Rhaglen a chofnodion

Arbennig, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 26ain Medi, 2013 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor- Swyddfeydd y Cyngor

Cyswllt: Mr John Gould 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen.

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorwyr isod ddatganiad o ddiddordeb yn Eitem 10 y cofnodion hyn ac nid oeddynt yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth neu bleidlais arni:-

 

Y Cynghorydd Bob Parry, OBE - mae ganddo berthnasau’n gweithio i’r Cyngor yn yr Adrannau Addysg ac Eiddo.  

 

Y Cynghorydd K.P.Hughes – roedd yn perthyn yn agos i un a oedd yn arfer gweithio fel gofalydd cartref i’r Cyngor.

 

Y Cynghorydd Llinos M.Huws – perthynas a ffrindiau agos yn gweithio i’r Cyngor.

 

Y Cynghorydd D.R.Hughes – cysylltiad personol â chyn-ofalydd cartref nad oedd yn gweithio ar hyn o bryd ac a oedd wedi ymddiswyddo yn ystod y 6 mis diwethaf,  Hefyd, mae ei ferch yn dysgu ar sail rhan-amser yn Ysgol Gynradd Llanfairpwll.

 

Y Cynghorydd Ieuan Williams – mae ei chwaer-yng-nghyfraith yn ofalwraig cartref.

 

Y Cynghorydd W.T.Hughes – mae ei ferch yn dysgu yn Ysgol Gynradd Bodedern a’i fab-yng-nghyfraith yw Pennaeth Ysgol Esceifiog, Gaerwen.

 

Gwnaeth y Cynghorydd R.O.Jones ddatganiad o ddiddordeb yn eitem 10 y cofnodion hyn gan fod ganddo berthynas yn gweithio i’r Cyngor.  Arhosodd yn y cyfarfod a chymerodd ran yn y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Nicola Roberts ddatganiad o ddiddordeb yn eitem 10 y cofnodion hyn gan fod ei brawd yn gweithio i’r Cyngor fel gweithiwr Ysgolion ac Ieuenctid Rhanbarthol. Arhosodd yn y cyfarfod a chymerodd ran yn y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem.

 

Gwnaeth y Cynghorydd R. Meirion Jones ddatganiad o ddiddordeb yn Eitemau 3, 6, 7, & 8 y cofnodion hyn gan ei fod yn gyn-weithiwr i’r Cyngor, h.y. yn aelod o staff hyd ddiwedd Ionawr 2013 a byddai’n annoeth iddo gymryd rhan yn y materion hyn er nad oedd yn credu fod ganddo ddiddordeb personol fel y diffinnir hynny yn y Côd.

 

Gwnaeth y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol) ddatganiad o ddiddordeb yn Eitem 5 y cofnodion hyn oherwydd byddai sefydlu’r pwyllgorau sefydlog newydd yn berthnasol iddi hi fel swyddog statudol ond ni fyddai’r effaith yn un o bwys ac o’r herwydd, byddai’n aros yn y cyfarfod er mwyn darparu unrhyw gyngor cyfreithiol.  Datganodd ddiddordeb hefyd yn eitem 8 y cofnodion hyn oherwydd y byddai sefydlu’r strwythur newydd yn rhoddi iddi rai cyfrifoldebau rheoli newydd/ychwanegol ond ni fyddai’r effaith yn un o bwys ac unwaith yn rhagor, arhosodd yn y cyfarfod i roi cyngor cyfreithiol. 

2.

Derbyn unrhyw Gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Cofnodion:

Dim i’w datgan.

 

3.

Datganiad Cyfrifon 2012-13 a’r Adroddiad Llywodraethu Blynyddol pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ar y Datganiad Cyfrifon terfynol.

 

Dywedyd (a) Bod y Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod ar 24 Medi, ar ôl ystyried y Datganiad Cyfrifon, wedi penderfynu “argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn cymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon yn amodol ar adolygiad terfynol gan PWC.”

 

Dywedwyd (b) Y cafodd cyfrifon drafft y Cyngor am 2012-13 eu cyflwyno ar gyfer eu harchwilio ar 28 Mehefin 2013. Roedd y rhan fwyaf o’r gwaith archwilio manwl bellach wedi’i gwblhau i raddau helaeth ac roedd yr Archwiliwr wedi cyhoeddi ei adroddiad.   Roedd nifer o newidiadau i’r drafft wedi cael eu hymgorffori yn y cyfrifon.  Yn amodol ar gael eu cymeradwyo gan y Cyngor heddiw, byddai’r cyfrifon yn cael eu cymeradwyo gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau), Swyddog Adran 151 y Cyngor a byddant wedyn yn cael eu cyhoeddi ar ôl derbyn barn yr Archwiliwr.

