Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyngor Sir Ynys Môn - Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 7fed Mawrth, 2024 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 186 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod arbennig o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr, 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod arbennig y Cyngor Sir, a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2023, yn gywir.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sonia Williams ddiddordeb personol gan ei bod yn wraig i’r Aelod Portffolio Cyllid.

Datganodd y Prif Swyddogion ddiddordeb personol sylweddol yn Eitem 12 – Polisi Datganiad Tâl 2024 ac nid oeddent yn bresennol yn ystod y drafodaeth na’r bleidlais ar yr eitem honno.

 

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-

 

·         Roedd y Cadeirydd yn dymuno diolch i Menter Môn am drefnu nifer o orymdeithiau i nodi dydd Gŵyl Dewi. Dywedodd iddi gael y fraint o fynychu gorymdaith Llangefni a braf oedd gweld cymaint o blant ysgol ifanc lleol yn dathlu eu Cymreictod. Bu ysgolion Môn yn dathlu dydd Gŵyl Dewi hefyd. Cafodd plant Ysgol Henblas neges fideo arbennig iawn gan Archdderwydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Mererid Hopwood.

 

·         Cyfeiriodd y Cadeirydd at Ŵyl Gorawl Gogledd Cymru a gynhaliwyd yn Llandudno dros y penwythnos ac roedd Côr Ieuenctid Môn yn fuddugol yng nghategori Corau Sioe ac yn ail yn y categori Lleisiau Ifanc.

 

·         Llongyfarchiadau i Mr Tom Bown o Lannerch-y-medd. Mae Mr Bown wedi bod yn mesur glawiad bob diwrnod ers 1948 ac mae’n parhau traddodiad teuluol a gychwynnodd gyda’i daid. Cafodd ei anrhydeddu am ei wasanaeth yn ddiweddar gan y Swyddfa Dywydd a Chyfoeth Naturiol Cymru.

 

·         Llongyfarchiadau i Mr Peter Jones o Ynys Môn sydd wedi derbyn MBE yn ddiweddar fel cydnabyddiaeth am ei wasanaeth tuag at dir mawn Cymru. Mae Mr Jones yn Uwch Ymgynghorydd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac mae’n arbenigo mewn ecosystemau mawn ar hyd a lled Cymru.

 

·         Dymunodd y Cadeirydd yn dda i Siop Sglodion Finneys ym Menllech sydd wedi cyrraedd rownd derfynol categori ‘Tec-awê y Flwyddyn’ yng ngwobrau cenedlaethol y National Federation of Fish Fryers. Rhain yw gwobrau mwyaf mawreddog y diwydiant.

 

·         Llongyfarchiadau i Mr Tomos Parry, sydd yn wreiddiol o Ynys Môn, am ennill ei ail seren Michelin. Enillodd ei seren gyntaf yn 2018 am ei fwyty ‘Brat’ yn Llundain ac yn awr mae wedi llwyddo i ennill ei ail seren gyda’i fwyty newydd ‘Mountain’.

 

·         Llongyfarchiadau i’r athletwraig ifanc, Eli Jones, ar ddod yn bencampwr dan 20 Cymru ar y 60 medr a’r 200 medr dan do.

 

·          Llongyfarchiadau hefyd i Meinir Thomas, o Langefni, sydd wedi ei dewis yn aelod o garfan hoci dros 55 oed Meistri Cymru unwaith yn rhagor. Bydd yn cystadlu mewn tair cystadleuaeth – sef Pencampwriaeth y Gwledydd Cartref yn Nottingham, cystadleuaeth pedwar gwlad yn yr Almaen, a Chwpan y Byd yn Seland Newydd ym mis Tachwedd.

 

*          *          *        *          *

 

Cydymdeimlwyd â theulu’r cyn Gynghorydd Vaughan Hughes, a fu farw ar ddechrau’r flwyddyn. Bu Mr Hughes yn gynghorydd sir am ddeng mlynedd a chyn hynny, roedd yn ddarlledwr adnabyddus, yn gyflwynydd ac yn gynhyrchydd teledu. Bu hefyd yn golygu cylchgrawn barn hyd at ei farwolaeth. Treuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd ym Môn ac roedd yn frwd dros yr Ynys. Bydd gwobr goffa flynyddol yn ei enw’n cael ei sefydlu yn Eisteddfod Môn.

