Rhaglen a chofnodion

Arbennig, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 10fed Hydref, 2013 11.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Mr John Gould 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog.

Cofnodion:

Dim.

2.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, yr Arweinydd, Aelodau’r Pwyllgor Gwaith neu’r Prif Weithredwr

Cofnodion:

Dim.

3.

Cau allan y Wasg a’r Cyhoedd

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A (categori 16) y Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

4.

Awdurdodi Cytundeb a Chylch Gorchwyl

Cyflwyno adroddiad gan y Prif WeithredwrI’W DDOSBARTHU YN Y CYFARFOD

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Cyflwyniad llafar ar adroddiad ysgrifenedig gan y Prif Weithredwr ynghylch cytundeb a chylch gorchwyl arfaethedig ar gyfer Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu.

 

Yn dilyn trafodaeth faith ar y mater cynigiwyd ac eiliwyd y dylid derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad. 

 

Ni chafodd y cynnig ei gario gyda chwech yn pleidleisio o blaid a 23 yn erbyn.

 

PENDERFYNWYD

 

Gwrthod argymhellion y Prif Weithredwr a’r cyngor cyfreithiol allanol yn yr adroddiad.

 

Derbyn y Cylch Gorchwyl ar gyfer y Pwyllgorau Ymchwilio a Disgyblu a oedd wedi ei gynnwys o fewn yr adroddiad.