Rhaglen a chofnodion

Arbennig, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 27ain Mawrth, 2014 10.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Mr John Gould 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gwnaeth yr UDA a hefyd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) a’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) datganiad o ddiddordeb yn Eitem 7 o’r cofnodion hyn (Datganiad Polisi Tâl) ac nid oeddent yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidleisio ar y mater.  (Crybwyllir hyn yn yr adroddiad).

2.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Cofnodion:

CYHOEDDIADAU’R CADEIRYDD

 

Datganodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Gwenda Williams (Arweinydd y Tîm Cefnogaeth, Datblygu Economaidd), am gael ei chydnabod yn Brentis y Flwyddyn - Cyflawniad Gorau  (Gweinyddu Busnes, Gwasanaeth Cwsmer ac Adwerthu) gan Coleg Menai.

 

Cynhaliwyd Seremoni Gwobrau Prentisiaeth 2014 yng Ngwesty’r Celtic Royal, Caernarfon (yn cael ei noddi gan Horizon Nuclear Power).  Cydnabuwyd llwyddiant prentisiaid o amrywiaeth o ddisgyblaethau am eu llwyddiannau dysgu.

 

Yn ddiweddar cwblhaodd Gwenda y cwrs Gweinyddu Busnes NVQ, ac fe’i canmolwyd am ei hymroddiad, ei gwaith caled ac am waith a oedd yn gyson o safon uchel.  Llwyddodd i ennill yr NVQ mewn cyfnod o 8 mis, tra’n parhau i gadw cydbwysedd effeithiol rhwng bywyd a gwaith a’i safon eithriadol arferol o broffesiynoldeb a gweithgarwch yn y lle gwaith.

 

Darllenodd y Cadeirydd hefyd rhestr o rai oedd wedi bod yn llwyddiannus yn y Seremoni Gwobrwyo.

 

Llongyfarchwyd Mr Edmund Seymour Bailey, DL, Fferm Plas y Bryn, Llanbedr, Gwynedd, ar ei benodi gan y Frenhines yn Arglwydd Raglaw dros Wynedd, i gymryd drosodd gan Ei Anrhydedd Huw Morgan Daniel, a fydd yn ymddeol ar 16 Ebrill 2014, wedi wyth mlynedd yn y swydd.

 

Bu yn Uchel Siryf rhwng 2012-13 a chawsom y pleser o’i gyfarfod bryd hynny mewn un neu ddau o achlysuron Dinesig yma ym Môn.

 

Dymunodd y Cyngor yn dda i Mr. Edmund Bailey yn y swydd a hefyd ymddeoliad hapus i Mr. Huw Morgan Daniel.

 

Llongyfarchwyd Mr. David Lea-Wilson o Gwmni Halen Môn, sydd wedi ei benodi yn Uchel Siryf am y flwyddyn i ddod.

 

Cydymdeimlodd y Cadeirydd ag unrhyw aelod o’r cyngor neu staff oedd wedi colli perthynas, a safodd yr Aelodau a’r Swyddogion fel arwydd o barch.

3.

Rheoli’r Trysorlys pdf eicon PDF 372 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau).

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) ar y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys: Adroddiad Adolygu Canol Blwyddyn am 2013/14. Roedd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor er mwyn cydymffurfio ag argymhellion Cod Ymddygiad CIPFA ar Reoli’r Trysorlys.

 

Roedd y Cyngor wedi penderfynu y dylai’r Pwyllgor Archwilio fod yn gyfrifol am sgriwtineiddio materion Rheoli’r Trysorlys ac roedd y Pwyllgor hefyd wedi ystyried cynnwys yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 11 Rhagfyr 2013 ac wedi penderfynu derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad oedd hefyd wedi ei sgriwtineiddio gan y Pwyllgor Archwilio.

4.

Cau allan y Wasg a’r Cyhoedd pdf eicon PDF 129 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

Cofnodion:

     PENDERFYNWYD dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

5.

Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru

Adrodd bod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar 13 Mawrth, 2014 wedi ystyried yr uchod ac wedi penderfynu: -

"Derbyn yr adroddiad a'r argymhelliad a gynhwysir ynddo".

Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith ar 17 Mawrth, 2014, wedi ystyried yr uchod ac wedi penderfynu: -

"Argymell i'r Cyngor Sir ei fod yn cymeradwyo'r argymhellion a gynhwysir yn yr adroddiad".

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Amgylchedd a Thechnegol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol am y broses gaffael am fidiwr a ffefrir i Brosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru.

