Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyngor Sir Ynys Môn - Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyn, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 5ed Mawrth, 2026 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 251 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2025.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol Cyngor Sir Ynys Môn a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2025 yn gywir.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan buddiant personol yn Eitem 5 - Rhybudd o Gynnig gan ei fod yn Aelod o’r Ymddiriedolaeth Wiwerod coch ac yn dilyn cyngor cyfreithiol roedd modd iddo gymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Bu i’r Prif Swyddogion ddatgan buddiant sylweddol yn Eitem 14 - Datganiad Polisi Tâl 2026 ac fe wnaethant adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

3.

Cyhoeddiadau

I dderbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau canlynol:-

 

·         Estynnodd y Cadeirydd ei gwerthfawrogiad i bawb a drefnodd orymdeithiau a dathliadau eraill i nodi Dydd Gŵyl Dewi.  Dywedodd ei bod wedi cael y fraint o arwain gorymdaith Llangefni a’i bod yn braf gweld nifer mor fawr yn bresennol.

 

·         Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffaith bod Pont Menai yn dathlu ei phen-blwydd yn 200 oed ym mis Ionawr. Roedd dyluniad Thomas Telford yn uchelgeisiol gan mai hon oedd y bont grog fwyaf yn y byd. Dadorchuddiwyd plac coffa ym Mhorthaethwy i nodi'r garreg filltir hon.   

 

·             Llongyfarchiadau i Dion Wyn Jones, sy'n wreiddiol o Ynys Môn, am ennill gwobrau Cogydd Cenedlaethol Cymru mewn cystadleuaeth ddiweddar yng Nghasnewydd.

 

·             Llongyfarchiadau i Glwb Gymnasteg Ynys Môn ar y ganmoliaeth a      dderbyniwyd yng Ngwobrau Gymnasteg Prydain yn y categori chwaraeon diogel. Canmolwyd y clwb am eu gwaith i sicrhau diogelwch plant.

 

·             Llongyfarchiadau i Isabel o Ysgol Cemaes am ddylunio bathodyn a fydd yn mynd i'r gofod ar un o deithiau NASA. Mae cysylltiad unigryw rhwng yr ysgol a NASA gan fod un o'u cyn-ddisgyblion, Dr Melanie Coathup, yn gweithio i'r asiantaeth.  

 

·             Roedd y Cadeirydd yn dymuno cydnabod y gwaith cymunedol a wnaed gan Liz Mangan o Westy'r Holland, Llanfachraeth wrth ddosbarthu bagiau o ffrwythau a llysiau i bawb yn y pentref cyn y Nadolig.

 

·             Llongyfarchiadau i drefnwyr Hanner Marathon Ynys Môn ac i'r holl redwyr a gymerodd ran eleni. Symudwyd y ras i Faes Sioe Ynys Môn yn 2026 ac roedd yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn. 

 

·             Llongyfarchiadau i Jenna Seddon o Rhosneigr am orffen yn 3ydd yn y ras 50 milltir 'Ultra' yng Nghaer mewn amser o 8 awr 38 munud. 

 

·             Llongyfarchiadau i'r busnesau a dderbyniodd wobr yn seremoni wobrwyo CF Ynys Môn a gynhaliwyd ar 25 Chwefror, 2026. 

 

·             Estynnodd y Cadeirydd ei dymuniadau gorau i Fand Ieuenctid Biwmares ar eu taith i Linz yn Awstria i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop.

 

·             Dywedodd y Cadeirydd fod y Cyngor wedi cynnal seremoni fer i nodi Diwrnod Cenedlaethol Cofio'r Holocost yn y Cyngor ar 27 Ionawr, 2026.

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi gosod her bersonol iddi ei hun fel Cadeirydd Cyngor Ynys Môn i gerdded 130 milltir o amgylch yr Ynys dros gyfnod o ddwy i dair wythnos, gan ddechrau yng nghanol mis Mawrth.  Dywedodd ymhellach y bydd yn casglu arian tuag at Rasasc Gogledd Cymru ac er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth hanfodol. Fel Hyrwyddwr Dioddefwyr ar Banel Comisiynydd yr Heddlu, mae hi wedi gweld y gwaith a wneir gan Rasasc Gogledd Cymru i gefnogi menywod, dynion a phlant sydd wedi dioddef trais. 

 

*          *          *          *          *

 

Estynnwyd cydymdeimlad i unrhyw Aelod o'r Cyngor neu Staff a oedd wedi cael profedigaeth.

 

Safodd Aelodau a Swyddogion mewn tawelwch i ddangos eu cydymdeimlad.

