Rhaglen a chofnodion

Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 27ain Chwefror, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Mr John Gould 

Eitemau
Rhif. Eitem

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i Lis Perkins, Stephen Roe a Tony McNicholl o Gymdeithas Masnach Deg Ynys Môn, Duncan Gates o’r Sefydliad Masnach Deg yn Llundain a Juliet Arku-Mensah o Volta River Estates Cyf, Ghana.

 

Anerchwyd y Cyngor gan Mr Stephen Roe, Ysgrifenydd Partneriaeth Masnach Deg Ynys Môn ynghylch y cais llwyddiannus i adnewyddu statws Masnach Deg Ynys Môn am ddwy flynedd tan 2015 ac i nodi bod Cymru’n dathlu pum mlynedd fel y Genedl Fasnach Deg gyntaf yn y byd eleni.

  

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mr Daniel Hurford, Pennaeth Polisi (Gwella a Llywodraethiant) yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a gyflwynodd i’r Cyngor ‘Siarter Cymru ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau’.

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 283 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau a’u harwyddo, gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

·           5 Rhagfyr, 2013

·           27 Ionawr, 2014 (Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol fel rhai cywir:-

 

           5 Rhagfyr, 2013

           27 Ionawr, 2014 (Arbennig)

2.

Datgan Diddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gwnaed datganiad o ddiddordeb yn Eitem 14 y cofnodion hyn (Datganiad Polisi Tâl) gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth ynghyd â’r Penaethiaid Swyddogaeth ar gyfer Adnoddau a Busnes y Cyngor.  Nid oeddent yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidlais ar yr eitem. (Fel y nodir yn yr adroddiad)

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb yn Eitem 11 (2) gan y Cynghorydd Jim Evans (fel unigolyn sy’n gweithio i’r Swyddfa Bost) ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth neu bleidlais arni.

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor, y Pwyllgor Gwaith neu’r Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Llongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgol Y Fali ar eu llwyddiant gyda’r gân a recordiwyd ganddynt ar gyfer eu Sioe Nadolig.  Gwelwyd y fideo a wnaethpwyd ohonynt gan nifer fawr o bobl o amgylch y byd ar “YouTube” ac roedd yn siŵr fod y plant i gyd wrth eu boddau o fod wedi cymryd rhan mewn rhywbeth mor arbennig a bythgofiadwy.  Diolchodd y Cadeirydd i’w hathro Mr Iolo Evans am ei waith yn eu cynorthwyo gyda’r recordiad a llongyfarchodd nhw  ar eu llwyddiant gan ddweud ei fod yn edrych ymlaen at glywed y gân nesaf.

 

Cyn y Nadolig, cafodd disgyblion a staff Ysgol Y Graig y fraint a'r pleser o fod yn rhan o gystadleuaeth 'Carol yr Ŵyl' a gynhelir yn flynyddol gan y rhaglen deledu 'Pnawn Da' ar S4C. Nod y gystadleuaeth yw annog staff a disgyblion ysgolion cynradd Cymru i gyfansoddi a recordio carolau newydd sbon.  Manteisiodd yr ysgol ar y cyfle yma gan fynd ati ym mis Tachwedd i greu recordiad o'r garol newydd 'Daeth y Dolig/ Christmas is Here  o waith Miss Catrin Angharad Roberts, aelod o'r staff. Rob Nicholls a Sioned James oedd y beirniaid a dderbyniodd yr orchwyl o bennu rhestr fer o 10 carol o blith y 35 ymgais.

 

Dewiswyd carol Ysgol Y Graig yn un o'r deg uchaf. Daeth criw teledu i'r ysgol i ffilmio a recordio'r garol; profiad amhrisiadwy, bythgofiadwy i blant côr yr adran iau a'r staff. Darlledwyd carol Ysgol Y Graig ynghyd â'r naw carol arall ar y rhestr fer tros gyfnod o bythefnos cyn y Nadolig a chyhoeddwyd ar ddydd Gwener olaf y tymor mai carol Ysgol Y Graig oedd yn fuddugol.

 

Ni ellir pwysleisio cymaint oedd balchder a chynnwrf y plant ar ddiwrnod y cyhoeddi, ac roedd y cwbl yn benllanw a chlo perffaith i flwyddyn lewyrchus. Hoffai staff yr ysgol ddiolch o galon i bawb am eu llongyfarchiadau, a phleser oedd cael yr anrhydedd o gynrychioli Môn mewn cystadleuaeth genedlaethol.

 

Llongyfarchiadau am lwyddiant ysgubol Band Ieuenctid Biwmares ym

Mhencampwriaeth Bandiau Ieuenctid Prydain 2014 a gynhaliwyd yn Blackpool yn ddiweddar.  'Roedd disgwyl i bob band gynnig rhaglen amrywiol o hanner awr. Gwelwyd 11 band ieuenctid (dan 18 oed) yn cystadlu. Pan gyhoeddwyd y canlyniadau dyma beth a enillwyd:-

 

Tlws a Gwobr Pencampwyr Bandiau Ieuenctid Prydain 2014

Tlws Adran Ewffoniwm Gorau’r Bencampwriaeth

Tlws Cornedydd Soprano Gorau’r Bencampwriaeth

Tlws am y dewis o Raglen Gerdd Orau yn y Bencampwriaeth

Tlws Unawdydd Gorau yn y Bencampwriaeth (Pippa Scourse)

Tlws Arweinydd Gorau’r Gystadleuaeth - (Gwyn Evans)

 

 

Dyma'n sicr achlysur i ddathlu a chadw mewn cof griw o bobl ifanc galluog, gweithgar sydd yn cael eu hyfforddi gan griw o bobl sy'n barod i roi o'u hamser.

 

Dywedodd y cadeuirydd y byddai, nos yfory, yn mynychu perfformiad gan Alleni Môn o’r Sioe Gerdd ‘Y Fordaith Fawr’ yng Nghanolfan Hamdden Biwmares.

 

Grŵp Cymunedol sy’n rhoi blas ar bob agwedd o waith Theatr i blant a phobl ifanc o bob rhan o Ynys Môn yw Alleni. Fe’i sefydlwyd yn Awst 2012, ac eleni maent  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cofnodion er Gwybodaeth - Bwrdd Gwella a Chynaliadwyedd pdf eicon PDF 128 KB

Cyflwyno er gwybodaeth, gofnodion y cyfarfod o Fwrdd Gwella a Chynaliadwyedd Ynys Môn a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd, 2013.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er gwybodaeth, gofnodion y cyfarfod o Fwrdd Gwella a Chynaliadwyedd Ynys Môn a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd, 2013.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y cofnodion.

5.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddeisebau.

6.1

Strategaeth Cyllideb Tymor Canol, Y Gyllideb, Treth Gyngor, Rheoli’r Trysorlys a Dangosyddion Pwyllog 2014-15 pdf eicon PDF 293 KB

Cyflwyno Cynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer strategaeth cyllideb refeniw tymor canol, cynllun cyfalaf dros dro a chyllidebau refeniw a chyfalaf am 2014-15.

Cofnodion:

Cyflwynwyd gan y Cynghorydd H Eifion Jones, yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, gynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y strategaeth cyllideb refeniw tymor canol, y cynllun cyfalaf dros dro a chyllidebau refeniw a chyfalaf ar gyfer 2014/15.

 

Diolchodd i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’i staff am eu gwaith yn paratoi’r gyllideb dan amgylchiadau anodd.  Diolchodd i'r Prif Swyddogion a’r Grwpiau Gwleidyddol a oedd wedi ymateb yn gadarnhaol i’r her a hefyd i’r Aelod Portffolio Cysgodol, y Cynghorydd John Griffith am ei gefnogaeth.  Byddai’r her ar gyfer y flwyddyn nesaf hyd yn oed yn fwy a bwriedir cychwyn gwaith ar y gyllideb a’r broses ymgynghori yn llawer cynt eleni nag a ddigwyddodd y llynedd.

