Rhaglen a chofnodion

Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 14eg Mai, 2015 10.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Huw Jones 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 550 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar :-

 

  26 Chwefror 2015

   30 Mawrth, 2015 (Arbennig)

   7 Ebrill, 2015 (Arbennig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd o Gyngor Sir Ynys Môn a gynhaliwyd ar y dyddiadau a nodir isod a chadarnhawyd eu bod yn gywir:

 

  26 Chwefror 2015

  30 Mawrth 2015 (arbennig)

 

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem ar y Rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mewn perthynas ag eitem 18 ar y rhaglen, dywedodd y Cynghorydd R. G. Parry OBE ei fod wedi cael caniatâd arbennig i siarad ar y mater ac y byddai felly yn aros yn y Siambr am y drafodaeth ond na fyddai’n pleidleisio ar y mater. Gofynnodd am eglurhad ynghylch a oedd angen iddo felly wneud datganiad o ddiddordeb.

 

Mewn perthynas â’r Aelodau hynny a chanddynt ddiddordeb yn eitem 18 oherwydd bod aelod o’u teulu yng nghyflogaeth Cyngor Sir Ynys Môn ond sydd wedi cael caniatâd arbennig i gymryd rhan yn y drafodaeth, dywedodd Pennaeth Busnes a Swyddog Monitro’r Cyngor y pery angen i’r aelodau hynny ddatgan eu diddordeb. Cadarnhaodd bod y caniatâd arbennig yn parhau i fod mewn grym.

 

Gwnaed datganiadau o ddiddordeb wedyn gan yr aelodau a ganlyn mewn perthynas ag eitem 18 gan gadarnhau y byddent yn cymryd rhan yn y drafodaeth ar y mater ar ôl cael caniatâd arbennig i wneud hynny ond na fyddent yn pleidleisio:

 

Lewis Davies, Llinos Medi Huws, Trefor Lloyd Hughes, H. Eifion Jones, Alun Mummery, Richard Owain Jones, R. G. Parry, OBE, Dafydd Rhys Thomas, John Arwel Roberts, a Ieuan Williams.

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed y cyhoeddiadau a ganlyn gan y Cadeirydd:

 

  Llongyfarchiadau i Mr. Albert Owen am gael ei ailethol fel yr Aelod Seneddol ar gyfer Ynys Môn.

  Llongyfarchiadau i bob un o blant ysgol yr Ynys a oedd wedi cystadlu dros y penwythnos yng nghystadleuaeth chwaraeon genedlaethol yr Urdd.

  Dymuniadau gorau i bawb a fydd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerffili ddiwedd mis Mai.

  Llongyfarchiadau i Glwb Ffermwyr Ifanc Llangefni a ddaeth i’r brig yn Rali Ffermwyr Ifanc Ynys Môn dros y penwythnos.

  Dymuniadau gorau i bawb a fydd yn cystadlu yn Eisteddfod Môn yn Ysgol Syr Thomas Jones y penwythnos nesaf.

  Dymuniadau gorau i bawb a fydd yn cystadlu yn Sioe’r Gwanwyn yn Llanelwedd dros y penwythnos.

  Cydymdeimlir a theulu’r Henadur Mrs M. A. Edwards MBE o Parc Glas, Bodorgan a fu farw ym mis Mawrth yn 103 oed. Rhoddodd Mrs Edwards oes o wasanaeth cyhoeddus i’r Ynys ac roedd

yn parhau i fod yn llywodraethwr yn Ysgol Bodorgan. Roedd wedi cyflawni’r rôl honno am 75 o flynyddoedd.

  Estynnir cydymdeimlad yn yr un modd i deulu’r cyn-Gynghorydd R. L. Owen o Fiwmares. Mr.

Owen oedd Cadeirydd y Cyngor Sir o 2002 i 2003 a gwasanaethodd ar Gyngor Bwrdeistref

Ynys Môn yn ogystal â’r Cyngor Sir.

  Estynnir cydymdeimlad hefyd i unrhyw aelod o’r Cyngor neu ei staff a oedd wedi cael profedigaeth.

 

Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

4.

Cwestiynau a dderbyniwyd yn unol â Rheol 4.1.12.2 y Cyfansoddiad

Gofynnwyd y cwestiwn isod y cafwyd rhybudd ohono gan y Cynghorydd R. Meirion Jones i’r Cadeirydd:-

 

Hoffwn ofyn cwestiwn i’r Cadeirydd ynglŷn ag anogaeth i gadw enwau Cymraeg ar dai Ynys Môn.

 

Gwelwyd yng Ngheredigion yn gynharach eleni y Cyngor yno yn datgan ei anogaeth i gadw enwau Cymraeg ar dai.  Teimlais y dylem ni ym Môn fod yn gwneud yn debyg.  Gwyddwn fod y Prif Weithredwr yn gefnogol  i’r syniad ac iddo godi’r mater yn y Fforwm Iaith Sirol a chysylltais efo swyddogion.  Erbyn hyn rydym wedi derbyn gwybodaeth mewnol ac o Gyngor Ceredigion.  Gwyddom hefyd fod y Bil Cynllunio o flaen y Cynulliad ar hyn o bryd.  Hoffwn i’r Prif Weithredwr adael i ni wybod beth yw’r sefyllfa bresennol ynglŷn â’r mater a sut mae ef yn gweld y ffordd ymlaen i gael y maen i’r wal.

 

Mae Grŵp Plaid Cymru yn gefnogol i’r egwyddor ac eisiau amddiffyn ein treftadaeth ac felly eisiau gweld Cyngor Sir Ynys Môn yn datblygu Polisi ar y mater, ac rwy’n gofyn y cwestiwn hwn ar ran y Grŵp.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd y cwestiwn isod y cafwyd rhybudd ohono gan y Cynghorydd R. Meirion Jones i’r Cadeirydd:

 

Hoffwn ofyn cwestiwn i’r Cadeirydd ynglŷn ag anogaeth i gadw enwau Cymraeg ar dai Ynys Môn.

 

Gwelwyd yng Ngheredigion yn gynharach eleni y Cyngor yno yn datgan ei anogaeth i gadw enwau Cymraeg ar dai. Teimlais y dylem ni ym Môn fod yn gwneud yn debyg. Gwyddwn fod y Prif Weithredwr yn gefnogol i’r syniad ac iddo godi’r mater yn y Fforwm Iaith Sirol a chysylltais efo swyddogion. Erbyn hyn rydym wedi derbyn gwybodaeth mewnol ac o Gyngor Ceredigion. Gwyddom hefyd fod y Bil Cynllunio o flaen y Cynulliad ar hyn o bryd. Hoffwn i’r Prif Weithredwr adael i ni wybod beth yw’r sefyllfa bresennol ynglŷn â’r mater a sut mae ef yn gweld y ffordd ymlaen i gael y maen i’r wal.

 

Mae Grŵp Plaid Cymru yn gefnogol i’r egwyddor ac eisiau amddiffyn ein treftadaeth ac felly eisiau gweld Cyngor Sir Ynys Môn yn datblygu polisi ar y mater, ac rwy’n gofyn y cwestiwn hwn ar ran y Grŵp.”

 

Yn ei ymateb dywedodd y Prif Weithredwr nad oes gan yr Awdurdod rym statudol i orfodi enwau tai ar anheddau preifat. Er bod gan y Cyngor awdurdodaeth dros enwau strydoedd, nid yw hynny’n ymestyn i dai preifat er bod ymgyrch gan rai aelodau o Lywodraeth Cymru i ymgorffori darpariaeth o’r fath o fewn Mesur Cynllunio (Cymru) 2014. Mae nifer o enwau tai yn Ynys Môn yn rhan o dreftadaeth ddiwylliannol yr Ynys a gellir olrhain llawer ohonynt yn ôl ganrifoedd ac mae ganddynt ystyr a phwrpas. Ar hyn o bryd gall yr Awdurdod geisio perswadio ei ddinasyddion i barchu a pheidio â newid enwau Cymraeg ar dai fel y mae’r Cyngor yng Ngheredigion yn ei wneud. Cafwyd

trafodaethau gyda Phrif Weithredwr ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion sydd wedi rhoi i’r Awdurdod hwn enghreifftiau o’r pro-fforma y mae’n ei ddefnyddio a’i bolisi ar y mater.

