Rhaglen a chofnodion

Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 29ain Medi, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Huw Jones 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 156 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar :-

 

7 Ebrill (Arbennig)

14 Mai 2015 (10.30am)

14 Mai 2015 (2.00pm)

3 Medi 2015 (Arbennig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd o Gyngor Sir Ynys Môn a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod a chadarnhawyd eu bod yn gywir:-

 

  7 Ebrill 2015 (Arbennig)

  14 Mai 2015 (10.30am)

  14 Mai 2015 (2.00pm)

  3 Medi 2015 (Arbennig)

 

2.

Datgan Diddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem ar y Rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed datganiad personol gan yr Aelodau a ganlyn yn Eitem 9 – Darparu Clybiau Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd.  Cyflwynwyd cais ar y cyd i Banel Caniatâd Arbennig y Pwyllgor Safonau ar 24 Medi 2015 a rhoddwyd caniatâd fel bod modd i’r Aelodau perthnasol siarad a phleidleisio ar yr amod bod y mater yn ymwneud â phob ysgol/sawl ysgol:-

 

Y Cynghorwyr Jeff M. Evans, K.P. Hughes, Llinos M. Huws, Carwyn Jones, Bob Parry OBE, Nicola Roberts, Peter Rogers.

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol gan y Cynghorydd Dafydd R. Thomas mewn perthynas ag eitem 10.

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol gan y Cynghorydd K.P. Hughes mewn perthynas ag eitem 12.

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb sy’n rhagfarnu gan y Cynghorydd G.O. Jones mewn perthynas ag eitem 12 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arni.

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol mewn perthynas ag eitemau 12 ac 14 gan y Prif Weithredwr a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau hyn.

 

3.

Derbyn unrhyw Gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed y cyhoeddiadau a ganlyn gan y Cadeirydd:-

 

  Hwn fydd y cyfarfod olaf o’r Cyngor Sir i Mr. Richard Micklewright, Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 Dros Dro. Diolchodd y Cadeirydd i Mr. Micklewright am ei wasanaethau i’r Awdurdod dros yr 17 mis diwethaf. Ar ran yr Awdurdod estynnodd ei ddymuniadau gorau i Mr. Micklewright i’r dyfodol. Yn ogystal, dymunwyd yn dda i Mr. Micklewright a diolchwyd iddo am ei wasanaethau i’r Cyngor Sir gan y Prif Weithredwr a’r Cynghorydd H. Eifion Jones (Aelod PortffolioCyllid).

 

Diolchodd Mr. Micklewright i Gadeirydd y Cyngor, y Prif Weithredwr, yr Aelod Portffolio (Cyllid) a holl Aelodau’r Cyngor am eu geiriau caredig.

 

  Llongyfarchwyd y Cynghorydd Raymond Jones ar ei briodas yn ddiweddar.

 

Roedd y Cyngor Sir yn dymuno llongyfarch Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, Mr. Michael Wilson ar gael ei ddewis i ddylunio a chreu Cadair Eisteddfod Paradwys a’r Fro a gynhelir ar 21 Mai 2016.

 

  Llongyfarchwyd Ms Emma Knowles, sy’n wreiddiol o Benysarn, Amlwch am ennill Gwobr Arlunio Kyffin Williams 2015 sydd o fri mawr. Cyflwynwyd ei gwobr i Ms Knowles mewn seremoni arbennig yn Oriel Ynys Môn yn ddiweddar.

 

  Cynhelir Gwasanaeth Sul y Cadeirydd ar ddydd Sul, 11 Hydref 2015 yng Nghapel Rhos y Gad, Llanfairpwll am 2.00pm, gyda the i ddilyn yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy.

4.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn deiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddeisebau.

5.

Datganiad Cyfrifon 2014/15 pdf eicon PDF 2 MB

  Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 Dros Dro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio ar 23 Medi, 2015.

