Rhaglen a chofnodion

Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mercher, 9fed Rhagfyr, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Huw Jones 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr R. Meirion Jones a Peter S. Rogers ddiddordeb sy’n  rhagfarnu yng nghyswllt Eitem 6 a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 278 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 29 Medi 2015.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Medi, 2015 yn gywir.

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-

 

·   Croesawodd y ddwy Brif Weithredwr Cynorthwyol newydd, Dr Caroline Turner a Mrs Anwen Morgan i’w cyfarfod cyntaf o’r Cyngor Sir.

·   Llongyfarchwyd staff yr Adran Gwasanaethau Amgylcheddol am ennill y wobr John Connoll 2015. Roedd y Cynghorydd R.A. Dew - Deilydd Portffolio ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, a Swyddogion wedi mynychu seremoni wobrwyo yn Llundain.

·   Llongyfarchwyd Gwen Elin o Fenllech am ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel. Mae Gwen yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor.

·   Llongyfarchwyd Steffan Lloyd Owen o Bentre Berw am ennill gwobr Kathleen Ferrier.

·  Estynnwyd llongyfarchiadau i bawb a fu’n llwyddiannus yn y Ffair Aeaf a

gynhaliwyd ym Mona yn ddiweddar ac yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd.

·  Estynnwyd llongyfarchiadau i Ffermwyr Ifanc Môn a fu’n cystadlu yn yr

Eisteddfod Ffermwyr Ifanc yn Aberystwyth.

·  Diolchodd y Cadeirydd i staff Blaen y Coed a Gerddi Haulfre am addurno’r

goeden Nadolig yn y prif gyntedd yn y Cyngor Sir.

 

Nododd y Cadeirydd mai hwn fyddai’r cyfarfod olaf o’r Cyngor Sir i Mr Arthur Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cynaladwyedd a Mrs Gwen Carrington, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau. Diolchodd i’r ddau ohonynt am eu gwasanaeth i’r Cyngor.

 

Ategodd y Prif Weithredwr ei ddiolch i Mr Arthur Owen a Mrs Gwen Carrington am eu gwasanaeth i’r Cyngor a dymunodd yn dda iddynt at y dyfodol.

 

Estynnodd aelodau’r Cyngor Sir eu dymuniadau gorau i Mr Owen a Mrs Carrington hefyd.

4.

Asesiad Corfforaethol Swyddfa Archwilio Cymru pdf eicon PDF 2 MB

(a)    Derbyn cyflwyniad gan y Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch yr uchod.

 

(b)    Derbyn copi o Asesiad Corfforaethol Swyddfa Archwilio Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Mr Andy Bruce a Mr Jeremy Evans o Swyddfa Archwilio Cymru i’r cyfarfod. Nododd Mr Bruce nad oedd Mr Huw Lloyd Jones yn medru dod i’r cyfarfod am ei fod wedi colli ei fam yn ddiweddar. Roedd Aelodau a Swyddogion y Cyngor Sir yn dymuno mynegi eu cydymdeimlad dwysaf â Mr Huw Lloyd Jones a’i deulu.

 

Rhoddodd Mr Bruce grynodeb o’r meysydd allweddol o’r Asesiad Corfforaethol i’r Cyngor llawn. Nododd fod sylwadau AGGCC ac Estyn wedi eu hymgorffori yn yr adroddiad hwn h.y. –

 

·   Roedd y Cyngor wedi perfformio’n dda yn erbyn cyfran uchel o ddangosyddion cenedlaethol 2013/14, sy’n ymgorffori ystod eang o wasanaethau;

·  Roedd Estyn wedi barnu bod newid a gwelliant sylweddol wedi digwydd dros gyfnod cymharol fyr, o fewn y gwasanaeth ysgolion ac yn gorfforaethol;

·      Roedd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) wedi barnu, yn 2013/14, bod y Cyngor yn y camau cynnar o weithredu rhaglen drawsnewid uchelgeisiol ar gyfer y gwasanaethau oedolion a phlant, ac

·  Mae’r Cyngor yn parhau i wneud cynnydd o ran gwella medrusrwydd ei staff

gyda’r iaith Gymraeg.

 

Adroddwyd nad yw Swyddfa Archwilio Cymru wedi gwneud unrhyw argymhellion statudol yn ystod gwaith blaenorol y flwyddyn hon ac nad yw wedi gwneud unrhyw argymhellion yn yr adroddiad hwn. Fodd bynnag, mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi gwneud argymhellion a all fod yn berthnasol i’r Cyngor yn ei Adroddiad Cenedlaethol i Lywodraeth Leol, fel a ganlyn:-

 

Cynigion ar gyfer gwelliant:-

 

·  Dylai’r Cyngor adolygu ei flaenoriaethau gwelliant i sicrhau bod graddfa ei

uchelgeisiau yn glir ai fod yn adlewyrchiad realistig o’r capasiti a’r adnoddau sydd gan y Cyngor i’w defnyddio.

·  Dylai’r Cyngor sicrhau bod ei strategaethau ar gyfer Pobl, TGCh a Rheoli

Asedau wedi’u cysylltu’n glir â Chynllun Corfforaethol y Cyngor a’r

strategaeth ariannol gysylltiedig.

 

·  Dylai’r Cyngor:-

 

· Wreiddio ymhellach ddiwylliant o weithio corfforaethol cyson ymysg staff

ar bob lefel; a

· Sicrhau bod staff ar bob lefel yn cael eu dal yn atebol am gydymffurfio â

pholisïau’r Cyngor a rhoi penderfyniadau ar waith.

