Rhaglen a chofnodion

Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 4ydd Rhagfyr, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Mr Huw Jones 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cyflwyniad – Parc Gwyddoniaeth

Cyflwyniad gan Mr I W Jones, Cyfarwyddwr Rhaglen, Prifysgol Bangor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Mr. Ieuan Wyn Jones, Cyfarwyddwr Rhaglen Parc Gwyddoniaeth Menai oedd yn y cyfarfod i annerch y Cyngor ynglŷn â’r Parc Gwyddoniaeth a’r hyn yr oedd yn ei olygu. Pwysleisiodd y Prif Weithredwr, yng ngoleuni’r ffaith bod cais cynllunio ar gyfer y Parc Gwyddoniaeth wedi’i gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio, y byddai’r cyflwyniad gan y Cyfarwyddwr Rhaglen yn un ffeithiol ei natur ac wedi ei gyfyngu i roi gwybodaeth yn unig ynglŷn â’r weledigaeth ar gyfer y Parc a’r cyfleusterau a’r gwasanaethau y bydd yn eu darparu gan bod llawer iawn o ddiddordeb gan y cyhoedd ynddynt, ac ni fyddai’n ymwneud mewn unrhyw ffordd â’r cais cynllunio.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Busnes y Cyngor nad oedd unrhyw angen i’r Aelodau o’r Cyngor sydd hefyd yn aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ddatgan diddordeb gan nad oedd yn cael ei gydnabod fel diddordeb o dan y Côd Ymddygiad. Ymhelaethodd Mr. Ieuan Wyn Jones yn ei anerchiad wedi hynny ar yr agweddau canlynol o nodau ac amcanion Parc Gwyddoniaeth Menai gan ategu’r cyfan gyda chyflwyniad gweledol :-

 

·           Clwstwr o fusnesau yn seiliedig ar wybodaeth yw Parc Gwyddoniaeth lle y darperir cefnogaeth a chyngor fel y gall cwmnïau dyfu a datblygu. Mae parciau gwyddoniaeth fel arfer yn cael eu cysylltu â chanolfan technoleg fel prifysgol neu sefydliad ymchwil.

·           Mae’r weledigaeth ar gyfer y Parc wedi ei selio ar hyrwyddo twf o fewn gwyddoniaeth sy’n seiliedig ar wybodaeth gyda chyfeiriad arbennig at Ynni, Technoleg Gwybodaeth, Gwyddoniaeth Naturiol, Ynni Carbon Isel a Thechnolegau Glân fel sectorau twf allweddol.

·           Y nod fydd ceisio hyrwyddo entrepreneuriaeth yn y meysydd hynny drwy ddarparu eiddo o ansawdd uchel, cefnogaeth i fusnesau, arweinyddiaeth ac anogaeth.

·           Bydd y Parc yn ffitio i mewn gyda strategaeth arloesedd Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar ddatblygu cyfleon busnes yn deillio o gapasiti ymchwil.

·           Bydd y Parc yn ceisio cyfrannu tuag at dwf economaidd yr ardal trwy geisio â bodloni’r angen a nodwyd am gyflogaeth o ansawdd uchel yn deillio o ymchwil.

·           Bydd Parc Gwyddoniaeth Menai yn rhoi pwyslais ar arloesedd a bod ar flaen y gad a bydd yn rhoi cefnogaeth i fusnesau reit o’u cychwyn hyd nes y byddant wedi aeddfedu.

·           Bydd y Parc yn ceisio datblygu cysylltiadau cymunedol trwy ysgogi diddordeb pobl ifanc mewn gwyddoniaeth a bydd yn ceisio cynhyrchu manteision ehangach drwy hyrwyddo cyfleon cyflogaeth yn arbennig drwy ystod o wasanaethau ategol.

 

Cafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb i ddilyn lle cafodd yr Aelodau gyfle i gael eglurhad a gwybodaeth bellach ynglyn â’r weledigaeth ar gyfer Parc Gwyddoniaeth Menai.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr. Ieuan Wyn Jones a’i gydweithwyr am eu hamser yn mynychu’r cyfarfod hwn ac am rannu gwybodaeth am y Parc Gwyddoniaeth.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 200 KB

 

Cyflwyno i’w cadarnhau a’u harwyddo, gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol :-

 

  30 Medi, 2014 (Arbennig)

  9 Hydref, 2014

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel cofnod cywir o’r gweithgareddau gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 30 Medi (Arbennig) a 9 Hydref 2014.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog ynghylch unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts ddiddordeb nad oedd yn un rhagfarnus yng nghyswllt eitem 9 ar y rhaglen. Datganodd Miss Lynn Ball, Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) ddiddordeb yng nghyswllt eitem 9 ar y rhaglen.

