethau’r dyfodol ac mae dyletswydd foesol arnom i weithredu.

 

Gofynnaf i chi gefnogi’r cynnig hwn.

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cynghorydd J Arwel Roberts:-

 

Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths AC, argyfwng hinsawdd yng Nghymru.

Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi dilyn Llywodraeth Cymru ac wedi datgan argyfwng hinsawdd, ac mae awdurdodau eraill yn bwriadu cymryd camau cyffelyb.

 

Galwaf ar y Cyngor hwn i ddilyn yr un esiampl ac i gefnogi ymrwymiad i gyflawni Sector Cyhoeddus Carbon Niwtral erbyn 2030. Mae’n rhaid i ni gydnabod nad oes modd i’r cyngor hwn barhau â busnes fel arfer ac mae angen paratoi cynllun gweithredu y gellir ei fonitro a’i weithredu.

 

 Mae’n rhaid i ni roi’r gorau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil, mae angen i ni ddefnyddio ein polisïau cynllunio i gyflawni datblygiadau a chymunedau sero net yn gyflymach.

 

Rydym mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth er budd cenedlaethau’r dyfodol ac mae dyletswydd foesol arnom i weithredu.”

 

Gofynnodd Arweinydd y Cyngor am ohirio'r Rhybudd o Gynigiad tan gyfarfod nesaf y Cyngor llawn a gynhelir ar 19 Mai, 2020 er mwyn caniatáu ar gyfer paratoi Cynllun Gweithredu llawn ynghylch disgwyliadau Carbon Niwtral yn y Cyngor.

Cytunodd y Cynghorydd J Arwel Roberts i dynnu ei Rybudd o Gynigiad yn ôl a'i ailgyflwyno i gyfarfod cyffredin nesaf y Cyngor.

 

6.

Rheoli Trysorlys - Adolygiad Canol Blwyddyn 2019/20 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 16 Rhagfyr 2019.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 16 Rhagfyr, 2019 i'w dderbyn gan y Cyngor.

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad ar Adolygiad Canol Blwyddyn 2019/20 - Rheoli'r Trysorlys.

 

7.

Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020/21 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2020 i'w dderbyn gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad ynghylch y Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020/21.

 

 

8.

Arferion Rheoli Trysorlys pdf eicon PDF 839 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2020 i'w dderbyn gan y Cyngor.

PENDERFYNWYD cymeradwyo Arferion Rheoli Trysorlys.

 

9.

Strategaeth Gyfalaf a Rhaglen Gyfalaf 2021 i 2022/23 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2020 i'w dderbyn gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r  Strategaeth Gyfalaf a’r Rhaglen Gyfalaf am y cyfnod 2021 hyd at 2022/23.

 

10.

Y Cynllun Ariannol Tymor Canol a'r Gyllideb ar gyfer 2020/21 pdf eicon PDF 989 KB

(a)   Strategaeth Ariannol Tymor Canol a Chyllideb 2020/21

 

        Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ 

         Swyddog fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2020.

 

(b)   Cyllideb Gyfalaf 2020/21

 

        Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/

        Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth

        2020.

 

(c)    Gosod y Dreth Gyngor

 

         Cyflwyno adroddiad i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog

         Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2020.

 

(ch)  Diwygio’r Gyllideb

 

         Adrodd ar unrhyw newidiadau i’r Gyllideb yn unol â Pharagraff 

         4.3.2.2.11 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2020 i'w dderbyn gan y Cyngor.

 