 

Er mwyn rhoi sylw i’r mater argymhellodd y Prif Weithredwr y dylid, yn gyntaf, ei gyfeirio i Grŵp Tasg Iaith y Cyngor i lunio argymhellion a pholisi penodol i’w cyflwyno i’r Pwyllgor/Pwyllgorau perthnasol trwy sianelau democrataidd arferol, ac yn ail, fod y Cyngor yn ystyried wedyn a yw’n dymuno cefnogi’r ymdrechion o fewn Llywodraeth Cymru i gynnwys darpariaeth ym Mesur Cynllunio (Cymru) 2014 i’r diben hwn, a chyflwyno sylwadau i’r perwyl i Lywodraeth Cymru. Cymeradwywyd yr argymhellion gan y Cyngor fel ffordd o symud y mater yn ei flaen.

 

Penderfynwyd bwrw ymlaen yn unol ag argymhellion y Prif Weithredwr.

5.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â pharagraff 4.11 y Cyfansoddiad cyflwynwyd deiseb gan Arweinydd y Cyngor ar ran disgyblion Ysgol Gyfun Llangefni a defnyddwyr y Cwrs Golff yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i ailystyried ei benderfyniad i gau Cwrs Golff Llangefni yn Ebrill 2015 ac i ohirio ei gau tan o leiaf diwedd Medi 2015 i ganiatáu amser un ai ar gyfer ffurfio menter gymdeithasol neu i nodi prynwr i redeg y cyfleuster fel cwrs golff. Dywedodd yr Arweinydd bod dyfodol Cwrs Golff Llangefni yn destun adroddiad a fydd yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 26 Mai 2015.

 

Penderfynwyd nodi y bydd y mater yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym mis Mai.

 

6.

Dogfen Gyflawni Flynyddol (Cynllun Gwella) 2015/16 pdf eicon PDF 689 KB

  Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes.

 

  Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 20 Ebrill 2015 wedi PENDERFYNU:-

 

·      “Awdurdodi’r Swyddogion, drwy’r Aelod Portffolio ar gyfer Perfformiad, Trawsnewid, y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol i ymgymryd â’r dasg o lunio’r drafft terfynol a

 

·      Argymell bod y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 14 Mai 2015, yn mabwysiadu’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2015/16”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Gweithredol, Trawsnewid Perfformiad, y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol adroddiad y Rheolwr Rhaglen a Chynlluniau Busnes i’r Cyngor yn ymgorffori’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2015/16.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Gweithredol, Trawsnewid Perfformiad, y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol fod y Pwyllgor Gwaith, yn ei gyfarfod ar 20 Ebrill 2015, wedi penderfynu fel a ganlyn ar ôl rhoi sylw i’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2015/16:

 

  Awdurdodi’r Swyddogion, trwy’r Aelod Portffolio ar gyfer Trawsnewid Perfformiad, y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol i ymgymryd â’r dasg o gwblhau’r drafft terfynol;

  Argymell bod y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 14 Mai 2015 yn mabwysiadu’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2015/16.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Peter Rogers am eglurhad ar y cyfeiriad yn y Ddogfen Gyflawni i’r bwriad i drosglwyddo rheolaeth Cwrs Golff a Llain Ymarfer Llangefni i sefydliad rheoli arall tan Ebrill 2017 o gofio bod penderfyniad ar weithrediad y cwrs golff a’r llain ymarfer tan 2017 wedi ei wneud ond yn seiliedig ar ystyriaethau eraill. Ymatebodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Datblygu Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth trwy ddweud bod yr adroddiad ar Gwrs Golff Llangefni a gyflwynir i’r Pwyllgor Gwaith ar 26 Mai yn ystyried model rheoli sy’n cynnwys y gymuned ond sy’n parhau i lynu wrth y penderfyniad gwreiddiol.

 

Penderfynwyd mabwysiadu’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol (Cynllun Gwella) ar gyfer 2015/16.

7.

Newidiadau Cyfansoddiadol – Rheolau Gweithdrefn Contract pdf eicon PDF 533 KB

  Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro.

 

  Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 16 Mawrth 2015 wedi PENDERFYNU argymell i’r Cyngor llawn:-

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor Sir llawn ei fod yn cymeradwyo’r Rheolau Gweithdrefn Contract newydd ac yn dirprwyo awdurdod i’r Swyddog Monitro i ymgorffori’r Rheolau Gweithdrefn Contract newydd yn y Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·      Cyflwynodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Gweithredol, Trawsnewid Perfformiad, y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol adroddiad i’r Cyngor a baratowyd gan Bennaeth Busnes/Swyddog Monitro’r Cyngor yn ymgorffori Rheolau Gweithdrefn Contract newydd yn Atodiad 1.

 

·      Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Gweithredol, Trawsnewid Perfformiad, y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol fod y Pwyllgor Gwaith, yn ei gyfarfod ar 16 Mawrth 2015, wedi penderfynu fel a ganlyn ar ôl rhoi sylw i’r uchod:

 

Argymell i’r Cyngor Sir llawn ei fod yn cymeradwyo’r Rheolau Gweithdrefn Contract newydd ac yn dirprwyo awdurdod i’r Swyddog Monitro ymgorffori’r Rheolau Gweithdrefn Contract newydd yn y Cyfansoddiad.

 

Dywedodd y Pennaeth Busnes/Swyddog Monitro fod y Cyngor, wrth fabwysiadu’r rheolau Gweithdrefn Contract newydd, yn gwneud hynny gyda’r amod na fyddant yn cael eu gweithredu tan fis Medi 2015 oherwydd eu bod yn rhan o raglen fwy o newid.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd R. Meirion Jones fod cwestiynau yr oedd ganddo ar y Rheolau Gweithdrefn Contract newydd wedi cael sylw mewn canllawiau a ddarparwyd gan Bennaeth Busnes y Cyngor a’i staff.

 

Gofynnodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones am eglurhad ar baragraff 4.9.9.2.5(d) yn y Rheolau Gweithdrefn contract newydd o ran argaeledd gwybodaeth am dendrau dan ofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth er budd tryloywder ac agoredrwydd.

 

Dywedodd Pennaeth Busnes y Cyngor fod y paragraff perthnasol yn tanlinellu’r ffaith y gellir cyflwyno ceisiadau i’r sector cyhoeddus am wybodaeth dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ond nad oedd modd gwneud yr un peth yn y sector preifat. Mae’r darpariaethau yn y paragraff yn cyfeirio at yr enghreifftiau hynny lle mae’r Cyngor yn tendro gyda’r sector preifat i ddarparu gwasanaeth ar ei ran ac yn egluro i’r sector preifat, o’r cychwyn cyntaf, fod yr un gofynion o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn berthnasol iddo yn yr amgylchiadau hynny ag sy’n berthnasol i’r sector cyhoeddus.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Rheolau Gweithdrefn Contract newydd fel yn Atodiad 1 i’r adroddiad gan Bennaeth Busnes/Swyddog Monitro’r Cyngor a dirprwyo awdurdod i’r Swyddog Monitro ymgorffori’r Rheolau Gweithdrefn Contract newydd o fewn y Cyfansoddiad fel eu bod yn dod i rym ym mis Medi 2015.

8.

Newidiadau Cyfansoddiadol – Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio pdf eicon PDF 422 KB

  Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro.

 

  Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 20 Ebrill 2015 wedi PENDERFYNU argymell i’r Cyngor llawn:-

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor llawn ei fod yn cymeradwyo’r newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor, sef cylch gorchwyl newydd ar gyfer y Pwyllgor Archwilio fel y caiff ei nodi yn yr Atodiad i’r Adroddiad hwn”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·      Cyflwynodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Gweithredol, Trawsnewid Perfformiad, y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol adroddiad gan Bennaeth Busnes/Swyddog Monitro’r Cyngor yn ymgorffori Cylch Gorchwyl newydd y Pwyllgor Archwilio.

 

·      Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Gweithredol, Trawsnewid Perfformiad, y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol fod y Pwyllgor Gwaith, yn ei gyfarfod ar 20 Ebrill 2015, wedi penderfynu fel a ganlyn ar ôl rhoi sylw i’r uchod:

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor llawn ei fod yn cymeradwyo’r newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor, sef cylch gorchwyl newydd ar gyfer y Pwyllgor Archwilio fel y caiff ei nodi yn yr Atodiad i’r Adroddiad.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor, sef cylch gorchwyl newydd ar gyfer y Pwyllgor Archwilio fel y caiff ei nodi yn yr Atodiad i’r adroddiad gan Bennaeth Busnes/Swyddog Monitro’r Cyngor.

9.

Newidiadau Cyfansoddiadol – Pwerau’r Prif Weithredwr pdf eicon PDF 282 KB

  Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro.