 

·  Wrth weithredu ei strategaeth gaffael newydd, dylai’r Cyngor sicrhau ei fod

yn datblygu ac yn defnyddio’r sgiliau angenrheidiol i reoli a monitro’n well ei

gontractau gyda chyflenwyr allanol nwyddau a gwasanaethau.

 

· Dylai’r Cyngor sicrhau ymagwedd gyson tuag at gynllunio gweithlu a

defnyddio’r canlyniadau fel sail i ostyngiadau mewn niferoedd staff yn y

dyfodol.

 

· Dylai’r Cyngor roi sylw’n systematig a phan fo’n briodol, yn gorfforaethol, i’r

argymhellion a’r cynigion ar gyfer gwelliant sydd wedi eu cynnwys yn:-

 

· Adolygiadau Swyddfa Archwilio Cymru o drefniadau’r Cyngor i gefnogi’r

gwaith o ddiogelu plant a Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y Cyd Gwynedd a

Môn;

· Yr adolygiad o’r gwasanaeth TGCh a gomisiynwyd gan y Cyngor;

· Y Rhybudd Gorfodaeth a gyhoeddwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd

Gwybodaeth;

· Adroddiad Gwerthuso Perfformiad 2013/14 a gyhoeddwyd gan

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru; ac

· Adroddiadau a gynhyrchwyd gan Archwilio Mewnol.

 

Roedd Aelodau’r Cyngor Sir yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 2016/17 pdf eicon PDF 410 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel a gyflwynwyd a derbyniwyd gan y Pwyllgor Gwaith ar 30 Tachwedd, 2015 ynghyd âg atodiadau i’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Cyngor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth

(Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn gosod y cynigion ar gyfer Cynllun

Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2016/17 fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 9 Rhagfyr, 2015.

 

PENDERFYNWYD cefnogi’r argymhellion oedd wedi’u cynnwys yn yr

adroddiad mewn perthynas â Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer

2016/17.

6.

Pwyllgor Safonau – Penodi Aelodau newydd o’r Cynghorau Cymuned pdf eicon PDF 325 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ynglŷn â phenodi Aelodau o Gynghorau Cymuned i’r Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD bod y Cynghorydd John Chorlton Cyngor Tref Caergybi a’r Cynghorydd John Roberts Cyngor Cymuned Llanfairpwll yn cael eu penodi yn gynrychiolwyr o Gynghorau Tref/Cymuned ar y Pwyllgor Safonau o 18 Rhagfyr, 2015 hyd nes 17 Rhagfyr, 2019.

7.

Adolygiad o Gynllun Rheoli’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) 2015-2019 pdf eicon PDF 282 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fel a gyflwynwyd a derbyniwyd gan  y Pwyllgor Gwaith ar 30 Tachwedd, 2015.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ynglŷn â’r uchod.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynllun rheoli diwygiedig fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

8.

Rhybudd o Gynnig yn unol â Rheol 4.1.13.1 o'r Cyfansoddiad

Cyflwyno’r Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd R Meirion Jones:-

 

"Yn dilyn cwestiwn i'r Cyngor ar 14 Mai 2015 penderfynodd y Cyngor i gyfeirio'r mater o warchod enwau tai ac anheddau i Grŵp Tasg Iaith y Cyngor i lunio argymhellion a pholisi penodol i'w gyflwyno i'r pwyllgor perthnasol, ac wedyn penderfynodd y Pwyllgor Gwaith ar 19 Hydref 2015 i gymeradwyo polisi ar enwi a rhifo strydoedd a thai sy'n hyrwyddo traddodiad ac etifeddiaeth ddiwylliannol yr Ynys.

 

Yn dilyn hyn gofynnir i'r Cyngor Sir ddatgan ei gefnogaeth i ymdrechion o fewn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru i gynnwys darpariaeth ym mesur Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) i warchod enwau cyffredin cyfredol a hanesyddol adeiladau a thirnodau, i gynnwys tai ac anheddau, ac mai'r manylion hynny fydd yr ystyr i'r rhestr o enwau lleoedd yn ardal yr awdurdod."

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd R. Meirion Jones:-

 

Yn dilyn cwestiwn i'r Cyngor ar 14 Mai 2015 penderfynodd y Cyngor gyfeirio'r mater o warchod enwau tai ac anheddau i Grŵp Tasg Iaith y Cyngor i lunio argymhellion a pholisi penodol i'w cyflwyno i'r pwyllgor perthnasol, ac wedyn penderfynodd y Pwyllgor Gwaith ar 19 Hydref 2015 gymeradwyo’r polisi ar enwi a rhifo strydoedd a thai sy'n hyrwyddo traddodiadau ac etifeddiaeth ddiwylliannol yr ynys.

 

Yn dilyn hyn gofynnir i'r Cyngor Sir ddatgan ei gefnogaeth i ymdrechion yn y

Cynulliad a Llywodraeth Cymru i gynnwys darpariaeth ym Mesur yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) i warchod enwau cyffredin cyfredol a hanesyddol adeiladau a thirnodau, i gynnwys tai ac anheddau, ac mai'r manylion hynny fydd yr ystyr i'r rhestr o enwau lleoedd yn ardal yr awdurdod."

 

Nododd y Cynghorydd R. Meirion Jones fod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei wneud ar ran Plaid Cymru fel yr Wrthblaid.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor Sir yn datgan ei gefnogaeth i ymdrechion yn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru i gynnwys darpariaeth ym Mesur yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) i warchod enwau cyffredin cyfredol a hanesyddol adeiladau a thirnodau, i gynnwys tai ac anheddau.