Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Blynyddol, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 8fed Mai, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Mr Huw Jones 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cadeirydd

Ethol Cadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2014-15.

 

(Cyfeirir yr Aelodau at Drefn y Gweithgareddau ar gyfer  y seremoni i ethol Cadeirydd y Cyngor Sir ac a ddosberthir yn y cyfarfod).

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Vaughan Hughes yn Gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn am 2014/15.

 

Wrth dderbyn yr anrhydedd o gael ei benodi, addawodd y Cynghorydd Hughes  y byddai’n cyflawni dyletswyddau’r swydd hyd eithaf ei allu.  Achubodd ar y cyfle hefyd i dalu teyrnged i’r Cadeirydd a oedd yn ymddeol, sef y Cynghorydd Gwilym O. Jones, am ei ymrwymiad yn cynrychioli’r Cyngor Sir yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

 

Fel y Cadeirydd a oedd yn ymddeol, diolchodd y Cynghorydd Gwilym O Jones i holl aelodau a swyddogion y Cyngor am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad yn ystod ei gyfnod yn y swydd.  Cafwyd crynodeb ganddo hefyd o’i ddyletswyddau fel Cadeirydd a oedd yn cynnwys cynrychioli’r Cyngor Sir mewn gwahanol ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn.  Roedd y Cynghorydd Jones hefyd yn dymuno diolch i’r Is-Gadeirydd a oedd yn ymddeol, y Cynghorydd Raymond Jones, am ei gymorth yn ystod ei gyfnod yn y swydd.  Dymunodd yn dda i’r Cynghorydd Vaughan Hughes gan obeithio y byddai’n mwynhau cyfnod hapus a llwyddiannus fel Cadeirydd y Cyngor Sir.

2.

Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2014-15.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Jim Evans yn Is-Gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn am y cyfnod 2014/15.

 

Diolchodd y Cynghorydd Jim Evans i’r aelodau am eu hyder ynddo.  Dywedodd ei fod yn bwriadu cydweithredu gyda’r Cadeirydd newydd a’i gefnogi.

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Dim.

4.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

5.

Dirprwyo gan yr Arweinydd/Aelodaeth y Pwyllgor Gwaith

Cymeradwyo’r rhaglen isod o gyfarfodydd cyffredin y Cyngor Sir am y flwyddyn i ddod:-

 

·        9 Hydref, 2014 -2:00 pm

·        4 Rhagfyr, 2014 - 2:00 pm

·        26 Chwefror, 2015 - 2:00 pm

·        7 Mai, 2015 - 2:00 pm (Cyfarfod Blynyddol) - [Angen newid oherwydd yr Etholiad Seneddol]

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2 y Cyfansoddiad, cafodd y rheini a nodir isod eu henwi fel yr aelodau yr oedd wedi eu dewis i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith, ynghyd â’u cyfrifoldebau Portffolio:-

 

Y Cynghorydd Ieuan Williams (Arweinydd) - Aelod Portffolio ar gyfer Addysg

Y Cynghorydd J. Arwel Roberts – Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio a’r Amgylchedd

Y Cynghorydd K.P. Hughes - Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

Y Cynghorydd Aled M. Jones - Datblygu Economaidd, Twristiaeth a Hamdden

Y Cynghorydd H. Eifion Jones - Cyllid

Y Cynghorydd Richard A. Dew - Priffyrdd, Eiddo a Rheoli Gwastraff

Y Cynghorydd Alwyn Rowlands - Rheolwr Busnes y Pwyllgor Gwaith, Trawsnewid Perfformiad, Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol

6.

Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2014-15

Ethol Cadeirydd yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Vaughan Hughes yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn unol â pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad.

7.

Cadarnhau’r Cynllun Dirprwyo

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau’r rhan o’r Cynllun Dirprwyo a nodir yn y Cyfansoddiad fel un y mae’n rhaid i’r Cyngor benderfynu arni (fel sydd wedi ei nodi yn Rhan 3.2 y Cyfansoddiad).

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau’r rhannau o’r Cynllun Dirprwyo a nodir yn y Cyfansoddiad fel rhai y mae’n rhaid i’r Cyngor benderfynu arnynt (fel sydd wedi ei nodi ym Mharagraff 3.2 y Cyfansoddiad).

8.

Cadarnhau Pwyllgorau

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi’r strwythur Pwyllgorau isod fel y cyfeirir ato yn Rhan 3.4 yng Nghyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â’r isod:-

 

·        Panel Tâl a Graddfeydd (Is-Bwyllgor o’r Cyngor Sir)

·        Panel Penodi i’r Pwyllgor Safonau

·        Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol

·        Cyd-bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig

·        Is-bwyllgor Indemniadau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd ailbenodi’r strwythur Pwyllgorau fel y cyfeirir ato yn Rhan 3.4 yng Nghyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â’r isod:-

 

·           Panel Tâl a Graddfeydd (is-bwyllgor o’r Cyngor Sir)

·           Panel Penodi i’r Pwyllgor Safonau

·           Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol

·           Cydbwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig

·           Is-Bwyllgor Indemniadau

 

9.

Rhaglen o Gyfarfodydd Arferol y Cyngor Sir

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen o Gyfarfodydd Arferol y Cyngor Sir am y flwyddyn i ddod:-

 

9 Hydref, 2014                    -            2.00 p.m.

4 Rhagfyr, 2014                  -            2.00 p.m.

26 Chwefror, 2014             -            2.00 p.m.

7 Mai, 2015                       -  2.00 p.m. (Cyfarfod Blynyddol) (efallai y

                                                           bydd y dyddiad hwn yn newid oherwydd

                                                           yr Etholiad Seneddol).