 

  Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 20 Ebrill 2015 wedi PENDERFYNU argymell i’r Cyngor llawn:-

 

·         “Ei fod yn gwneud newidiadau i’r Cyfansoddiad fel y gall y Prif Weithredwr wneud newidiadau strwythurol i’r Cynllun Dirprwyo i Swyddogion heb fynd drwy’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor llawn.

 

·         Ei fod yn rhoddi’r awdurdod i’r Swyddog Monitro weithredu’r newid drwy ychwanegu paragraff newydd i’r Cynllun Dirprwyo yn unol ag Atodiad 1 ac wedi hynny, i weithredu unrhyw benderfyniadau perthnasol gan y Prif Weithredwr”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad Pennaeth Busnes/Swyddog Monitro’r Cyngor yn gofyn am awdurdod i newid y Cynllun Dirprwyo.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y Pwyllgor Gwaith, ar ôl rhoi sylw i’r mater yn ei gyfarfod ar 20 Ebrill 2015, wedi penderfynu:

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor llawn:

 

  Ei fod yn gwneud newidiadau i’r Cyfansoddiad fel y gall y Prif Weithredwr wneud newidiadau strwythurol i’r Cynllun Dirprwyo i Swyddogion heb fynd drwy’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor llawn.

 

  Ei fod yn rhoddi’r awdurdod i’r Swyddog Monitro weithredu’r newid drwy ychwanegu paragraff newydd i’r Cynllun Dirprwyo yn unol ag Atodiad 1 ac wedi hynny, i weithredu unrhyw benderfyniadau perthnasol gan y Prif Weithredwr.

 

Penderfynwyd newid y Cyfansoddiad fel bod modd i’r Prif Weithredwr wneud newidiadau strwythurol i’r Cynllun Dirprwyo i Swyddogion heb fynd trwy’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor llawn a bod y Swyddog Monitro’n cael ei hawdurdodi i weithredu’r newid trwy ychwanegu paragraff newydd i’r Cynllun Dirprwyo yn unol ag Atodiad 1, ac i weithredu unrhyw benderfyniadau perthnasol wedyn gan y Prif Weithredwr.

10.

Pwyllgor Archwilio – Adroddiad Blynyddol 2014-15 pdf eicon PDF 342 KB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol ar gyfer 2014/15 gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio.

 

Penderfynwyd nodi’r adroddiad gan Archwilio Mewnol ar gyfer 2014/15.

11.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2014-15 pdf eicon PDF 222 KB

Cyflwyno adroddiad gan Mr Michael Wilson, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2014/15 i’r Cyngor gan Mr Michael Wilson fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn ystod 2014/15. Roedd yr adroddiad yn crynhoi sutroedd y Pwyllgor Safonau wedi cyflawni ei Raglen Waith ar gyfer 2014/15 ac yn gosod ei raglen gweithgareddau ar gyfer 2015/16.

 

Mewn ymateb i gais am eglurhad ar y camau oedd yn cael eu cymryd i bontio’r bwlch rhwng Cynghorau Cymuned a’r Cyngor Sir ar adeg pan oedd mwy a mwy o ddisgwyliadau ar Gynghorau Cymuned, adroddodd Pennaeth Busnes y Cyngor/Swyddog Monitro fod y maes datblygu a hyfforddi dan y Côd Ymddygiad wedi canolbwyntio yn 2014/15 ar glercod Cynghorau Tref a Chymuned. Roedd nifer wedi mynychu’r hyfforddiant hwn a bu derbyniad da iddo ac mae tystiolaeth ei fod wedi adeiladu perthnasau rhwng y Cyngor Sir a Chynghorau Cymuned. Yn 2015/16, bydd y Cyngor yn defnyddio dull yn seiliedig ar risg gyda’r bwriad o ddarparu hyfforddiant pellach i Gynghorwyr Tref yn arbennig.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at ddarpariaethau eraill er mwyn cryfhau’r berthynas a’r cyfathrebu rhwng y Cyngor Sir a chynghorau tref a chymuned ar ffurf Siarter/Memorandwm o Ddealltwriaeth, Fforwm deirgwaith y flwyddyn dan gadeiryddiaeth Arweinydd y Cyngor ac yn deillio o hynny, Grŵp Ffocws i drafod ac ymgynghori ar faterion ehangach.

