Rhaglen a chofnodion

Arbennig, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mercher, 4ydd Chwefror, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 62 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

3.

Penodi Prif Weithredwr ac Ail-Strwythuro'r Uwch DÎm Arweinyddiaeth

I ystyried argymhellion y Pwyllgor Penodiadau a gafwyd ar 27 Ionawr, 2015.

Cofnodion:

Rhoddwyd sylw i argymhellion y Pwyllgor Penodi a gynhaliwyd ar 27 Ionawr, 2015.

 

Cafwyd adroddiad manwl gan y Prif Weithredwr ar argymhellion y Pwyllgor Penodi i’r Cyngor Sir. Amlinellodd rôl Panel Annibynnol Cymru ar gydnabyddiaeth ariannol yn argymell lefel y cyflog ar gyfer Prif Weithredwyr yng Nghymru.

 

Yn dilyn trafodaethau maith PENDERFYNWYD:-

 

Cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Penodi a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2015 gan gynnwys yr isod:

 

Argymell i’r Cyngor Sir mai £115k i £120k fydd cyflog y Prif   Weithredwr newydd (yn amodol ar sylwadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol)

Os ystyrir swydd y Dirprwy Brif Weithredwr yn y dyfodol, dylai’r cyflog gael ei bennu ar lefel sy’n cyfateb i 90% o gyflog y Prif Weithredwr.

Bydd disgrifiad swydd ar gyfer y Prif Weithredwr newydd yn cael ei gylchredeg i Aelodau’r Pwyllgor Penodi a dirprwyo’r awdurdod i Gadeirydd y Pwyllgor Penodi i awdurdodi’r disgrifiad swydd ar gyfer ei hysbysebu oni cheir unrhyw newidiadau gan yr Aelodau;

• Y bydd yr hysbyseb ar gyfer swydd y Prif Weithredwr yn cael ei rhoddi ar wefan y Cyngor ac y bydd datganiad i’r wasg yn cael ei gyhoeddi. Defnyddir y cyfryngau cymdeithasol hefyd i hysbysebu’r swydd;

Cytunwyd y bydd proses asesu’n rhan o’r broses recriwtio ac y bydd AD yn canfod cefnogaeth ymgynghorol ar gyfer asesu’r sawl sydd wedi ymgeisio am swydd y Prif Weithredwr newydd a dirprwyo awdurdod i’r Cadeirydd benodi ymgynghorydd allanol yn dilyn ymgynghori gyda Swyddogion.

• Bod y swydd y Prif Weithredwr wedi hynny yn cael ei hysbysebu cyn gynted ag y bo modd.