Rhaglen a chofnodion

Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 26ain Chwefror, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Mr Huw Jones 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 7 MB

Cyflwyno i’w cadarnhau a’u harwyddo, gofnodion y cyfarfodydd canlynol o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar :-

 

  4 Rhagfyr, 2014 (Arbennig) (10.00 am)

  4 Rhagfyr, 2014 (2.00 pm)

  20 Ionawr, 2015 (Arbennig)

  4 Chwefror, 2015 (Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o Gyngor Sir Ynys Môn a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

   4 Rhagfyr, 2014 (Arbennig) (10.00 a.m.)

   4 Rhagfyr, 2014 (2.00 p.m.)

   20 Ionawr, 2015 (Arbennig)

   4 Chwefror, 2015 (Arbennig)

2.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:

 

  Dymuniadau da am adferiad buan i’r Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Jim Evans a fu yn yr ysbyty’n ddiweddar.

 

  Roedd y Cadeirydd yn falch bod y Cynghorydd Jeff Evans wedi gwella ar ôl cael pen-glin newydd.

 

  Dymunwyd yn dda i’r Dirprwy Brif Weithredwr, Mrs Bethan Jones yn ei swydd newydd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd y Cadeirydd yn dymuno diolch i Mrs Jones am ei chyfraniad i wasanaethau’r Cyngor Sir ers 2012.

 

Roedd Arweinydd y Cyngor hefyd yn dymuno diolch i Mrs Bethan Jones

am ei gwasanaeth i’r Cyngor a dymunodd yn dda iddi yn ei swydd newydd.

 

Roedd y Prif Weithredwr yn dymuno diolch i Mrs Bethan Jones ar ran yr

Uwch Swyddogion a staff y Cyngor Sir am ei gwaith dros y ddwy flynedd

diwethaf gyda’r Awdurdod. Dymunodd yn dda i Mrs Jones yn ei swydd

newydd.

 

Diolchodd y Dirprwy Brif Weithredwr i’r Aelodau a’r Swyddogion am eu

geiriau caredig.

 

  Roedd y Cadeirydd yn dymuno atgoffa’r Aelodau o noson Elusennol y Cadeirydd a oedd i’w chynnal yng Ngwesty Breeze Hill, Benllech ar 27 Mawrth 2015 am 7.00pm. Nododd y bydd yr adloniant yn cael ei ddarparu gan Ffermwyr Ifanc Ynys Môn ac y bydd yr elw yn mynd i Nyrsys Marie Curie Ynys Môn a’r Samariaid.

 

  Llongyfarchwyd Miss Enid Williams, Prif Swyddog Ieuenctid ar ei phenodiad yn Llywydd Sioe Môn ar gyfer 2015/16.

 

  Estynnwyd cydymdeimladau â Mr Evan Jones, Adran Priffyrdd a oedd wedi colli ei wraig Mrs Elizabeth Jones. Roedd Mrs Jones yn gyn Swyddog Gweinyddol yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch ac yn gyn Glerc i Gyngor Cymuned Llannerch-y-medd. Bu hefyd yn weithgar yn cefnogi Eisteddfod Môn.

 

  Estynnwyd cydymdeimlad hefyd ag unrhyw Aelod Etholedig neu aelod o staff y Cyngor a oedd wedi cael profedigaeth.

 

Safodd y Swyddogion mewn teyrnged ddistaw fel arwydd o’u parch a’u cydymdeimlad.

 

  Dywedodd y Prif Weithredwr y bydd adroddiad ar ganlyniad y broses ymgynghori mewn perthynas ag ailstrwythuro’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn cael ei gyflwyno i gyfarfod arbennig o’r Cyngor Sir llawn gyda hyn.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan :-

 

Y Cynghorwyr Llinos M. Huws, Carwyn Jones, Bob Parry OBE, Nicola Roberts a Peter S. Rogers ynghylch eitem 5 yn ystod trafodaeth ar y cynnig i godi am y Clwb Brecwast yn yr ysgolion. Gadawodd yr Aelodau y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y mater.

4.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd deisebau.

5.

Cyllideb 2015/16 pdf eicon PDF 1 MB

(a)   Cyllideb Refeniw

 

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 Dros Dro.

 

(b) Rhaglen Gyfalaf

 

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 Dros Dro.

 

(c) Datganiad ar Strategaeth Rheoli’r Trysorlys

 

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 Dros Dro.

 

(ch) Pennu’r Dreth Cyngor 

 

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 Dros Dro. 

 

(d)  Newidiadau i’r Gyllideb

 

Cyflwyno unrhyw newidiadau i’r Gyllideb ac y cafwyd rhybudd ohonynt o dan Baragraff 4.3.2.2.11 y Cyfansoddiad.

 

 

(Noder:  Mae angen i’r holl bapurau uchod gael eu hystyried fel un pecyn).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio (Cyllid) gynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer cyllidebau Refeniw a Chyfalaf 2015/16, y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys a phennu’r Dreth Gyngor yn rhannau 5(a) i (ch) ar y rhaglen. Nodwyd y bu’n her ariannol i’r Cyngor baratoi’r gyllideb ar gyfer eleni ond roedd yn dymuno diolch i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’u staff am eu gwaith yn paratoi’r gyllideb. Diolchodd hefyd i’r Aelod Portffolio Cysgodol, y Cynghorydd John Griffith am fod yn bresennol mewn nifer o gyfarfodydd ynghylch pennu cyllideb ar gyfer 2016/15. Roedd nifer o gyfarfodydd a seminarau wedi digwydd fel bod Aelodau’n cael mewnbwn i’r gyllideb ac ymgynghorwyd gyda’r cyhoedd hefyd cyn y Nadolig.

 

Nododd na chynigir unrhyw ostyngiadau sylweddol yng nghyllidebau gwasanaethau statudol. Mae cyllidebau’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg wedi ei ddiogelu’n llwyr. Derbyniodd yr Awdurdod 3.9% yn llai o grant cynnal refeniw ar gyfer 2015/16 sy’n golygu bu’n rhaid iddo ddod o hyd i arbedion o gwmpas £4m. Yn yr ymgynghoriad gyda’r cyhoedd ar y gyllideb, cafwyd ymatebion yn bennaf ynghylch y cynnydd yn y Dreth Gyngor a’r cynnig arbedion mewn perthynas â brecwast ysgol sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr o arbedion effeithlonrwydd yn amodol ar ymgynghoriad a sgriwtini. Wrth gynnig cynnydd o 4.5% yn y Dreth Gyngor, mae’r Awdurdod wedi cadw mewn cof nifer y teuluoedd ar yr Ynys sy’n derbyn incwm isel ond mae’r Dreth Gyngor yn Ynys Môn yn parhau i fod yn un o’r isaf trwy Gymru gyfan.

 

Diolchodd yr Aelod Portffolio Cysgodol (Cyllid) i Swyddogion yr Adran Gyllid hefyd am eu gwaith yn paratoi’r gyllideb. Roedd yn falch ei fod wedi bod yn rhan o’r Pwyllgor Llywio ar gyfer y gyllideb a’r gwaith paratoi. Dygodd sylw at y meysydd a ganlyn yn y gyllideb a oedd yn destun pryder iddo:-

 

  Roedd y cynnig i godi ar Glybiau Brecwast Ysgol yn bryder iddo oherwydd bod gan rai teuluoedd mwy nag un plentyn.

  Ffactorau risg mewn perthynas â’r cyllidebau refeniw h.y. gofal maeth preifat, lleoliadau allsirol ar gyfer plant, therapi ar gyfer materion iechyd meddwl.

  Toriadau yn y gwasanaeth cynnal priffyrdd o £400k

  Cynnydd yn y ffioedd parcio

  Bydd y Bid Gyfalaf ar gyfer y prosiect Gweithio’n Gallach angen £1.1m i uwchraddio’r dderbynfa a gwaith adeiladu arall yn yr adrannau. Mae’r prosiect yn dibynnu ar werthu asedau’r awdurdod ac efallai na fyddant yn cael eu gwerthu mor gyflym ac y disgwylir.

