Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Arbennig Rhithiol (ar hyn o bryd nid oedd modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod), Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 2ail Chwefror, 2021 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 Ni dderbyniwyd unrhyw un.

2.

Derbyn unrhyw ddatganiadau gan y Cadeirydd, yr Arweinydd, neu'r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau canlynol:-

·        Mae'r cyfyngiadau presennol o ran y pandemig bellach wedi bod ar waith ers cyn y Nadolig ac mae'n parhau i fod yn gyfnod heriol i bawb yn ogystal ag i wasanaethau’r Cyngor.  Mae'n bwysig bod pawb yn dilyn y rheolau yn ystod cyfnod lle mae gwaith pwysig yn cael ei wneud ar hyn o bryd i gyflwyno'r brechlyn drwy’r wlad.  Diolchodd y Cadeirydd i'r staff am eu hymrwymiad yn ystod y cyfnod anodd hwn a diolchodd hefyd am gefnogaeth gwasanaethau eraill sy'n cefnogi'r sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol a'r sector preifat.  Mynegodd ei chydymdeimlad yn ystod y cyfnod anodd hwn â’r rhai sydd wedi colli teulu agos a ffrindiau.

 

·        Estynnwyd dymuniadau gorau i'r Cynghorydd Lewis Davies yn dilyn ei benderfyniad i ymddeol fel Aelod Etholedig o'r Cyngor.  Bu'r Cynghorydd Davies yn Aelod dros Ward Seiriol am nifer o flynyddoedd a diolchodd y Cadeirydd iddo am ei wasanaethau.

 

·         Estynnwyd llongyfarchiadau i'r Prif Weithredwr, Mrs Annwen Morgan ar ddod yn nain unwaith eto. 

 

*          *          *         *

Estynnwyd cydymdeimlad i deuluoedd Mr Robert Hughes o'r Adran Wastraff a Ms Maureen Williams o Ysgol Corn Hir a fu farw'n ddiweddar. 

Estynnwyd cydymdeimlad i Mr Fôn Roberts, Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol a gollodd ei fam yn ddiweddar.

Estynnwyd cydymdeimlo hefyd i unrhyw Aelod neu staff a oedd wedi dioddef profedigaeth.

Talodd yr Aelodau a'r Swyddogion deyrnged dawel fel arwydd o barch a chydymdeimlad.

*          *          *          *

Cyhoeddodd y Prif Weithredwr yn ei rôl fel Swyddog Canlyniadau y bydd yr isetholiadau ar gyfer y seddi gwag ar Ward Caergybi a Ward Seiriol ar Gyngor Ynys Môn yn cael eu cynnal ar 6 Mai 2021 ar y cyd ag Etholiadau'r Cynulliad ac Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu. 

 

3.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad - Ail-strwythuro'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth pdf eicon PDF 811 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 25 Ionawr 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr o ran ailstrwythuro'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth i'r Cyngor ei dderbyn.

 

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio dros Fusnes Corfforaethol yr adroddiad fel un sy'n rhoi sylw i ailstrwythuro arfaethedig yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a'r newidiadau yn sgil hynny i’r cyfansoddiad.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Mawrth 2020 i adlewyrchu ailstrwythuro mewnol yr uwch dîm rheoli gan y cyn Brif Weithredwr yn 2019. Yn dilyn ymadawiad y Prif Weithredwr, penodwyd y Dirprwy Brif Weithredwr yn Brif Weithredwr a penodwyd y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol yn Ddirprwy Brif Weithredwr. Ers mis Tachwedd, 2019 mae rôl Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol wedi bod yn wag er bod y swydd wedi’i hysbysebu’n allanol ddwywaith. Yn dilyn yr ymgyrch hysbysebu aflwyddiannus gyntaf, mae dyletswyddau swydd y Cyfarwyddwr wedi'u cyflawni gan ymgeisydd mewnol a benodwyd yn Bennaeth Gwasanaeth Dros Dro – Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a swyddog a benodwyd yn arweinydd ar lunio lleoedd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ymhellach fod argyfwng y pandemig wedi dangos bod yn rhaid i'r Cyngor gael swyddogion â chymwysterau addas mewn meysydd penodol ar gyfer y dyfodol; mae ymateb y coronafeirws hefyd wedi dangos yn glir bwysigrwydd cymwyseddau priodol ar gyfer swyddi ar y lefel hon. Yn ogystal â hyn, mae cyfnod y pandemig hefyd wedi profi mor hanfodol bwysig yw gweithio gyda phartneriaid a chymunedau i feithrin cydnerthedd cymunedol i ddelio â heriau gwahanol y mae angen amser digonol a rhesymol ar swyddogion gwaith i’w gwneud. Mae angen digon o gapasiti cytbwys ar draws yr holl wasanaethau i sicrhau gwydnwch y Cyngor yn y dyfodol o fewn haen uwch o reoli ac arweinyddiaeth. Er bod trefniadau dros dro wedi gweithio'n dda, nid ydynt yn effeithiol yn y tymor hir. Mae'n ofynnol gwneud penderfyniad mewn perthynas â rôl y Cyfarwyddwr a'r swyddi dros dro a grëwyd o ganlyniad i fethu â recriwtio i'r swydd honno.

 

Cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor Penodiadau ar 18 Rhagfyr 2020 yn gofyn am ei argymhelliad ar gyfer y ffordd orau ymlaen i lenwi'r bwlch yn uwch dîm rheoli'r Cyngor. Yn yr adroddiad hwnnw, mynegodd y Prif Weithredwr ei barn broffesiynol mai'r opsiwn gorau fyddai dileu swydd y Cyfarwyddwr a phenodi un Pennaeth Gwasanaeth rheoleiddio a Datblygu Economaidd a thrwy hynny ddileu'r llwyth gwaith sy'n gysylltiedig â'r uwch Dîm; byddai'r Dirprwy Brif Weithredwr yn arwain yn ymarferol ar yr agwedd hon ar y swydd yn yr Uwch Dîm. Felly, byddai angen ystyried cefnogi rhai o ddyletswyddau'r Dirprwy ac, o dan ei oruchwyliaeth, eu cysylltu â'r agwedd Llunio Lle o rôl y Cyfarwyddwr. Yr opsiwn symlaf fyddai creu swydd ychwanegol ar Raddfa 9 i ddarparu capasiti a gwydnwch ar gyfer y strwythur a chefnogi'r Dirprwy Brif Weithredwr a'r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd newydd. Cymeradwyodd y Pwyllgor Penodiadau'r dull hwn a nodir ei benderfyniadau ffurfiol i'r perwyl hwnnw yn yr adroddiad.  Mae adrannau 5 a 6 o'r adroddiad yn nodi'r goblygiadau o safbwynt cyfansoddiadol a'r newidiadau sydd i'w gwneud i adlewyrchu'r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.