Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Mr Huw Jones
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Cadeirydd yn hynod o falch o groesawu’r Cynghorydd Dafydd R. Thomas i’r Cyngor Sir yn dilyn ei salwch yn ddiweddar. Roedd y Cynghorydd Thomas yn dymuno diolch i’r Aelodau am eu dymuniadau da yn ystod ei salwch a’r gefnogaeth a gafodd ei deulu agos gan deulu a chyfeillion. Roedd hefyd yn dymuno diolch i Dîm Alaw yn Ysbyty Gwynedd am eu caredigrwydd yn ystod ei salwch.
Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad â’r Cynghorydd J. Arwel Roberts ar farwolaeth ei fam yng nghyfraith yn ddiweddar.
Estynnodd ei gydymdeimlad hefyd i deulu Ben Calveley a laddwyd mewn damwain ffordd ger ei gartref yng Ngharmel, Llannerchymedd. Roedd Ben Calveley yn perthyn i’r Cynghorydd Nicola Roberts.
Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad hefyd â theulu Issac Nash sy’n parhau i fod ar goll yn dilyn cael ei sgubo i’r môr yn Aberffraw tra ar wyliau ar Ynys Môn.
Cydymdeimlodd y Cadeirydd hefyd ag unrhyw aelod o’r Cyngor neu staff oedd wedi cael profedigaeth. Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion fel arwydd o’u parch.
Estynnodd yr Is-Gadeirydd longyfarchiadau i’r Cadeirydd ar gyhoeddi ei lyfr ‘Cymru Fawr’ yn ddiweddar. |
|
Datganiad Cyfrifon 2013-14 PDF 2 MB • I adrodd bod y Pwyllgor Archwilio yn y cyfarfod ar 23 Medi, 2014 wedi penderfynu y dylai’r Cyngor Sir dderbyn yr argymhelliad a chymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon 2013-14.
• Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio ar 23 Medi, 2014. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 Dros Dro ar y Datganiad Cyfrifon 2013/2014 terfynol.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio bod y Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod ar 23 Medi 2014 yn dilyn ystyried y Datganiad o Gyfrifon, wedi penderfynu argymell bod y Cyngor Sir yn derbyn ac yn cymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon am 2013/2014.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro bod newidiadau bychan wedi eu gwneud i Dudalennau 43 a 70.
PENDERFYNWYD cadarnhau derbyn Datganiad Cyfrifon 2013/2014. |
|
Ymateb i’r Papur Gwyn ar Ad-drefnu Llywodraeth Leol PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr. - I DDILYN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr.
Rhoddodd y Prif Weithredwr adroddiad yn rhoi cefndir y Papur Gwyn ar Ddiwygio llywodraeth Leol. Nododd i Grŵp Tasg a Gorffen gael ei sefydlu ym mis Awst 2014 i drafod y goblygiadau i Fôn yn sgil cynigion y Llywodraeth yn dilyn anfon ymateb y Cyngor i argymhellion Comisiwn Williams ar yr achos dros ddiwygio’r gwasanaeth cyhoeddus. Roedd y Grŵp wedi cyfarfod ar ddau achlysur hyd yn hyn ac wedi sgriwtineiddio mewn manylder yr holl ddogfennau perthnasol, y cyflwyniadau a wnaed gan Uwch Swyddogion a hefyd y safbwyntiau oedd yn dod i’r amlwg yn y rhanbarth ac yn genedlaethol.
Cynhaliwyd Seminar i holl Aelodau’r Cyngor ar 18 Medi 2014 lle cafwyd gwybodaeth ynglŷn â Phapur Gwyn y Llywodraeth ar Ddiwygio Llywodraeth Leol ac i godi ymwybyddiaeth o’r prif faterion oedd i gael sylw o safbwynt Ynys Môn.
Rhoddodd y Prif Weithredwr fanylion am y manteision a’r anfanteision o ddod yn Awdurdod fyddai’n mabwysiadu’r cynnig i uno yn gynnar.
Nododd Aelodau’r Cyngor Sir y prif faterion a ganlyn:-
• Nid oeddent wedi eu darbwyllo y byddai yna fanteision i unrhyw uno nac y byddai hynny’n datrys y toriadau ariannol gan awdurdodau lleol ar draws Cymru; • Dylai safbwyntiau trigolion yr Ynys fod yn hollbwysig a dylid ystyried cynnal Refferendwm i gael safbwyntiau’r etholwyr o safbwynt yr uno arfaethedig gydag awdurdod cyfagos; • Byddai goblygiadau cost anferthol i unrhyw uniad gwirfoddol; • Goblygiadau o ran staff; • Cynnydd posibl yn y Dreth Gyngor i breswylwyr Ynys Môn oherwydd yr uniad.
Ystyriodd y Cyngor yr argymhellion yn yr adroddiad gan gymeradwyo 7.1 i 7.4.
O safbwynt yr argymhelliad ynghylch a ddylid uno’n wirfoddol gydag un neu fwy o awdurdodau, cymerwyd pleidlais wedi’i chofnodi dan ddarpariaethau rhan 4.1.18.5 y Cyfansoddiad.
Roedd y bleidlais a gofnodwyd fel a ganlyn:-
I beidio â datgan diddordeb fel Awdurdod fyddai’n mabwysiadu neu yn uno’n gynnar:-
Cynghorwyr R.A. Dew, Jeff M. Evans, Ann Griffith, John Griffith, D.R. Hughes, K.P. Hughes, T.Ll. Hughes, T.V. Hughes, Vaughan Hughes, W.I. Hughes, Llinos M. Huws, A.M. Jones, G.O. Jones, H.E. Jones, Raymond Jones, R.Ll. Jones, R. Meirion Jones, R.O. Jones, Alun Mummery, Bob Parry OBE, Dylan Rees, J. Arwel Roberts, Alwyn Rowlands, D.R. Thomas, Ieuan Williams. CYFANSWM 25
Yn erbyn yr argymhelliad:-
Cynghorydd P.S. Rogers CYFANSWM 1
Atal Pleidlais: NEB
PENDERFYNWYD
• Gofyn am wybodaeth bellach gan Weinidogion Cymru ynglŷn â’r opsiynau sydd ar gael i'w hystyried gan y Cyngor hwn cyn penderfynu ar ei safiad mewn perthynas â’r cynigion i uno gydag Awdurdodau eraill ac yn arbennig i geisio mwy o eglurder o amgylch y cymhellion ariannol i ddod yn Awdurdod a fyddai’n mabwysiadu’n gynnar ac, i'r perwyl hwnnw, gofyn i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus gael ei wahodd i gyfarfod o’r Cyngor Llawn i drafod y materion hyn ar y cyfle cyntaf.
• Ei fod yn ei ymateb i’r gyfres o gwestiynau a godwyd yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cau Allan y Wasg a’r Cyhoedd PDF 81 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Deddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Newidiadau Cyfansoddiadol – Cynllun Dirprwyo (Strwythur y Gwasanaethau TG) Ystyried adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr. Cofnodion: Cyflwynwyd a derbyniwyd – adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr. |