Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyngor Sir Ynys Môn - Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 6ed Mawrth, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 239 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd canlynol o’r Cyngor Sir: -

 

   3 Rhagfyr, 2024

   12 Rhagfyr, 2024 (Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfodydd canlynol Cyngor Sir Ynys Môn yn gywir:-

 

·         3 Rhagfyr, 2024;

·         12 Rhagfyr, 2024 (Arbennig).

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Prif Swyddogion ddatgan budd personol yn Eitem 12 – Datganiad Polisi Tâl 2025 gan adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais.

 

3.

Derbyn unrhyw Gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd neu'r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau canlynol:-

 

·     Llongyfarchiadau i Mr Mike Doran a Mr Mark Wade sydd wedi derbyn cymeradwyaeth swyddogol yn ddiweddar gan yr elusen bad achub (RNLI) am achub dringwr a oedd wedi syrthio i'r môr yn Ynys Arw. Cyflwynwyd tystysgrifau i'r ddau yng Ngorsaf Bad Achub Caergybi i gydnabod hyn.

 

·     Llongyfarchiadau i Mrs Ann Harries Jones o Undeb Amaethwyr Cymru am ennill Gwobr Aur Pencampwr y Gymraeg mewn seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Mae Mrs Harries Jones wedi darparu gwasanaethau yswiriant yn Gymraeg ar yr Ynys ers dros 30 mlynedd.

 

·     Llongyfarchiadau hefyd i MônActif ar ennill y wobr ‘Effaith ar Nofio a Diogelwch Dŵr Ysgolion’ yn ddiweddar. Cyflwynwyd y wobr gan Nofio Cymru, y Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer Gweithgareddau Dŵr, yn eu gwobrau blynyddol yng Nghaerdydd.  Cafodd MônActif ei gydnabod am ei lwyddiant wrth drefnu cyfres o ddigwyddiadau 'Nofio'n Ddiogel' ledled yr Ynys.

 

·     Llongyfarchiadau i Mr Twm Tudur o Ynys Môn a fu’n llwyddiannus yn ddiweddar ar raglen "Y Llais".

 

·     Llongyfarchiadau i Miss Gwen Edwards a ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2025.

 

·     Llongyfarchiadau i Mr Gorwel Owen o Lanfaelog a enillodd wobr Cyfraniad Arbennig yng Ngwobrau Cerddoriaeth Gymraeg y Selar y mis hwn. Mae'r wobr yn cael ei rhoi i artistiaid sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gerddoriaeth Gymraeg dros nifer o flynyddoedd.

·     Llongyfarchiadau i Mr Will Young o Gaergybi sy'n aelod o Mencap Môn ac sydd ar daith gyda’r theatr ar hyn o bryd yn chwarae rhan Lennie yn "Of Mice and Men". Dyma'r ail dro iddo chwarae rhan Lennie, yn dilyn taith theatr lwyddiannus arall yn 2017.

·     Llongyfarchiadau hefyd i Ms Gwenllian Howe o Frynteg. Mae’n gyn-aelod o Fand Ieuenctid Biwmares a bellach yn fyfyrwraig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Gwenllian wedi cael ei dewis i fod yn rhan o Fand Pres Ieuenctid Ewrop a bydd yn chwarae ochr yn ochr â cherddorion ifanc o 14 o wledydd eraill pan fyddant yn dod at ei gilydd yn Stavanger, Norwy ym mis Mai.

·     Estynnwyd dymuniadau gorau i Mr Kevin Williams (Kev Bach) sydd wedi gadael Capital Radio ar ôl 27 mlynedd ar radio 103 gyda Champion, Heart a Capital. Mae Kevin yn un o leisiau mwyaf adnabyddus yr Ynys ac mae wedi rhoi llwyfan i'r Gymraeg dros y blynyddoedd yn ogystal â chefnogi nifer o ddigwyddiadau lleol.

·     Llongyfarchiadau i Gôr Ieuenctid Môn a enillodd wobr Côr Cenedlaethol Hŷn y Flwyddyn Barnardo's yn Neuadd Symffoni Birmingham yn ddiweddar.

*          *          *          *

Cydymdeimlwyd â theulu Ms Marged Esli a fu farw'n ddiweddar. Roedd hi'n actores ac yn awdures adnabyddus ac fe'i magwyd yng Ngwalchmai.

*          *          *          *

Cydymdeimlwyd â theulu'r cyn-Gynghorydd Sir ac Aelod o Senedd Cymru, Mr Peter Rogers a fu farw'n ddiweddar.

Talodd y Cynghorwyr Jeff Evans ac Aled Morris Jones deyrnged i'r diweddar Mr Peter Rogers am ei waith fel Cynghorydd Sir ac Aelod o Gynulliad Cymru a'i gyfraniad i'r gymuned ffermio.

*          *          *  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddeisebau.

 

5.

Rhybydd o Gynnig

I dderbyn y Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorydd Geraint Bebb.

 

‘Yn 2014, dynododd Ystâd y Goron ardal o wely’r môr oddi ar arfordir Ynys Cybi ar gyfer ynni’r llanw. Y nod i gynllun Morlais yw chware rhan wrth daclo newid hinsawdd tra’n sicrhau budd economaidd a chymdeithasol i gymunedau Ynys Môn, ond er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid talu lês blynyddol i Ystâd y Goron.

Amcangyfrifir bod Ystâd y Goron yn berchen ar 65% o flaendraeth a gwelyau afonydd y genedl, a mwy na 50,000 erw o dir. Mae gwerth daliadau Ystâd y Goron yng Nghymru wedi codi o £96m yn 2020 i dros £853m yn 2023.

 

Dangosodd arolwg barn YouGov a gynhaliwyd yn 2023 fod 58% o bleidleiswyr Cymru o blaid i Gymru gymryd rheolaeth o asedau’r stad yng Nghymru yn hytrach na’i bod yn aros yn nwylo Trysorlys y DU.

 

Fydd hyn yn gwneud Cymru’n gyfartal a’r Alban sydd wedi cael yr hawl ers 2017.  Mae coffrau stad y goron yn yr Alban werth dros £100m y flwyddyn. Swm sy’n gallu gwneud gwahaniaeth.

 

Gofyn ydwyf felly i rhoi enw ein awdurdod i’r ymgyrch hon, gan y gallai newid bywydau a gwella ein holl gymunedau. Dylai cenedl Cymru fod â rheolaeth lwyr dros ei hasedau ei hun fel bod yr elw o fudd i’n cymunedau a’n gwlad fel a nodais yn yr esiampl o brosiect Morlais.

 

Rwyf yn gofyn i fy nghyd gynghorwyr am eu cefnogaeth i ofyn i Arweinydd ein Cyngor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a gwneud datganiad cyhoeddus yn galw am ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru a hynny fel mater o frys.’

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Hysbysiad o Gynnig gan y Cynghorydd Geraint Bebb:-

 

‘Yn 2014, dynododd Ystâd y Goron ardal o wely’r môr oddi ar arfordir Ynys Cybi ar gyfer ynni’r llanw. Y nod i gynllun Morlais yw chwarae rhan i fynd i’r afael â newid hinsawdd gan sicrhau budd economaidd a chymdeithasol i gymunedau Ynys Môn, ond er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid talu les blynyddol i Ystâd y Goron.

Amcangyfrifir bod Ystâd y Goron yn berchen ar 65% o flaendraethau a gwelyau afonydd y wlad, a dros 50,000 o erwau o dir. Mae gwerth daliadau Ystâd y Goron yng Nghymru wedi codi o £96m yn 2020 i dros £853m yn 2023.

 

Dangosodd arolwg barn YouGov a gynhaliwyd yn 2023 fod 58% o bleidleiswyr Cymru o blaid i Gymru gymryd rheolaeth o asedau’r ystâd yng Nghymru yn hytrach na’i bod yn aros yn nwylo Trysorlys y DU.

 

Bydd hyn yn gwneud Cymru’n gyfartal a’r Alban sydd wedi cael yr hawl ers 2017.  Mae coffrau ystâd y goron yn yr Alban yn werth dros £100m y flwyddyn. Swm sy’n gallu gwneud gwahaniaeth.

 

Gofyn ydwyf felly i ychwanegu enw ein hawdurdod at yr ymgyrch hon, gan y gallai newid bywydau a gwella ein holl gymunedau. Dylai Cymru, fel gwlad, fod â rheolaeth lwyr dros ei hasedau ei hun fel bod yr elw o fudd i’n cymunedau a’n gwlad fel y nodais yn yr esiampl o brosiect Morlais.

 

Rwyf yn gofyn i fy nghyd gynghorwyr am eu cefnogaeth i ofyn i Arweinydd ein Cyngor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a gwneud datganiad cyhoeddus yn galw am ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru a hynny fel mater o frys.’

 

 

Eiliodd y Cynghorydd Arfon Wyn y Cynnig. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Pip O'Neill fod angen rheoli disgwyliadau o ran yr incwm y gellid ei gynhyrchu o ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru gan fod gan yr Alban flaendraeth sylweddol fwy.  Dywedodd eu bod nhw fel Grŵp Llafur ar y Cyngor yn cefnogi'r cynnig ond eu bod yn siomedig bod y Llywodraeth Lafur yn San Steffan wedi pleidleisio yn erbyn galwadau am reolaeth dros Ystâd y Goron i weinidogion yng Nghymru.

 

Mewn ymateb i gyfeiriad gan y Cynghorydd Douglas M Fowlie a ddywedodd ei bod yn ymddangos nad yw llythyrau a anfonwyd ar wahanol bynciau at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cael eu hateb, dywedodd y Prif Weithredwr mai pwysigrwydd anfon llythyrau at y ddwy Lywodraeth yw codi'r proffil a chofnodi pryderon pwysig a godir gan y Cyngor hwn.  Gan fod yr ohebiaeth yn faterion gwleidyddol, maent yn cael eu hanfon at Uwch Weinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.  Sicrhaodd y bydd yn mynd ar drywydd y mater ac yn gwneud yn siŵr bod ymateb yn cael ei dderbyn i'r materion a godwyd gan y Cyngor hwn.

 

Yn dilyn pleidlais unfrydol:-

 

Pasiwyd y cynnig.

 

6.

Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli'r Trysorlys 2024/2025 pdf eicon PDF 640 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror 2025.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror, 2025 i'w dderbyn gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn Adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli’r Trysorlys ar gyfer 2024/2025.

 

7.

Strategaeth Gyfalaf - 2025-2030 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 27 Chwefror 2025.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 27 Chwefror, 2025 i'w dderbyn gan y Cyngor. 

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn y Strategaeth

8.

Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2025/2026 pdf eicon PDF 694 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 27 Chwefror 2025.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 27 Chwefror, 2025 i'w dderbyn gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2025/2026.

 

9.

Cyllideb 2025/2026 pdf eicon PDF 554 KB

(a)  CYLLIDEB REFENIW 2025/2026

 

I dderbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151, fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 27 Chwefror  2025.

 

(b)  CYLLIDEB GYFALAF 2025/2026

       

I dderbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 27 Chwefror 2025.

 

  (c)  GOSOD Y DRETH GYNGOR 2025/2026

 

I dderbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / 

Swyddog Adran 151.

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 29 Chwefror, 2024 i'w dderbyn gan y Cyngor.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai fod hon wedi bod yn gyllideb heriol i'w chyflwyno.  Nododd fod y setliad terfynol yng Nghymru yn cynnwys llawr, a oedd yn codi’r isafswm cynnydd i awdurdodau lleol i 3.8%.  Gan mai cynnydd o 3.6% oedd setliad dros dro Ynys Môn, mae setliad terfynol Ynys Môn wedi cynyddu o £277k, i £135.881m.  Pe bai'r Cyngor yn ceisio gwneud iawn am y diffyg yn y gyllideb trwy’r Dreth Gyngor yn unig, byddai'n golygu codi'r Dreth Gyngor o 20.6%.   Yn ogystal â hyn, nododd y setliad terfynol y dylid rhoi grant pellach o £30m ledled Cymru, a fyddai'n rhoi cymorth i dalu'r costau sy'n wynebu awdurdodau lleol ar gyfer costau gofal cymdeithasol gwasanaeth oedolion.   Bydd y £30m ychwanegol hwn yn darparu oddeutu £750k i'r Cyngor hwn mewn cyllid grant ychwanegol. Mae wedi galluogi'r Cyngor i gynyddu'r cronfeydd wrth gefn i'w defnyddio o £2m i £2.459m i gydbwyso'r gyllideb.  Yn sgil y cyllid ychwanegol ac o ystyried yr ymatebion o’r ymgynghoriad cyhoeddus, dywedodd fod y Pwyllgor Gwaith wedi cynnig y newidiadau canlynol i’r 

gyllideb arfaethedig gychwynnol, sef peidio â gweithredu'r cynnig i gyflwyno ffioedd gwasanaeth ar gyfer unedau diwydiannol a busnes, peidio â gweithredu'r cynnig i leihau nifer y diwrnodau y mae canolfannau ailgylchu'r Cyngor ar agor a neilltuo £217k i dalu costau newid offer TG mewn ysgolion yn y dyfodol. Eglurodd, gan fod y Pwyllgor Gwaith eisoes wedi gwneud darpariaeth ar gyfer Gwasanaethau Oedolion yn y gyllideb arfaethedig gychwynnol, gellir defnyddio'r cyllid grant mewn mannau eraill a gellir ei ddefnyddio i helpu i ostwng y cynnydd yn y Dreth Gyngor i 8.5% (7.85% ar gyfer gwasanaethau'r Cyngor a 0.65% ar gyfer y cynnydd yn ardoll y Gwasanaeth Tân) gan wneud cynnydd Ynys Môn yr ail isaf o gynghorau Gogledd Cymru.  O ganlyniad bydd tâl Band D yn £1,705.95, cynnydd o £133.65 (£2.57 yr wythnos)).

