Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mr Huw Jones
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2015-16.
(Cyfeirir yr Aelodau at Drefn y Busnes yng nghyswllt y seremoni i ethol Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor Sir a ddosberthir yn y cyfarfod). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Jim Evans yn Gadeirydd y Cyngor Sir am 2015/16.
Wrth dderbyn yr anrhydedd o gael ei benodi, rhoes y Cynghorydd Jim Evans sicrwydd i’r Cyngor y byddai’n ceisio cyflawni ei ddyletswyddau fel Cadeirydd hyd orau ei allu a diolchodd i’w ragflaenydd yn y swydd honno, sef y Cynghorydd Vaughan Hughes am y modd urddasol y bu iddo gyflawni ei ddyletswyddau dinesig yn ystod ei dymor fel Cadeirydd y Cyngor. Achubodd y Cynghorydd Evans hefyd ar y cyfle i ddiolch i Mr R. P. Jones, y Prif Weithredwr, am ei arweiniad a’i gyngor doeth yn y rôl honno a dymunodd yn dda iddo am ei ymddeoliad ddiwedd Mai 2015.
Diolchodd y Cyn-Gadeirydd, y Cynghorydd Vaughan Hughes, i’r holl Aelodau a Swyddogion am eu cefnogaeth yn ystod ei dymor yn y swydd a dywedodd mai anrhydedd aruthrol ac amhrisiadwy oedd cael bod yn bennaeth dinesig Ynys Môn. Rhoes y Cynghorydd Hughes grynodeb o uchafbwyntiau ei flwyddyn fel Cadeirydd y Cyngor gan gynnwys codi £3,700 ar gyfer achosion da. Dymunodd y Cynghorydd Hughes yntau ymddeoliad hapus i Mr R. P. Jones a diolchodd iddo am ei wasanaeth maith ac anrhydeddus i Ynys Môn. |
|
Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2015-16.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd R. G. Parry, OBE yn Is-Gadeirydd y Cyngor Sir am 2015/16.
Diolchodd y Cynghorydd R. G. Parry, OBE i’w gyd-Aelodau am yr anrhydedd a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Cadeirydd a’i gefnogi yn ei ddyletswyddau yn ystod y flwyddyn i ddod. |
|
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cydnabu Mr Richard Parry Jones, y Prif Weithredwr, y teyrngedau caredig a dalwyd iddo gan y Cadeirydd newydd a chan Aelodau’r Cyngor yn ystod y cyfarfod o’r Cyngor a gynhaliwyd y bore hwnnw a dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi caredigrwydd a didwylledd y teimladau a fynegwyd. Soniodd Mr Jones am hanes ei gyswllt personol ef gydag Ynys Môn a diolchodd i’r Cadeirydd a oedd yn ymddeol am ei flwyddyn o wasanaeth lle bu’n llysgennad effeithiol ar gyfer Cyngor Sir
Ynys Môn. Dymunodd yn dda i’r Cynghorydd Jim Evans ar gyfer y flwyddyn i ddod, yr un modd, Arweinydd y Cyngor. Dywedodd ei fod yn gobeithio ei fod yn gadael y Cyngor mewn sefyllfa gryfach a chadarnach a bod modd priodoli llwyddiant hynny i ymdrechion Aelodau’r Cyngor. Yn ogystal, cydnabu Mr Jones y cyfraniad a wnaed gan staff y Cyngor sy’n haeddu canmoliaeth a pharch. Cyfeiriodd at y cyfleon unigryw sy’n wynebu Ynys Môn ynghyd â’r risgiau a all ddod gyda hynny a phwysleisiodd bwysigrwydd gwerthfawrogi a gwarchod cyfoeth yr Ynys o dreftadaeth a sicrhau bod unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud er budd trigolion yr Ynys. Dymunodd yn dda iawn i’r Cyngor am y dyfodol a dywedodd y byddai’n parhau i ddilyn ei hynt a’i helynt gyda diddordeb. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb ynghylch unrhyw eitem ar y Rhaglen gan unrhyw Aelod neu Swyddog.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Datganiad gan yr Arweinydd / Aelodau’r Pwyllgor Gwaith Yn unol â Pharagraff 4.4.1.2 o’r Cyfansoddiad, derbyn gwybodaeth gan yr Arweinydd ynghylch enwau’r Cynghorwyr y mae ef/hi wedi’u dewis i fod yn aelodau o’r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â’u cyfrifoldebau portffolio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2 y Cyfansoddiad, enwodd yr Arweinydd yr isod fel yr Aelodau yr oedd wedi eu dewis i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith ynghyd â’u cyfrifoldebau Portffolio –
Y Cynghorydd Richard Dew a fydd yn gyfrifol am y Portffolio Cynllunio a'r Amgylchedd Y Cynghorydd Kenneth Hughes a fydd yn gyfrifol am y Portffolio Addysg Y Cynghorydd Aled Morris Jones a fydd yn gyfrifol am y Portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol Y Cynghorydd H. Eifion Jones a fydd yn gyfrifol am y Portffolio Cyllid Y Cynghorydd J. Arwel Roberts a fydd yn gyfrifol am y Portffolio Priffyrdd, Eiddo a Rheoli Gwastraff Y Cynghorydd Alwyn Rowlands a fydd yn gyfrifol am y Portffolio Busnes y Cyngor, Trawsnewid Perfformiad ac Adnoddau Dynol Y Cynghorydd Ieuan Williams (Arweinydd) a fydd yn gyfrifol am y Portffolio Datblygu Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth |
|
Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2015-16 Ethol Cadeirydd yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3, penderfynwyd ethol y Cynghorydd Vaughan Hughes yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2015/16. |
|
Cadarnhau’r Cynllun Dirprwyo Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau unrhyw rannau o’r Cynllun Dirprwyo y mae’n rhaid i’r Cyngor, yn unol â’r Cyfansoddiad, gytuno arnynt (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 y Cyfansoddiad).