 

Cafodd fersiwn derfynol y Datganiad Cyfrifon ei dosbarthu yn y cyfarfod gan gynnwys y mân-newidiadau a gafwyd gan PWC yn hwyr prynhawn ddoe.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio ei fod, y bore hwn, wedi derbyn e-bost gan Lynn Pamment o PWC yn datgan ei bod wedi adolygu’r fersiwn ddiweddaraf o’r Datganiad Cyfrifon a’i bod wedi gwneud nifer o sylwadau arnynt a’r sylwadau mwyaf arwyddocaol oedd y rheiny a wnaed ar Nodyn 3 i egluro’r dyfarniad beirniadol mewn perthynas â chyfrifo ar gyfer asedau ysgolion ac ar Nodyn 42 yn nodi'r ansicrwydd sy’n parhau ynghylch ymrwymiadau yswiriant Municipal Mutual.  Roedd hefyd yn argymell y dylid cywiro camgymeriad bychan o ran categoreiddiad yn y gwariant llinellau gwasanaeth yn wyneb y Datganiad Cynhwysfawr ar Incwm a Gwariant nad yw’n cael unrhyw effaith ar y ffigwr gwariant net nac ychwaith ar Gronfa’r Cyngor.  Roedd yr holl newidiadau eraill yn ymwneud â mân faterion cyflwyno.

 

Dywedwyd hefyd nad oedd Lynn Pamment wedi gweld yr adroddiad ar Dâl Cyfartal a gyflwynwyd i’r Cyngor heddiw ac y byddai’n rhaid iddi adolygu cynnwys hwnnw cyn y gallai ddarparu’r memorandwm archwilio ar gyfer yr Archwiliwr Penodedig, Anthony Barrett, i gymeradwyo’r farn archwilio.

 

PENDERFYNWYD

 

·      Cadarnhau derbyn Datganiad Cyfrifon 2012-13 ar yr amod fod PWC yn fodlon gyda chynnwys yr adroddiad ar Dâl Cyfartal sy’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor heddiw;

 

·      Derbyn cynnwys y Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

4.

Ymgynghorwyr/Ymchwilwyr Gwleidyddol pdf eicon PDF 50 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr ar gais a dderbyniwyd gan Grŵp Gwleidyddol Plaid Cymru am gymorth ymchwilydd/ymgynghorydd gwleidyddol i gynorthwyo’r Grŵp i weithredu’n effeithiol yn y Cyngor.

 

Oherwydd nad oes cynsail i’r math hon o swydd yn y Cyngor na darpariaeth ychwaith yn y gyllideb gyfredol ar gyfer cynnal swyddi cefnogaeth i grwpiau gwleidyddol, cyflwynwyd y mater i’r Cyngor benderfynu arno.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol) ei bod wedi adolygu’r gofynion dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a allai gael effaith uniongyrchol ar y penderfyniad heddiw.  Fel y maent berthnasol i’r Cyngor hwn, byddai paramedrau’r Ddeddf yn golygu y byddai’n rhaid darparu ar gyfer o leiaf tair o swyddi ymchwilydd gwleidyddol petai’r egwyddor cyffredinol yn cael ei mabwysiadu.  Roedd hyn oherwydd y byddai gan bob un o’r Grwpiau Gwleidyddol ar y Cyngor hwn hawl i swydd o’r fath i’w cefnogi.  Ni fyddai rheidrwydd arnynt i lenwi’r swyddi hynny ond byddai’n rhaid i’r Cyngor ei hun wneud dyraniad cyfartal yn seiliedig ar nifer yr Aelodau a chyfansoddiad y Grwpiau.  Y lefelau cyflog uchaf ar gyfer pob swydd fyddai £37,500 neu pro rata petai’r Cyngor yn penderfynu penodi i’r tair swydd ar sail rhan-amser. Byddai’r cyfan ohonynt yn swyddi ar gontractau cyfnod sefydlog a byddai’n rhaid iddynt ddod i ben rhwng dyddiad yr etholiad nesaf a dyddiad Cyfarfod Blynyddol y Cyngor.  Y Grwpiau Gwleidyddol eu hunain fyddai, i bob pwrpas, yn gwneud y penodiadau ond byddai’r sawl a benodwyd yn weithwyr i’r Cyngor a byddai’n rhaid hefyd diwygio’r Rheolau Sefydlog i gynnwys darpariaeth ar gyfer cyflwyno ymgynghorwyr/ymchwilwyr gwleidyddol.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd Bob Parry OBE, na fyddai Grŵp Plaid Cymru eisiau swydd amser llawn, dim ond am ddau ddiwrnod yr wythnos mae’n debyg.  Gofynnodd i’r Cyngor ystyried y cynnig a phenodi i swydd(i) yn y flwyddyn ariannol gyfredol. 