4.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn :-

 

·           Estynnir ein llongyfarchiadau i bawb a fu’n llwyddiannus yn y ddwy Sioe Gaeaf ym Môn a Llanelwedd.

·           Estynnir llongyfarchiadau i Ffermwyr Ifanc Ynys Môn fu’n cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Ffermwyr Ifanc ym mis Tachwedd.

·           Estynnwn ein llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Aled Morris Jones ar ei benodiad yn Is-Gadeirydd pwyllgor Cadeiryddion Gorsafoedd Pwer Niwclear y DU.

·           Estynnir llongyfarchiadau i’r Comodor Keith Andrew Becket ar dderbyn y CBE yn Anrhydeddau’r Frenhines.

·           Estynnir ein dymuniadau gorau i’r Cynghorydd Jeff Evans am adferiad buan yn dilyn ei lawdriniaeth.

·           Estynnir ein diolchiadau i ddefnyddwyr gwasanaeth Blaen y Coed a Chanolfan Heulfre am eu gwaith llawn dychymyg yn addurno coeden Nadolig y Cyngor yn y dderbynfa.

·           Bydd Gwasanaeth Carolau Nadolig Blynyddol y Cyngor yn cael ei gynnal yn ardal y dderbynfa yn ystod amser cinio dydd Iau 13 Rhagfyr 2014.

·           Cydymdeimlwyd â Mrs Gwen Carrington, Cyfarwyddwr Cymuned yn dilyn marwolaeth ei thad yn ddiweddar ac i unrhyw aelod arall o staff all fod wedi dioddef profedigaeth.

 

Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o’u parch a’u cydymdeimlad.

 

Gwnaeth y Prif Weithredwr y cyhoeddiad a ganlyn :–

 

Ei fod yn dymuno datgan ei fwriad i ymddeol o’i swydd fel Prif Weithredwr y Cyngor ar 31 Mai 2015. Bydd hyn yn caniatáu i’r Cyngor yn y cyfamser wneud trefniadau priodol i gael rhywun yn ei le. Barnodd bod yr amser yn briodol o ystyried y bydd, erbyn diwedd mis Mai, yr Asesiad Corfforaethol wedi ei gwblhau, cyllideb 2015/16 a’r Strategaeth Effeithlonrwydd wedi’u mabwysiadu ac y bydd yr Etholiad Seneddol wedi ei chynnal. Mae gan Ynys Môn ddyfodol cyffrous o’i blaen gyda’r tebygrwydd o ddatblygiadau mawr a rhaglenni buddsoddi ond fe allai hefyd o bosibl wynebu’r her o ad-drefniad llywodraeth leol a byddir angen stiwardiaeth gadarn i’w harwain drwy’r newidiadau hyn. Roedd Arweinydd y Cyngor wedi gofyn iddo fel Prif Weithredwr roi cyfarwyddyd ac opsiynau yng nghyswllt ailstrwythuro’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth; a byddai’n gallu gwneud y rôl honno yn awr yn dilyn datgan ei fwriad a thrwy hynny ddatgysylltu ei hun yn bersonol oddi wrth y broses.

 

Roedd y Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor am gydnabod y penderfyniad gan ddweud y byddent yn cydnabod cyfraniad y Prif Weithredwr i’r Awdurdod a’r gwaith a wnaed dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i roi’r cyngor ar sylfeini cadarn ar yr amser priodol.

5.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim wedi’u derbyn.

6.

Cau allan y wasg a'r cyhoedd pdf eicon PDF 22 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

7.

Ymateb y Cyngor Sir i Gam Cyntaf Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC 1) Horizon Nuclear Power

I ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Datblygu Cynaliadwy.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i ystyriaeth y Cyngor adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Datblygu Cynaliadwy yn cynnwys ymateb manwl yr Awdurdod i Ymgynghoriad Rhag-Gais Cam Cyntaf Pwer Niwclear Horizon (PAC 1) yng nghyswllt prosiect Wylfa Newydd.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod ymgynghoriad cam cyntaf Horizon ar gyfer yr orsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa (y Prosiect Wylfa Newydd) wedi cychwyn ar 29 Medi 2014 a bydd yn rhedeg hyd 8 Rhagfyr. Yn unol â gofynion Adran 42 Deddf Cynllunio, roedd y dogfennau a gyflwynwyd i’r Cyngor yn darparu ymateb ffurfiol yr Awdurdod i’r ymgynghoriad ac roedd yn cynnwys y canlynol:-

 

·           Llythyr sy’n nodi pryderon blaenoriaethol yr Awdurdod yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd yn y dogfennau PAC 1 yn cael ei gefnogi gan

 

·        Drosolwg o ymatebion topigau

·        Taenlen gefnogol o ymatebion topig CSYM, a

·        Ymateb Ffurflen Adborth PAC 1 – Ymgynghoriad Prosiect Wylfa Newydd.

 

Aeth y Prif Swyddog Cynllunio ymlaen i egluro trwy gyflwyniad gweledol beth oedd statws y gwaith cyfredol a’r cam a gyrhaeddwyd mewn perthynas â’r llinell amser a ragamcanwyd ar gyfer y prosiect Wylfa Newydd yn cynnwys cyflwyno cynigion datblygu cysylltiol.

 

Ymhelaethodd Mr. Gareth Hall, Rheolwr Darparu Rhaglen Ynni Fawr ar yr agwedd a gymerwyd gan yr Awdurdod tuag at y dogfennau ymgynghori a ryddhawyd gan Horizon a maint yr ymgysylltiad drwy’r Cyngor cyfan a’r mewnbwn a’r cyngor proffesiynol. Roedd hyn wedi cynnwys dadansoddiad manwl a gofalus o gynnwys y dogfennau, gan gymhwyso system goleuadau traffig CAG i ddynodi’r lefel o ymateb ac i ba raddau yr oeddid yn cytuno â phob maes topig unigol.

 

Soniodd Mr. Steven Owen, Swyddog Caniatadau Mawr am yr ymateb fesul mater gan roi sylw i’r meysydd mwyaf arwyddocaol lle y bernir bod angen eglurhad pellach a mwy o wybodaeth.

 

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i’r wybodaeth a gyflwynwyd yn weledol ac yn ysgrifenedig a rhoddwyd cyfle iddynt holi’r Swyddogion, ac i gyflwyno eu safbwyntiau ar yr ymateb ffurfiol ar materion oedd yn deillio ohono. Cynigiodd y Cynghorydd Aled Morris Jones welliant i lythyr y Prif Weithredwr sef bod y frawddeg olaf yn cael ei dileu. Yn y bleidlais a ddilynodd, cafodd y cynnig ei gario.

 

Penderfynwyd cymeradwyo ymateb ffurfiol yr Awdurdod i Ymgynghoriad Rhag-Gais Cam Cyntaf Horizon (PAC 1) fel oedd wedi ei nodi yn y dogfennau a gyflwynwyd yn amodol ar newid peth o lythyr y Prif Weithredwr yn unol â’r cynnig.

8.

Cwestiynau a dderbyniwyd yn unol â Rheol 4.1.12.4 y Cyfansoddiad

Gofynnwyd y cwestiwn isod y cafwyd rhybudd ohono gan Gynghorydd R.Ll. Jones i Arweinydd y Cyngor :-

 

“ Mae ymgynghoriad Wylfa B bellach wedi cychwyn ac rydym ni, fel Cyngor Sir, wedi cael sawl cyfarfod gyda’r datblygwr yn egluro’r holl fanteision a ddaw i’r ynys hon yn ei sgil.

Er bod trigolion lleol eisiau swyddi, maent yn parhau i fod yn bryderus iawn am y risgiau a’r angen i edrych ar ôl y gwastraff y bydd gorsaf bŵer niwclear ar Ynys Môn yn ei gynhyrchu. Er mwyn cael cydbwysedd, rwy’n gofyn am gael trefnu SEMINAR rhwng y Cyngor hwn a chynrychiolwyr sy’n gwrthwynebu’r cynnig i adeiladu Wylfa B ac yn gofyn i chi a’ch grŵp mwyafrifol gefnogi hyn. Mae angen i drigolion lleol gael llais yn yr ymgynghoriad hwn a chael eu briffio’n llawn. Hyd yma, ymddengys mai dim ond datblygwr tramor o’r Almaen, sydd bellach wedi tynnu allan, ac o Japan sydd wedi rhoi eu barn i ni. Nid oes yr un o’r gwledydd hyn eisiau adeiladu gorsafoedd niwclear yn eu gwledydd eu hunain.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd cwestiwn a gyflwynwyd trwy rybudd gan y Cynghorydd R. Llewelyn Jones ac a ofynnwyd i Arweinydd y Cyngor :-

 

“Mae ymgynghoriad Wylfa B bellach wedi cychwyn ac rydym ni, fel Cyngor Sir, wedi cael sawl cyfarfod gyda’r datblygwr yn egluro’r holl fanteision a ddaw i’r ynys hon yn ei sgil. Er bod trigolion lleol eisiau swyddi, maent yn parhau i fod yn bryderus iawn am y risgiau a’r angen i edrych ar ôl y gwastraff y bydd gorsaf bŵer niwclear ar Ynys Môn yn ei gynhyrchu. Er mwyn cael cydbwysedd, rwy’n gofyn am gael trefnu Seminar rhwng y Cyngor hwn a chynrychiolwyr sy’n gwrthwynebu’r cynnig i adeiladu Wylfa B ac yn gofyn i chi a’ch grŵp mwyafrifol gefnogi hyn. Mae angen i drigolion lleol gael llais yn yr ymgynghoriad hwn a chael eu briffio’n llawn. Hyd yma, ymddengys mai dim ond datblygwyr tramor o’r Almaen, sydd bellach wedi tynnu allan, ac o Japan sydd wedi rhoi eu barn i ni. Nid oes yr un o’r gwledydd hyn eisiau adeiladu gorsafoedd niwclear yn eu gwledydd eu hunain.”

