Rhaglen a chofnodion

Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 10fed Hydref, 2013 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr John Gould 

Eitemau
Rhif. Eitem

Cyflwyniadau – Gemau’r Ynysoedd

Cyflwynodd Cadeirydd y Cyngor yr athletwyr canlynol fu’n llwyddiannus yn dilyn cystadlu yn y Gemau’r Ynysoedd yn Mermwda fis Gorffennaf 2013 ac yn y digwyddiadau saethyddiaeth yn Ynys Guernsey, gyda gwobr ar ran y Cyngor:-

 

Sarah Livett – Medal Arian –5000m Merched

Connor Laverty - Medal Efydd – Taflu’r maen Dynion

Sophie Lewis - Medal Efydd -100m Merched

Iolo Hughes – Medal Aur–5000m Dynion

Rheon Jones – Medal Arian –400m Clwydi Dynion

Aled Thomas, Connor Laverty, Chris Mcnaught, Michael Bland – Efydd Tim – 4x100m Dynion

Aled Thomas, Michael Bland, Chris Mcnaught, Rheon Jones -  Efydd Tîm - 4 x 400m Dynion

Dyfrig Mon – Medal Efydd – Hwylio Rig Safon Laser

Eifion Môn - Medal Aur - Hwylio Rig Safon Laser

Bleddyn Môn - Medal Arian – Hwylio Rig Safon Laser

Mike Thorne, Dyfrig Mon, Bleddyn Mon, Eifion Mon – Medal Aur – Tim Hwylio

Nigel Mathers (Rheolwr Tîm a Chydlynydd Chwaraeon), Val Bamber, John Bamber, Richard Mathers - Medal Efydd - Tîm Saethyddiaeth

Val Bamber - Medal Efydd - Tîm Saethyddiaeth Bwa Compownd

 

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 237 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

·         16 Ebrill, 2013 (Arbennig)

·         23 Mai, 2013 (Arbennig) (10.00 am)

·         23 Mai, 2013 (11.00 am)

·         23 Mai, 2013 (Cyfarfod Blynyddol Cyntaf) (2.00 pm)

·         30 Mai, 2013 (Cyfarfod Blynyddol a Ohiriwyd)

·         18 Mehefin, 2013 (Arbennig)

·         15 Gorffennaf, 2013 (Arbennig)

·         26 Medi, 2013 (Arbennig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfodydd canlynol o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol :-

 

·         16 Ebrill 2013 (Arbennig)

·         23 Mai 2013 (Arbennig)(10:00am)

·         23 Mai 2013 (11:00am)

·         23 Mai 2013 (Cyfarfod Blynyddol Cyntaf)(2:00pm)

·         30 mai 2013 (Cyfarfod Blynyddol wedi’i gohirio)

·         18 Mehefin 2013 (Arbennig)

·         15 Gorffennaf 2013 (Arbennig)

·         26 Medi 2013 (Arbennig)

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y cofnodion o’r cyfarfodydd o’r Cyngor Sir.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr canlynol ddiddordeb yn eitemau 14/15 o’r cofnodion hyn ac nid oeddent yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidleisio ar y mater:-

 

Richard Owain Jones – perthynas teuluol – cymhorthydd amser cinio

Ieuan Williams – chwaer-yng-nghyfraith, gofalwr cartref

K.P.Hughes – yn perthyn i gyn aelod staff oedd yn ofalwr cartref

Llinos M.Huws – chwaer-yng-nghyfraith wedi gweithio fel cymhorthydd brecwast

Trefor Lloyd Hughes – ei wraig yn gweithio i’r Cyngor

Bob Parry, OBE – perthnasau yn gweithio i’r Cyngor.

 

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, yr Arweinydd, Aelodau’r Pwyllgor Gwaith neu’r Prif Weithredwr

Cofnodion:

Llongyfarchiadau i’r rhai o’r Ynys a fu’n llwyddiannus yr haf hwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych, Sioe Môn a Sioe Amaethyddol Frenhinol – Llanelwedd. 

 

Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i’r disgyblion ysgolion uwchradd a fu’n llwyddiannus yn eu harholiadau TGAU a Lefel ‘A’. Dymunwyd y gorau iddynt i’r dyfodol a phob llwyddiant i rai oedd yn cychwyn yn y colegau.

