Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Mr Huw Jones
Rhif. | Eitem |
---|---|
Rhoes y Cadeirydd groeso i bawb a oedd yn bresennol i’r cyfarfod hwn o’r Cyngor Sir a gan mai hwn oedd ei gyfarfod diwethaf ef fel Cadeirydd, diolchodd i’r Swyddogion a’r Aelodau am eu cefnogaeth yn ystod ei gyfnod yn y swydd.
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn:-
· 27 Chwefror, 2014 · 27 Mawrth, 2014 (Arbennig) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2014 a 27 Mawrth 2014. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth y Cynghorydd Jim Evans ddatganiad o ddiddordeb yn Eitem 5 ar y rhaglen. Arhosodd yn y cyfarfod am y cyflwyniad ond aeth allan yn ystod y sesiwn cwestiwn ac ateb a gafwyd wedyn. |
|
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod grŵp gwleidyddol newydd wedi cael ei ffurfio o’r enw Grŵp y Chwyldroadwyr a bod y grŵp yn cynnwys y Cynghorydd Jeff Evans fel Arweinydd y Grŵp a’r Cynghorydd Peter Rogers.
Ymwelodd y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones, AM a Phrif Weinidog Cymru â Chymunedau’n Gyntaf ar Ynys Môn yr wythnos ddiwethaf a gwelodd yr Academi Alwedigaethol a’r cynllun LIFT sy’n cefnogi aelwydydd di-waith i gael hyfforddiant ac/neu swyddi. Llongyfarchodd y Prif Weinidog y Cyngor ar arwain ar y Rhaglen Gwrthdlodi a’r staff am eu gwaith ardderchog. Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf Ynys Môn yw’r un fwyaf llwyddiannus yng Nghymru o ran cael gwaith ac/neu hyfforddiant i bobl ddi-waith.
Ar ddydd Sul, Ebrill 27, cynhaliwyd seremoni yn Fferm Neuadd, Llanbadrig i ddadorchuddio plac er cof am y ffermwr a ddaeth i gael ei adnabod fel tad y Corfflu Cymreig, y Brigadydd Gadfridog Syr Owen Thomas. Rhagor na 90 blynedd ar ôl iddo farw, mae Syr Owen Thomas yn parhau i gael ei gydnabod fel ffigwr ysbrydoledig ac am ei allu fel arweinydd rhagorol. Roedd yn anrhydedd cael bod yn bresennol yn y seremoni i gydnabod ac i dalu teyrnged i lwyddiant aruthrol Syr Owen Thomas gan gynnwys ei wasanaeth i’w gymuned, i Ynys Môn a’i wlad.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Aled Morris Jones ac i Mrs Pat West, Prif Swyddog Amgueddfeydd am drefnu’r digwyddiad arbennig hwn.
Llongyfarchwyd Clwb Ffermwyr Ifanc Rhos-y-bol ar ei lwyddiant yn ddiweddar yng Nghystadleuaeth Adloniant Ffermwyr Ifanc Cymru yn Venue Cymru, Llandudno ac am gipio’r drydedd wobr.
Yn ogystal, llongyfarchwyd y Cynghorydd Carwyn Jones am ennill y wobr gyntaf am actio ac am ei bortread o Mrs Brown o “Mrs Brown’s Boys”, ac i Elin Haf Morris Jones am ennill y wobr gyntaf am ei phortread o Vera o “Gwlad yr Astra Gwyn.”
Mynegodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad ef a’r Aelodau â theulu Mr Richard Jones, cyn Brifathro Ysgol Kingsland, Caergybi. Roedd y diweddar Mr Jones yn dod yn wreiddiol o Gaergeiliog ond treuliodd ei flynyddoedd diweddaraf ym Miwmares. Mynegwyd cydymdeimlad hefyd ag unrhyw Aelodau o’r Cyngor neu staff a oedd wedi cael profedigaeth. Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion fel arwydd o gydymdeimlad a pharch. |
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd yr un ddeiseb. |
|
Swyddfeydd Post Caergybi a Llangefni I dderbyn cyflwyniad gan Non Tudur Williams, Uwch-Reolwr Rhanddeiliaid – Yn unol â phenderfyniad y Cyngor Sir ar 27 Chwefror, 2014, gwahoddwyd uwch gynrychiolwyr o Swyddfa’r Post i annerch y Cyngor mewn perthynas â’u cynlluniau ar gyfer rhyddfreinio’r Swyddfeydd Post Brenhinol yng Nghaergybi a Llangefni.
