Rhaglen a chofnodion

Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 5ed Rhagfyr, 2013 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr John Gould 

Eitemau
Rhif. Eitem

Cyflwyniad - Tour de Môn

Cyflwynodd y y Prif Swyddog Datblygu Twristiaeth a’r Aelod Portffolio ar gyfer Datblygu Economaidd, Twristiaeth a Hamdden fideo fer ar ras feics y ‘Tour de Môn’ a gynhaliwyd ar 1 Medi 2013, ynghyd ag adolygiad o’r digwyddiadau a gynhaliwyd ar yr Ynys yn 2013.

 

Dywedodd yr Is-Gadeirydd y byddai’r Cadeirydd, sef y Cynghorydd G. O. Jones, ynghyd â’r Cynghorydd Bob Parry OBE yn hwyr ar gyfer y cyfarfod oherwydd eu bod wedi mynd i angladd Mr. Dennis Burns, gŵr y cyn-Gynghorydd Mrs Bessie Burns.

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 49 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

·         10 Hydref 2013 (11:30am) (Arbennig)

·         10 Hydref 2013 (2:00pm)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod fel rhai cywir:-

 

·         10Hydref, 2013 (11:30am) (Arbennig)

·         10Hydref, 2013 (2:00pm)

 

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y dyddiadau uchod, yn amodol ar nodi y bu’r Cynghorydd Dylan Rees yn bresennol yn y cyfarfod a gynhaliwyd yn y bore, ond ei fod wedi ymddiheuro am absenoldeb ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd yn y prynhawn.

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen.

Cofnodion:

Dim.

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor, y Pwyllgor Gwaith neu’r Prif Weithredwr

Cofnodion:

Estynnodd y Prif Weithredwr ei longyfarchiadau i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r isod:-

 

Cynhaliodd y Gwasanaethau Oedolion ddau rwydwaith cenedlaethol pwysig ddiwedd y mis diwethaf. Y cyntaf oedd y Strategaeth Cymru Gyfan ar gyfer y Rhwydwaith Cydlynwyr Pobl Hŷn a oedd yn cyfarfod ar yr Ynys ar 18 Tachwedd.  Roedd y rhwydwaith yn cynnwys uwch swyddogion o Gyfadran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Adran Cydraddoldeb Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Arweinydd Heneiddio’n Dda yng Nghymru o Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn.  Roeddent yn trafod materion megis Awdurdodau Lleol yn arwyddo Datganiad Dulyn [a lofnodwyd gennym ni ym mis Medi 2013] a’r rhaglen o waith ynghylch y Rhwydwaith Heneiddio’n Dda yng Nghymru.

 

Yn ail, ar 19 Tachwedd, cynhaliodd Ynys Môn gyfarfod o’r Grŵp Llywio Cymunedau Oed-Gyfeillgar sy’n brosiect a ariennir gan INTERREG Iwerddon-Cymru ac sy’n dwyn ynghyd bum partner yn Iwerddon a Chymru i ddatblygu strategaethau sy’n pontio’r cenedlaethau (lleol a rhyngwladol) ac i dreialu gweithgareddau i annog cydlyniant cymunedol a chynhwysiant cymdeithasol.

 

Daeth y ddau rwydwaith cenedlaethol at ei gilydd ar gyfer y ddau ddiwrnod ar gyfer te rhwydweithio wedi ei arwain  gan Arweinydd y Cyngor, Cadeirydd y Cyngor a’r Eiriolwyr ar gyfer Pobl Hŷn a Gofalwyr.  Roedd presenoldeb yno o fudiadau cenedlaethol a chynrychiolwyr ein gwasanaethau lleol ar gyfer pobl hŷn (Heneiddio’n Dda, Fforwm Pobl Hŷn) yn ogystal â’r rheini sy’n manteisio ar ein prosiectau Heneiddio’n Dda yn lleol - er enghraifft Parc Mwd, y Fali a Rhandiroedd ym Menllech.