 

Estynwyd llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Aled Morris Jones a dderbyniodd Aelodaeth Bywyd er Anrhydedd Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn ystod yr haf.  Derbyniodd yr aelodaeth er anrhydedd am ei waith fel cyn Ysgrifennydd y sioe.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Cynghorydd A. Morris Jones siarad gerbron y Cyngor ynglŷn â’r Ymgyrch Cofeb Gymreig yn Fflandrys.  Dywedodd mai Cymru oedd yr unig genedl nad oedd â chofeb i rai oedd wedi eu lladd yn ystod Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd darn o dir wedi ei ddarparu gan ddinas Ypres, lle'r oedd Hedd Wyn wedi marw ar ôl ei glwyfo.  Gofynnodd yn barchus i’r aelodau godi ymwybyddiaeth am yr ymgyrch yn eu Cynghorau Cymuned a Thref perthnasol.  Roedd yn gwerthfawrogi ei bod yn amser anodd yn ariannol ond roedd un Cyngor Cymuned eisoes wedi addo £200 i’r apêl gyda Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn cyfrannu at y targed o £90k.

 

Byddai draig ar ben cromlech yn cael ei dadorchuddio, fe obeithir fis Awst nesaf.  Gofynnodd yn barchus hefyd i’r Arweinydd godi’r mater yng nghyfarfod nesaf Arweinyddion Gogledd Cymru, sef y dylai pob Cyngor Sir ystyried gwneud cyfraniad tuag at y gofeb.

 

Estynnwyd dymuniadau gorau i’r Cynghorydd Jeff Evans oedd a’i wraig a’i ferch heb fod yn dda ar hyn o bryd.

 

Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad llwyraf i’r Cynghorydd Carwyn Jones ar farwolaeth ei nain.

 

Estynnwyd cydymdeimlad hefyd â theulu Dr. Sian Owen, Archdderwydd Gweinyddol Gorsedd Beirdd Ynys Môn, gyda’i hangladd wedi ei gynnal ddoe ac i deulu 7fed Marcwis Môn, George Charles Henry Victor Paget fu farw’n dawel yn ei gartref, Plas Newydd fis Gorffennaf, yn 90 oed.

 

Roedd yn drist clywed bod Mr. Hugh Astley, cyn Aelod o Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn wedi marw fore heddiw.  Roedd yn cynrychioli ardal Llantrisant.  Yn wreiddiol o Lanfair Caereinion, roedd yn ddiweddar wedi ymddeol i fyw ym Menllech.  Roedd yn gyn Gadeirydd Undeb Ffermwyr Cenedlaethol Ynys Môn a hefyd yn gyn Lywydd Pwyllgor Da Byw Cymru.  Roedd yn gyn Lywydd Sioe Amaethyddol Môn ac roedd ar y blaen yn y byd amaethyddol a gyda sefydliad y Ffermwyr Ifanc.

 

Cydymdeimlwyd hefyd ag unrhyw Aelod o’r Cyngor neu staff oedd wedi dioddef profedigaeth.  Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion mewn teyrnged ddistaw fel arwydd o barch.

 

4.

Cofnodion er gwybodaeth – Bwrdd Gwella a Chynaliadwyedd pdf eicon PDF 123 KB

Cyflwyno er gwybodaeth, gofnodion y cyfarfod o Fwrdd Gwella a Chynaliadwyedd Ynys Môn a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn:-

 

·        27 Mehefin, 2013

·        23 Medi, 2013

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er gwybodaeth, gofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Gwella a Chynaliadwyedd Ynys Môn a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:

 

·        27Mehefin, 2013

·        23Medi, 2013

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y cofnodion o’r cyfarfod o’r Bwrdd Gwella a Chynaliadwyedd.

5.

Cyflwyno Deisebau

Byddy Prif Weithredwr yn cyflwyno deiseb i Gadeirydd y Cyngor gan UNISON gydag oddeutu 406 wedi ei harwyddo yn gwrthwynebu cau Caffi Môn.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddeiseb i Gadeirydd y Cyngor gan UNSAIN gydag oddeutu 406 llofnod yn gwrthwynebu cau Caffi Môn.  Dywedodd ymhellach y byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar yr adolygiad a wnaed o gantîn y prif swyddfeydd.

 

PENDERFYNWYD bod y mater yn cael ei gyfeirio i’r Pwyllgor Gwaith i’w benderfynu.

6.

Adolygiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2012-13 pdf eicon PDF 546 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau).

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad gan y Deilydd Portffolio - bod angen i’r Cyngor yn unol â rheoliadau a ryddhawyd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 gynhyrchu adolygiad Rheoli’r Trysorlys yn flynyddol yn adrodd am weithgareddau ac am y dangosyddion pwyllog a thrysorlys am 2012-13.  Roedd yr adroddiad hwn yn bodloni gofynion Côd Ymarfer CIPFA ar Reoli’r Trysorlys (y Côd) a hefyd Gôd Pwyllog CIPFA ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Côd Pwyllog) ac yn cynnwys hefyd y perfformiad yn benthyca ac yn buddsoddi yn ystod y flwyddyn.

 

Roedd y Pwyllgor Archwilio wedi ystyried yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 23 Gorffennaf 2013 ac wedi penderfynu derbyn ei gynnwys a’i gyfeirio i’r Cyngor Sir.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad hwn a oedd wedi ei sgriwtineiddio gan y Pwyllgor Archwilio.

 

7.

Adroddiad Gwella – Adolygu Perfformiad 2012-13 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi).

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad gan y Deilydd Portffolio - Bod rhaid i’r Cyngor gasglu a chyhoeddi ei Adroddiad Perfformiad blynyddol erbyn 31 Hydref yn flynyddol - yn dogfennu ac yn dadansoddi perfformiad y gorffennol dros y flwyddyn ariannol.  Roedd y papur hwn yn delio â chynhyrchu’r Adroddiad Perfformiad ‘Drafft’ am 2012/13, a oedd yn edrych yn ôl dros berfformiad y Cyngor yn 2012/13 ac a gyflwynwyd fel crynodeb byr o’r prif benawdau oedd i’w gweld o fewn y ddogfen Adroddiad Perfformiad.

 

Cyflwynwyd yr Adroddiad Perfformiad i’r Cyngor llawn i’w gymeradwyo cyn ei olygu’n derfynol a’i brawf ddarllen yn ystod Hydref 2013.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth (Polisi) mewn ymgynghoriad â’r Deilydd Portffolio a Rheolwr Busnes y Pwyllgor Gwaith i gwblhau gwaith golygu’r drafft uchod a phrawf ddarllen Adroddiad Perfformiad 2012/13 i’w gyhoeddi yn unol â’r amser cau statudol ddiwedd mis Hydref, 2013.

8.

Asesiad Gwella Cyngor Sir Ynys Môn – Llythyr 1 pdf eicon PDF 301 KB

Cyflwyno adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.

Cofnodion:

Adroddwyd gan Mr. Andy Bruce - Bod rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (y Mesur) adrodd yn ôl ar ei waith archwilio ac asesu i nodi a oedd Cyngor Sir Ynys Môn (y Cyngor) wedi cyflawni ei ddyletswyddau ac wedi bodloni gofynion y Mesur.

 

Roedd y cyflwyniad i’r Cyngor heddiw yn darparu’r casgliadau canlynol :-

 

·         Nid oedd Swyddfa Archwilio Cymru yn gallu dweud a oedd y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau cynllunio gwella o dan y Mesur gan nad oedd y Cyngor eto wedi cyhoeddi ei Gynllun Gwella ar gyfer y flwyddyn hon.

·         Yn seiliedig ar, ac yn gyfyngedig, i waith a wnaed hyd yn hyn gan Swyddfa Archwilio Cymru a rheoleiddwyr perthnasol, roedd y Cyngor yn debygol o gydymffurfio gyda’r gofynion i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus yn ystod y flwyddyn ariannol.

·         Mae’r Cyngor yn awr mewn gwell lle i ddarparu gwelliannau cynaliadwy hirdymor ac mae’r cynnydd y mae eisoes wedi ei wneud wedi golygu bod ymyrraeth Llywodraeth Cymru wedi dod i ben fis Mai 2013.

·         Mae rhaglen wella uchelgeisiol y Cyngor yn cael ei chefnogi gan fframwaith rheoli rhaglen briodol ac mae’n adlewyrchu’r ymgynghori a fu gyda dinasyddion Ynys Môn. 

·         Er yr heriau sylweddol a pharhaol, mae’r Cyngor yn rheoli ei sefyllfa ariannol yn gadarn ac yn gyfrifol.

·         Gwelwyd gwelliant mewn nifer o wasanaethau allweddol ond mae yna wendidau mewn rhai meysydd a bydd yn rhaid i’r Cyngor fynd i’r afael â hwy.

·         Mae’r Cyngor wedi gwella ei brosesau ar gyfer datblygu ei ddatganiad llywodraethu blynyddol ond mae’n cydnabod bod mwy i’w wneud.