 

Cydymdeimlwyd hefyd â theulu Mr Iolo ‘Trefri’ Owen a fu farw’n ddiweddar. Roedd yn amaethwr ac yn ddyn busnes arloesol. Cafodd y fraint yn 2021 o agor Ffair Aeaf Môn fel cydnabyddiaeth am ei gyfraniad aruthrol i’r byd amaeth ar yr Ynys.

 

Cydymdeimlwyd â theulu’r diweddar Ms Bethan James a oedd yn ymgynghorydd gyda GwE ac yn mynychu cyfarfodydd CYSAG y Cyngor.

 

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod o’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un ddeiseb.

 

5.

Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli'r Trysorlys 2023/24 pdf eicon PDF 554 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 20 Chwefror, 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 20 Chwefror 2024, i’r Cyngor ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr Adroddiad Adolygiad Rheoli Trysorlys Canol Blwyddyn ar gyfer 2023/24.

 

6.

Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2024/25 pdf eicon PDF 884 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 20 Chwefror, 2024.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 20 Chwefror 2024, i’r Cyngor ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2024/25.

 

7.

Strategaeth Gyfalaf 2024 - 2029 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Chwefror, 2024.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Chwefror 2024, i’r Cyngor ei dderbyn.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod Cod Darbodus diwygiedig CIPFA (Medi 2017) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lunio strategaeth gyfalaf. Mae’n rhaid i’r strategaeth osod y cyd-destun tymor hir ar gyfer gwneud penderfyniadau ynglŷn â gwariant cyfalaf a buddsoddi. Bwriad y gofyniad hwn yw sicrhau bod awdurdodau’n gwneud penderfyniadau ynglŷn â chyfalaf a buddsoddi yn unol ag amcanion gwasanaeth, a’u bod yn rhoi ystyriaeth lawn i stiwardiaeth, gwerth am arian, doethineb, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Robert Ll Jones beth yw cyfanswm yr arian a fenthycwyd i adeiladu ysgolion newydd ar yr Ynys, a faint o log sy’n cael ei dalu bob blwyddyn ar y benthyciadau hynny. Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y swm a fenthycir yn ddibynnol ar faint o adnoddau ariannol sydd ar gael i’r Cyngor. Mae’n ddibynnol hefyd ar gyfraddau llog ar y pryd, yr amser gorau i fenthyca a hyd y benthyciadau. Awgrymodd y Swyddog bod y Cynghorydd Jones ysgrifennu at yr Adran Gyllid i ofyn am y wybodaeth a geisir ganddo am fenthyciadau a gafwyd i adeiladu ysgolion newydd.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn y Strategaeth Gyfalaf ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2024/25 i 2028/2029.

 

8.

Cyllideb 2024/25 pdf eicon PDF 523 KB

(a)        Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25 

 

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Chwefror, 2024.

 

(b)       Cyllideb Cyfalaf 2024/25      

 

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Chwefror, 2024.

 

(c)        Penderfyniad Drafft ar osod y Dreth Gyngor 2024/25

 

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.  

 

   

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Chwefror 2024.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid mai dyma’r gyllideb fwyaf heriol i gael ei chyflwyno, a hynny oherwydd y setliad a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a’r ffaith fod chwyddiant yn uchel. Ar ddechrau’r broses o osod y gyllideb roedd bwlch o £14.391m rhwng y gyllideb refeniw ddigyfnewid a’r cyllid oedd ar gael cyn cynyddu’r Dreth Gyngor. Ym mis Ionawr 2024, roedd y Pwyllgor Gwaith yn cynnig cyllideb gychwynnol o £184.219m ar gyfer 2024/25. Roedd hyn yn seiliedig ar Gyllid Allanol Cyfun o £126.973m ac i gydbwyso’r gyllideb byddai angen cynnydd o 10.9% yn y Dreth Gyngor, yn ogystal â defnyddio £4.425m o gronfeydd cyffredinol y Cyngor. Er gwaetha’r amserlen fer rhwng cyhoeddi cynigion y gyllideb gychwynnol a’r terfyn amser ar gyfer gosod y Dreth Gyngor, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus. Fel rhan o’r ymgynghoriad bu’r Cyngor ymgynghori â’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned, Fforwm Pobl Ifanc, Fforwm Pobl Hŷn, Fforwm Cyllid Ysgolion, yn ogystal ag ymgynghoriad ar-lein. Mae’r ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnwys yn Atodiad 2 yn yr adroddiad. Tra’r oedd cynigion yn cael eu llunio ar gyfer y gyllideb derfynol, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai cynghorau yn Lloegr yn derbyn £600m o gyllid ychwanegol yn 2024/25. Mae Llywodraeth Cymru’n derbyn £25m o gyllid canlyniadol yn sgil hyn a bydd yr awdurdod hwn yn derbyn £332k o gyllid ychwanegol. Mae Llywodraeth Cymru wedi trosglwyddo grantiau refeniw gwerth £280k i’r setliad hefyd. Nododd yr Aelod Portffolio hefyd fod addasiadau pellach wedi’u gwneud ac maent yn cael eu rhestru yn yr adroddiad. Ychwanegodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod Awdurdod Tân Gogledd Cymru wedi adolygu ei gynigion cyllideb terfynol gan arwain at ostyngiad o £87k yn yr ardoll a delir gan y Cyngor. Mae’r cynnydd yn y Dreth Gyngor wedi gostwng i 9.5% ac mae 0.9% o’r cynnydd hwn i’w briodoli i ardoll yr Awdurdod Tân, tra bod 8.6% yn ymwneud â gofynion cyllideb y Cyngor. Er bod y cynnydd yn y Dreth Gyngor yn sylweddol, fel y mae ym mhob awdurdod lleol arall, y Cyngor hwn fydd â’r Dreth Gyngor isaf yng Ngogledd Cymru. Bydd cynnydd o £136.44 yn y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo Band D, a bydd cyfanswm y gost ar gyfer eiddo Band D felly yn £1,572.30 y flwyddyn.