Neilltuir cyfnod o gwestiynau ac atebion i’r Aelodau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoes y Cadeirydd groeso i Non Tudur Williams, Uwch Reolwraig Cydranddeiliaid a Mr John Jones, Rheolwr Ardal Gwasanaeth Swyddfeydd Post y Goron i’r cyfarfod a oedd, fel uwch gynrychiolwyr y Swyddfa Bost wedi cael gwahoddiad i annerch y Cyngor yn unol â’r penderfyniad a wnaed gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror, 2014.
Rhoes Non Tudur Williams gyflwyniad i’r Aelodau ar strategaeth a gweledigaeth y Swyddfa Bost ar gyfer dyfodol rhwydwaith cyfan y Swyddfa Bost yn y dyfodol gan gynnwys Swyddfeydd Post y Goron er mwyn cwrdd â’r her o ddiwallu anghenion a dyheadau cwsmeriaid mewn gwahanol ffyrdd a sicrhau darpariaeth sy’n ariannol ymarferol, cynaliadwy a chyfoes. Rhoes amlinelliad o’r ddarpariaeth gyfredol yn Ynys Môn a’r modd y caiff ei chyflawni ac eglurodd y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â’r cynlluniau ar gyfer rhyddfreinio Swyddfeydd Post y Goron yng Nghaergybi a Llangefni.
Ar ddiwedd yr anerchiad, rhoddwyd y cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau i gynrychiolwyr y Swyddfa Bost yn arbennig felly o ran eu pryderon ynglŷn â’r cynlluniau ar gyfer Swyddfeydd Post y Goron yn Llangefni a Chaergybi a goblygiadau ac effeithiau hynny o ran cyflogaeth, hwylustod y gwasanaethau a’r ymdrechion sy’n mynd rhagddynt i adfywio canol trefi Llangefni a Chaergybi. Pwysleisiodd cynrychiolwyr y Swyddfa Bost ymrwymiad y Swyddfa Bost i fod wrth wraidd y gymuned a dywedasant fod rhaglen drawsnewid y goron a rhaglen drawsnewid y rhwydwaith yn ehangach yn un a oedd yn canolbwyntio ar fuddsoddiad, canghennau newydd, dulliau newydd o ddarparu gwasanaeth ac oriau agor hirach a mwy hyblyg. Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr y Swyddfa Bost am roddi o’u hamser i fynychu’r cyfarfod hwn o’r Cyngor Sir ac am ymateb i gwestiynau a phryderon yr Aelodau. |
|
Cynllun Gwella 2014-15 – Cyflawniad Blynyddol PDF 560 KB (a) Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 22 Ebrill, 2014.
(b) Cyflwyno sylwadau’r Pwyllgor Gwaith ar y Cynllun Gwella.
PENDERFYNWYD derbyn y Ddogfen Ddarparu Flynyddol am 2014/15 ac argymell ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir yn ei gyfarfod i’w gynnal ar 8 Mai, 2014. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a oedd yn cynnwys y Ddogfen Cyflawniad Blynyddol (Cynllun Gwella) ar gyfer 2014/15 fel y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 22 Ebrill 2014 ei roi gerbron y Cyngor i’w ystyried.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Perfformiad, Trawsnewid, y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol fod y Ddogfen Cyflawni yn egluro sut y bydd y Cyngor yn cyflawni ar ei addewidion yn ystod y flwyddyn nesaf a bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 22 Ebrill wedi penderfynu derbyn y Ddogfen Cyflawni Flynyddol ar gyfer 2014/15 ac wedi argymell fod y Cyngor Sir yn ei chymeradwyo yn ei gyfarfod ar 8 Mai 2014.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Peter Rogers at yr amcanion ar gyfer trawsnewid Gwasanaethau Hamdden yr Awdurdod ac yn arbennig felly, nodi model gwasanaeth newydd ar gyfer Cwrs Golff Llangefni a phwysleisiodd bod angen gwneud penderfyniadau ynghylch datblygu ac/neu ddadgomisiynu asedau gyda dealltwriaeth a gwerthfawrogiad llawn o oblygiadau hynny a’r hyn y bydd eu gweithredu’n ei olygu. Cyfeiriodd yn benodol hefyd at y Camerâu Goruchwylio. Cadarnhaodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, yr Aelod Portffolio ar gyfer Datblygu Economaidd, Twristiaeth a Hamdden fod ymrwymiad eisoes wedi ei wneud yn y Pwyllgor Sgriwtini ac y byddir yn edrych ar holl asedau’r Cyngor, gan gynnwys y Clwb Golff yn Llangefni.