·         Ymgysylltodd y Cyngor yn dda gyda Chynghorau eraill yng Ngogledd Cymru a chyda Swyddfa Archwilio Cymru yn ystod ein hastudiaeth wella yn ddiweddar ar effeithlonrwydd sgriwtini.

·         Gwelwyd cynnydd cyson gyda gweithredu’r rhan fwyaf o’r cynigion i wella a nodwyd yn asesiad blaenorol Swyddfa Archwilio Cymru. 

 

Byddai Archwilydd Cyffredinol Cymru yn diweddaru ei safbwyntiau yn ystod y flwyddyn ac yn darparu llythyr pellach erbyn diwedd mis Tachwedd 2013.

 

PENDERFYNWYD derbyn cynnwys y Llythyr Asesu Perfformiad.

9.

Cydbwysedd Gwleidyddol pdf eicon PDF 201 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd ar y trefniadau cydbwysedd gwleidyddol yn dilyn lleihad yn aelodaeth y grwp a sefydlu pwyllgorau ychwanegol.

 

Roedd y newidiadau arfaethedig wedi eu hamlygu ar y matrics oedd ynghlwm i’r adroddiad.  Roedd y matrics hefyd yn dangos y ddau bwyllgor newydd a sefydlwyd gan y Cyngor ar 26 Medi i fod â chydbwysedd gwleidyddol - Pwyllgor Ymchwilio a Phwyllgor Disgyblu.  Roedd hyn yn cynyddu cyfanswm nifer y seddi oedd ar gael i’w dyrannu o 114 i 120.  Yn unol ag egwyddorion cydbwysedd gwleidyddol a chonfensiynau lleol, byddai un sedd yn cael ei dyrannu ar bob un o’r ddau bwyllgor newydd hyn i’r Grŵp Annibynnol ac i Blaid Cymru ac 1 i Grŵp Llafur ar un o’r Pwyllgorau hynny.  Trwy gonfensiwn byddai’r sedd oedd ar ôl angen ei dyrannu i aelod digyswllt er mwyn cyrraedd uchafswm nifer y seddi oedd ar gael i’w dyrannu (120).

 

Yn unol â phrotocolau rheolaeth wleidyddol, roedd y trefniadau rheolaeth wleidyddol newydd [gan gymryd i ystyriaeth y lleihad yn aelodaeth y Grŵp Annibynnol a sefydlu 2 Bwyllgor newydd] wedi ei drafod gydag Arweinyddion y Grwpiau.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a’r nifer o seddi a ddyrannwyd i bob un o’r grwpiau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, a niferoedd y seddi a roddir trwy ddefod ac ymarfer i’r Aelodau nad ydynt yn destun cydbwysedd gwleidyddol fel oedd wedi ei nodi yn y matrics.

2.    Yn unol ag argymhelliad 1 uchod, bod yr Arweinydd mewn ymgynghoriad ag Arweinyddion y Grwpiau yn penderfynu ar y dyraniad o seddau i Aelodau Ddigyswllt yn codi o’r newidiadau hyn ac yn hysbysu’r Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor o hynny.

3.    Bod cais i Arweinyddion Grwpiau ddarparu manylion o aelodaeth y Pwyllgorau i’r Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor mor fuan ac oedd yn bosibl yn unol â’r newidiadau oedd wedi eu hamlygu yn yr adroddiad hwn.

 

10.

Darlledu Cyfarfodydd pdf eicon PDF 232 KB

  • Cyflwyno adroddiad Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd fel y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2013.

 

  • Dweud fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2013 wedi penderfynu argymell yr isod i’r Cyngor Sir:-

 

Symud ymlaen i weddarlledu cyfarfodydd am gyfnod arbrofol o ddwy flynedd er mwyn defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru;

 

Mai cyfarfodydd y Cyngor Sir llawn, y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion fydd y cyfarfodydd a fydd yn cael eu gweddarlledu fel rhan o’r cynllun peilot;

 

Rhoi’r awdurdod i Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd a’r Rheolwr TGCh i brynu’r offer angenrheidiol yn seiliedig ar ddatrysiad wedi ei letya;

 

Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â mynediad o bell fel y manylir arni yn yr adroddiad.” 