 

  Adrodd bod y Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod ar 23 Medi, 2015, wedi PENDERFYNU argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro ar y Datganiad Cyfrifon terfynol ar gyfer 2014/15.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio fod y Pwyllgor hwnnw wedi penderfynu yn ei gyfarfod ar 23 Medi 2015, ar ôl rhoi sylw i’r Datganiad Cyfrifon, y dylid argymell bod y Cyngor Sir yn derbyn ac yn cymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon ar gyfer 2014/15.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a chodwyd y materion a ganlyn:-

 

  Holwyd ynghylch y prosesau a sefydlwyd i gau’r cyfrifon yn gynharach y flwyddyn nesaf.  Ymatebodd y Rheolydd Gwasanaethau Cyfrifeg trwy ddweud bod yr Adran Gyllid wedi sefydlu prosesau angenrheidiol i gau’r cyfrifon ym mis Mai yn hytrach na mis Mehefin bob blwyddyn.

  Holwyd ynghylch dyledion tymor byr a chyfrifoldebau tymor hir ynghyd â’r prosesau ar gyfer casglu dyledion. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 Dros Dro fod prosesau wedi’u sefydlu i gasglu dyledion a bod canran uchel o ddyledion amrywiol wedi cael eu casglu. Dywedodd y byddai’n rhoi dadansoddiad manwl i’r Aelodau Etholedig o’r prosesau a ddilynwyd.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau derbyn Datganiad Cyfrifon 2014/2015.

6.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) 2014/15 pdf eicon PDF 3 MB

• Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Trawsnewid.

 

• Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith ar ôl ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 21 Medi, 2015 wedi PENDERFYNU argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  Cyflwynwyd i sylw’r cyfarfod, adroddiad y Pennaeth Trawsnewid yn ymgorffori Adroddiad Perfformiad Cyngor Sir Ynys Môn am 2014/15.

 

  Adroddwyd bod y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu fel a ganlyn ar ôl rhoi sylw i’r uchod yn ei gyfarfod ar 21 Medi 2015:-

 

cyhoeddi fersiwn derfynol yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2014/15 erbyn y dyddiad cau statudol ym mis Hydref a’i fod yn cael ei gwblhau i’r perwyl hwnnw gan Swyddogion mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio.”

 

Dygodd yr Aelod Portffolio (Trawsnewid Perfformiad, y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol) sylw at y cynnydd a wnaed gan y Cyngor yn erbyn ei amcanion gwella ar gyfer 2014/15 fel yr amlinellir trwy’r 7 maes allweddol a oedd wedi eu cynnwys yn Nogfen Gyflawni Flynyddol 2014/15.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a gwnaed y sylwadau a ganlyn:-

 

  Mynegodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ei bryderon nad oedd sylwadau’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 17 Medi 2015 wedi cael eu hymgorffori yn yr adroddiad i’r Cyngor Sir llawn. Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd y byddai sylwadau’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn cael eu hymgorffori yn yr adroddiad terfynol.

 

  Dylai dangosyddion perfformiad gael eu dangos yn y Cynllun Gwella ar gyfer 2015/16 dan y teitl Gwella’r Economi/Cymunedau.

  Cyfleusterau Gofal Ychwanegol ar gyfer Oedolion Hŷn yn ne’r Ynys – dylid cynnwys dangosydd sy’n dangos yr hyn nad oedd yr Awdurdod wedi medru ei

gyflawni.

 

Penderfynwyd derbyn a chymeradwyo’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2014/15 i’w gyhoeddi erbyn y dyddiad cau statudol o 31 Hydref.

7.

Adolygiad Blynyddol Rheoli Trysorlys 2014/15 pdf eicon PDF 610 KB

• Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 Dros Dro.

 

• Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith ar ôl ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 21 Medi, 2015 wedi PENDERFYNU argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  Cyflwynwydadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 Dros Dro.

  Adroddwyd bod y Pwyllgor Gwaith, ar ôl rhoi sylw i’r uchod yn ei gyfarfod ar 21 Medi 2015 wedi PENDERFYNU argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith a derbyn Adolygiad Blynyddol Rheoli Trysorlys 2014/15.

 

8.