 

 

4.

Cwestiynau

I dderbyn rhybudd o’r cwestiynau canlynol gan y Cynghorydd Robert Ll Jones mewn perthynas â cherbydau mawr yn teithio drwy Gaergybi ar eu ffordd i’r Iwerddon ar y llongau: -

 

Hoffwn ofyn i Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn os ydi o wedi gofyn i’n Haelod Senedd neu’n Aelod Seneddol lleol i ddweud wrthym beth sy’n digwydd o ran unrhyw gynlluniau i ddarparu cyfleusterau ar gyfer loriau sy’n teithio i’r Iwerddon drwy borthladd Caergybi. 

 

Mae angen i ni gefnogi’r gyrwyr hyn gan fod y mater yn achosi perygl i gerddwyr pan fydd y loriau yn cael eu parcio ym meysydd parcio siopau ger ardal siopa Penrhos. Mae’r problemau diweddar gyda thywydd garw dros y gaeaf ond wedi ychwanegu at y broblem.

 

O’r hyn dwi’n ei ddeall mae ein Adran Briffyrdd wedi tynnu sylw Llywodraeth Cymru at y materion parhaus hyn ac maent yn barod i gydweithio er mwyn dod o hyd i ddatrysiad i’r broblem. Mae angen i ni weithredu cyn y bydd damwain neu rhywbeth gwaeth yn digwydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – rhybudd o’r cwestiwn canlynol gan y Cynghorydd Robert Ll Jones mewn perthynas â cherbydau mawr sy'n croesi trwy Gaergybi ar eu ffordd i Iwerddon ar y llongau fferi i Arweinydd y Cyngor :-

 

Hoffwn ofyn i Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn os ydi o wedi gofyn i’n Haelod o’r Senedd neu’n Haelod Seneddol lleol i ddweud wrthym beth sy’n digwydd o ran unrhyw gynlluniau i ddarparu cyfleusterau ar gyfer lorïau sy’n teithio i’r Iwerddon drwy borthladd Caergybi.

 

Mae angen i ni gefnogi’r gyrwyr hyn gan fod y mater yn achosi perygl i gerddwyr pan fydd y lorïau yn cael eu parcio ym meysydd parcio siopau ger ardal siopa Penrhos. Mae’r problemau diweddar gyda thywydd garw dros y gaeaf wedi ychwanegu at y broblem.

 

O’r hyn rwy’n ei ddeall mae ein Hadran Briffyrdd wedi tynnu sylw Llywodraeth Cymru at y materion parhaus hyn ac maent yn barod i gydweithio er mwyn dod o hyd i ddatrysiad i’r broblem. Mae angen i ni weithredu cyn y bydd damwain neu rywbeth gwaeth yn digwydd. '

 

Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr Aelod o'r Senedd yn gwbl ymwybodol o'r heriau a wynebir oherwydd bod lorïau'n parcio o gwmpas y siopau yn ardal Penrhos.  Dywedodd ymhellach ei fod wedi trafod y mater ar sawl achlysur gyda'r Gweinidog Trafnidiaeth, Mr Ken Skates AC a'r Tasglu Iwerddon a sefydlwyd i fynd i'r afael â'r problemau sydd wedi codi yn sgil cau Porthladd Caergybi yn 2024. Mae Cynllun Trafnidiaeth Cymru yn tynnu sylw at y problemau o ran parcio lorïau yng Nghaergybi.  Mae'r Cynllun Gweithredu yn nodi bod addewid wedi’i gwneud i ddarparu Parc ar gyfer lorïau yn nhref Caergybi ac ar hyd yr A55.  Mae'r Awdurdod yn ceisio sicrhau bod y mater yn cael sylw ar frys yn hytrach na blaenoriaeth haen ganol o fewn y Cynllun Gweithredu. 

 

5.

Rhybydd o Gynnig

Derbyn y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Dylan Rees: -

 

Mae Prosiect Cadwraeth arloesol y Wiwer Goch ar Ynys Môn wedi bod yn hynod lwyddiannus. Erbyn hyn mae tua 800 o wiwerod coch ar yr ynys ac maent fwyaf niferus yng nghyffiniau Llangefni, Marianglas ac mewn ambell i ardal arfordirol ar hyd y Fenai. Mae gweld wiwerod coch yn brofiad pleserus a chyffroes i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Fodd bynnag, mae llwyddiant y prosiect hwn dan fygythiad parhaus oherwydd brech y gwiwerod.