Cofnodion:

·         Cafwyd adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd a’r Rheolwr TGCh – Bod gweddarlledu cyfarfodydd wedi ei gysylltu i’r ddarpariaeth o fewn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 i gryfhau democratiaeth leol; y bwriad oedd cryfhau strwythurau a gwaith Llywodraeth Leol yng Nghymru ar bob lefel a sicrhau bod pob Cyngor lleol yn estyn allan ac yn ymgysylltu gyda phob adran o’r gymuned y maent yn ei gwasanaethu.  Nid oedd gweddarlledu yn anghenraid deddfwriaethol ond roedd yn cael ei gefnogi’n gryf gan Lywodraeth Cymru.

·          

·         Byddai gweddarlledu yn caniatáu i gyfarfodydd o’r Cyngor fod ar gael i’w weld trwy gyfryngau ffrydiol.  Byddai’r wefan yn caniatáu i’r cyhoedd weld y cyfarfodydd yn fyw neu yn nes ymlaen drwy’r gwefannau  drwy archif, a’r cyfan byddai’n rhaid i’r gynulleidfa ei gael fyddai dyfais gyda chysylltiad i’r rhyngrwyd.  Roedd rhyngwyneb gyda systemau rheoli Modern.gov yn cael ei ystyried i hwyluso ymgysylltu.

·          

·         Roedd yr adroddiad hefyd yn ystyried y materion canlynol:

·          

·        Manteision

·        Goblygiadau adnoddau

·        Staffio ac Aelodau

·        Risgiau

·          

·         PENDERFYNWYD:

·          

·        Canlyn ymlaen gyda Gweddarlledu cyfarfodydd am gyfnod peilot o 2 flynedd er mwyn defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru;

·         

·        Awdurdodi’r Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd a Rheolwr TGCh i gaffael yr offer angenrheidiol yn seiliedig ar ateb lletyol.

·         

·         

·        Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â mynediad o bell fel oedd wedi ei nodi yn yr adroddiad.

 

11.

Cytundeb Darparu Cynllun Datblygu Lleol wedi ei Adolygu pdf eicon PDF 60 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd).

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) ar amserlen ddiwygiedig ar gyfer Cytundeb Darparu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd er mwyn cael caniatâd y Cyngor cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Pan gymeradwywyd yr amserlen newydd gan y ddau Gyngor ac yna ei gefnogi gan y Llywodraeth, byddai’n cael ei gyhoeddi ar wefan y ddau Gyngor a’i osod mewn llefydd cyhoeddus, fel llyfrgelloedd cyhoeddus lleol a swyddfeydd y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo amserlen ddiwygiedig ar gyfer Cytundeb Darparu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, y bydd yn rhaid ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w arwyddo.

12.

Dirprwyaethau pdf eicon PDF 72 KB

Bydd y Prif Weithredwr yn cyflwyno er gwybodaeth, adroddiad ynglŷn ag unrhyw newidiadau i’r cynllun dirprwyo mewn perthynas â swyddogaethau’r Pwyllgor Gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith neu’r Arweinydd ers y cyfarfod Cyffredin diwethaf (gweler Rheol 4.4.1.1.2 Rheolau Gweithdrefn y Pwyllgor Gwaith yn y Cyfansoddiad).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er gwybodaeth – Adroddiad gan y Prif Weithredwr yn nodi unrhyw newidiadau i’r cynllun dirprwyo yn ymwneud â swyddogaethau’r Pwyllgor Gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith neu’r Arweinydd ers y cyfarfod cyffredin diwethaf.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

13.

Cau allan y Wasg a’r Cyhoedd

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.  

Cofnodion:

PENDERFYNWYD dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

14.

Prawf Diddordeb Cyhoeddus - Hawliad Tâl Cyfartal pdf eicon PDF 47 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y cynnwys gan y Cyngor.

 

15.

Hawliad Tâl Cyfartal

Cyflwyno diweddariad llafar gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

Cofnodion:

·         Cyflwynwyd – Diweddariad yn llafar ar y cynnydd gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol).

·          

·         Cafwyd cyngor cyfreithiol gan y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol) yn nodi a ddylai aelodau ddatgan diddordeb ai peidio yn y mater hwn.

·          

·         PENDERFYNWYD

·          

·        Bod awdurdod yn cael ei roi i swyddogion i barhau i negodi’r hawliau tâl cyfartal yn unol â’r opsiwn a ffefrir ac a drafodwyd yng nghyfarfod heddiw.

·        Bod awdurdod yn cael ei roi i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i wneud cais ar fyrder am y cronfeydd cyfalafu perthnasol i Lywodraeth Cymru.