Newidiadau Cyfansoddiadol i Reolau Gweithdrefn Sgriwtini pdf eicon PDF 491 KB

  Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro.

 

  Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith ar ôl ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 20 Gorffennaf, 2015 wedi PENDERFYNU argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  Cyflwynwydadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 Dros Dro.

  Adroddwyd bod y Pwyllgor Gwaith ar ôl rhoi sylw i’r uchod yn ei gyfarfod ar 21 Medi 2015 wedi PENDERFYNU argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith a derbyn y Newidiadau Cyfansoddiadol i’r Rheolau Gweithdrefn Sgriwtini.

9.

Darpariaeth Clybiau Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd pdf eicon PDF 619 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod Grŵp Tasg a Gorffen wedi cael ei sefydlu oedd yn cynnwys Penaethiaid, Llywodraethwyr Ysgol, Aelodau Etholedig a Swyddogion Addysg i drafod darparu clybiau brecwast am ddim mewn Ysgolion Cynradd. Roedd argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen fel a ganlyn:-

 

  Ysgolion i redeg clwb gofal cyn ysgol rhwng 8.00am ac 8.25am. Ysgolion wedyn i redeg clwb brecwast am ddim rhwng 8.25am ac 8.50am.  Y clybiau hyn i fod ar wahân i’w gilydd ac nid yw presenoldeb yn y clwb cyn ysgol yn ofynnol ar gyfer mynychu’r clwb brecwast.

 

  Ymgynghori ar yr argymhelliad hwn gyda’r cydranddeiliaid mewn ffordd gyffelyb i’r ymgynghoriad blaenorol e.e. defnyddio surveymonkey a gohebiaeth gyda Chyrff Llywodraethu. Gwneud hyn gan nad oedd yr argymhelliad uchod yn opsiwn a amlinellwyd fel rhan o’r ymgynghoriad gwreiddiol.

 

  Gweithredu’r trefniadau newydd, os cânt eu cymeradwyo, ym mis Medi 2016.  Os bydd y system taliadau ar-lein ar gael erbyn mis Ebrill 2016, dylid gweithredu’r trefniadau newydd o ddechrau tymor yr haf, Ebrill 2016.

 

  Bod y Grŵp Tasg a Gorffen yn parhau fel grŵp monitro a safonau ar gyfer y trefniadau newydd.  Y manylion ar gyfer y trefniadau arfaethedig yw:-

 

      Y staff a gyflogir ar hyn o bryd dan y Cynllun Brecwast am Ddim i barhau

   fel y maent yn gyflogedig am awr o dan y trefniadau presennol h.y. 7.50am i

   8.50am.

 

   Y ffi i’w gosod ar 75c y dydd y plentyn ar gyfer y clwb gofal cyn ysgol.  Os

 oes gan deulu dri neu fwy o blant yn mynychu’r clwb gofal cyn ysgol, y ffi a

 godir fydd £2 y diwrnod ar gyfer y teulu.

 

   Bydd yr Awdurdod yn gosod cyfundrefn ar gyfer casglu ffioedd yn

 electronig. Bydd angen i unrhyw arian a gesglir gael ei fancio o fewn

 trefniadau bancio arferol yr ysgol.

 

     Ni fydd unrhyw newid yn rôl Caterlink fel y darparwr brecwast.

 

   Bydd yn rhaid i’r Awdurdod ystyried yr effaith ar yr angen i gofrestru gyda

 AGGCC ar sail ysgol unigol gan fod cofrestru’n ofynnol os bydd yr ysgol yn

 rhedeg clwb cyn ysgol a chlwb ar ôl ysgol am gyfanswm o fwy na dwy awr y

 diwrnod. Nid oes cost ynghlwm â chofrestru gydag AGGCC.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a llongyfarchodd y Grŵp Tasg a Gorffen a’r Swyddogion am eu gwaith. Nodwyd y materion a ganlyn:-

 

  Dylai’r gwaith o gasglu’r ffi ar gyfer y clybiau cyn ysgol gael ei weinyddu’n briodol.