 

Firws sy’n cael ei gario a’i ledaenu gan wiwerod llwyd yw brech y gwiwerod, ond nid yw’n effeithio ar y wiwer lwyd. Pan fydd gwiwerod coch yn cael eu heintio, byddant yn cael nifer fawr o friwiau agored ar y croen, cyn marw mewn poen bythefnos yn ddiweddarach. Yng ngogledd Cymru, collwyd rhwng 70 ac 80% o boblogaeth y wiwer goch yng Ngwynedd yn dilyn achos o’r haint yn 2020/21. Yn ystod y deunaw mis diwethaf mae tua 40 o wiwerod llwyd wedi cael eu dal ar Ynys Môn, ac er gwaethaf pob ymdrech, mae’n amhosibl atal pob gwiwer lwyd rhag dod drosodd i Ynys Môn. Mae angen ateb hirdymor, cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

 

Yn 2023 sefydlwyd deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu ymchwil i frechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag glefyd marwol brech y gwiwerod. Mae’r ddeiseb wedi casglu 11,313 o lofnodion o bob rhan o Gymru a chafodd ei thrafod yn y Senedd ar 27 Medi 2023. Derbyniodd gefnogaeth drawsbleidiol, yn ogystal ag ymrwymiad Gweinidogion. 

 

Yr unig gamau a gymerwyd gan swyddogion Llywodraeth Cymru yw gwahodd cyflenwyr sydd wedi cofrestru ar wefan “GwerthwchiGymru’ i gyflwyno tendrau. Digwyddodd hyn ym mis Gorffennaf 2025, a chan mai am bum wythnos yn unig y cafodd yr hysbyseb ei harddangos ar y wefan, nid yw’n syndod na chafodd yr un tendr ei gyflwyno. Nid yw’r Llywodraeth wedi cymryd unrhyw gamau ers hynny.

 

Mae Cyngor Môn, felly, yn galw ar Lywodraeth Cymru, fel mater o frys, i gymryd y camau angenrheidiol i gomisiynu sefydliad addas i ymchwilio i’r brechlyn.   

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd rhybudd o gynnig gan y Cynghorydd Dylan Rees: -

 

Mae Prosiect Cadwraeth arloesol y Wiwer Goch ar Ynys Môn wedi bod yn hynod lwyddiannus. Erbyn hyn mae tua 800 o wiwerod coch ar yr ynys ac maent fwyaf niferus yng nghyffiniau Llangefni, Marian-glas ac mewn ambell ardal arfordirol ar hyd y Fenai. Mae gweld wiwerod coch yn brofiad pleserus a chyffrous i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Fodd bynnag, mae llwyddiant y prosiect hwn dan fygythiad parhaus oherwydd brech y wiwer.

 

Firws sy’n cael ei gario a’i ledaenu gan wiwerod llwyd yw brech y wiwer, ond nid yw’n effeithio ar y wiwer lwyd. Pan fydd gwiwerod coch yn cael eu heintio, byddant yn cael nifer fawr o friwiau agored ar y croen, cyn marwolaeth boenus bythefnos yn ddiweddarach. Yng ngogledd Cymru, collwyd rhwng 70 ac 80% o boblogaeth y wiwer goch yng Ngwynedd yn dilyn achos o’r haint yn 2020/21. Yn ystod y deunaw mis diwethaf mae tua 40 o wiwerod llwyd wedi cael eu dal ar Ynys Môn, ac er gwaethaf pob ymdrech, mae’n amhosibl atal pob gwiwer lwyd rhag dod drosodd i Ynys Môn. Mae angen ateb hirdymor, cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

Yn 2023 sefydlwyd deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu ymchwil i frechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag clefyd marwol brech y wiwer. Mae’r ddeiseb wedi casglu 11,313 o lofnodion o bob rhan o Gymru a chafodd ei thrafod yn y Senedd ar 27 Medi 2023. Derbyniodd gefnogaeth drawsbleidiol, yn ogystal ag ymrwymiad Gweinidogion.

 

Hyd yma, yr unig gamau a gymerwyd gan swyddogion Llywodraeth Cymru yw gwahodd cyflenwyr sydd wedi cofrestru ar wefan “Gwerthwch i Gymru’ i gyflwyno tendrau. Digwyddodd hyn ym mis Gorffennaf 2025, a chan mai am bum wythnos yn unig y cafodd yr hysbyseb ei dangos ar y wefan, nid yw’n syndod na chafodd yr un tendr ei gyflwyno. Nid yw’r Llywodraeth wedi cymryd unrhyw gamau ers hynny.

 

Mae Cyngor Môn, felly, yn galw ar Lywodraeth Cymru, fel mater o frys, i gymryd y camau angenrheidiol i gomisiynu sefydliad addas i ymchwilio i’r brechlyn.'