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai at y Gyllideb Gyfalaf o £44.294m ar gyfer 2025/2026.  Mae sefyllfa'r gyllideb gyfalaf wedi bod yn heriol ers tro ac er bod y Cyllid Cyfalaf Cyffredinol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 £401k yn uwch na dyraniad 2024/25, dyma'r cynnydd sylweddol cyntaf y mae'r Cyngor wedi'i dderbyn ers nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, nid yw'n gwneud iawn am yr erydiad yng ngwerth y cyllid oherwydd chwyddiant ac o ystyried bod deunyddiau adeiladu wedi cynyddu dros 100% dros y blynyddoedd diwethaf.

 

At hyn, dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai fod angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ariannu awdurdodau lleol yn briodol a bod angen edrych ar y fformiwla a ddefnyddir yng Nghymru i ddosbarthu adnoddau i awdurdodau lleol. 

 

Cynigiodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai yr argymhellion i'r Cyngor llawn fel y gwelir yn (a), (b) ac (c) o'r adroddiadau.

 

Rhoddwyd cyfle i  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Adolygu’r Polisi Iaith Gymraeg pdf eicon PDF 433 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror 2025.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror, 2025 i'w gymeradwyo gan y Cyngor.

 

Dywedodd Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg fod polisi Cymraeg presennol y Cyngor wedi'i fabwysiadu yn 2016 pan ddaeth safonau statudol y Gymraeg i rym, ers hynny, mae'r ddealltwriaeth o'r safonau wedi aeddfedu, ac mae arferion yr Awdurdod mewn perthynas â'r iaith wedi datblygu'n sylweddol.  Mae'r defnydd o'r Gymraeg wedi cael ei gryfhau o fewn gweinyddiaeth y Cyngor.  Nododd fod gohebiaeth wedi cael ei derbyn yn ddiweddar yn awgrymu bod ymrwymiad yr Awdurdod i'r Gymraeg wedi cael ei wanhau.  Dywedodd fod hyn yn gamarweiniol gan fod y Gymraeg yn un o'r 6 amcan yng Nghynllun y Cyngor.

 

Roedd y Cynghorydd Pip O'Neill yn dymuno cofnodi ei werthfawrogiad i'r Cyngor am y cyfleoedd i ddysgu'r Gymraeg. 

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo'r Polisi Iaith Gymraeg diwygiedig.

 

11.

Trefniadau craffu'r Cyd-bwyllgor Corfforedig pdf eicon PDF 643 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i'r Cyngor ei dderbyn.

 

Dywedodd Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer fod yr adroddiad yn tynnu sylw at y trefniadau craffu ar gyfer y Cyd-bwyllgorau Corfforedig.  Rhagwelir y bydd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn gyfrifol am gyflawni Cais Twf Gogledd Cymru ym mis Ebrill, 2025 yn dilyn trosglwyddo'r cyfrifoldebau gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.  Tynnodd sylw at y trefniadau gweinyddu wrth greu Pwyllgor Rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·          Sefydlu Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar y Cyd ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, gyda’r Cylch Gorchwyl a nodir yn Atodiad1;

·         y bydd pwerau’r pwyllgorau sgriwtini lleol o dan Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 yn cael eu cadw;

·         y bydd y rhai a enwebir i’r Pwyllgor Trosolwg a Sgriwtini ar y Cyd o Gyngor Sir Ynys Môn yn adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol Cyngor Sir Ynys Môn yn hytrach nag aelodaeth y Cynghorau Cyfansoddol gyda’i gilydd;

·         y bydd ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Trosolwg a Sgriwtini ar y Cyd yn cael ei darparu gan y CBC yn unol â’r Cylch Gorchwyl.

 

(Bu i’r Cynghorydd Kenneth P Hughes ymatal ei bleidlais)

 

12.

Datganiad Polisi Tâl 2025 pdf eicon PDF 114 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Adnoddau Dynol a Thrawsnewid i'r Cyngor ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad Polisi Tâl y Cyngor ar gyfer 2024/2025.