 

Ar 28 Tachwedd 2012 ymwelodd Carl Sargeant AC (Gweinidog Llywodraeth Cymru ar Adfywio a Thai) ag un o’r cynlluniau Tai â Chefnogaeth ar gyfer pobl sydd ag anghenion camddefnyddio sylweddau ac alcohol yn Llangefni.  Ariennir y Cynllun Eilianfa sydd wedi ei leoli yng nghanol y gymuned gan y Rhaglen Cefnogi Pobl.  Roedd yr ymweliad wedi ei drefnu yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru i ymweld â dau gynllun tai â chefnogaeth yng Ngogledd Cymru ar gyfer pobl sy’n camddefnyddio alcohol a sylweddau.  Y prosiect arall yr ymwelwyd ag ef oedd un yn Sir y Fflint.  Mae £18,194.16 yn cael ei fuddsoddi ar gyfer darparu gwasanaethau cefnogaeth sy’n ymwneud â thai i ddau berson yn Eilianfa, cynllun y mae Tai Eryri yn berchennog arno.  Darperir y gwasanaeth cefnogaeth gan CAIS fel sefydliad sy’n arbenigo mewn delio â phobl ag anghenion camddefnyddio alcohol a sylweddau.

 

Treuliodd y Gweinidog amser ar ei ben ei hun gyda’r ddau ddefnyddiwr gwasanaeth i drafod eu profiadau personol a’u profiad o fyw yno.  Roedd yn amlwg bod y ddau unigolyn, y cynllun a’r gefnogaeth wedi gwneud argraff dda arno.  Roedd yn ganmoliaethus iawn o’r cynllun a’r Rhaglen Cefnogi Pobl ar draws Cymru sy’n gyfrifol am 70% o’r gyllideb flynyddol y mae’n gyfrifol amdani. 

 

Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i’r Adran Dai mewn perthynas â’r isod:-

Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol llwyddiannus iawn gan Cymunedau’n Gyntaf Ynys Môn.  Dywedodd Cyfarwyddwr Adran Atal Tlodi Llywodraeth Cymru bod y cynllun hwn yn un blaenllaw ar gyfer Cymru a bod cyllid ychwanegol wedi ei ddarparu i sefydlu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

CWESTIYNAU A DDERBYNIWYD YN UNOL Â RHEOL 4.1.12.2 Y CYFANSODDIAD

  • Cyflwyno’r cwestiwn isod y cafwyd rhybudd ohono gan y Cynghorydd Bob Parry OBE i Arweinydd y Cyngor:

 

“A ydyw y Cyngor yn fodlon sefydlu panel tros-bleidiol i fod yn barod i ymateb i adroddiad Williams ar dorri lawr y nifer o gynghorau yng Nghymru?”

 

  • Cyflwyno’r cwestiwn isod y cafwyd rhybudd ohono gan y Cynghorydd Bob Parry OBE i’r Aelod Portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol:

 

“Faint o denantiaid tai cyngor sydd wedi cael eu troi o’u cartrefi oherwydd methu â thalu’r dreth ystafell wely?”

 

  • Cyflwyno’r cwestiwn isod y cafwyd rhybudd ohono gan y Cynghorydd Trevor Ll Hughes i’r Aelod Portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol:

 

“Buaswm yn hoffi gwybod mewn manylder beth yw’r diweddaraf ynghlwm â chau cartrefi henoed y Cyngor Sir yn Ynys Môn yn arbennig cartref Garreglwyd, Caergybi gyda manylion o wybodaeth  cyfarfodydd gyda staff y cartref i egluro’r sefyllfa iddynt”.

Cofnodion:

  Cyflwynwyd - y cwestiwn isod y cafwyd rhybudd ohono gan y Cynghorydd  Bob Parry, OBE, i Arweinydd y Cyngor:-

 

“A ydyw’r Cyngor yn fodlon sefydlu panel trawsbleidiol i fod yn barod i ymateb i adroddiad Williams ar leihau nifer y cynghorau yng Nghymru?”