  Dylai rhieni, yn arbennig rhai o gefndir tlotach, wneud defnydd o’r clybiau brecwast am ddim oherwydd gwerth maethol y prydau.

  Swyddogion i ystyried darpariaeth i roi gwybod i rieni sydd â hawl i dderbyn credydau treth a budd-daliadau eraill sy’n gysylltiedig â gofal plant am sut i  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Rhybudd o Gynigiad a Dderbyniwyd yn Unol â Rheol 4.1.13.1 y Cyfansoddiad

Bydd y Cynghorydd Aled Morris Jones yn cyflwyno’r Rhybudd o Gynigiad isod:-

 

Rydym yn annog Cyngor Sir Ynys Môn i ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gofyn iddynt gadw’r Llysoedd Ynadon yng Nghaergybi a Llangefni.

 

Ers y Ddeddf Uno yn 1563, mae’r Llysoedd Ynadon cyfredol wedi bod yn gweinyddu cyfiawnder y Goron yn Sir Ynys Môn.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Aled Morris Jones:-

 

“Rydym yn annog Cyngor Sir Ynys Môn i ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gofyn iddynt gadw’r Llysoedd Ynadon yng Nghaergybi a Llangefni.

 

Ers y Ddeddf Uno yn 1536, mae’r Llysoedd Ynadon cyfredol wedi bod yn gweinyddu Cyfiawnder y Goron yn Sir Ynys Môn”.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M. Jones y sefydlwyd Llysoedd Ynadon ar draws y sir, gan gynnwys ym Miwmares ac Amlwch y mae’r ddau ohonynt bellach wedi cau.  Nododd ei fod yn bwysig cadw’r Llys Ynadon yng Nghaergybi a’r Llys Teulu yn Llangefni oherwydd y byddai teithio i Gaernarfon yn amhosib i rai o drigolion yr Ynys oherwydd costau a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus. Anogodd yr Aelodau Etholedig i ysgrifennu at y Weinyddiaeth Amddiffyn erbyn 8 Hydref 2015 i gadw’r Llysoedd yng Nghaergybi a Llangefni.

 

Cefnogwyd y Rhybudd o Gynnig yn unfrydol gan Aelodau’r Cyngor Sir, sef bod cadw’r Llys Ynadon yng Nghaergybi a’r Llys Teulu yn Llangefni yn hanfodol i’r Ynys a’i thrigolion.

 

PENDERFYNWYD awdurdodi’r Swyddogion i ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ran y Cyngor Sir yn gofyn iddynt gadw’r Llys Ynadon yng Nghaergybi a’r Llys Teulu yn Llangefni. 

11.

Cau Allan y Wasg a’r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y  caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-

 

Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

 

 

12.

Penodiadau i’r swyddi Dirprwy Brif Weithredwr

Cadarnhau argymhellion y Panel Penodi ar 28 Awst, 2015.

 

Cofnodion:

Cyflwynwydargymhelliad y Pwyllgor Penodi a gynhaliwyd ar 28 Medi, 2015.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Cadarnhau penderfyniad y Pwyllgor Penodi a gynhaliwyd ar 28 Medi 2015 i benodi’r ymgeiswyr i’r ddwy swydd Prif Weithredwr Cynorthwyol.

  Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr ddynodi pa ymgeisydd llwyddiannus fydd yn mynd i ba swydd.

13.

Cau Allan y Wasg a’r Cyhoedd pdf eicon PDF 69 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y  caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-

 

Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

14.

Pecynnau Tâl Diswyddo Prif Swyddogion

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Proffesiwn – Adnoddau Dynol mewn perthynas â’r uchod.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad ysgrifenedig a’r diweddariad a gafwyd ar lafar gan y Pennaeth Proffesiwn (AD), PENDERFYNWYD derbyn y cynnig yn yr adroddiad a dirprwyo awdurdod i’r Swyddog A151, y Swyddog Monitro a’r Pennaeth Proffesiwn (AD) ddatrys/setlo unrhyw faterion sy’n codi yn y broses hon neu ohoni.