 

Eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y Cynnig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones ei fod yn cefnogi'r Cynnig a chyfeiriodd at y ffaith bod nifer fawr o wiwerod coch yn ardal Llys Dulas. Roedd o'r farn bod angen difa'r Gwiwerod Llwyd i amddiffyn dyfodol Gwiwerod Coch. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, er bod difa'r Gwiwerod Llwyd yn opsiwn, ei bod yn amhosibl atal gwiwerod llwyd rhag dod yma o'r tir mawr.  Dywedodd fod y brechlyn i amddiffyn y Gwiwerod Coch yn flaenoriaeth. 

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r cynnig bod Cyngor Sir Ynys Môn yn galw ar Lywodraeth Cymru, fel mater o frys, i gymryd y camau angenrheidiol i gomisiynu sefydliad priodol i gynnal ymchwil brechu er mwyn amddiffyn gwiwerod coch rhag brech y wiwer.

 

 

6.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddeisebau.

 

7.

Rheoli'r Trysorlys - Adolygiad Canol Blwyddyn 2025/26 pdf eicon PDF 555 KB

Cyfwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 16 Rhagfyr 2025.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 16 Rhagfyr, 2025 i'w dderbyn gan y Cyngor.

 

Penderfynwyd yn unfrydol i dderbyn Adroddiad yr Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli’r Trysorlys ar gyfer 2025/2026.

 

8.

Strategaeth Gyfalaf 2026 -2031 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd ‘r Pwyllgor Gwaith ar 27 Ionawr 2026.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 27 Ionawr, 2026 i'w dderbyn gan y Cyngor.

 

Penderfynwyd yn unfrydol i dderbyn y Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2026-2031.

9.

Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2026/27 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Chwefror 2026.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 24 Chwefror, 2026 i'w dderbyn gan y Cyngor.

 

Penderfynwyd yn unfrydol i gymeradwyo’r Datganiad o Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2026/2027.

 

10.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2026/2027 pdf eicon PDF 227 KB

·                 Cyllideb Refeniw 2026/27

 

             Cyflwyno adroddad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog

     Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Chwefror 2026.

 

·                 Cyllideb Gyfalaf 2026/27

 

            Cyflwyno adroddad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog

    Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Chwefror 2026.

 

·        Newid i Polisi Dewisol Treth Cyngor

 

Cyflwyno adroddad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog

    Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Chwefror 2026.

 

·                 Gosod y Dreth Gyngor 2026/27

 

              Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swydogaeth (Adnoddau)/Swyddog

          Adran 151.

 

 Cynnig Cyllideb Amgen yr Wrthblaid

 

 I gyflwyno ar gyfer ystyriaeth y Cyngor,  gwelliant yr wrthblaid i gynigion cyllideb terfynol y Pwyllgor Gwaith yn unol ag adran 4.3.2.2.11 y cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 24 Chwefror, 2026 i'w dderbyn gan y Cyngor.

 

Yn absenoldeb y Dirprwy Arweinydd a Deiliad Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y gyllideb arfaethedig wedi bod yn destun trafodaethau helaeth a oedd yn cynnwys craffu gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol mewn dau gyfarfod ar wahân ynghyd â Sesiwn Briffio Aelodau ym mis Hydref 2025 a mis Ionawr, 2026 a'r Panel Sgriwtini Adnoddau. Nododd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei setliad dros dro ym mis Tachwedd 2025, ac y byddai Ynys Môn yn derbyn cynnydd o 2.3%.  Ychwanegwyd £112.8m arall at gyllid llywodraeth leol ym mis Rhagfyr 2025, gan Lywodraeth Cymru a derbyniwyd setliad terfynol o 4.16% gan y Cyngor hwn.  Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd yn y ganran o fewn y setliad gan Lywodraeth Cymru, mae'n dal i fod yn sefyllfa ariannol heriol wrth ddarparu ar gyfer y galw cynyddol am y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.   Dywedodd yr Arweinydd ymhellach y bydd yr aflonyddwch yn y Dwyrain Canol yn sicr yn dylanwadu ar yr economi a chwyddiant ynghyd â phwysau ychwanegol ar y setliad gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.  Dywedodd fod y cynigion yn cynnwys cyllideb refeniw net o £207.029 miliwn, cynnydd o 5.1% yn y Dreth Gyngor a fydd yn codi tâl Band D i £1,792.98, defnyddio £1.685 miliwn o gronfeydd wrth gefn i helpu i gydbwyso'r gyllideb a pharhau gyda phremiwm y Dreth Gyngor o 100% ar ail gartrefi a chartrefi gwag. Mae'r cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor yn debyg i’r cynnydd cenedlaethol ac yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf, Ynys Môn fydd â'r cyfraddau isaf o ran y Dreth Gyngor yng Ngogledd Cymru o hyd.  Serch hynny, derbynnir y bydd y cynnydd yn y Dreth Gyngor yn effeithio ar rai pobl a dywedodd fod cymorth ar gael drwy'r Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn ogystal â chyngor hefyd drwy Ganolfan J E O'Toole neu Gyngor ar Bopeth.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ymhellach mai'r Cyngor hwn yw'r Awdurdod cyntaf yng Nghymru i sicrhau Rhyddhad Dewisol y Dreth Gyngor i aelwydydd sydd â phreswylydd sydd â salwch terfynol. Nododd fod y Cynghorydd Jeff Evans wedi codi'r mater yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor Sir ym mis Rhagfyr 2025 a oedd yn fenter gan Elusen Marie Curie. 