 

Yn ei ymateb dywedodd Arweinydd y Cyngor:-

 

“Rwy’n meddwl ei fod yn beth call iawn i sefydlu Panel Trawsbleidiol.  Rwy’n ystyried ei fod ychydig yn gynamserol.  Adolygiad ydyw o’r sector cyhoeddus ac nid gostwng nifer y Cynghorau.”

 

Gofynnwyd y cwestiwn atodol isod gan y Cynghorydd Bob Parry, OBE:-

 

“Rwy’n parhau i lynu wrth yr un cwestiwn oherwydd rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn barod, oherwydd bod rhai pethau yn yr adroddiad sy’n ymwneud â syniadau ynghylch gostwng nifer y Cynghorau.  Rwy’n meddwl bod angen i ni sefydlu Panel pan fo’r amser yn iawn.”

 

Yn ei ymateb dywedodd yr Arweinydd:-

 

“Rwy’n meddwl eich bod wedi fy nghamddeall.  Rwy’n credu y byddai’n beth call i ni ei wneud ac rwy’n cytuno ac mi fyddwn yn gwneud hynny.  Diolch.”

 

  Gofynnodd y Cynghorydd Bob Parry OBE y cwestiwn isod i’r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai:-

 

Faint o denantiaid tai cyngor sydd wedi cael eu troi o’u cartrefi oherwydd methu â thalu’r dreth ystafell wely?”

 

Yn ei ymateb dywedodd y Cynghorydd K. P. Hughes, Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai:

 

“Mewn ymateb i’ch cwestiwn, nid ydym hyd yma wedi troi unrhyw denantiaid allan o’u cartrefi oherwydd eu hanallu i dalu’r dreth ystafell wely.  Dim ond pan fo popeth arall wedi methu y byddwn yn troi tenantiaid allan ac mae’r Awdurdod ac asiantaethau partner yn gwneud popeth y gallont i sicrhau bod tenantiaid yn gallu cadw eu tenantiaethau.  Cyn i ni fynd i lawr y lôn hon bydd yr Adran Dai yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith.”

 

Gofynnwyd y cwestiwn atodol isod gan y Cynghorydd Bob Parry, OBE:-

 

“Diolch.  Rwy’n falch y bydd adroddiad yn dod i’r Pwyllgor Gwaith oherwydd rwy’n meddwl bod rhai Cynghorau eisoes wedi cymryd camau i geisio goresgyn y broblem hon.  Ond y cwestiwn yr oeddwn yn mynd i’w ofyn oedd pan fo’r Adran Dai yn gosod tai ydyn nhw’n fwy gofalus i beidio â gosod tai tair ystafell wely i un person?”

 

Yn ei ymateb dywedodd y Cynghorydd K. P. Hughes:-

 

“Ydynt.  Rwy’n credu bod rhaid iddynt fod yn fwy gofalus am resymau amlwg oherwydd nid ydym am i’r broblem hon godi.”

 

  Cyflwynwyd – y cwestiwn isod y cafwyd rhybudd ohono gan y Cynghorydd Trevor Lloyd Hughes i’r Aelodau Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai:-

 

Buaswn yn hoffi gwybod, mewn manylder, beth yw’r diweddaraf ynghylch cau cartrefi henoed y Cyngor Sir yn Ynys Môn yn arbennig cartref Garreglwyd, Caergybi, gyda manylion am gyfarfodydd a gafwyd gyda staff y cartref i egluro’r sefyllfa iddynt”.

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, y Cynghorydd K. P. Hughes:-

 

“Fe benderfynodd y Cyngor yn ystod Gorffennaf 2013 i dderbyn y negeseuon a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cofnodion er gwybodaeth – Bwrdd Gwella a Chynaliadwyaeth pdf eicon PDF 153 KB

Cyflwyno er gwybodaeth, gofnodion y cyfarfod o Fwrdd Gwella a Chynaliadwyaeth Ynys Môn a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2013.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er gwybodaeth, gofnodion y cyfarfod o Fwrdd Gwella a Chynaliadwyaeth Ynys Môn a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2013.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y cofnodion.

6.