 

Adroddwyd – Bod cynigion terfynol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer cyllideb 2014-15 i’w gweld fel a ganlyn:-

 

·         Tabl A – Strategaeth Cyllideb Refeniw y Tymor Canol

·         Tabl B – Cyllideb Refeniw 2014/15 a’r newid o 2013/14

·         Tabl C – Cyllideb Gyfalaf 2014/15

·         Tabl CH – Dangosyddion Darbodus a Thrysorlys

 

Roedd adroddiad y Pwyllgor Gwaith yn cynnwys y manylion isod mewn perthynas â’r Rheolau Gweithdrefn Cyllidebol:-

 

·         os ydyw’r Cyngor wedi mabwysiadu strategaeth gyllidebol, a yw’r gyllideb

flynyddol arfaethedig yn cydymffurfio gyda’r strategaeth honno, a manylion am

unrhyw wahaniaethau;

·         y Dreth Gyngor arfaethedig am y flwyddyn;

·         trosglwyddiadau arfaethedig i’r cronfeydd wrth gefn ac ohonynt;

·         crynodeb o’r gwariant arfaethedig fesul gwasanaeth;

·         manylion am newidiadau sylweddol i gyflenwi gwasanaethau oherwydd y gyllideb;

·         i ba raddau y mae’r cynigion yn cymryd adroddiadau Pwyllgorau i ystyriaeth;

·         i ba raddau mae’r cynigion yn cymryd i ystyriaeth y gwaith ymgynghori a wnaed;

·         manylion am wahaniaethau sylweddol eraill rhwng y cynigion cychwynnol a’r rhai

terfynol;

·         cynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer darpariaethau trosglwyddo arian yn ystod y flwyddyn;

·         cynigion ar gyfer benthyca;

·         unrhyw faterion statudol eraill i’w penderfynu gan y Cyngor llawn.

 

Diolchodd y Cynghorydd John Griffith, yr Aelod Portffolio Cysgodol ar gyfer Cyllid i’r Cynghorydd H. Eifion Jones a’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’i thîm am eu cyfraniad gwerthfawr i’r gwaith o baratoi'r gyllideb.  Roedd hon wedi bod yn gyllideb anodd iawn o gofio’r holl oblygiadau i’r Adrannau, staff, gwasanaethau a threthdalwyr.  Roedd toriad o 5% i’r gyllideb yn cyfateb i oddeutu £7.5m yn llai i'w wario ar wasanaethau yn y flwyddyn i ddod.

 

Er ei fod yn cefnogi’r gyllideb, roedd ganddo rai pryderon oherwydd nifer o gyfeiriadau mewn adroddiadau blaenorol i risgiau a allai amharu ar y gyllideb arfaethedig.  Er enghraifft, nid oedd unrhyw sicrwydd y byddai rhai o'r cynigion arbedion yn cychwyn ar 1 Ebrill a byddai hynny'n golygu y byddai pwysau ar unwaith i gadw o fewn y gyllideb.  Roedd yn teimlo ei bod yn hollbwysig i’r Cyngor baratoi ar gyfer cyllideb 2015-16 mewn da bryd ac y dylai'r cyfnod ymgynghori gychwyn yn llawer cynt nag yn y gorffennol.

 

Cyfeiriodd at y materion isod a oedd yn destun pryder iddo o fewn y gyllideb:-

 

·         cyflwr y rhwydwaith ffyrdd ar yr Ynys, yn arbennig felly mewn ardaloedd gwledig;

·         bwriad i godi ffioedd parcio a phrisiau tocynnau tymhorol a fyddai'n cael effaith ar yr henoed  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.1

6.2

Strategaeth Cyllideb Tymor Canol, Y Gyllideb, Treth Gyngor, Rheoli’r Trysorlys a Dangosyddion Pwyllog 2014-15 – Materion Statudol pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) yn delio â materion statudol yn ymwneud â’r gyllideb.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn delio gyda materion statudol mewn perthynas â'r gyllideb.

 

Adroddwyd – Fel y gallai fabwysiadu ei gyllideb ar gyfer 2014-15 a phenderfynu ar lefel y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn, roedd raid i’r Cyngor Sir fabwysiadu penderfyniad ffurfiol a oedd yn delio mewn peth manylder â’r holl faterion cysylltiedig.  Roedd y Pwyllgor Gwaith wedi argymell cynnydd arfaethedig o 4.5% yn y Dreth Gyngor a oedd yn cyfateb i £981.41 i eiddo Band D (codiad o £0.81c yr wythnos).

 

Wrth iddo roi sylw i gyllideb arfaethedig y Pwyllgor Gwaith, dylai'r Cyngor hefyd gymryd i ystyriaeth yr adroddiad gan y Swyddog Adran 151 oherwydd ei fod yn delio gyda materion statudol a materion eraill yr oedd rhaid rhoi sylw iddynt i gwblhau'r cyngor ar y gyllideb.  Bwriad y penderfyniad ar y gyllideb ddrafft oedd gweithredu cynigion y Pwyllgor Gwaith a chymryd y cyngor hwn i ystyriaeth.

 

Roedd yr adroddiad i’r Cyngor heddiw yn delio gyda Chadernid yr Amcangyfrifon (Para 2), Digonolrwydd y Cronfeydd Wrth Gefn (Para 3), Cyflawni'r Gyllideb (Para 4), Y Côd Darbodus a Rheoli Trysorlys (Para 5) a'r ardollau ffurfiol (Para 6).

 

Mewn perthynas â’r Strategaeth Gyllidebol, rhagamcanion economaidd a chadernid yr amcangyfrifon a digonolrwydd y cronfeydd wrth gefn, nodwyd mai argymhelliad y Swyddog Adran 151 oedd na ddylai’r cynnydd yn y dreth gyngor ar gyfer 2014/15 fod yn is na 4.5% ac na ddylai’r balansau cyffredinol fod yn is na £5m fel targed.

 

Roedd y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2014-15 fel y cafodd ei chyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio a'r Pwyllgor Gwaith (fel y'i diwygiwyd) wedi ei chynnwys eleni yn yr Atodiad i'r adroddiad hwn a chynigiwyd ac eiliwyd y dylid derbyn y Strategaeth Rheoli Trysorlys a’r dogfennau cysylltiedig ar gyfer 2014-15.

6.3

Strategaeth Cyllideb Tymor Canol, Y Gyllideb, Treth Gyngor, Rheoli’r Trysorlys a Dangosyddion Pwyllog 2014-15 – Penderfyniad Ffurfiol pdf eicon PDF 188 KB

Ystyried y penderfyniad ffurfiol fel oedd wedi ei gynnwys yn adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau).

Cofnodion:

Ystyriwyd – Y penderfyniad ffurfiol fel oedd wedi ei gynnwys yn adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau).

 

Ar ôl rhoi sylw i’r papurau fel un pecyn a’r sylwadau a wnaed yn y cyfarfod heddiw, cymerwyd pleidlais ar y mater a chymeradwywyd y gyllideb derfynol a gynigiwyd gan y Pwyllgor Gwaith ar gyfer 2014-15.

 

PENDERFYNIAD DRAFFT Y DRETH GYNGOR

 

1.       PENDERFYNWYD

 

(a)      Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith i fabwysiadu’r Cynllun Ariannol Tymor Canol yn Nhabl A, fel Strategaeth Cyllideb oddi mewn i ystyr a roddir yn y Cyfansoddiad, ac i gadarnhau y daw’n rhan o’r fframwaith cyllidebol gyda’r eithriad o’r ffigyrau a ddisgrifir fel rhai cyfredol.