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cadarnhau’r rhan honno o’r Cynllun Dirprwyo sydd, yn ôl y cyfansoddiad, yn fater i’r Cyngor gytuno arno fel y pennir yn Rhan 3.2 y Cyfansoddiad.
|
|
Cydbwysedd Gwleidyddol PDF 69 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’w ystyried - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn adolygu trefniadau cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor.
Penderfynwyd –
• Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddau a ddyrannwyd i bob un o’r grwpiau yn unol â Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, a nifer y seddau a roddir yn ôl arferiad i’r Aelodau hynny nad yw cydbwysedd gwleidyddol yn berthnasol iddynt fel a nodir yn y matrics a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad. • Yn amodol ar yr uchod, cadarnhau bod y seddau a ddyrennir i Aelodau nad ydynt yn rhan o unrhyw grŵp yn parhau ar sail y penodiadau cyfredol. • Bod yr Arweinyddion Grwpiau yn rhoi gwybod i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd cyn gynted ag sy’n bosibl os bydd unrhyw newidiadau i Aelodau y Grwpiau ar Bwyllgorau. |
|
Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau 2015-16 PDF 222 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’w ystyried - adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y cynllun cydnabyddiaeth ariannol i Aelodau yn 2015/16.
Penderfynwyd -
• Cadarnhau dyrannu Uwch Gyflogau ar gyfer y rheini sydd yn dal swyddi yn 2015/16 fel sydd wedi ei nodi ym mharagraff 2.19 uchod. • Cadarnhau y dylid talu ar sail lefel C fel y penderfynir gan y Panel Cydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer swyddi Pennaeth Dinesig a Dirprwy Bennaeth Dinesig, gan gymryd y baich gwaith a’r cyfrifioldebau a ragwelir i ystyriaeth (paragraff 2.7). • Nodi bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth 2015 wedi penderfynu y dylid rhoi sylw i’r gofyniad i adolygu lefel y cymorth a roddir i aelodau i gyflawni eu dyletswyddau fel rhan o’r rhaglen waith ar gyfer 2015/16. • Nodi manylion eraill ynghylch taliadau a lwfansau ar gyfer 2014 /15 a bennwyd gan y Panel ac a amlinellir yn yr adroddiad hwn. |
|
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’w ystyried – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn gofyn am gadarnhau’r rhestr o benodiadau a wnaed i gyrff allanol.
Rhoddwyd gwybod i’r Cyngor for y Cynghorydd R. G. Parry, OBE am gynrychioli’r Cyngor ar Grŵp mynediad Ynys Môn yn lle’r Cynghorydd Ann Griffith (rhif 14 ar y rhestr).
Penderfynwyd cadarnhau’r penodiadau fel y manylwyd arnynt yn y rhestr a gyflwynwyd ar yr amod fod enw’r Cynghorydd R. G. Parry, OBE yn cael ei gynnwys fel cynrychiolydd y Cyngor ar Grŵp Mynediad Ynys Môn. |
|
Cynllun Datblygu Hyfforddiant i Aelodau – Datblygu Hyfforddiant Aelodau 2015-16 PDF 426 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’w ystyried – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori’r Cynllun Datblygu Aelodau am 2015/16.
Penderfynwyd mabwysiadu ac ymgymryd â’r Cynllun Hyfforddiant ar gyfer Aelodau fel y caiff ei nodi yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
Cadarnhau’r Pwyllgorau Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi’r strwythur Pwyllgorau cyfredol canlynol fel y cyfeirir at hynny yn Adran 3.4 Cyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â’r canlynol:-
· Panel Tâl a Graddfeydd (Is-Bwyllgor o’r Cyngor Sir) · Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau · Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol · Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig Is-Bwyllgor Indemniadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhaodd y Cadeirydd ailbenodi’r strwythur Pwyllgorau fel y cyfeirir at hynny yn Adran 3.4 Cyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â’r canlynol –
• Panel Tâl a Graddfeydd • Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau • Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol • Cyd-bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig • Is-Bwyllgor Indemniadau |
|
Rhaglen Cyfarfodydd Cyffredin y Cyngor Sir Cymeradwyo’r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd cyffredin y Cyngor Sir am y flwyddyn i ddod:-
· 29 Medi, 2015 - 2.00 pm · 9 Rhagfyr, 2015 - 2.00 pm · 24 Chwefror, 2016 - 2.00 pm · 12 Mai, 2016 - 2.00 pm (Cyfarfod Blynyddol)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo’r rhaglen ganlynol ar gyfer cyfarfodydd arferol y Cyngor Sir am y flwyddyn i ddod –
• 29 Medi, 2015 am 2:00 p.m. • 9 Rhagfyr, 2015 am 2:00 p.m. • 24 Chwefror, 2016 am 2:00 p.m. • 12 Mai, 2016 am 2:00 p.m. (Cyfarfod Blynyddol) |