 

Penderfynwyd nodi’r Rhaglen a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Safonau rhwng Ebrill 2014 a Mai 2015 fel mae wedi ei chynnwys yn Atodiad A yr adroddiad a chefnogi Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2015/16 fel y mae wedi ei chynnwys yn Atodiad B.

12.

Adroddiad Blynyddol Sgriwtini 2014-15 pdf eicon PDF 611 KB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Sgriwtini ar gyfer 2014/15 i’r Cyngor gan y Cynghorydd R. Meirion Jones fel Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ystod 2014/15. Roedd yr adroddiad yn gosod y cyfraniad a’r her a ddarparwyd gan Sgriwtini trwy raglenni gwaith y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn ystod y flwyddyn.

 

Penderfynwyd

 

  Nodi a chymeradwyo adroddiad blynyddol y Pwyllgorau Sgriwtini ar gyfer 2014/15.

  Bod Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn cael ei benodi fel yr Eiriolydd Sgriwtini o fis Mai 2015 hyd at fis Mai 2016 a Chadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio o fis Mai 2016 hyd at fis Mai 2017. Wedi hynny byddai dau Gadeirydd y Pwyllgorau Sgriwtini yn cymryd rôl yr Eiriolydd Sgriwtini bob yn ail.

13.

Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Democrataidd 2014-15 pdf eicon PDF 206 KB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2014/15 i’r Cyngor gan y Cynghorydd Vaughan Hughes fel Cadeirydd y Pwyllgor yn ystod 2014/15.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi’r materion a drafodwyd fel rhan o Raglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2014/15.

14.

Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor pdf eicon PDF 942 KB

Ystyried Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor mewn perthynas â pharagraff 4.1.16 o’r Cyfansoddiad. – I DDILYN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2014/15 i’r Cyngor gan Arweinydd y Cyngor. Roedd yr adroddiad oedd yn seiliedig ar hunanasesiad corfforaethol y Cyngor yn rhoi manylion ynghylch llwyddiannau’r Cyngor yn ystod y flwyddyn ynghyd â meysydd am welliant pellach, ac roedd hefyd yn nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn bwriadau’r Maniffesto Annibynnol.

 

Wrth gloi ei adroddiad, talodd yr Arweinydd deyrnged i’r Prif Weithredwr a fyddai’n ymddeol ddiwedd mis Mai 2015 a chyfeiriodd at y parch mawr oedd iddo oddi mewn i’r Cyngor a thu allan i Gyngor Sir Ynys Môn. Roedd Aelodau’r Cyngor yn eilio’r farn honno gan sôn am hygrededd, cwrteisi a phroffesiynoldeb y Prif Weithredwr ynghyd â’r gwaith penigamp a gyflawnodd yn ei swydd. Mynegwyd gwerthfawrogiad hefyd i’r Cynghorydd R. G. Parry, OBE oedd yn sefyll i lawr fel Arweinydd yr Wrthblaid am ei gyfraniad i’r rôl honno.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau oedd yn codi o gynnwys yr adroddiad a gwnaed sylwadau oedd yn ceisio eglurhad ynghylch statws agweddau penodol o waith a phrosiectau’r Cyngor, ac ymatebodd yr Arweinydd i’r rhain.

 

Penderfynwyd derbyn Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor ar gyfer 2014/15 a nodi ei gynnwys.

15.

Cau Allan y Wasg a’r Cyhoedd pdf eicon PDF 62 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y  caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd a phenderfynwyd o dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

16.

Adolygiad o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth

   Cyflwyno argymhellion y Pwyllgor Penodiadau a gafwyd ar 1 Mai 2015.

 

   Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

·      Cyflwynwyd argymhellion y Pwyllgor Penodi o’i gyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mai 2015 ynghylch yr uchod.

 

·      Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr i’r Cyngor. Roedd yr adroddiad yn cynnwys argymhellion diwygiedig ar gyfer symud ymlaen ag ailstrwythuro’r Uwch Dim Arweinyddiaeth yn dilyn ymatebion a dderbyniwyd fel rhan o’r ymgynghoriad ar Opsiwn 4 a ffafriwyd yn wreiddiol, ac yn seiliedig ar drafodaethau’r Pwyllgor Penodi a’r argymhellion a wnaed ganddo uchod.