 

Adroddwyd bod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio wedi ystyried yr adroddiad ar 13 Mawrth 2014 ac wedi penderfynu “derbyn yr adroddiad a’r argymhellion oedd ynddo”.  Roedd y Pwyllgor Gwaith hefyd wedi ystyried yr adroddiad ar 17 Mawrth 2014 ac wedi penderfynu “argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn cymeradwyo’r argymhellion a geir yn yr adroddiad”.

 

Gofynnwyd cwestiwn gan y Cynghorydd Ann Griffith ac awgrymodd strategaeth arall ond ni roddwyd unrhyw welliant gerbron.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r argymhellion oedd yn yr adroddiad.

6.

Cau allan y Wasg a’r Cyhoedd pdf eicon PDF 65 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

Cofnodion:

    PENDERFYNWYD dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

7.

Datganiad Polisi Tâl 2014-15

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol).

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) - bod Deddf Lleoliaeth 2011, yn nodi bod yn rhaid i Awdurdodau yng Nghymru a Lloegr lunio a chyhoeddi Datganiad Polisi Tâl ar gyfer pob blwyddyn ariannol.  Roedd y Ddeddf yn gofyn i bob Awdurdod ddatblygu a chyhoeddi eu Polisi Tâl ynglŷn â phob agwedd o daliad cydnabyddiaeth prif swyddogion.  Er lles tryloywder ac atebolrwydd roedd y Cyngor wedi dewis cymryd agwedd ehangach a llunio datganiad polisi oedd yn cynnwys yr holl grwpiau o weithwyr, ac eithrio athrawon ysgol oherwydd nad oedd eu taliad cydnabyddiaeth o fewn rheolaeth yr Awdurdod Lleol.

 

Cyhoeddodd y Cyngor ei ddatganiad polisi tâl cyntaf yn 2012 ac roedd newidiadau bychan wedi eu hymgorffori yn adroddiad y flwyddyn hon er mwyn adlewyrchu strategaeth gyfredol y Cyngor.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Aled Morris Jones i’r Swyddog Monitro esbonio pam oedd yr adroddiad hwn yn cael ei drin fel eitem eithriedig.

 

Esboniodd y Swyddog Monitro fod y canllawiau gan Lywodraeth Cymru yn argymell y dylai’r drafodaeth ar yr eitem hon ddigwydd yn y maes cyhoeddus.

 

Fodd bynnag, roedd yr adroddiad wedi ei farcio fel eitem eithriedig er mwyn rhoi’r hyblygrwydd priodol i’r Aelodau.

 

Hynny yw, unwaith y bydd wedi ei gymeradwyo bydd y polisi’n cael ei roi ar wefan y Cyngor a gofynnir i’r Aelodau gadarnhau ei fod yn adlewyrchiad cywir o’r polisi a sefydlwyd. Os oedd Aelodau yn dymuno cyfyngu eu hunain i’r drafodaeth honno yna byddai’n briodol ei drafod yn gyhoeddus.

 

Fodd bynnag, pe bai Aelodau yn dymuno trafod swyddi unigol neu grwpiau o swyddi byddai angen iddynt wneud hynny mewn sesiwn gaeedig; gan gydnabod na ellid gwneud newidiadau i delerau ac amodau yn y cyfarfod hwn ac y byddai angen mynd trwy’r broses briodol.

 

Trafodwyd cynnwys y polisi yng nghyswllt tâl Prif Swyddogion mewn peth manylder gan yr Aelodau.

 

Roedd cyngor gan Adnoddau Dynol yn dweud bod y ddogfen yn un oedd wedi derbyn cytundeb y Cyngor llawn yn ôl yn 2011 yn ystod cyfnod y Comisiynwyr ac roedd yn parhau mewn grym oni bai bod y Cyngor yn penderfynu fel arall.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Datganiad Polisi Tâl oedd ynghlwm wrth yr adroddiad fel Datganiad Polisi Tâl y Cyngor am 2014-15.

8.

Cau allan y Wasg a’r Cyhoedd pdf eicon PDF 47 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

Cofnodion:

    PENDERFYNWYD dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

9.

Tâl Cyfartal

Cyflwyno diweddariad llafar gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad cynnydd ar lafar gan y Deilydd Portffolio, yn cadarnhau bod materion yn symud ymlaen yn unol â’r drefn.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad cynnydd a lle y bydd angen gwneud penderfyniadau penodol pellach, bod awdurdod yn cael ei roi i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad gyda’r Arweinyddion Grwpiau, Deilydd Portffolio Adnoddau Dynol a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol).