Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol Cyngor Sir Ynys Môn a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2025 yn gywir.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
|
Cyhoeddiadau Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd neu’r Prif Weithredwr, ac unrhyw sylwadau terfynol gan y Cadeirydd ar ei gyfnod yn yn swydd y mae ei dymor yn dod i ben. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaethpwyd y cyhoeddiadau canlynol gan y Cadeirydd:-
· Llongyfarchwyd Mr Medwyn Williams, y garddwr o Lanfairpwll, a oedd yn dathlu 50 mlynedd o werthu llysiau ar hyd a lled y DU yn ddiweddar, yn ogystal â dathlu 75 mlynedd ers iddo ddechrau garddio. Mae Mr Williams wedi derbyn llu o anrhydeddau yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys MBE, ac mae o wedi ennill y Fedal Aur 14 o weithiau yn Sioe Flodau Chelsea.
· Llongyfarchwyd Mr Roger Tebbutt a Mrs Debbie Tebbutt o Ynys Môn am ennill y gystadleuaeth gorau yn y brid yn Crufts ym mis Mawrth gyda’u Bleiddgi Gwyddelig, Tozie.
· Llongyfarchwyd Alys Bailey-Wood o Ynys Môn a gafodd ei chydnabod yn ddiweddar am ennill y Wobr King’s Scout, y wobr uchaf a roddir gan y Sgowtiaid, a hynny mewn digwyddiad yng Nghastell Windsor. Rhoddir y wobr am gyflawniad personol eithriadol ac mae’n cael ei rhoi i Sgowtiaid rhwng 16 a 25 oed.
· Dymunwyd yn dda i’r cyn Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) Iona Beckman wrth iddi ymddeol o’i swydd gyda Heddlu Gogledd Cymru. Bu Iona Beckman yn gwasanaethu cymunedau Ynys Môn, a Benllech ac Amlwch yn arbennig, am 18 mlynedd fel rhan o’r tîm heddlua cymunedau lleol.
· Llongyfarchwyd Laura Wannop, sydd yn weithiwr cymorth meithrin gyda thîm Maethu Cymru Môn, gan ei bod wedi cwblhau Marathon Manceinion yn ddiweddar yn ei chrys-t piws Maethu Cymru Môn arbennig.
· Llongyfarchwyd Osian Perrin o Menai Track and Field wedi iddo dorri record ras ffordd 5k Cymru ym mis Mawrth. Roedd y record flaenorol yn bodoli ers 40 mlynedd.
· Llongyfarchwyd tîm dan 14 Clwb Rygbi Llangefni a enillodd Gwpan Rygbi Gogledd Cymru yn ddiweddar a thimau dan 14 a dan 16 y genethod a enillodd gystadleuaeth y plât.
· Llongyfarchwyd y bariton Steffan Lloyd Owen o Ynys Môn a enillodd gystadleuaeth fawreddog Canwr Operatig Rhyngwladol Josep Palet ddiwedd mis Mawrth.
· Llongyfarchwyd Côr Esceifiog a enillodd y wobr am y perfformiad gorau gan unrhyw gôr yn yr ŵyl gerddoriaeth Ban Geltaidd yn Carlow, Iwerddon.
· Dywedodd y Cadeirydd bod Theatr Fach yn Llangefni wedi dathlu ei phen-blwydd yn 70 yn gynharach yn y mis. Mae’r theatr wedi diddanu a chynnig cyfleoedd i nifer o bobl leol dros y blynyddoedd, diolch i waith caled ac ymroddiad y gwirfoddolwyr.
· Llongyfarchwyd pawb fu’n cymryd rhan yn Eisteddfod Môn dros y penwythnos a dymunwyd yn dda i blant a phobl ifanc fydd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddiwedd y mis.
* * * *
Roedd y Cynghorydd Jeff Evans yn dymuno cydnabod a llongyfarch Clwb Pêl-droed Hotspurs Caergybi ar eu llwyddiant diweddar o gael eu dyrchafu i haen dau yn y gynghrair bêl-droed. Roedd yn dymuno llongyfarch Mr Alex Jones hefyd, sef capten Clwb Pêl-droed Hotspurs Caergybi am wasanaethu’r tîm am 25 mlynedd.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Evans hefyd at lwyddiant Mr Jackson Hadden, Pencampwr Bocsio Cymru ym Mhencampwriaethau Bocsio Cymru a Mr Rocko Jones a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn yr un gystadleuaeth. Nododd bod Clwb Bocsio Môn Draig Goch, a ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un ddeiseb. |
|
|
Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor 2024/25 Ystyried Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor yn unol â Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor ar gyfer 2024/25.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod thema’r adroddiad yn adlewyrchu ei flaenoriaethau wedi iddo gael ei ethol yn Arweinydd ym mis Medi 2024 ac maent yn cyd-fynd a chwe amcan strategol y Cyngor sydd wedi eu nodi yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2023-2028. Nododd bod parch tuag at y Cyngor yn amlwg ledled y rhanbarth.
Cyfeiriodd at y maes addysg a dywedodd fod Uned Graig Fach wedi agor yn Ysgol y Graig ym mis Mehefin 2024 a bod gwaith atgyweirio adeiladau, gan gynnwys gwaith yn gysylltiedig â choncrit RAAC yn Ysgol Uwchradd Caergybi ac Ysgol David Hughes, wedi’i gwblhau. Roedd yn dymuno diolch i wasanaethau’r Cyngor a fu’n gweithio’n effeithiol i sicrhau fod yr ysgolion yn gallu parhau i ddarparu addysg a chefnogaeth i’r disgyblion. Cyfeiriodd hefyd at y Canolfannau Iaith sydd yn gwbl weithredol a dywedodd iddo gael y pleser o ymweld ag Ysgol Gynradd Llanfairpwll yn ddiweddar.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at yr elfen gofal cymdeithasol a nododd bod yr Awdurdod wedi buddsoddi mewn 4 Cartref Clyd. Mae hynny’n sicrhau bod plant yn derbyn gofal o’r ansawdd orau heb orfod gadael eu cymunedau.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at yr economi a thynnodd sylw at arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin gwerth £16m a dderbyniwyd tuag at brosiectau fydd yn gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau lleol. Mae bron i 400 o fusnesau, mentrau a sefydliadau wedi derbyn grantiau trwy’r cynllun ac mae 631 wedi derbyn cymorth ychwanegol. Nododd bod caniatâd cynllunio wedi’i roi i 10 busnes newydd yn Amlwch. Ychwanegodd bod gwaith yn parhau i fynd rhagddo mewn perthynas â’r statws Porthladd Rhydd a bydd yn gyfle i wella economi Gogledd Cymru.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at yr elfen dai a nododd bod 63 o dai gwag wedi dod yn ôl i ddefnydd fel cartrefi. Nododd fod gwaith wedi’i wneud i warchod Fflatiau Plas Alltran, Caergybi, sy’n adeilad rhestredig Gradd II a fu mewn cyflwr gwael ers nifer o flynyddoedd. Mae datblygiadau wedi’u cwblhau yn Llys Llwydiarth, Ffordd Kyffin a Chilfach Gwta ac mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn wedi cwblhau 45 uned yn y Fali hefyd.
Cyfeiriodd yr Arweinydd hefyd at y statws a roddir i’r Gymraeg fel nod strategol yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2023-2028 ac mae’n gam pwysig o ran cadarnhau statws y Gymraeg o fewn y Cyngor. Mae Fforwm y Gymraeg wedi dathlu ei deg mlwyddiant, yn dilyn ei sefydlu yn 2014, ac roedd yn bleser gweld cymaint o bobl yn gwrando ar gyfraniadau rhai o aelodau’r Fforwm yn Sioe Môn fis Awst diwethaf, er mwyn dathlu’r garreg filltir. Dywedodd bod y gefnogaeth barhaus trwy Fforwm y Gymraeg yn dyst i’r dymuniad a’r penderfyniad i sicrhau fod y Gymraeg yn parhau i ffynnu a sefydlu’r iaith fel prif elfen Cynllun y Cyngor.
Diolchodd y Cynghorydd Aled Morris Jones i’r Arweinydd am ei adroddiad a gofynnodd am gyfarfod brys mewn perthynas â materion addysg, ac yn benodol methiant plant i gael eu derbyn i’r ysgol gynradd a ffafrir ganddynt oherwydd ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
Adroddiad Blynyddol Sgriwtini 2024/25 Derbyn adroddiad gan Gadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad Cadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio i’r Cyngor ei dderbyn.