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid gynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y Gyllideb Refeniw a'r Dreth Gyngor sy’n deillio ohoni am y flwyddyn 2020/21, ynghyd â Strategaeth Ariannol Tymor Canol ddiweddaredig y Cyngor a manylion am y defnydd o unrhyw gronfeydd unwaith ac am byth i gefnogi'r gyllideb - eitemau 10 (a) i ( ch) yn y Rhaglen. Er ei fod yn croesawu’r cyllid ychwanegol sydd ar gael fel rhan o setliad refeniw 2020/21, dywedodd bod y rhagolygon ariannol yn parhau i fod yn heriol ac roedd yn ei chael yn anodd deall sut mae’r fformiwla ariannu gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gweithredu o gofio’r gwahaniaethau amlwg yn y cynnydd a roddwyd i gynghorau yng Nghymru. Mae’r Cyngor hwn wedi gweld cynnydd o 3.8% yn y setliad. Cyfeiriodd at yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer y gyllideb refeniw ddrafft a nododd fod y mwyafrif o’r ymatebwyr o  blaid buddsoddi yn y Gwasanaethau Oedolion oherwydd cynnydd yn y galw a’u bod hefyd o blaid gwarchod cyllidebau ysgolion. Serch hynny, roedd llai o gefnogaeth i gynnydd rhwng 4.5% a 5% yn y Dreth Gyngor. Ar ôl cymryd ffigwr y setliad terfynol i ystyriaeth, mae angen £142.146m ar gyfer y gyllideb ddigyfnewid am y flwyddyn ariannol 2020/21; mae’r ffigwr hwn yn caniatáu i’r Awdurdod weithredu cyllideb sy’n fwy realistig o gofio’r galw yn y Gwasanaethau Oedolion a gwasanaethau eraill y Cyngor, a’r gobaith trwy osod y gyllideb yw na fydd y gwasanaethau hyn yn gorwario yn ystod y flwyddyn ariannol. Argymhellwyd felly y dylid cynyddu'r Dreth Gyngor 4.5% er mwyn cydbwyso cyllideb y Cyngor. Dywedodd yr Aelod Portffolio y bydd y Dreth Gyngor ar gyfartaledd ar gyfer pob aelwyd yn gynnydd o £1.08 yr wythnos ond dywedodd mai'r Cyngor hwn sydd â’r dreth gyngor isaf ond un yng Ngogledd Cymru o hyd.

 

Cynigiodd bod y Cyngor yn cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwaith o’i  gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth, 2020 mewn perthynas ag eitemau (a) i (ch) yn yr adroddiad. Nododd ymhellach fod y Pwyllgor Gwaith yn argymell i'r Cyngor na ddylid newid y ffioedd parcio ar gyfer ardaloedd trefol ar wahân i gael gwared ar y ffi 50c, gan olygu mai £1 fydd yr isafswm a godir. Nododd na dderbyniwyd unrhyw ddiwygiadau i'r gyllideb.

Dywedodd Annibynwyr Môn / fod gan y Cyngor asedau sydd wedi bod yn wag am gryn amser a bod angen eu rhoi ar y farchnad er mwyn cynyddu incwm i'r Awdurdod. Mynegwyd ymhellach fod y cynnydd parhaus yn y Dreth Cyngor i drigolion yn anghynaliadwy i bobl ar incwm isel. Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod gan yr Awdurdod asedau sy'n wag ar hyn o bryd ond bod  dyletswydd ar y Cyngor i gael y prisiau gorau amdanynt ac ni fyddai'n ymarferol gorlifo'r farchnad trwy roi’r holl safleoedd ar werth ar yr un pryd. Atgoffwyd yr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 17 Chwefror 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 17 Chwefror, 2020 i'w dderbyn gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020-2024.

 

12.

Adolygiad o Ranbarthau Pleidleisio a Lleoliadau Pleidleisio pdf eicon PDF 506 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 31 Ionawr 2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 31 Ionawr, 2020 i'w dderbyn gan y Cyngor.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Adolygiad o Ranbarthau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio

 

13.

Diwygio Cyfansoddiad y Cyngor i adlewyrchu’r ailstrwythuriad mewnol i’r model staffio pdf eicon PDF 983 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 16 Rhagfyr 2019.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 16 Rhagfyr, 2019 i'w dderbyn yn ôl-weithredol  gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:-

 

Nodi’r newidiadau a chytuno i’r strwythur newydd fel y gwelir yn Atodiad 2 yr adroddiad sy'n dangos: -

 

·           newid yn nheitlau a manylebau swyddi’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Penaethiaid Gwasanaeth;

 

·           dileu dwy swydd Prif Weithredwr Cynorthwyol;

 

·           cynnwys un swydd Dirprwy Brif Weithredwr newydd;

 

·           dileu dwy swydd Pennaeth Swyddogaeth;

 

·           cynnwys pum swydd Cyfarwyddwr newydd;

 

·           newid y llinellau adrodd rhwng aelodau'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Penaethiaid Gwasanaeth.

 

·           cymeradwyo cynnwys Atodiad 2 yn yr adroddiad o fewn Cyfansoddiad y Cyngor;

 

·           cymeradwyo'r newidiadau yn y drefn ddirprwyo a nodir yn Atodiad 3 yr adroddiad;

 

·           cymeradwyo mai’r Pwyllgor Penodi fydd yn penodi i swyddi Cyfarwyddwyr yn y dyfodol.

 

·           cymeradwyo gwneud unrhyw newidiadau canlyniadol eraill i'r Cyfansoddiad er mwyn adlewyrchu'r argymhellion uchod.

 

14.

Datganiad Polisi Tâl 2020 pdf eicon PDF 572 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn – Adnoddau Dynol i’r Cyngor gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad Polisi Tâl y Cyngor ar gyfer 2020/21.