 

Cynigiodd Arweinydd y Cyngor yr argymhellion i'r Cyngor llawn fel y gwelir yn (a), (b) ac (c) o'r adroddiadau.

 

Rhoddwyd cyfle i'r aelodau wneud sylwadau a gofyn cwestiynau. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor i gwestiynau a materion a godwyd gan y Cyngor fel a ganlyn:-

 

·         Dywedodd Aelod nad yw'r cynnydd parhaus sy'n wynebu trigolion Ynys Môn yn gynaliadwy.  Mae'r Dreth Gyngor wedi cynyddu ers 2022, gyda chynnydd o 9.5% yn 2024, 8.5% yn 2025 ac mae'r cynnig ar gyfer 2026/27 yn gynnydd pellach o 5.1%. Mae hyn yn cyfateb i dros 20% o gynnydd dros y blynyddoedd.  Mae'r cynnydd sy'n wynebu trigolion yn digwydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Diwygio’r Cyfansoddiad - Cymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor yn Derfynol pdf eicon PDF 189 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Chwefror 2026.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 24 Chwefror, 2026 i'w dderbyn gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r newid arfaethedig i Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn rhoi’r hawl i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor, yn hytrach na’r Cyngor, gymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor.

 

12.

Cydbwysedd Gwleidyddol Pwyllgorau pdf eicon PDF 335 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i'w gymeradwyo'r Cyngor.

 

Penderfynwyd yn unfrydol:

 

·         Bod y Cyngor yn cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar gyfer dyrannu seddi ar bwyllgorau fel yr amlinellwyd yn Atodiad A.

·         Bod y seddi gwag yn cael eu dynodi i’r ddau aelod unigol.

·         Bod Arweinyddion Grwpiau yn hysbysu’r Pennaeth Democratiaeth cyn gynted ag y bo modd os bydd unrhyw newid o ran aelodaeth Grwpiau ar Bwyllgorau.

 

 

13.

Datganiad Polisi Trwyddedu 2026 - 2031 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Chwefror 2026.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 24 Chwefror, 2026 i'w dderbyn gan y Cyngor.

 

Penderfynwyd yn unfrydol i fabwysiadu'r Datganiad Polisi Trwyddedu ar gyfer 2026-2031.

 

14.

Datganiad Polisi Tâl 2026 pdf eicon PDF 170 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Adnoddau Dynol, Cyfathrebu a Phrofiad Cwsmer.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Adnoddau Dynol, Cyfathrebu a Phrofiad Cwsmeriaid i'w dderbyn gan y Cyngor.

 

Adroddodd Arweinydd y Cyngor fod Deddf Lleoliaeth 2011, Adran 38, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr baratoi a chyhoeddi Datganiad o Bolisi Tâl ar gyfer pob blwyddyn ariannol.  Pwrpas yr adroddiad yw amlinellu dull y cyngor o bennu tâl ei weithwyr. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Douglas M Fowlie nad oes modd cyfiawnhau'r strwythur cyflog ar gyfer yr uwch dîm rheoli, yn enwedig yn ystod y cyfyngiadau ariannol presennol.

 

Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y strwythur cyflog yn cael ei osod yn annibynnol drwy'r Cyd-bwyllgor Cenedlaethol.  Nododd fod cyfrifoldebau sylweddol yn rhan o rolau yr uwch reolwyr a bod angen strwythur cyflog o'r fath er mwyn gallu denu gweithwyr i'r rolau hyn. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad o Bolisi Tâl y Cyngor ar gyfer 2026/2027.