 

Cafwyd trafodaeth yn y cyfarfod ynghylch rhinweddau/anfanteision y cais.

 

PENDERFYNWYD peidio â chefnogi’r cais yn wyneb y pwysau ariannol sy’n wynebu’r Awdurdod hwn ar hyn o bryd.

 

(Roedd y Cynghorwyr G.O.Jones ac A.Morris Jones yn dymuno iddo gael ei gofnodi eu bod wedi ymatal eu pleidlais ar y mater hwn).

 

5.

Sefydlu Pwyllgorau pdf eicon PDF 98 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Prif Weithredwr ar fwriad i newid Cyfansoddiad y Cyngor er mwyn sefydlu Pwyllgor Ymchwilio sefydlog a Phwyllgor Disgyblu sefydlog er mwyn rhoi sylw i unrhyw faterion perthnasol pryd ac fel y maent yn codi, mewn perthynas ag achosion yn ymwneud ag ymddygiad/perfformiad swyddogion statudol, achos y bydd angen weithiau ymchwilio ymhellach iddynt er mwyn cydymffurfio gyda’r gweithdrefnau statudol yn y Rheoliadau Rheolau Sefydlog Awdurdodau Lleol (Cymru) 2006.

 

PENDERFYNWYD

 

1.         Sefydlu Pwyllgor Ymchwilio sefydlog i weithredu’r swyddogaethau a ddisgrifir yn Rheoliad 9 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 ac fel maent wedi eu hadlewyrchu yn y Rheolau Gweithdrefn Cyflogi Swyddogion ym Mharagraff 4.10 Cyfansoddiad y Cyngor;

 

2.         Bydd tri Aelod ar y Panel Ymchwilio a bydd cydbwysedd gwleidyddol arno yn unol ag Adran 15 Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989; a bydd un yn Aelod o’r Pwyllgor Gwaith.  Awgrymir na ddylai’r Arweinydd fod yn aelod o’r panel nac ychwaith unrhyw aelodau sy’n dal y Portffolios ar gyfer y swyddogion statudol;

 

3.         Bod y Cyngor yn dirprwyo i’r Swyddog Statudol perthnasol yr awdurdod i benodi Aelodau i’r Pwyllgor Ymchwilio, wedi iddo ymgynghori gydag Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol;  

 

4.         Sefydlu Pwyllgor Disgyblu sefydlog a phenodi Aelodau i wasanaethu arno.  Byddai hyn yn cydymffurfio gyda Chanllawiau’r Cyd-gyngor Cenedlaethol mewn perthynas â Phrif Weithredwyr ac yn osgoi’r angen i’r Cyngor sefydlu Pwyllgor Disgyblu ar wahân petai angen un mewn unrhyw achos lle gwnaed honiadau yn erbyn swyddog statudol ac y mae angen rhoi sylw iddynt dan y broses hon;

 

5.         Bydd ar y Pwyllgor Disgyblu dri o aelodau a bydd arno gydbwysedd gwleidyddol yn unol ag Adran 15 Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989; a bydd un Aelod yn Aelod o’r Pwyllgor Gwaith.  Argymhellir na ddylai’r Arweinydd fod yn aelod nac ychwaith unrhyw aelodau sy’n dal Portffolios y swyddogion statudol.  Argymhellir ymhellach na ddylai unrhyw Aelodau o’r Pwyllgor Ymchwilio fod yn Aelodau o’r Pwyllgor Disgyblu; 

 

6.         Bod y Cyngor yn dirprwyo i’r Swyddog Statudol perthnasol yr awdurdod i benodi Aelodau i’r Pwyllgor Ymchwilio, ar ôl iddo ymgynghori gydag Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol; 

 

7.         Bod y Cyngor yn dirprwyo i unrhyw un o’r tri swyddog statudol, mewn ymgynghoriad gyda’r Arweinydd, yr hawl i wario’r arian angenrheidiol er mwyn cyflawni’r ymrwymiad statudol/contractyddol hwn.  Gall hyn gynnwys cyflogi Cyfreithwyr arbenigol allanol i gynghori ar y materion cyflogaeth a gall olygu penodi ymchwilydd/arbenigwr allanol ynghyd â threfniadau am wasanaeth interim petai swyddog yn cael ei wahardd/ei gwahardd am unrhyw gyfnod.