  Cynnydd i gludo myfyrwyr 16+ i’r ysgol.

  Toriadau o £60k yn y ddarpariaeth tendrau bysus gyda’r posibilrwydd o golli gwasanaeth bws mewn cymunedau gwledig.

  Dylid cynnal cyllidebau ysgol oherwydd bod toiledau mewn rhai ysgolion mewn cyflwr truenus

  Angen rhoi sylw i ailweirio adeiladau addysg.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y cynnig arbedion mewn perthynas â Chlybiau Brecwast Ysgol a nodi y bydd y mater yn destun ymgynghoriad gyda chydranddeiliaid perthnasol. Roedd yn rhagweld y byddai’n cael ei drafod gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod mis Mai. Dywedodd Aelodau’r Wrthblaid fod clybiau brecwast i blant yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Newidiadau Cyfansoddiadol – Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Apeliadau pdf eicon PDF 287 KB

  Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) /   Swyddog Monitro.

 

  Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 9 Chwefror 2015 wedi PENDERFYNU argymell i’r Cyngor Sir fod :-

 

·    “Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r newidiadau i’r Cyfansoddiad fel y cawsant eu cynnwys yn Atodiad 1 a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

·    Bod y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) yn cael yr awdurdod i ddiwygio unrhyw bolisïau a gweithdrefnau perthnasol i adlewyrchu’r newidiadau dan sylw.

 

·    Bod y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn cael yr awdurdodi i wneud unrhyw newidiadau dilyniadol i’r Cyfansoddiad i adlewyrchu’r newidiadau perthnasol.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddwyd – bod y Pwyllgor Gwaith ar ôl rhoi sylw i’r uchod yn ei gyfarfod ar 9 Chwefror 2015, wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir:-

 

 Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r newidiadau i’r Cyfansoddiad fel y cawsant eu cynnwys yn Atodiad 1 a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

  Bod y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) yn cael yr awdurdod i ddiwygio unrhyw bolisïau a gweithdrefnau perthnasol i adlewyrchu’r newidiadau dan sylw.

 

  Bod y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn cael yr awdurdodi i wneud unrhyw newidiadau dilyniadol i’r Cyfansoddiad i adlewyrchu’r newidiadau perthnasol.”

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith yn y cyswllt hwn.

7.

Ymestyn Tymor y Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 224 KB

   Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro.

 

   Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 9 Chwefror 2015 wedi PENDERFYNU argymell i’r Cyngor Sir fod :-

 

·       Bod y Cyngor yn cymeradwyo ailbenodi’r Aelodau annibynnol ar y   Pwyllgor Safonau am dymor pellach o 4 blynedd, o 17 Rhagfyr 2015.

 

·      Bod y Cyngor yn dirprwyo’r awdurdod i’r Swyddog Monitro wneud yr holl newidiadau dilyniadol i Gyfansoddiad y Cyngor, ac i Gyfansoddiad y Pwyllgor Safonau er mwyn ymestyn yn awtomatig yr holl benodiadau yn y dyfodol i ddau dymor i holl Aelodau Annibynnol y Pwyllgor Safonau.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddwyd – bod y Pwyllgor Gwaith ar ôl rhoi sylw i’r uchod yn ei gyfarfod ar 9 Chwefror 2015, wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir:-

 

  “Bod y Cyngor yn cymeradwyo ailbenodi’r Aelodau annibynnol ar y Pwyllgor Safonau am dymor pellach o 4 blynedd, o 17 Rhagfyr 2015.

 

  Bod y Cyngor yn dirprwyo’r awdurdod i’r Swyddog Monitro wneud yr holl newidiadau dilyniadol i Gyfansoddiad y Cyngor, ac i Gyfansoddiad y Pwyllgor Safonau er mwyn ymestyn yn awtomatig yr holl benodiadau yn y dyfodol i ddau dymor i holl Aelodau Annibynnol y Pwyllgor Safonau.”

