Rhaglen a chofnodion

Arbennig, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 29ain Gorffennaf, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Huw Jones 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad.

2.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor, neu'r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mynegodd Cadeirydd y Cyngor ei longyfarchiadau a’i ddymuniadau gorau i Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow.  Mynegodd hefyd ei ddymuniadau gorau i bawb fydd yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli ac yn Sioe Sir Ynys Môn ym mis Awst.  Estynnwyd llongyfarchiadau i bawb a fu’n llwyddiannus yn y Sioe Frenhinol Gymreig yr wythnos ddiwethaf.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau hefyd i staff y Cyngor Sir a fu’n llwyddiannus yn eu harholiadau proffesiynol.

 

Ar nodyn tristach, cyfeiriodd y Cadeirydd at ddau unigolyn o’r Ynys oedd wedi marw’n ddiweddar.  Yn gyntaf Mr. Derek Williams o Lanuwchlyn, un o’r tri a sefydlodd Gwmni Theatr Maldwyn ac a oedd yn gyfrifol am nifer o sioeau cerdd.  Roedd Mr. Williams yn hanu yn wreiddiol o Amlwch.  Lai nag wythnos yn ôl yn dilyn salwch hir,  bu farw Mr. Robin Evans, Hanesydd Arforol o Foelfre.  Roedd yn fab i longwr a pharhaodd yn nhraddodiad  Mr. Aled Eames gan ddogfennu hanes morwrol Moelfre a thu hwnt mewn nifer o lyfrau a chyhoeddiadau yn cynnwysMoelfre a’r Môr’, ‘Ynys Môn a’r Môr’ a Chymru a’r Môr’. 

 

Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad hefyd ag unrhyw Aelod neu Swyddog oedd wedi cael profedigaeth ers cyfarfod diwethaf y Cyngor hwn.  Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion mewn teyrnged ddistaw fel arwydd o’u parch.

3.

Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol Adeilad Niwcliar Newydd yn Wylfa pdf eicon PDF 257 KB

(a)           Cyflwyno dyfyniad o gofnodion y Pwyllgor Gwaith a gafwyd ar 14 Gorffennaf, 2014 :-

 

“Penderfynwyd argymell y Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol (CCA) Adeilad Niwclear Newydd (ANN) i’w gyflwyno i’r Cyngor Sir yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2014.

 

(b)          Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Datblygu Cynaliadwy) a Uwch Swyddogion eraill mewn perthynas â’r uchod.

 

Papurau cefndir ychwanegol :-

http://www.ynysmon.gov.uk/busnes/ynys-ynni/newyddion-ynys-ynni/gorsaf-niwclear-newydd-yn-wylfa-canllawiau-cynllunio-atodol/123431.article?redirect=false

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Datblygu Cynaliadwy) ac Uwch Swyddogion eraill mewn perthynas â’r uchod.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Datblygu Cynaliadwy) Mr. Christian Branch, Mr. Gareth Hall (Ynys Ynni) and Mr. Alex Melling (AMEC Environment & Infrastructure) i’r cyfarfod. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - o ystyried maint, cymhlethdod ag amserlenni’r Adeilad Niwclear Newydd arfaethedig, roedd paratoi a mabwysiadu’r CCA yn weithgaredd yr oedd angen i’r Cyngor Sir roi blaenoriaeth iddo.  Bydd y CCA yn cyfrannu tuag at sicrhau bod yr effeithiau tebygol sy’n wybyddus yng nghyswllt yr Adeilad Niwclear Newydd a’i ddatblygiadau cysylltiedig yn cael eu nodi, eu hosgoi, eu lliniaru ac y ceir iawndal lle bo hynny’n bosibl; a bod y manteision cymdeithasol-economiadd sy’n gysylltiedig â’r gwaith adeiladu a gweithredu’r orsaf bŵer yn cael eu gwireddu’n llawn.

 

Roedd y gwaith o baratoi’r CCA wedi ei gydlynu gan y Gwasanaeth Adfywio Economaidd a Chymunedol dan gyfarwyddyd nifer o Uwch Swyddogion y Cyngor Sir.  Bu AMEC Environment and Infastructure (y rhai sy’n darparu cefnogaeth ac arbenigedd amlddisgyblaethol i’r Cyngor Sir) yn gyfrifol am ddrafftio’r ddogfen.    Roedd adnoddau i gyllido’r gwaith o baratoi’r CCA wedi eu sicrhau drwy’r Cytundeb Perfformiad Cynllunio gyda Pŵer Niwclear Horizon.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Datblygu Strategaeth gyflwyniad sleidiau i’r Cyngor Sir.  Cyfeiriodd at yr egwyddorion oedd yn cyfarwyddo’r holl brosiect ac a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad a hefyd y 7 Parth a nodwyd sy’n ceisio cyfarwyddo’r datblygiadau eraill sy’n gysylltiedig â’r Adeilad Niwclear Newydd i bentrefi mwyaf Ynys Môn ac ar hyd coridorau cludiant allweddol.  Nododd Mr. Alex Melling bod y gwaith ymgynghori ffurfiol ar y CCA eisoes wedi dechrau ym mis Chwefror 2014 ac y derbyniwyd cyfanswm o 52 o ymatebion unigol.  Roedd natur y sylwadau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Soniodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio wrth y cyfarfod am y prif faterion a godwyd yn y Pwyllgor Sgriwtini.

 

Rhai materion a leisiwyd gan yr Aelodau ynghylch y canlynol:-

 

  Yr effaith ar yr iaith Gymraeg ac ar dreftadaeth yr Ynys.  Dywedodd y Swyddogion bod y Cyngor Sir (drwy'r Rhaglen Ynys Ynni) a Pŵer Niwclear Horizon wedi cytuno mewn egwyddor i gyd-ariannu person ar secondiad o Uned Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru i ddatblygu proses integreiddio briodol a mesurau lliniaru yng nghyswllt yr iaith Gymraeg.

 

  Yr effaith ar fusnesau bychan a lleol yr Ynys yn ystod y gwaith o adeiladu’r safle niwclear newydd.  Dywedodd y Swyddogion y bydd Coleg Menai a Phrifysgol Bangor yn arwain ar y rhaglen ddatblygu sgiliau er mwyn galluogi cwmnïau lleol i fedru cystadlu am waith yn ystod adeiladu safle Wylfa. 

 

  Yr effaith ar dai h.y. tai rhent a thai cymdeithasol.  Nodwyd bod y Cyngor wedi gwneud llawer o waith yng nghyswllt y galw am lety gweithwyr adeiladu a’r effaith y gall ei gael ar dwristiaeth, y farchnad dai a llety rhent.

 

•  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.