Cynllun Corfforaethol 2013-17 pdf eicon PDF 603 KB

(a)Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr.

 

(b)Cyflwyno sylwadau’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2013.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr ar y Cynllun Corfforaethol drafft ar gyfer 2013-17 oedd yn cynnwys nod y Cyngor, y meysydd y byddai’n canolbwyntio arnynt a’r canlyniadau y byddai’r Awdurdod yn gweithio tuag atynt er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau dinasyddion Ynys Môn dros y 4 blynedd nesaf.

 

Cafwyd adroddiad llafar gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Llywodraethu Corfforaethol bod y Pwyllgor Gwaith ar 2 Rhagfyr 2013, yn dilyn ystyried y Cynllun wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir :-

 

“Ei fod yn derbyn bod y Cynllun Corfforaethol drafft yn gosod allan raglen y Cyngor am weddill y tymor hyd at 2017 ac awdurdodi swyddogion, mewn cydweithrediad â’r Aelod Portffolio ar gyfer Llywodraethu Corfforaethol, i wneud newidiadau bychan cyn ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.”

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r argymhelliad uchod a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith.

7.

Amseriad Cyfarfodydd pdf eicon PDF 131 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd.

Cofnodion:

Adroddwyd gan Bennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd - yn unol â chyfarwyddyd statudol, roedd angen i’r Cyngor gynnal arolwg ymysg Aelodau ynglŷn â’r amserau o’r dydd y mae cyfarfodydd Awdurdod Lleol yn cael eu cynnal, gorau oll yn dilyn ethol Cyngor newydd.  Gofynnwyd am safbwyntiau’r Aelodau a’r Aelodau cyfetholedig gan ofyn iddynt roi mewn trefn ranc eu dewis o amseroedd ar gyfer cyfarfodydd, sef 10:00am, 2:00pm, 4:00pm a 6:00pm.  O’r atborth a dderbyniwyd gwelwyd ffafriaeth glir i gyfarfodydd barhau naill ai am 10:00am neu 2:00pm.  Roedd manylion am y trefniadau mewn Awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru hefyd wedi eu rhestru yn yr adroddiad.

 

Dywedodd Arweinydd Grŵp Plaid Cymru bod rhai o’i Aelodau yn ei chael yn anodd oherwydd ymrwymiadau gwaith i fynychu cyfarfodydd y Cyngor yn ystod y dydd.  Os oedd y Cyngor eisiau i’r Cynghorwyr newydd hyn sefyll unwaith yn rhagor yn yr etholiad nesaf, yna byddai’n rhaid i’r Cyngor gymryd mwy o sylw o’u hanghenion.  Roedd yn credu y dylai Arweinyddion y Grwpiau a’r UDA drafod y mater ymhellach ac adrodd yn ôl i’r Cyngor Sir mor fuan ag sy’n bosibl.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y mater a’i fod yn cael ei ystyried ymhellach gan yr Arweinyddion Grwpiau a’r UDA (yn cynnwys Asesiad Effaith Cydraddoldeb) i weld pa mor ymarferol oedd galw rhai cyfarfodydd naill  ai am 4:00pm neu 4:30pm.  Byddai canlyniad y trafodaethau hynny’n cael eu hadrodd yn ôl i’r Cyngor Sir ar y cyfle cyntaf.

8.

Cydbwysedd Gwleidyddol pdf eicon PDF 544 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd.– I DDILYN

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad gan Bennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd - bod angen i’r Cyngor adolygu trefniadau cydbwysedd gwleidyddol eu pwyllgorau yn dilyn derbyn hysbysiad bod un Aelod wedi peidio â bod yn Aelod o’r Grŵp Llafur.  Roedd y newidiadau arfaethedig wedi eu hamlygu ar y matrics oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.  Yn unol â phrotocolau rheolaeth wleidyddol, roedd y trefniadau rheolaeth wleidyddol newydd wedi eu trafod ag Arweinyddion y Grwpiau.

