Rhaglen a chofnodion

Hefyd Adroddiad Eithriedig Achos Busnes Llawn Prosiect Gweithio'n Gallach, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 4ydd Rhagfyr, 2014 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Huw Jones 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cau allan y wasg a'r cyhoedd pdf eicon PDF 170 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynglwm.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Weithredwr mai’r arfer pan mae eitem yn un masnachol sensitif neu’n effeithio ar staff, yw dilyn proses i ystyried a ddylai’r materion hynny gael eu trafod mewn cyfarfod agored neu gyfarfod caeëdig.  Yn yr achos arbennig hwn, penderfynodd y Swyddogion y dylai’r mater hwn gael ei drafod yn breifat ond y gallai rhannau perthnasol o’r Prosiect Gweithio’n Gallach gael eu rhyddhau i’r parth cyhoeddus.  Dywedodd ymhellach bod Swyddogion yn ystyried na ddylai’r Prosiect Gweithio’n Gallach gael ei drafod yn llawn mewn cyfarfod cyhoeddus oherwydd bod gwybodaeth wedi ei chynnwys sy’n fasnachol sensitif h.y. gwerth asedau’r Cyngor cyn iddynt gael eu rhoi ar y farchnad agored. 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro bod y Prawf Budd Cyhoeddus oedd ynghlwm wrth yr adroddiad yn nodi’r rhesymau dros gynnal y drafodaeth yn gyhoeddus neu’n breifat.  Wedi pwyso a mesur, daethpwyd i’r casgliad yn y Prawf Budd Cyhoeddus y dylid cynnal y drafodaeth mewn sesiwn breifat yn y lle cyntaf fel y gallai’r Aelodau gyfnewid eu safbwyntiau’n rhydd ac yn ddidwyll.  Y pryderon cyfreithiol penodol oedd bod yna wybodaeth oedd yn fasnachol sensitif yn yr adroddiad.  Roedd y wybodaeth yn disgyn i 3 chategori:-

 

  • Gwerthu asedau i helpu i ariannu’r Prosiect hwn sy’n nodi mewn manylder beth yw’r derbyniadau a ddisgwylir. 
  • Gwybodaeth fanwl am y gwaith caffael sydd ei angen er mwyn cyflawni’r Prosiect h.y. cyflenwadau a gwasanaethau y bydd angen i’r Cyngor eu prynu.
  • Cyfeiriadau at safbwyntiau Swyddogion ynglŷn â nodweddion penodol rhai contractwyr a enwir.

 

Felly roedd y cyngor cyfreithiol yn parhau, sef y dylid cynnal y drafodaeth mewn fforwm preifat.  Fodd bynnag, fe ddywedodd y Swyddog Monitro os oedd y Cyngor yn bwriadu peidio â dilyn y cyngor hwnnw fel roedd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi bwriadu ei wneud yn y gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd, nododd y dylai’r Cyngor gyfyngu’r risg fel a ganlyn:-

 

  • Osgoi cyfeirio at y wybodaeth fasnachol sensitif yn y drafodaeth gan y Cyngor;
  • Rhoi awdurdod i’r Swyddog Monitro, pe bai’r Cyngor yn penderfynu cynnal y drafodaeth yn gyhoeddus, i ryddhau’r papurau ac i olygu’r wybodaeth fasnachol sensitif yn dilyn y cyfarfod.  Mae yna 12 set o olygiadau yn y ddogfen.

 

Nododd Arweinydd y Cyngor y cyngor manwl a gafwyd gan y Swyddog Monitro a chynigiodd pe na bai’r wybodaeth fasnachol sensitif yn cael ei thrafod yn gyhoeddus, y dylai’r adroddiad ar y Prosiect Gweithio’n Gallach gael ei drafod yn gyhoeddus ac i olygu’r wybodaeth fasnachol sensitif o fewn yr adroddiad wedi hynny.  Eiliodd y Cynghorydd Alwyn Rowlands y cynnig.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol bod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2014 wedi cymeradwyo’r Prosiect Gweithio’n Gallach ac i’r mater wedi hynny gael eiAlw i Mewni’w drafod ymhellach gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ac roedd y Pwyllgor hwnnw wedi gofyn i’r mater gael ei drafod yn gyhoeddus.  Gohiriwyd y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Prosiect Gweithio'n Gallach

Cafwyd cais am gyfarfod arbennig o’r Cyngor gan y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, Trevor Ll. Hughes, Vaughan Hughes, Llinos M. Huws, Carwyn E. Jones, R. Meirion Jones, Alun W. Mummery, Bob Parry OBE, Dylan Rees, Nicola Roberts yn unol ag Adran 4.1.3.1 y Cyfansoddiad i ailystyried y penderfyniad a wnaeth y Pwyllgor Gwaith ar 20 Hydref, 2014 mewn perthynas â’r Prosiect Busnes Gweithio’n Gallach ac i drafod y mater hwn yn gyhoeddus.