 

·                 Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y sefyllfa ariannol ychydig yn well na’r disgwyl ar gychwyn y broses gosod cyllideb. Er bod cyllidebau ysgolion wedi cynyddu, mae’r Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu gostwng y cap ar y cynnydd i ysgolion o 2.5% yn is na chwyddiant i 1.5% yn is na chwyddiant, a bydd ysgolion hefyd yn derbyn £250k o arian ychwanegol yn 2024/25. Mae’r gyllideb arfaethedig yn cynnwys nifer o ragdybiaethau ynglŷn â lefelau tebygol incwm a gwariant yn y dyfodol ac mae’n anorfod fod y gyllideb arfaethedig yn cynnwys nifer o risgiau ariannol cynhenid. Dywedodd hefyd fod y Swyddog Adran 151 yn argymell na ddylai’r arian wrth gefn ddisgyn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 20 Chwefror, 2024.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Chwefror 2024, i’r Cyngor ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol:-

 

  • Cymeradwyo’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft ar gyfer 2024-2028;
  • Awdurdodi Swyddogion, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio, i gwblhau a chyhoeddi’r Cynllun erbyn 31 Mawrth 2024.

 

10.

Adolygu Ardaloedd a Mannau Pleidleisio Ynys Môn pdf eicon PDF 249 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr i’r Cyngor gan yr Aelod Portffolio Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol :-

 

  • Nodi canlyniad yr Adolygiad o Ardaloedd a Mannau Pleidleisio;
  • Bod y cynigion terfynol a nodir yn Atodiad 1 mewn perthynas ag ardaloedd pleidleisio, mannau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio’n cael eu cymeradwyo.

 

11.

Aelodaeth a Chyfansoddiad y Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) pdf eicon PDF 494 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i’r Cyngor gan Gadeirydd y CYSAG.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol:-

 

  • Addasu enw’r CYSAG i CYS a bod y Swyddog Monitro yn cynnwys ei gylch gorchwyl yng Nghyfansoddiad y Cyngor, yn unol â’r gofyniad cyfreithiol ar gyfer CYS;
  • Oherwydd bod rhaid i’r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod yr aelodaeth, yn gyffredinol, yn gymesur â chryfder pob crefydd, enwad, neu argyhoeddiad athronyddol anghrefyddol yn ei ardal leol, bod aelodaeth y CYS yn cynnwys cyfanswm o 9 sedd, yn cynnwys 6 sedd ar gyfer yr aelodau presennol a 3 sedd newydd ychwanegol a benodir ar gyfer cynrychiolwyr: Dyneiddwyr y DU, Islam a Thystion Jehova;
  • Cynnal adolygiad pellach, o fewn chwe mis, o’r seddi Cristnogol presennol (ac felly’n eithrio Tystion Jehova o’r ymgynghoriad nesaf) oherwydd sylwadau a wnaethpwyd pan ymgynghorwyd â CYSAG a’r ffigyrau sydd wedi dod i law.

 

12.

Datganiad Polisi Tâl 2024 pdf eicon PDF 210 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaetth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid i’r Cyngor gan yr Aelod Portffolio Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad Polisi Tâl y Cyngor ar gyfer 2024/2025.