 

(b)     Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith i fabwysiadu cyllideb refeniw 2014/15 fel y gwelir honno yn Nhabl B.

           

(c)      Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith i fabwysiadu cynllun a chyllideb cyfalaf fel y gwelir hwnnw yn Nhabl C.

 

(ch)    Ddirprwyo i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) y pŵer i wneud addasiadau rhwng penawdau yn Nhabl B er mwyn rhoi effaith i benderfyniadau'r Cyngor.

 

(d)     Dirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith, ym mlwyddyn ariannol 2014/15, y pwerau i drosglwyddo cyllidebau rhwng penawdau fel a ganlyn:

 

         (i)            pwerau dilyffethair i wario pob pennawd cyllidebol unigol yn Nhabl B yn erbyn pob gwasanaeth unigol, ar y gwasanaeth perthnasol;

 

         (ii)           pwerau i ddyrannu symiau o’r arian wrth gefn heb ei ddyrannu  a rhai gwasanaeth i gyllido cynigion gwariant unwaith-ac-am-byth sy’n cyfrannu tuag at gyflawni amcanion y Cyngor a gwella gwasanaethau;

 

         (iii)          pwerau i drosglwyddo o’r ffynonellau incwm newydd neu uwch.

 

 

(dd)   Dirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol 2014/15 ac ar gyngor y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) y pŵer i ryddhau hyd at £500k o falansau cyffredinol i ddelio gyda blaenoriaethau yn codi yn ystod y flwyddyn.

 

(e)      Am y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2017, dirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith y pwerau a ganlyn:

 

         (i)            pwerau i wneud ymrwymiadau newydd o gyllidebau refeniw blynyddoedd y dyfodol hyd at y symiau a nodir ar gyfer blaenoriaethau newydd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol;

 

         (ii)           y pwerau a’r ddyletswydd i baratoi cynlluniau i gyflawni arbedion cyllidebol refeniw fel yr awgrymir yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol;

 

         (iii)          pwerau i drosglwyddo cyllidebau rhwng  prosiectau cyfalaf yn Nhabl C ac ymrwymo adnoddau yn y blynyddoedd dilynol gan gydymffurfio gyda’r fframwaith cyllidebol.

 

(f)      Pennu'r dangosyddion pwyllog sy'n amcangyfrifon am 2014/15 ymlaen fel sy'n ymddangos yn Nhabl Ch gan gadarnhau'r terfynau ar fenthyca a buddsoddi sydd wedi eu nodi yn eitemau 10, 11 a 14 i 17 yn y tabl.

 

(ff)     Cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys am y flwyddyn.

 

(g)     Mabwysiadu fersiwn diwygiedig Côd Ymarfer CIPFA 2011 ar Reoli Trysorlys.

 

(ng)   Cadarnhau y bydd eitemau 1 (b) i (g) yn dod yn rhan o’r fframwaith cyllidebol.

 

2.       PENDERFYNWYD mabwysiadu a chadarnhau i bwrpas y flwyddyn ariannol 2014/15 benderfyniad y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 1998, bod y Cyngor Sir yn pennu lefel y disgownt sy'n gymwys i'r Dosbarth penodedig A a Dosbarth  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.3

6.4

Strategaeth Cyllideb Tymor Canol, Y Gyllideb, Treth Gyngor, Rheoli’r Trysorlys a Dangosyddion Pwyllog 2014-15 – Newidiadau i’r Gyllideb

Cyflwyno unrhyw newidiadau i’r Gyllideb yn dilyn derbyn rhybudd o dan Baragraff 4.3.2.2.11 y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw newidiadau i’r gyllideb.

7.1

Newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor – Polisi Chwythu’r Chwiban pdf eicon PDF 411 KB

Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 17 Chwefror, 2014 wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

“Argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn diwygio’r Polisi Chwythu’r Chwiban yn y Cyfansoddiad yn y dull a nodwyd yn yr atodiad i’r adroddiad ac awdurdodi’r Swyddog Monitro wneud unrhyw newidiadau o ganlyniad i’r Cyfansoddiad.”