 

Atebodd Arweinydd y Cyngor drwy ddweud bod y Cyngor fel un oedd yn cefnogi’r prosiect yn ogystal â’r rhai oedd yn gwrthwynebu Wylfa Newydd i gyd yn gydranddeiliaid o fewn y broses a’u bod felly yn rhan o’r ymgynghoriad a’r cyfarfodydd briffio sy’n cael eu cynnal gan Horizon. Bydd y penderfyniad yn cael ei wneud yn San Steffan. Roedd cyfarfod o’r Grŵp Cydranddeiliaid wedi ei gynnal y noson flaenorol lle roedd preswylwyr lleol yn cael eu cynrychioli gan nifer o sefydliadau. Mae gwybodaeth yn cael ei rhannu ac mae gan wrthwynebwyr hawl i ymateb yn yr un ffordd â’r Cyngor. Roedd yn credu bod yr agwedd a gymerwyd yn un wastad ac yn trin pawb yn gyfartal. Tra roedd yn ymwybodol bod yna wahaniaeth barn ar draws yr Ynys ni allai weld y byddai Seminar yn darparu consensws. Y darparwr sy’n gallu darparu’r wybodaeth - i’r rhai sy’n gwrthwynebu yn ogystal ag i’r rhai sy’n cefnogi’r prosiect. Dywedodd na allai felly weld unrhyw fantais mewn cynnal Seminar ar wahân gyda gwrthwynebwyr.

 

Fel cwestiwn atodol dywedodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones bod mwy o bŵer yng Nghymru nac yn Lloegr i ddylanwadu ar adeiladau niwclear oherwydd y ffordd y mae’n gallu delio â’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu ac fe all y cynlluniau hynny yng Nghymru gael eu herio cyn eu cyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol. Dyma gyfle i’r Awdurdod i ddweud ei fod yn gwrthwynebu’r datblygiad yn gyfan gwbl hyd nes y ceir manylion ynglyn â sut y byddir yn delio â’r gwastraff. Cwestiynodd a oedd yn gyfreithlon a’i peidio i ganiatáu i gwmni ddechrau clirio safle i baratoi ar gyfer strwythur mawr cyn ei fod wedi cyflwyno tystiolaeth gredadwy ynglyn â sut y bydd yn cael gwared o wastraff niwclear diwydiannol hynod beryglus. Gofynnodd i’r Arweinydd gysylltu â’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd – yr Amserlen Ddiwygiedig pdf eicon PDF 299 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Cyngor ei gymeradwyo adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn cynnwys amserlen newydd ar gyfer paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r amserlen ddiwygiedig ar gyfer paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd fel oedd wedi ei nodi yn Atodiad 1 yr adroddiad.

10.

Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r Adroddiad Adolygiad Canol-Blwyddyn pdf eicon PDF 467 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 Dros Dro, fel a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 1 Rhagfyr 2014.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er mwyn cael cymeradwyaeth y Cyngor adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 Dros Dro yn cynnwys adolygiad o’r sefyllfa canol blwyddyn o ran gweithgaredd rheoli’r trysorlys.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad adolygiad canol blwyddyn o Reoli’r Trysorlys.

11.

Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor am 2015-16 pdf eicon PDF 524 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 Dros Dro, fel a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 1 Rhagfyr 2014.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 Dros Dro yn nodi’r cynigion yng Nghynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 2015/16 fel oedd wedi ei argymell gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2014 i sylw’r Cyngor.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r argymhellion oedd yn yr adroddiad yng nghyswllt y Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 2015/16.

12.

Dyddiad Cyfarfod y Cyngor Sir - Mai, 2015

I ystyried ail-drefnu dyddiad y cyfarfod o’r Cyngor Sir ar 7 Mai, 2015 o’r herwydd yr etholiad Seneddol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i ail drefnu’r cyfarfod o’r Cyngor Sir oedd wedi ei drefnu ar gyfer 7 Mai 2015 oherwydd yr Etholiad Seneddol.

 

Penderfynwyd aildrefnu’r cyfarfod o’r Cyngor Sir ym Mai 2015 i ddydd Iau 14 Mai 2015.