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith yn y cyswllt hwn.

8.

Strategaeth Dai Leol pdf eicon PDF 2 MB

  I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

 

  Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 12 Ionawr 2015 wedi PENDERFYNU fel a ganlyn :-

·      Argymell y Strategaeth Dai Leol a’r Cynllun Gweithredu ynghlwm ar gyfer eu mabwysiadu gan y Cyngor Sir.

·    Bod y Pwyllgor Gwaith yn cael diweddariad blynyddol ar gynnydd a pherfformiad yn erbyn y Cynllun Gweithredu a’r Strategaeth.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddwyd – bod y Pwyllgor Gwaith ar ôl rhoi sylw i’r uchod yn ei gyfarfod ar 12 Ionawr 2015, wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir:-

 

 Argymell y Strategaeth Dai Leol a’r Cynllun Gweithredu ynghlwm ar gyfer eu mabwysiadu gan y Cyngor Sir.

 

  Bod y Pwyllgor Gwaith yn cael diweddariad blynyddol ar gynnydd a pherfformiad yn erbyn y Cynllun Gweithredu a’r Strategaeth.”

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith yn y cyswllt hwn.

9.

Adolygiad o Bolisi Masnachu ar y Stryd yr Awdurdod pdf eicon PDF 452 KB

Cyflwyno adroddiad y Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd mewn perthynas â’r uchod.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad a mabwysiadu’r Polisi diwygiedig yn dilyn yr adolygiad o Bolisi’r Awdurdod mewn perthynas â Masnachu ar y Stryd.

10.

Rhestr o Gyfarfodydd y Cyngor 2015/16 pdf eicon PDF 477 KB

I ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynoadroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro mewn perthynas â’r uchod.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r adroddiad â’r rhestr o gyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2015/16.

11.

Cau Allan y Wasg a’r Cyhoedd pdf eicon PDF 68 KB

I ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y  caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

12.

Polisi Tâl 2015

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol.

Cofnodion:

Adroddodd y Pennaeth Proffesiwn(Adnoddau Dynol) – Bod Deddf Lleoliaeth 2011 yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau yng Nghymru a Lloegr i gynhyrchu a chyhoeddi datganiad ar bolisi tâl ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Yn unol â’r Ddeddf, roedd raid i Awdurdodau ddatblygu a chyhoeddi eu polisi tâl ar bob agwedd ar y gydnabyddiaeth a delir i Brif Swyddogion. Er bUdd tryloywder ac atebolrwydd, roedd y Cyngor wedi dewis cymryd agwedd ehangach a chynhyrchu datganiad polisi a oedd yn rhoi sylw i’r holl grwpiau gweithwyr, ac eithrio athrawon ysgol oherwydd nad oedd eu tâl yn fater a oedd o fewn rheolaeth yr Awdurdod Lleol.

 

Cyhoeddodd y Cyngor ei ddatganiad cyntaf ar ei bolisi tâl yn 2012 ac roedd mân newidiadau i adlewyrchu strategaeth gyfredol y Cyngor wedi eu hymgorffori yn yr adroddiad eleni gyda newidiadau sy’n rhoi sylw i Reoliadau Llywodraeth Cymru fel y nodir yn rhan 1.2 yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Cynnwys yn natganiad yr Awdurdod ar y Polisi Tâl gymal sy’n rhoi awdurdod i’r Cyngor weithredu unrhyw ddyfyrniadau tâl a drafodwyd yn genedlaethol i Brif Swyddogion y mae ganddynt hawl i’w cael yn ôl eu contractau.

  Cymeradwyo’r Datganiad Polisi Tâl am 2015/16 a’r datganiad diwygiedig ar Bolisi Tâl 2014/15.

 

Roedd y Cynghorwyr Jeff Evans a Nicola Roberts yn dymuno cofnodi ei bod wedi ymatal eu pleidleisiau mewn perthynas â’r eitem hon.