 

Holodd y Cynghorydd Dylan Rees a oedd yn arfer dda ai peidio i gael dau Gynghorydd Llafur ar y Pwyllgor Gwaith, o gofio mai dim ond dau Aelod oedd gan y Grwp Llafur ar y Cyngor allan o gyfanswm o 30?  A oedd angen i’r Pwyllgor Gwaith ystyried hyn os oedd cydbwysedd gwleidyddol yn berthnasol?

 

Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd y byddai’n trafod y mater gyda’r Dirprwy Arweinydd ac yn anfon ymateb ysgrifenedig ar hynny i’r Cynghorydd Dylan Rees.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddau a ddyrannwyd i bob un o’r Grwpiau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, a nifer y seddau a roddir trwy arfer a defod i Aelodau nad ydynt yn destun cydbwysedd gwleidyddol fel oedd i’w weld yn y matrics;

·         Yn unol ag argymhelliad (i) uchod, bod y Cyngor yn dirprwyo i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinyddion y Grwpiau, i benderfynu ar y dyraniad o seddau i Aelodau digyswllt oedd yn codi o’r newidiadau hyn a rhoi’r wybodaeth honno i’r Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor.

·         Gofyn i Arweinydd y Grŵp Llafur ddarparu manylion am Aelodaeth y Pwyllgorau i’r Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor mor fuan ag sy’n bosibl yn unol â’r newidiadau a amlygwyd yn yr adroddiad hwn.

9.

Newidiadau i’r Cyfansoddiad (Para 3.5.3.15.5) ac i’r Rheolau Gweithdrefn Cynllunio (Adran 4.6 y Cyfansoddiad) pdf eicon PDF 536 KB

 

a) Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Rheoleiddio a’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 21 Hydref 2013

 

b) Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 21 Hydref 2013 wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir “bod y newidiadau i’r Rheolau yng Nghyfansoddiad y Cyngor fel y manylwyd arnynt yn yr Atodiadau i’r adroddiad hwn yn cael eu gwneud a bod awdurdod yn cael ei roi i Swyddogion wneud y newidiadau perthnasol i’r Cyfansoddiad”.

I ystyried yr uchod.

Cofnodion:

a) Cyflwynwyd – adroddiad ar y cyd gan y Penaneth Rheoleiddio a’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fel oedd wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 21 Hydref 2013.

 

b)  Adroddwyd – bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 21 Hydref 2013, wedi penderfynu argymell i’r Cyngor sir “bod y newidiadau i’r rheolau yng Nghyfansoddiad y Cyngor fel y manylir arnynt yn yr atodiadau i’r adroddiad hwn yn cael eu gwneud a bod awdurdod yn cael ei roi i swyddogion  wneud y newidiadau perthnasol i’r Cyfansoddiad”.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r argymhelliad uchod a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith.

10.

Gwneud y newidiadau i’r Rheolau Gweithdrefn Cynllunio (Adran 4.6 y Cyfansoddiad) yn barhaol pdf eicon PDF 564 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 4 Tachwedd, 2013.

 

Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 4 Tachwedd 2013 wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir:-

 

·         “Ei fod yn gwneud y newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor y manylir arnynt ym mharagraff 2.2.3 yr adroddiad yn rhai parhaol, sef egluro’r ceisiadau hynny gan swyddogion a chan berthnasau, aelodau a swyddogion y dylid eu cyfeirio i’r Pwyllgor Cynllunio am benderfyniad;

 

·         Peidio â gwneud yn barhaol y newidiadau i gyfyngu Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio i gymryd rhan yn y cyfarfod dim ond os ydynt wedi mynychu’r holl gyfarfodydd blaenorol ar yr eitem honno (gan gynnwys unrhyw ymweliad safle swyddogol).

 

·         Peidio â gwneud yn barhaol y newidiadau sy’n rhwystro Aelod Lleol ar y Pwyllgor rhag pleidleisio, cynnig neu eilio cais yn ei ward”.

 

I roi ystyriaeth i’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fel oedd wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 4 Tachwedd 2013.