6.

Cau Allan y Wasg a’r Cyhoedd

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Profion Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Profion Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

7.

Prawf Budd y Cyhoedd – Adolygiad Penaethiaid Gwasanaeth – Ystyriaethau mewn perthynas â’r Strwythur pdf eicon PDF 51 KB

Cofnodion:

Rhoes y Cyngor sylw i’r cynnwys.

 

8.

Adolygiad Penaethiaid Gwasanaeth – Ystyriaethau mewn perthynas â’r Strwythur

(a)    Adrodd fod y Pwyllgor Gwaith, ar ôl ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 9 Medi 2013, wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad.”

 

(b)    Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr.

Cofnodion:

(a)     Dywedwyd – bod y Pwyllgor Gwaith, ar ôl trafod yr uchod yn ei gyfarfod ar 9 Medi, 2013, wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

“argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad.”

 

(b)    Cyflwynwyd – adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Cymeradwyo’r strwythur tâl fel y caiff ei nodi ym mharagraff 6.5 yr adroddiad;

 

·         Bod Swydd y Pennaeth Gwasanaeth Dysgu yn cael ei hysbysebu gydag ychwanegiad marchnad ar gyflog oddeutu £70,000;

 

·         Bod proses asesu perfformiad 180 gradd yn cael ei datblygu ar gyfer Penaethiaid Gwasanaeth;

 

·         Y dylid gwneud trefniadau i’r Panel Penodiadau fynd ati i benodi i’r swyddi Penaethiaid Gwasanaeth newydd o fis Hydref 2013.

 

 

(Roedd y Cynghorydd R.Meirion Jones yn dymuno iddo gae ei gofnodi nad oedd wedi cymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth neu bleidlais ar y mater hwn)

 

9.

Prawf Budd y Cyhoedd – Hawliad Tâl Cyfartal pdf eicon PDF 50 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y cynnwys gan y Cyngor

 

10.

Hawliad Tâl Cyfartal

Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr. – I’W DDOSBARTHU YN Y CYFARFOD

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr ar yr Hawliad Tâl Cyfartal.

 

Cyn y drafodaeth ar y mater hwn, rhoes y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol) gyngor cyfreithiol i’r Aelodau ynghylch a ddylent ddatgan diddordeb yn y mater ai peidio.

 

Oherwydd bod cynifer o Aelodau wedi datgan diddordeb ac wedi gadael y Siambr, awgrymodd y Cynghorydd Ann Griffith y dylai’r Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol) gysylltu â’r aelodau hynny gyda golwg ar gadarnhau a oedd angen iddynt mewn gwirionedd ddatgan diddordeb yn y mater mewn unrhyw gyfarfodydd yn y dyfodol.

 

(Roedd y Cynghorydd A.Morris Jones yn dymuno iddo gael ei gofnodi nad oedd modd i’r Aelod Portffolio fod yn bresennol heddiw oherwydd bod gan ei wraig apwyntiad yn yr ysbyty).

 

PENDERFYNWYD

 

·         Rhoi’r awdurdod i Swyddogion symud ymlaen i drafod setlo’r hawliadau tâl cyfartal ond i beidio â setlo’n derfynol heb yn gyntaf gael cymeradwyaeth y Cyngor;

 

·        Gofyn i’r swyddogion gyflwyno diweddariad i’r cyfarfod nesaf o’r Cyngor Sir sydd wedi ei drefnu ar gyfer 10 Hydref, 2013 (neu i gyfarfod arbennig o’r Cyngor yn ddiweddarach ym mis Hydref/Tachwedd 2013) ar y cynnydd a wnaed gan gynnwys y goblygiadau i’r Awdurdod hwn o ran y cyngor allanol a ddarparwyd;

 

·        Yn y cyfamser, gofyn i’r Pennaeth Gwasanaethau (Adnoddau) gysylltu gyda Llywodraeth Cymru yn mofyn eu barn ynghylch a fyddent yn ystyried cais am gyfalafu ai peidio ac i gael unrhyw wybodaeth ariannol berthnasol arall y bydd y Cyngor yn rhesymol ei angen efallai i wneud ei benderfyniad.