Penderfynwyd mabwysiadu’r Ddogfen Cyflawni Flynyddol (Cynllun Gwella) ar gyfer 2014/5. |
|
Cydbwysedd Gwleidyddol PDF 104 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd. – ADRODDIAD HWYR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’w ystyried – yr adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd ynghylch trefniadau cydbwysedd gwleidyddol yn y Cyngor.
Dywedwyd bod angen i’r Cyngor adolygu’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar ei bwyllgorau yn dilyn rhybudd fod un Aelod wedi gadael y Grŵp Annibynnol, a bod Grŵp newydd wedi cael ei sefydlu yn dilyn hynny, sef y Grŵp Chwyldroadwyr ac arno 2 Aelodau a rhybudd fod un Aelod digyswllt wedi ymuno gyda’r Grŵp Annibynnol. Cylchredwyd yn y cyfarfod fatrics newydd a oedd yn nodi nifer y seddau yr oedd gan bob un o’r grwpiau hawl iddynt a nifer y seddau a ddyrennir i Aelodau digyswllt yn ôl yr arfer yn lleol fel y cafodd ei gadarnhau gan y Cyngor ar 5 Rhagfyr 2013.
Dygodd y Cynghorydd Aled Morris Jones sylw at y ffaith bod ei ddynodi ef fel Aelod digyswllt yn gamgymeriad oherwydd mae’n aelod o grŵp gwleidyddol cenedlaethol - y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, a gofynnodd i hynny gael ei adlewyrchu yn y matrics.
Eglurodd dy Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) bod defnydd o’r ymadrodd “digyswllt” yn cael ei dynnu o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ac mae’n cyfeirio at y ffaith bod Aelodau, i bwrpas cydbwysedd gwleidyddol, yn rhai digyswllt oni bai eu bod yn aelodau o grŵp ar y Cyngor p’un a ydynt yn aelodau o blaid wleidyddol y tu allan i’r Cyngor ai peidio. Awgrymodd fod y cywiriad yn cael ei gofnodi a bod troednodyn esboniadol yn cael ei ychwanegu at y matrics cydbwysedd gwleidyddol. Cytunwyd y byddai troednodyn yn cael ei gynnwys yn y matrics safonol ar gyfer y dyfodol yn egluro fod “digyswllt” yn golygu’r rheiny nad ydynt yn rhan o’r grwpiau gwleidyddol a gynrychiolir ar y Cyngor.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dylan Rees at gofnodion y cyfarfod y Cyngor ym mis Rhagfyr 2013 a oedd yn adlewyrchu’r ffaith ei fod wedi gofyn i’r Arweinydd a oedd yn arfer dda i gael y ddau Aelod Llafur ar y Pwyllgor Gwaith yn wyneb y ffaith mai nhw oedd yr unig ddau Gynghorydd Llafur allan o gyfanswm y Cyngor o dri deg. Dywedodd yr Arweinydd y byddai’n darparu ymateb ysgrifenedig i’r cwestiwn ac nad oedd wedi cael yr ateb hwnnw, cadarnhaodd y Cynghorydd Rees ei fod wedi trafod y mater gyda’r Arweinydd a oedd wedi dweud ei fod eisiau sicrhau sefydlogrwydd cyn ystyried unrhyw newidiadau i gydbwysedd gwleidyddol. Gan fod hynny bum mis yn ôl, gofynnodd y Cynghorydd Rees a yw’r Arweinydd yn awr yn bwriadu gweithredu ynglŷn â’r diffyg cydbwysedd gwleidyddol ar y Pwyllgor Gwaith?
Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi rhoi sylw difrifol i’r mater ac ail-ddatganodd ei fod yn credu fod sefydlogrwydd yn bwysig. Eglurodd fod y grwpiau Annibynnol a Llafur wedi sefydlu partneriaeth ac fel rhan o’r bartneriaeth honno, penderfynwyd y byddai’r ddau Aelod Llafur yn gwasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith ac maent wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr. Cadarnhaodd yr Arweinydd nad oedd yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau ar hyn o bryd.
Penderfynwyd –
• Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau 2014-15 PDF 166 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’w ystyried – adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd ar y cynllun ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol i Aelodau. Yn yr adroddiad, nodwyd penderfyniadau Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRP) ar gyfer 2013/14 o ran cyflogau sylfaenol a chyflogau lefel uwch, cyflogau dinesig, taliadau i aelodau cyfetholedig a thaliadau a lwfansau eraill ynghyd â manylion cyfyngiadau lle mae hynny’n berthnasol ac fel a bennwyd yn ei adroddiad blynyddol dyddiedig Chwefror 2014.
Penderfynwyd –
• Cadarnhau dyrannu uwch gyflogau i ddeilyddion swyddi ar gyfer 2014/15 yn unol â pharagraff 2.12 yr adroddiad. • Cadarnhau y dylai lwfansau Lefel C fel y penderfynwyd arnynt gan yr IRP fod yn daladwy i swyddi’r pennaeth a’r ddiprwy bennaeth dinesig gan gymryd i ystyriaeth y baich gwaith a’r cyfrifoldebau a ragwelir yn unol â pharagraff 2.6 yr adroddiad. • O safbwynt taliadau i Aelodau cyfetholedig, ni fydd cap blynyddol yn cael ei gyflwyno ar gyfer gwaith paratoadol (paragraff 3.5 yr adroddiad). • Nodi manylion eraill ar daliadau a lwfansau ar gyfer 2014/14 fel y cânt eu pennu gan yr IRP a’u hamlinellu yn yr adroddiad. |
|
Pwyllgor Archwilio – Adroddiad Blynyddol 2013-14 Ystyried Adroddiad Blynyddol Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn yn unol â pharagraff 4.1.16 y Cyfansoddiad. – I’W GYFLWYNO YN Y CYFARFOD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio ar waith y Pwyllgor yn ystod blwyddyn ddinesig 2013/14. Yn absenoldeb Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio, cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Jim Evans fel aelod o’r Pwyllgor Archwilio.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dylan Rees at adroddiad mewnol beirniadol ar drefniadau caffael y Cyngor ac ar awgrymiad a wnaed gan CLlLC mewn erthygl ar brynu nwyddau a gwasanaethau, y dylai awdurdodau lleol gynhyrchu adroddiad caffael blynyddol a nodi aelod arweiniol ar y Pwyllgor Gwaith a Swyddog Arweiniol a fyddai’n gyfrifol am sicrhau fod trefniadau caffael mor effeithlon â phosib a sicrhau fod gan gynghorwyr rheng-flaen rôl benodol o ran adolygu a sgriwtineiddio caffael. Gofynnodd a oedd y Cynghorydd Jim Evans yn cytuno y byddai honno’n arfer dda ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn. Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees ei fod yn hapus i’r Cynghorydd Jim Evans gyfeirio’r cwestiwn at yr Arweinydd.
Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn cytuno gyda’r awgrymiadau a wnaed a dywedodd fod cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Archwilio wedi cael ei gynnal ddiwedd y mis diwethaf pryd y rhoddwyd sylw manwl i fater caffael yn y Cyngor a bod argymhellion ar gyfer gwella’r trefniadau caffae wedi esblygu o’r cyfarfod hwnnw.
Nododd yr Aelodau fod cynnwys, fel rhan o’r Adroddiad Blynyddol, wybodaeth ynghylch presenoldeb aelodau yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio yn ystod y flwyddyn yn ddefnyddiol ac awgrymwyd y dylid efelychu hynny mewn adroddiadau blynyddol eraill. Penderfynwyd derbyn Adroddiad Blynyddol Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a nodi ei gynnwys. |
|
Adroddiad Blynyddol Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn PDF 262 KB Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoes y Cynghorydd Ieuan Williams, Arweinydd y Cyngor amlinelliad ar lafar o brif ddigwyddiadau’r 12 mis diwethaf gan ganolbwyntio ar ddatblygiadau a oedd yn tystio i welliant, cynnydd ac aeddfedrwydd parhaus y Cyngor.