 

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor).

Cofnodion:

Adroddwyd – Bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 17

Chwefror, 2014 wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

"Argymell i'r Cyngor Sir ei fod yn diwygio'r Polisi Chwythu'r Chwiban yn y Cyfansoddiad yn y dull a nodwyd yn yr atodiad i’r adroddiad ac awdurdodi'r Swyddog Monitro wneud unrhyw newidiadau fydd eu hangen i’r Cyfansoddiad yn dilyn hynny."

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith yn yr adroddiad.

7.2

Newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor – Llywydd y Cyngor pdf eicon PDF 138 KB

Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 17 Chwefror 2014 wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir na fydd yn symud ymlaen yn hyn o beth. 

 

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor).

Cofnodion:

Adroddwyd – bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 17

Chwefror 2014 wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir na fydd yn symud ymlaen

yn hyn o beth.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith yn y cyswllt hwn.

8.

Gwerthusiad Cymeriad Ardal Gadwraeth Aberffraw pdf eicon PDF 435 KB

Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr, 2014 wedi penderfynu:-

 

“argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn cymeradwyo gwerthusiad cymeriad ardal cadwraeth Aberffraw i’w fabwysiadu fel Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol (CCA)”.

 

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd).

Cofnodion:

Adroddwyd – bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr, 2014 wedi penderfynu:-

 

Argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn cymeradwyo’r Gwerthusiad o Gymeriad Ardal Gadwraeth Aberffraw i’w fabwysiadu fel Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol (CCA).”

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith yn y cyswllt hwn.

9.

Amseriad Cyfarfodydd pdf eicon PDF 171 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd dros dro yn gofyn i’r Cyngor gadarnhau trefniadau i’r dyfodol ar ôl ystyried sylwadau a wnaed gan rai pwyllgorau ar amser cyfarfodydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith nad oedd yn gallu derbyn yr adroddiad oherwydd ei bod yn ystyried bod gwendid sylfaenol yn y broses.  Roedd llawer o’r Cynghorwyr newydd wedi cyflwyno eu henwau i sefyll yn yr etholiad ar y sail bod hwn yn Gyngor sy’n ymrwymedig i gyfleon cyfartal ac amrywiaeth.  Am y tro cyntaf fe etholwyd Cynghorwyr iau o oed gweithio ac, os oedd y Cyngor hwn yn dymuno denu cynrychiolwyr o bob rhan o’r gymuned a chyda cyfrifoldebau gwahanol yn yr etholiad nesaf, byddai’n rhaid edrych ar y mater hwn eto i sicrhau democratiaeth wirioneddol.  Awgrymodd y dylid cysylltu â’r Comisiwn ar gyfer Cyfleon Cyfartal a Chynghorau eraill ar hyd a lled y wlad i ofyn am gyngor a syniadau a gofynnodd i’r Cyngor edrych ar y mater hwn eto cyn gynted ag y bo modd.

 

PENDERFYNWYD na fydd unrhyw newid yn amser cyfarfodydd y ddau Bwyllgor Sgriwtini a’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Cytundeb Canlyniad pdf eicon PDF 17 KB

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Weithredwr – Fod y Pwyllgor Gwaith wedi rhoi sylw i adroddiad brys ar 13 Ionawr 2014 gan y Rheolwr Cynllunio Busnes a Rhaglen ar y trefniadau newydd ar gyfer Cytundeb Canlyniadau am y cyfnod 2013-16 ac yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r cytundeb newydd ar gyfer y cyfnod hwn yn seiliedig ar ganllawiau terfynol gan Lywodraeth Cymru.  Rhoddwyd sylw i’r mater hwn fel un brys o gofio’r angen i gwblhau materion gyda Llywodraeth Cymru cyn gynted ag y bo modd ac felly nid oedd modd ei alw-i-mewn.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

11.

Cynigion a Dderbyniwyd yn unol â Rheol 4.1.2.2.12 y Cyfansoddiad

(1) Cyflwyno’r Rhybudd o gynigiad canlynol gan y Cynghorydd A.Morris Jones, wedi ei gydarwyddo gan y Cynghorwyr Bob Parry,OBE, Jeff Evans, K.P.Hughes a Nicola Roberts:-

 

“Fel ymateb i Adolygiad Williams, rydym ni sydd wedi arwyddo isod yn galw ar y Cyngor Sir i ddefnyddio pob ffordd bosibl i hyrwyddo pam y dylid cadw corff gwneud penderfyniad llywodraeth leol ar Ynys Môn.”

 

Rhoi ystyriaeth i’r uchod.

 

(2) Cyflwyno’r Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorwyr Dylan.W.Rees, Bob Parry,OBE a Nicola Roberts:-

 

“Rydym ni sydd wedi arwyddo isod yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i ystyried gwahodd uwch gynrychiolwyr y Swyddfa Bost i ymddangos gerbron cyfarfod o’r Cyngor llawn i egluro eu cynlluniau ar gyfer rhyddfreinio Swyddfeydd Post y Goron yng Nghaergybi a Llangefni.

 

Fel rhan o’u Cynlluniau Trawsnewid, mae’r Swyddfa Bost yn ceisio rhyddfreinio 73 o Swyddfeydd Post y Goron ar draws y wlad yn cynnwys Caergybi a Llangefni.  Mae’r trigolion lleol yn anhapus iawn gyda’r cynlluniau hyn ac mae deisebau mawr wedi eu harwyddo yn y ddwy ardal yn gwrthwynebu’r cynigion.  Rydym yn credu, oherwydd pwysigrwydd y mater hwn, y dylai pob Cynghorydd gael y cyfle i sgriwtineiddio cynlluniau’r Swyddfa Bost.”

 

Rhoddi ystyriaeth i’r uchod.

Cofnodion:

(1) Cyflwynwyd - Y Rhybudd o gynigiad canlynol gan y Cynghorydd A Morris Jones, wedi ei gydarwyddo gan y Cynghorwyr Bob Parry OBE, Jeff Evans, K P Hughes a Nicola Roberts:-

 

“Fel ymateb i Adolygiad Williams, rydym ni sydd wedi arwyddo isod yn galw ar y Cyngor Sir i ddefnyddio pob ffordd bosibl i hyrwyddo pam y dylid cadw corff gwneud penderfyniad llywodraeth leol ar Ynys Môn.”

 

Yn y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd A Morris Jones ei fod ef a'i gydlofnodwyr wedi penderfynu tynnu'r Rhybudd o Gynigiad yn ôl yn wyneb y datganiad a wnaed yn ddiweddar gan Brif Weinidog Cymru bod unrhyw newidiadau i ffiniau awdurdodau lleol yn annhebygol cyn yr etholiadau Cynulliad nesaf.  Roedd Prif Weinidog Cymru hefyd wedi  diystyru cwrdd â dyddiad cau Comisiwn Williams ar gyfer cytuno ar ffordd ymlaen erbyn y Pasg, gan ddweud ei fod yn dymuno cael cytundeb trawsbleidiol erbyn yr haf mewn perthynas â’r map Cynghorau i’r dyfodol.  Ni fyddai ond modd gwneud rhagor o gynnydd trwy gyfuno gwirfoddol a thrwy bolisïau ym maniffestos y pleidiau.

 

Dywedodd yr Arweinydd nad oedd unrhyw gonsensws yng Nghaerdydd ar y mater, ac na fyddai’r Awdurdod hwn yn gwirfoddoli i gyfuno gyda Chyngor Gwynedd ar hyn o bryd ond y byddai'n parhau i fonitro'r sefyllfa.

 

(2) Cyflwynwyd – Y Rhybudd o gynigiad canlynol gan y Cynghorwyr Dylan

W Rees, Bob Parry OBE a Nicola Roberts: -

 

"Rydym ni sydd wedi arwyddo isod  yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn, i ystyried gwahodd uwch gynrychiolwyr y Swyddfa Bost i ddod gerbron cyfarfod o'r Cyngor llawn i egluro eu cynlluniau dros ryddfreinio'r Swyddfeydd Post Brenhinol yng Nghaergybi a Llangefni.

 

Fel rhan o'u Cynlluniau Trawsnewid, mae’r Swyddfa Bost yn edrych i ryddfreinio 73 o Swyddfeydd Post y Goron ar draws y wlad yn cynnwys Caergybi a Llangefni   Mae’r trigolion lleol yn anhapus iawn gyda'r cynlluniau hyn ac mae deisebau mawr wedi eu harwyddo yn y ddwy ardal yn gwrthwynebu'r cynigion.  Oherwydd pwysigrwydd y mater hwn rydym yn credu y dylai  pob Cynghorydd gael cyfle i sgriwtineiddio cynlluniau’r Swyddfa Bost."

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod swyddog o Swyddfa Bost y Goron wedi ymweld ag ef ar 8 Gorffennaf 2013 i drafod eu cynigion ar gyfer yr Ynys.  Cyflwynwyd y wybodaeth honno wedyn i i gyfarfod o Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol ar 12 Medi lle casglwyd bod y cynigion hyn yn faterion oedd yn fwy priodol i’r Cynghorau Tref a Chymuned eu hystyried yn hytrach na galw cyfarfod arbennig o'r Cyngor hwn.

 

PENDERFYNWYD cytuno i gais o'r fath a gofyn i'r Prif Weithredwr wneud y trefniadau angenrheidiol mewn perthynas â gwahodd uwch gynrychiolwyr o’r Swyddfa Bost i annerch y Cyngor.

12.

Dirprwyaethau pdf eicon PDF 286 KB

Bydd y Prif Weithredwr yn cyflwyno er gwybodaeth, adroddiad yn nodi unrhyw newidiadau i’r cynllun dirprwyo mewn perthynas â swyddogaethau’r Pwyllgor Gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith neu’r Arweinydd ers y cyfarfod Cyffredin diwethaf (Rheol 4.4.1.1.2 Rheolau Gweithdrefn y Pwyllgor Gwaith yn y Cyfansoddiad).

Cofnodion:

Cyflwynwyd er gwybodaeth, adroddiad gan y Prif Weithredwr yn nodi unrhyw newidiadau i’r cynllun dirprwyo mewn perthynas â swyddogaethau’r Pwyllgor Gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith neu’r Arweinydd ers y cyfarfod Cyffredin diwethaf (cyfeirir at Rheol 4.4.1.1.2 Rheolau Gweithdrefn y Pwyllgor Gwaith yn y Cyfansoddiad).

13.

Cau allan y Wasg a’r Cyhoedd pdf eicon PDF 65 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

14.

Datganiad Polisi Tâl 2014-15

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol).

Cofnodion:

Dywedodd yr Aelod Portffolio - bod llythyr gan Gynulliad Cymru wedi dod i law ar ddydd Mawrth ac y gallai cynnwys y llythyr hwnnw gael effaith ar yr adroddiad i’r Cyngor heddiw.  Gan nad oedd y Pennaeth Proffesiwn - Adnoddau Dynol wedi cael cyfle hyd yma i ystyried cynnwys y llythyr, awgrymwyd y dylid gohirio'r adroddiad hyd y cyfarfod arbennig o'r Cyngor Sir a gynhelir ar 27 Mawrth 2014.

 

PENDERFYNWYD gohirio rhoi sylw i’r mater hyd y cyfarfod arbennig o'r Cyngor Sir a gynhelir ar 27 Mawrth 2014.