 

Adroddwyd – Bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 4 Tachwedd 2013 wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir –

 

·         Ei fod yn gwneud y newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor yn rhai parhaol, sef egluro’r ceisiadau hynny gan swyddogion a chan berthnasau, aelodau a swyddogion y dylid eu cyfeirio i’r Pwyllgor Cynllunio am benderfyniad;

 

·         Peidio â gwneud yn barhaol y newidiadau i gyfyngu Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio i gymryd rhan yn y cyfarfod dim ond os ydynt wedi mynychu’r holl gyfarfodydd blaenorol ar yr eitem honno (gan gynnwys unrhyw ymweliad safle swyddogol).

 

·         Peidio â gwneud yn barhaol y newidiadau sy’n rhwystro Aelod Lleol ar y Pwyllgor rhag pleidleisio, cynnig neu eilio cais yn ei ward.”

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r argymhellion uchod a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith.

11.

RHYBUDD O GYNIGIAD A DDERBYNIWYD YN UNOL Â RHEOL 4.1.2.2.12 Y CYFANSODDIAD

Cyflwyno’r Rhybudd o Gynnig Canlynol gan y Cynghorydd Aled Morris Jones, wedi’i gydlofnodi gan y Cynghorwyr Bob Parry, OBE, Kenneth P Hughes, Dylan Rees, a Jim Evans.

 

“Rydym ni, sydd wedi arwyddo isod, yn gofyn i Gyngor Sir Ynys Môn roi Rhyddid y Sir i’r Llynges Brydeinig a Chymdeithas y Llynges Fasnachol.

 

Mae hyn i gydnabod iddynt gadw’n ddiogel y ffyrdd mordwyo a’r  fasnach sy’n bodoli rhwng y Deyrnas Gyfunol a Gweddill y Byd.  Dylid ystyried y seremoni Rhyddfraint hon fel digwyddiad i gofio Rhyfel Mawr 1914-18 a Choffáu 70 o flynyddoedd ers Brwydr Môr Iwerydd.”

 

I roi ystyriaeth i’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorydd Aled Morris Jones wedi ei gydarwyddo gan y Cynghorydd Bob Parry OBE, Kenneth P. Hughes, Dylan Rees, a Jim Evans.

 

“Rydym ni, sydd wedi arwyddo isod, yn gofyn i Gyngor Sir Ynys Môn roi Rhyddid y Sir i’r Llynges Brydeinig a Chymdeithas y Llynges Fasnachol.

 

Mae hyn i gydnabod iddynt gadw’n ddiogel y ffyrdd mordwyo a’r fasnach sy’n bodoli         rhwng y Deyrnas Gyfunol a gweddill y byd.  Dylid ystyried y seremoni Rhyddfraint        hon fel digwyddiad i gofio Rhyfel Mawr 1914-18 a Choffáu 70 o flynyddoedd ers Brwydr Môr Iwerydd.”

 

Siaradodd y Cynghorydd A. Morris Jones o blaid y Rhybudd o Gynnig.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gytuno â’r cais, a bod swyddogion yn gwneud y trefniadau angenrheidiol.

12.

Dirprwyaethau pdf eicon PDF 140 KB

Bydd y Prif Weithredwr yn cyflwyno er gwybodaeth, adroddiad ynglŷn ag unrhyw newidiadau i’r cynllun dirprwyo mewn perthynas â swyddogaethau’r Pwyllgor Gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith neu’r Arweinydd ers y cyfarfod Cyffredin diwethaf (gweler Rheol 4.4.1.1.2 Rheolau Gweithdrefn y Pwyllgor Gwaith yn y Cyfansoddiad).

Cofnodion:

Bydd y Prif Weithredwr yn cyflwyno, er gwybodaeth, adroddiad yn amlinellu unrhyw newidiadau i’r cynllun dirprwyo mewn perthynas â swyddogaethau’r Pwyllgor Gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith, neu’r Arweinydd ers cyfarfod cyffredin diwethaf (Rheol 4.4.1.1.2 o Reolau Gweithdrefn y Pwyllgor Gwaith yn y Cyfansoddiad).

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.