Rhaglen a chofnodion

Arbennig, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 20fed Ionawr, 2015 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod new Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ddiddordeb yn eitemau 3 a 3.4(ch) yn yr adroddiad a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

2.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 62 KB

Ystyried mabwysiadu'r canlynol:-

 

"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y  caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

3.

Penodi Prif Weithredwr ac Ail-strwythuro'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - Adroddiad y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod wedi cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith ar 15 Rhagfyr 2014 ar gais Arweinydd y Cyngor. Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o opsiynau i’w hystyried ar gyfer ailstrwythuro’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Gwaith i restru gostyngiad yng nghapasiti rheolaeth lefel uwch y Cyngor ymysg yr arbedion effeithlonrwydd hynny a gafodd eu cynnwys yn y pecyn o gynigion ar gyfer cyllideb 2015/16. 

 

Nodwyd bod y Pwyllgor Gwaith wedi argymell opsiwn 4 i’r Cyngor Sir fel yr un a ffefrir i gyflawni’r amcanion ac fel un y gellir ei weithredu, gyda golwg ar gomisiynu gwaith manylach i ddatblygu’r opsiwn ar gyfer ymgynghoriad gyda staff.  Gofynnir i’r Pwyllgor Penodi weithredu’r broses recriwtio ar gyfer yr ailstrwythuro ac ystyried y strwythur tâl.

 

Mewn perthynas â’r Pwyllgor Penodi, roedd y Cynghorydd A.M. Jones yn dymuno nodi bod gan y Pwyllgor gynrychiolaeth o bob grŵp gwleidyddol ond nid o bob plaid wleidyddol.

 

Rhoddodd Aelodau’r Cyngor Sir sylw manwl i’r mater gan gymharu’r strwythurau uwch reolaeth a’r strwythurau tâl yn yr Awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru. 

 

Yn dilyn trafodaethau maith PENDERFYNWYD:-

 

  Mai Opsiwn 4 yn yr adroddiad yw’r opsiwn a ffefrir;

 

  Bwrw ymlaen i benodi Prif Weithredwr newydd i’r Cyngor fel blaenoriaeth;

 

  Dynodi swydd y Prif Weithredwr yn Bennaeth y Gwasanaeth Taledig ac yn Swyddog Canlyniadau i’r Cyngor;

 

  Dirprwyo cyfrifoldeb i’r Pwyllgor Penodi hysbysebu, asesu ymgeiswyr, llunio rhestr fer, cyfweld ymgeiswyr ac argymell unigolyn cymwys a benodir gan y Cyngor llawn;

 

  Dirprwyo hawl i’r Pwyllgor Penodi dderbyn cymorth ymgynghorol allanol, os yw’n dymuno, i roi cyngor ar y broses asesu ond gan gadw costau darpariaeth o’r fath cyn ised â phosib;

 

  Gofyn am arweiniad a sylwadau gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ynglŷn â’r strwythur cyflog ar gyfer swydd y Prif Weithredwr;

 

  Bod swyddi statudol y Swyddog Cyllid Adran 151 a’r Swyddog Monitro yn cael eu hymgorffori o fewn yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth.