Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb I dderbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd R O Jones ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 5 – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Jeff M Evans ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem honno.
Datganodd y Cynghorydd J Arwel Roberts ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 5 – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Jeff M Evans ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem honno. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-
• 26 Hydref 2021 • 22 Tachwedd 2021( Arbennig) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd a ganlyn yn gywir:-
· 26 Hydref, 2021 (Arbennig) · 22 Tachwedd, 2021 (Arbennig)
|
|
I dderbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-
· Llongyfarchwyd y rhai a oedd yn gyfrifol am drefnu’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd a phawb o Ynys Môn a oedd yn llwyddiannus yn y Sioe. · Llongyfarchwyd Isaac Floyd-Eve o Ysgol Uwchradd Caergybi ar gael ei ethol yn gynrychiolydd Ynys Môn ar Senedd Ieuenctid Cymru. · Roedd y Cadeirydd yn dymuno diolch i Staff ac Aelodau Etholedig y Cyngor a staff Iechyd a Gofal, yn ogystal â’r holl weithwyr allweddol mewn cymunedau lleol am eu gwaith wrth ddelio â Coronafeirws ac atal ei ymlediad.
* * * * * Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod neu Staff y Cyngor a oedd wedi cael profedigaeth.
Safodd Aelodau a Swyddogion fel arwydd o barch.
|
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un ddeiseb.
|
|
Rhybudd o Gynigiad yn unol â Rheol 4.1.13.1 o’r Cyfansoddiad · Cyflwyno’r Rhybudd o Gynigiad canlyniol gan y Cynghorydd Jeff M Evans, wedi’i ardystio gan y Cynghorwyr Robert Ll Jones, Peter Rogers, Bryan Owen:-
“Fy mwriad yw ceisio cefnogaeth Cyngor Sir Ynys Môn er mwyn cael sicrwydd a gweithredu positif gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Llywodraeth Cymru yn narpariaeth Gwasanaethau Cefnogi Iechyd effeithiol, yn cynnwys y Gwasanaeth Ambiwlans er mwyn gallu bodloni anghenion a gofynion y gymuned, gan fynd i’r afael â’r anawsterau a’r dirywiad mewn gwasanaethau iechyd, sy’n cael effaith andwyol ar iechyd a llesiant y gymuned.”
· Cyflwyno’r Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorydd Robert Ll Jones, wedi’i ardystio gan y Cynghorwyr Aled Morris Jones, Bryan Owen, Kennth P Hughes, Peter Rogers:-
“Gofynnaf i’r Cyngor Sir wneud DATGANIAD ADEILADAU CARBON SERO NET ynghyd â RHOI CAMAU GWEITHREDU AR WAITH AR UNWAITH I GYFLAWNI’R YMRWYMIAD. MAE YFORY’N RHY HWYR.”
· Cyflwyno’r Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorydd Richard Dew, wedi’i ardystio gan y Cynghorydd Llinos Medi Huws:-
· Gofyn am yr angen i bob arddangosfa gyhoeddus o dân gwyllt o fewn ffiniau’r awdurod lleol i gael eu hysbysebu ymlaen llaw o’r digwyddiad er mwyn galluogi trigolion i ofalu am eu hanifeiliaid anwes a phobl fregus. · Hyrwyddo ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus am effaith tân gwyllt ar lesiant anifeiliaid a phobl fregus – yn cynnwys y mesurau y gellir eu cymryd er mwyn lliniaru’r risgiau. · Annog cyflenwyr tân gwyllt yn lleol i werthu tân gwyllt ‘distawach’ ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Jeff M Evans, wedi’i ardystio gan y Cynghorwyr Robert Ll Jones, Peter Rogers a Bryan Owen:-
“Fy mwriad yw ceisio cefnogaeth Cyngor Sir Ynys Môn er mwyn cael sicrwydd a gweithredu positif gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Llywodraeth Cymru y bydd Gwasanaethau Cefnogi Iechyd effeithiol yn cael eu darparu, yn cynnwys y Gwasanaeth Ambiwlans, er mwyn gallu bodloni anghenion a gofynion y gymuned, gan fynd i’r afael â’r anawsterau a’r dirywiad mewn gwasanaethau iechyd, sy’n cael effaith andwyol ar iechyd a llesiant y gymuned.”
Mynegodd y Cynghorydd Jeff Evans ei bryderon dybryd am yr oedi wrth dderbyn gwasanaeth gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru. Rhoddodd y Cynghorydd Evans enghreifftiau o brofiadau diweddar ei deulu ei hun a’r oriau maith y bu’n rhaid iddynt ddisgwyl am y Gwasanaeth Ambiwlans. Nododd ei fod wedi trafod y mater â Phrif Swyddog y Cyngor Iechyd Cymunedol a’i ymateb ef oedd bod y Rhybudd o Gynnig yn disgrifio pryderon Aelodau’r Cyngor Iechyd Cymunedol yn gywir.
Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen a dywedodd fod y Cynghorydd Jeff Evans wedi cyflwyno’r Rhybudd o Gynnig oherwydd ei brofiadau personol o orfod disgwyl am oriau i’r Gwasanaeth Ambiwlans roi gofal i’w deulu yn ystod eu salwch diweddar. Fodd bynnag, nododd fod y gwasanaeth o dan bwysau aruthrol a bod y pandemig wedi rhoi pwysau ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd cyfan, ond nid yw’n dderbyniol bod cleifion yn gorfod disgwyl am oriau maith i’r Gwasanaeth Ambiwlans gyrraedd. Ychwanegodd ei fod o’r farn y dylid anfon llythyr at y Gwasanaeth Ambiwlans a Llywodraeth Cymru i fynegi pryder a nodi bod angen dybryd i wella’r amseroedd aros i gleifion.
Dywedodd yr Arweinydd bod y pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn fater o bryder cenedlaethol. Nododd bod y materion y cyfeiriwyd atynt yn y Rhybudd o Gynnig wedi cael eu codi gyda Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a thrwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar ran Arweinwyr Awdurdodau Lleol ledled Gogledd Cymru. Codwyd pryderon hefyd am y pwysau ar y Gwasanaethau Brys yng nghyfarfodydd Grŵp Arweinyddiaeth Gogledd Cymru ym mhresenoldeb cynrychiolwyr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn bwysig cydnabod y pwysau ar y Gwasanaethau Iechyd a’r Gwasanaethau Brys yn ystod cyfnod o bwysau eithriadol, ynghyd â’r gofynion ychwanegol oherwydd y pandemig.
Roedd Aelodau’r Cyngor yn unfrydol o blaid y Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Jeff Evans a:-
PHENDERFYNWYD cefnogi’r cynnig.
· Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Robert Ll Jones, wedi’i ardystio gan y Cynghorwyr Aled Morris Jones, Bryan Owen, Kenneth P Hughes a Peter Rogers:-
“Gofynnaf i’r Cyngor Sir wneud DATGANIAD ADEILADAU CARBON SERO NET ynghyd â RHOI CAMAU GWEITHREDU AR WAITH AR UNWAITH I GYFLAWNI’R YMRWYMIAD. MAE YFORY’N RHY HWYR.”
Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.
Dywedodd y Cynghorydd R Ll Jones fod y gynhadledd COP26 a gynhaliwyd yng Nglasgow yn ddiweddar wedi gwneud ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Strategaeth Hybu’r Gymraeg PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr, fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Cyngor ei dderbyn, adroddiad y Prif Weithredwr, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd 2021.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r argymhellion a gynhwysir yn y Strategaeth Hybu’r Gymraeg.
|
|
Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Cyngor ei dderbyn, adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd 2021.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r argymhellion a gynhwysir yn y Cynllun Trosiannol.
|
|
Datganiad Polisi Gamblo 2022-2025 PDF 757 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd, fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Cyngor ei dderbyn, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd 2021.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r argymhellion a gynhwysir yn y Datganiad o Bolisi Gamblo 2022-2025.
|