Mynegodd rhai Aelodau o’r Cyngor eu siom nad oedd adroddiad blynyddol yr Arweinydd wedi bod ar gael iddynt yn ysgrifenedig cyn y cyfarfod yn unol â’r hyn a nodwyd ar y Rhaglen. Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) fod rhaid i Arweinydd y Cyngor, yn unol â thelerau’r Cyfansoddiad, ddarparu Adroddiad Blynyddol ar ffurf i’w gytuno arno gyda Chadeirydd y Cyngor. Yn y dyfodol, awgrymwyd y dylai fersiwn ysgrifenedig o’r adroddiad gael ei gylchredeg i Aelodau wedi i’r Arweinydd ei gyflwyno. Awgrymwyd hefyd y dylai cynnwys yr Adroddiad Blynyddol fod yn fwy cytbwys a sôn hefyd am unrhyw nodau ac amcanion na fu modd eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.
Penderfynwyd derbyn Adroddiad Blynyddol yr Arweinydd a nodi ei gynnwys. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2013-14 PDF 215 KB Cyflwyno adroddiad gan Mr Michael Wilson, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, Mr Michael Wilson ar raglen weithgareddau’r Pwyllgor yn ystod 2013-14 ynghyd â’i raglen arfaethedig ar gyfer 2014-15.
Penderfynwyd -
• Nodi’r rhaglen a gyflawnwyd gan y Pwyllgor Safonau rhwng Ebrill 2013 a Mai 2014. • Cymeradwyo rhaglen y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2014/15 fel y cafodd ei hamlinellu yn Atodiad B yr adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol Sgriwtini 2013-14 PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol Sgriwtini yn manylu ar y gwaith a wnaed gan ddau bwyllgor sgriwtini’r Cyngor o 23 Mai 2013 i 8 Mai 2014.
Fel yr Eiriolwr Sgriwtini cyfredol, pwysleisiodd y Cynghorydd R. Meirion Jones swyddogaeth sgriwtini fel ffrind beirniadol ac mewn perthynas â gostwng nifer y pwyllgorau sgriwtini o 5 i 2, nododd fod y Cyngor Sir wedi dweud y byddai’n adolygu’r trefniant hwn ar ddiwedd y flwyddyn.
Penderfynwyd -
• Nodi a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Sgriwtini. • Penodi’r Cynghorydd Peter Rogers yn Eiriolwr Sgriwtini o fis Mai 2014 hyd fis Mai 2015. |
|
Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd 2013-14 PDF 112 KB Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar waith y Pwyllgor yn ystod 2013/14.
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi’r materion a drafodwyd fel rhan o raglen waith y Pwyllgor ar gyfer 2013/14. |
|
Cynllun Datblygu Hyfforddiant i Aelodau – Datblygu Hyfforddiant Aelodau 2014-15 PDF 474 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Cynllun Hyfforddiant arfaethedig ar gyfer yr Aelodau am y flwyddyn nesaf.
Penderfynwyd mabwysiadu ac ymgymryd â’r Cynllun Hyfforddi ar gyfer Aelodau am 2014/15 fel y nodwyd hynny yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
Cwestiynau a dderbyniwyd yn unol â Rheol 4.1.12.2 y Cyfansoddiad Cwestiwn Cynghorydd Jeff Evans:-
Hoffwn ofyn y cwestiwn isod dan reol i Cynghorydd R Dew, Aelod Portffolio Eiddo:-
“Faint o fusnesau/sefydliadau sydd ar hyn o bryd yn cael £500 am ddarparu cyfleusterau toiled. Lle mae’r rhain a beth yw cyfanswm cost y ddarpariaeth?” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd y cwestiwn isod y cafwyd rhybudd ohono gan Jeff Evans i’r Cynghorydd Richard Dew, yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Eiddo a Rheoli Gwastraff:
“Faint o fusnesau/sefydliadau sydd ar hyn o bryd yn derbyn £500 am ddarparu cyfleusterau toiled? Ble mae’r rhain a beth yw cyfanswm cost y ddarpariaeth.”
Mewn ymateb, dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Eiddo a Rheoli Gwastraff, fod 31 o fusnesau wedi derbyn grant £500 yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, 2013/14, cyfanswm o £15,500. Roedd y busnesau hyn wedi eu lleoli ar hyd a lled yr ynys gyda thraean ohonynt yng Nghaergybi. Yn 2013/14, cafodd y gwasanaeth y cymorth ariannol ar gyfer y grant yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Eleni, ni fydd y grant yn cael ei dalu’n uniongyrchol, yn hytrach, bydd y Cyngor yn ei dderbyn yn y Grant Cymorth Refeniw. Mae’r Adran yn disgwyl derbyn o leiaf £15,000 o’r GCR i barhau gyda’r cynllun grant eleni ac mae’r rhestr o’r sefydliadau a gymeradwywyd wrthi’n cael ei llunio a chyda gobaith, bydd wedi’i chwblhau erbyn yr wythnos nesaf gyda ffigyrau tebyg eto, h.y. 30 neu fwy o sefydliadau. Er gwybodaeth bellach, i gael eu cynnwys yn y cynllun, rhaid i bob busnes fod ar agor ar amseroedd rhesymol, darparu mynediad i’r anabl ac arddangos poster A4 yn hysbyebu’r ffaith fod y cyfleusterau toiled ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio.
Fel cwestiwn atodol, gofynnodd y Cynghorydd Jeff Evans a fyddai’r Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Eiddo a Rheoli Gwastraff yn mofyn sicrwydd gan yr Adain Rheoli Gwastraff bod y cynllun grantiau toiledau’n cael ei weithredu ar unwaith oherwydd roedd ar ddeall nad oedd unrhyw fusnesau wedi tanysgrifio i’r cynllun hyd yma ac nad oedd unrhyw gyllid wedi’i ryddhau ac y dylid clustnodi’r cyllid i’r Adain Rheoli Gwastraff.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Eiddo a Rheoli Gwastraff bod y rhan fwyaf o’r busnesau a oedd yn rhan o’r cynllun llynedd wedi penderfynu cario ymlaen yn wirfoddol hyd oni wyddys beth fydd canlyniad cytundeb eleni. Mae gwaith yn mynd rhagddo ers derbyn y grant a chyda gobaith, bydd y rhain yn cael eu cymeradwyo yr wythnos nesaf. |
|
Rhybudd o Gynigiad yn unol â Rheolau 4.1.13.1 & 4.1.17.1 Cyflwyno Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd R Meirion Jones yn unol â Rheol 4.1.13.1 ac 4.1.17.1 o’r Cyfansoddiad. Mae’r Rhybudd wedi’i arwyddo gan y Cynghorwyr Bob Parry, OBE, Dylan Rees, Nicola Roberts, Carwyn Jones, Llinos Medi Huws, John W Griffith, T Lloyd Hughes, A W Mummery, Ann Griffith ac Vaughan Hughes.
· Ail-ystyried amseroedd cyfarfodydd y Cyngor Sir, Pwyllgor Gwaith, Pwyllgorau Craffu, Pwyllgorau Lled-farnwrol a phob Pwyllgor neu Is-Bwyllgor arall o’r Cyngor Sir a rhoi sylw anghenion cydraddoldeb, cyfartalwch ac amrywiaeth.
· Trosglwyddo ystyriaeth o amseroedd cyfarfodydd i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
I roi ystyriaeth i’r uchod. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cynghorydd R Meirion Jones yn unol â Rheolau 4.1.13.1 a 4.1.17.1 y Cyfansoddiad wedi ei lofnodi gan y Cynghorwyr Bob Parry OBE, Dylan Rees, Nicola Roberts, Carwyn Jones, Llinos Medi Huws, John W Griffith, T Lloyd Hughes, A W Mummery, Ann Griffith a Vaughan Hughes.
· “Ailystyried amseroedd cyfarfodydd y Cyngor Sir, Pwyllgor Gwaith, Pwyllgorau Sgriwtini, Pwyllgorau Lled-farnwrol a holl Bwyllgorau ac Is-bwyllgorau eraill y Cyngor a rhoi sylw i’r gofynion o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth. · Cyfeirio’r mater i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd”.
Siaradodd y Cynghorydd R Meirion Jones ar y cynnig.
Penderfynwyd cyfeirio’r mater i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. |
|
Cau allan y Wasg a’r Cyhoedd PDF 121 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, i gau’r wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth eithriedig fel â ddiffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Trafodwyd a phenderfynwyd –
Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni Yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.
|
|
Cais gan Gynghorydd i ymestyn ei gyfnod o Absenoldeb Salwch Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Monitro ar gynnwys y cais. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Monitro ar gynnwys y cais.
Penderfynwyd, i bwrpas Adran 85 Deddf Llywodraeth Leol 1972, i dderbyn gwaeledd y cynghorydd fel y rheswm am iddo fethu â mynychu cyfarfodydd ac i ganiatáu ei absenoldeb o holl gyfarfodydd y Cyngor neu Bwyllgorau am gyfnod ychwanegol o 6 mis o 11 Mehefin 2014 hyd 11 Rhagfyr 2014. |