 

Yn dilyn ystyried yr adroddiad a chael trafodaeth arno, cynigiwyd gwelliant i’r argymhellion er mwyn rhoi ystyriaeth i ail-ddynodi teitlau swyddi y ddwy swydd Prif Weithredwr Cynorthwyol newydd a gynigiwyd fel rhan o’r strwythur UDA diwygiedig. Yn y bleidlais ganlynol ar y mater, collodd y gwelliant o 16 pleidlais i 10. Mewn ail bleidlais, pasiwyd y cynigion gwreiddiol.

 

Penderfynwyd

 

  Cymeradwyo’r argymhellion yn adroddiad y Prif Weithredwr fel y’u cyflwynwyd.

  Awdurdodi’r Swyddog Monitro i ddiwygio Cyfansoddiad y Cyngor ar ôl cwblhau’r broses benodi / pan fydd y bobl a benodir yn cychwyn yn y swydd (pa un bynnag sydd hwyraf) er mwyn adlewyrchu’r strwythur rheoli newydd.

 

  Bod y penodiadau i’r ddwy swydd Prif Weithredwr Cynorthwyol newydd yn cael eu gwneud gan y Cyngor llawn ar ôl derbyn argymhellion y Pwyllgor Penodi ynglŷn â’r ymgeiswyr a ffafrir.

 

17.

Cau Allan y Wasg a’r Cyhoedd pdf eicon PDF 40 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y  caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

 

Penderfynwyd mabwysiadu’r uchod.

18.

Gweithredu’r Cynllun Arfarnu Swyddi a Thâl Cyfartal

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Professiwn – Adnoddau Dynol.

 

Cofnodion:

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol.

 

Cylchredwyd nodyn cyngor i gadarnhau eto y risgiau sy’n gysylltiedig â gweithredu Statws Sengl, a chrynodeb o’r argymhellion, i bawb. Casglwyd y ddwy ddogfen ar ddiwedd y cyfarfod.

 

Cynigiodd Arweinydd y Cyngor bod y Cyngor yn cymeradwyo’r argymhellion oedd wedi’u cynnwys yn y crynodeb a gylchredwyd. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Alwyn Rowlands.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Hywel Eifion Jones bleidlais wedi’i chofnodi yn unol â’r broses a fabwysiadwyd yn y Cyngor llawn ar 7 Ebrill 2015.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau a ganlyn o blaid:

 

Kenneth P Hughes, Richard A Dew, Alwyn Rowlands, Vaughan Hughes, Jim Evans, Aled Morris Jones, William T Hughes, Derlwyn Hughes, Raymond Jones, Robert Llewelyn Jones, Peter Rogers, Gwilym O Jones, Meirion Jones, Dylan Rees, Ann Griffith, Carwyn Jones, John Griffith.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau a ganlyn yn erbyn:

 

Ni wnaeth yr un Aelod bleidleisio yn erbyn.

 

Ni wnaeth yr Aelodau a ganlyn bleidleisio ar ôl derbyn caniatâd arbennig:

 

Robert G Parry OBE, Alun Mummery, Lewis Davies, Llinos Medi Huws, Jeffrey M Evans, Dafydd Rhys Thomas, Richard O Jones, Trefor Lloyd Hughes, Hywel Eifon Jones, Ieuan Williams, J Arwel Roberts.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r argymhellion fel yr oeddent wedi eu hamlinellu yn y ddogfen grynodeb.

 

Ar ddechrau cyfarfod y Cyngor gwnaed cais i ohirio cytuno ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Ebrill 2015. Cyfeiriodd Pennaeth Swyddogaeth Busnes y Cyngor/Swyddog Monitro at yr angen i gofnodion drafft y cyfarfod gael eu hystyried gan y Cyfreithwyr allanol sy’n cynghori’r Cyngor mewn perthynas â’r Statws Sengl ac roedd wedi gofyn i’r Aelodau ohirio cymeradwyo’r cofnodion er mwyn i’r swyddogion allu ymgynghori ag ymgynghorwyr cyfreithiol allanol y Cyngor. Cynigiwyd gohirio cytuno ar y cofnodion tan y cyfarfod nesaf.

 

Penderfynwyd gohirio penderfyniad ynglŷn â chofnodion 7 Ebrill 2015 tan gyfarfod nesaf y Cyngor llawn.