Dywedodd y Cynghorydd Douglas M Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, bod yr Adroddiad Blynyddol yn cwmpasu gwaith y ddau bwyllgor sgriwtini rhwng Mai 2024 a Mai 2025. Roedd yn dymuno diolch i Aelodau Etholedig o’r ddau Bwyllgor Sgriwtini, ynghyd â’r Tîm Sgriwtini am eu harweiniad, eu cefnogaeth a’u parodrwydd i fod o gymorth.
PENDERFYNWYD:-
· Cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol Sgriwtini a Throsolwg ar gyfer 2024/25; · Nodi’r cynnydd parhaus a wnaed o ran gweithredu ein taith Sgriwtini ac effaith hynny ar ymarfer; · Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn Bencampwr Sgriwtini ar gyfer y cyfnod rhwng Mai 2025 a Mai 2026.
|
|
|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2025/26.
(Cyfeirir yr Aelodau at y ddogfen ‘Trefn y Gweithgareddau’ ar gyfer Ethol Cadeirydd y Cyngor Sir). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD, yn unfrydol, ethol y Cynghorydd Non Dafydd yn Gadeirydd ar Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2025/2026.
Wrth dderbyn yr anrhydedd o gael ei phenodi, sicrhaodd y Cynghorydd Non Dafydd y Cyngor y byddai’n ceisio cyflawni ei dyletswyddau fel Cadeirydd hyd eithaf ei gallu. Diolchodd i’w holynydd, y Cynghorydd Glyn Haynes, am gyflawni ei ddyletswyddau fel Cadeirydd y Cyngor Sir mor urddasol ac anrhydeddus a chyflwynodd rodd iddo i gydnabod ei wasanaeth.
Diolchodd y cyn-Gadeirydd, y Cynghorydd Glyn Haynes, i’r Aelodau a Swyddogion am eu cefnogaeth. Roedd am ddiolch i staff y Gwasanaethau Democrataidd am eu cefnogaeth yn ystod ei dymor fel Cadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn. Cyfeiriodd y Cynghorydd Haynes at y llu o ddigwyddiadau y bu iddo eu mynychu a’r fraint o gynrychioli’r Cyngor Sir yn y digwyddiadau hynny. Dywedodd hefyd ei bod yn fraint iddo, fel Cadeirydd y Cyngor, fynychu’r digwyddiad i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VE tu allan i Swyddfeydd y Cyngor, gyda chydweithwyr o Lu Awyr Brenhinol y Fali. Nododd iddo ef fel Cadeirydd, ac Aelodau eraill o’r Cyngor, fynychu digwyddiad i gofio Diwrnod VE ym Mynydd Parys gyda’r nos hefyd.
|
|
|
Ethol Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2025/26.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD, yn unfrydol, ethol y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas yn Is-gadeirydd ar Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2025/2026.
|
|
|
Aelodaeth o'r Pwyllgor Gwaith Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 y Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae ef wedi ei ddewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 o’r Cyfansoddiad, enwodd yr Arweinydd yr Aelodau canlynol a ddewiswyd ganddo i fod yn Aelodau o’r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â’u cyfrifoldebau Portffolio:-
Y Cynghorydd Gary Pritchard (Arweinydd) gyda chyfrifoldeb Portffolio am Ddatblygu Economaidd;
Y Cynghorydd Robin Williams (Dirprwy Arweinydd) gyda chyfrifoldeb Portffolio am Gyllid a Gwasanaethau Tai;
Y Cynghorydd Neville Evans gyda chyfrifoldeb Portffolio am Hamdden, Twristiaeth a Morwrol;
Y Cynghorydd Carwyn Jones gyda chyfrifoldeb Portffolio am Fusnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer;
Y Cynghorydd Dyfed W Jones gyda chyfrifoldeb Portffolio am Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd;
Y Cynghorydd Alun Roberts gyda chyfrifoldeb Portffolio am Wasanaethau Oedolion (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Diogelwch Cymunedol;
Y Cynghorydd Dafydd Roberts gyda chyfrifoldeb Portffolio am Addysg a’r Gymraeg;
Y Cynghorydd Nicola Roberts gyda chyfrifoldeb Portffolio am Gynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd;
Swydd Wag - cyfrifoldeb Portffolio am Briffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.
|
|
|
Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad, ethol Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y flwyddyn sirol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Rhan 3.4.12.3 o’r Cyfansoddiad, PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Keith Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
|
|
|
Cadarnhau'r Cynllun Dirprwyo Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau'r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arno (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 o'r Cyfansoddiad). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Rhan 3.2 o’r Cyfansoddiad, PENDERFYNWYD cadarnhau'r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arno.
|
|
|
Cadarnhau Pwyllgorau Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau a ganlyn fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol: -
· Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau · Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS) · Is-Bwyllgor Indemniadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD ailbenodi’r strwythur Pwyllgorau fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â’r canlynol: -
· Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau; · Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS); · Is-bwyllgor Indemniadau.
|
|
|
Rhaglen Cyfarfodydd Cyffredinol y Cyngor Sir ar gyfer 2025/26 Cymeradwyo'r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod: -
· 25 Medi 2025 - 2:00 pm · 9 Rhagfyr 2025 - 2:00 pm · 5 Mawrth 2026 - 2:00 pm · Mai 2026 (Cyfarfod Blynyddol) - dyddiad i’w gadarnhau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd cyffredinol y Cyngor Sir am y flwyddyn nesaf: -
· 25 Medi, 2025 - 2.00 yp · 9 Rhagfyr 2025 – 2.00 yp · 5 Mawrth 2026 - 2.00 yp · Mai 2026 (Cyfarfod Blynyddol) – dyddiad i’w gadarnhau
Awgrymodd y Cynghorydd Aled M Jones y dylid ystyried cynnal cyfarfodydd am 1 o’r gloch y pnawn ac un cyfarfod gyda’r nos er mwyn denu Aelodau newydd yn y dyfodol. Ychwanegodd na ddylid newid dyddiad y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 9 Rhagfyr 2025.
Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro y byddai’n rhaid ymgynghori ar amseroedd cyfarfodydd a chynigiodd bod y rhaglen o gyfarfodydd cyffredinol y Cyngor Sir, fel y nodir uchod, yn cael ei derbyn gan fod y dyddiadau wedi’u gosod mewn ymgynghoriad â Swyddogion er mwyn sicrhau eu bod ar gael ar y dyddiadau hynny. Nododd y byddai’n rhaid ymgynghori ag Aelodau Etholedig ynglŷn ag amseroedd cyfarfodydd yn y dyfodol.
|
|
|
Cydbwysedd Gwleidyddol Pwyllgorau Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth ynglŷn â threfniadau cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor i’w ystyried.
PENDERFYNWYD :-
· Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddi a ddyrennir i bob Grŵp o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989; · Bod Arweinyddion Grwpiau’n hysbysu’r Pennaeth Democratiaeth cyn gynted ag y bo modd os bydd unrhyw newid o ran aelodaeth Grwpiau ar Bwyllgorau.
|
|
|
Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth mewn perthynas â phenodi cynrychiolwyr ar Gyrff Allanol.
PENDERFYNWYD cytuno a chadarnhau’r penodiadau fel y nodir yn yr atodlen i’r adroddiad.
|
|
|
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2025/26 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 a’r Pennaeth Democratiaeth, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 19 Mawrth 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth mewn perthynas ag Adroddiad Blynyddol 2025/2026 y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i’w ystyried.
PENDERFYNWYD:-
· Derbyn penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2025-26; · Cadarnhau y bydd deilyddion yr un swyddi â 2024-25 â’r hawl i dderbyn uwch gyflogau yn 2025-26, sef:-
Cadeirydd y Cyngor; Is-gadeirydd y Cyngor; Arweinydd y Cyngor, Arweinydd y Cyngor, Aelodau eraill y Pwyllgor Gwaith (7); Arweinydd yr Wrthblaid Fwyaf; Cadeiryddion y Pwyllgorau Sgriwtini (2); Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
· Awdurdodi swyddogion i newid Rhan 6 o Gyfansoddiad y Cyngor (Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau) er mwyn adlewyrchu’r penderfyniadau a wnaed yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2025-26.
|