 

Y dogfennau perthnasol :-

 

·           Gwybodaeth gefndirol ar gyfer y cais am gyfarfod arbennig.

·           Copi o’r penderfyniad a wnaeth y Pwyllgor Gwaith ar 20 Hydref, 2014.

·           Copi o’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 20 Hydref, 2014.

Cofnodion:

Roedd cais am gyfarfod Arbennig o’r Cyngor wedi ei wneud gan y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, Trevor Ll. Hughes, Vaughan Hughes, Llinos M. Huws, Carwyn E. Jones, R. Meirion Jones, Alun W. Mummery, Bob Parry OBE, Dylan Rees a Nicola Roberts yn unol ag Adran 4.1.3.1 y Cyfansoddiad, er mwyn ailystyried y penderfyniad a wnaeth y Pwyllgor Gwaith ar 20 Hydref, 2014 mewn perthynas â’r Prosiect Gweithio’n Gallach ac i ystyried y mater yn gyhoeddus.  Roedd copi o’r rhesymau am y cais ynghlwm yn Rhaglen y cyfarfod.

 

Gofynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol Gwestiwn ynghylch y ffaith bod y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu cymeradwyo’r Prosiect Gweithio’n Gallach ar 20 Hydref, 2014 yn amodol ar ryddhau adnoddau cyfalaf a refeniw.  Cyfeiriodd at Gyfansoddiad y Cyngor 4.3.2.3 - Penderfyniadau a wnaed y tu allan i’r gyllideb a chwestiynodd a oedd penderfyniad y Pwyllgor Gwaith o fewn rheoliadau’r Cyngor oherwydd bod Atodiad 6 yr adroddiad yn nodi y byddai’r Prosiect yn cael ei weithredu ar unwaith ym mis Rhagfyr.  Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â sut y byddai’r Prosiect hwn yn cael ei ariannu.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro na all y Pwyllgor Gwaith ond gwneud penderfyniadau gwario lle mae’r cyllid ar gyfer y gwariant hwnnw eisoes wedi’i ddyrannu.  Gan fod y Prosiect yn un aml-haenog, efallai bod peth o’r cyllid eisoes wedi’i gynnwys yn y gyllideb.  Efallai na fydd rhai elfennau o’r y Prosiect angen cyllid e.e. gwerthu asedau; materion i’r Pwyllgor Gwaith fydd y rhain.  Bydd unrhyw beth arall yn benderfyniad i’r Cyngor.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Y Swyddog Adran 151 Dros Dro ei bod yn bosib nad oedd unrhyw weithgaredd sydd wedi digwydd o fewn y flwyddyn hon yng nghyswllt Gweithio’n Gallach angen unrhyw gyllideb h.y. amser Swyddogion neu arian o gyllidebau adrannol oedd eisoes wedi ei neilltuo.  Fodd bynnag, os bydd angen unrhyw arian yn ystod y flwyddyn ariannol hon, mae gan y Cyngor arian wrth gefn wedi’i neilltuo a gellir ei ddefnyddio drwy’r prosesau cywir i ryddhau cyllid.  Dywedodd ymhellach nad oes unrhyw ddarpariaeth gyfalaf yn ei lle ar hyn o bryd ar gyfer y Prosiect hwn ac mae’r Pwyllgor Gwaith wedi cydnabod hynny drwy gytuno ag egwyddor y Prosiect yn unig.  Dywedodd y Swyddog ei fod yn credu bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 20 Hydref, 2014 wedi gwneud penderfyniad cyfreithlon o dan y ddarpariaeth gyfansoddiadol.

 

Rhoddodd Cadeirydd y Cyngor wahoddiad i’r Cynghorydd Bob Parry OBE, fel Arweinydd yr Wrthblaid i siarad gerbron y cyfarfod.  Mynegodd y Cynghorydd Parry mai prif bryderon Grŵp yr Wrthblaid i’r Prosiect Gweithio’n Gallach oedd y gwariant yng nghyswllt y Prosiect.  Mae’r Prosiect yn ddibynnol ar werthu asedau’r Cyngor ar y farchnad agored a’u bod yn cael eu gwerthu’n gyflym.  Dywedodd ymhellach ei fod yn gwerthfawrogi bod elfennau o'r Prosiect Gweithio’n Gallach yn dderbyniol ond nododd yn benodol na fyddai  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

Adroddiad Eithriedig Achos Busnes Llawn Prosiect Gweithio'n Gallach pdf eicon PDF 28 MB

Dogfennau ychwanegol: