Rhaglen a chofnodion

Arbennig, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 7fed Ebrill, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Mr Huw Jones 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol at Eitem 5 ar y Rhaglen sy’n ymwneud ag arfarnu swyddi a thâl cyfartal. Dywedodd ei bod yn amlwg fod gan nifer o Aelodau Etholedig berthnasau’n gweithio i’r Cyngor ac, yn dilyn ymgynghori gydag Arweinwyr y Grwpiau, trefnodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro Banel Caniatâd Arbennig o’r Pwyllgor Safonau er mwyn gofyn am ganiatâd arbennig ar gyfer yr Aelodau Etholedig hynny. Penderfynodd y Panel Caniatâd Arbennig ryddhau caniatâd arbennig yn unol â pharagraff 2(d) y Côd Ymddygiad i’r Aelodau Etholedig hynny a oedd o’r farn fod ganddynt ddiddordeb rhagfarnus, er mwyn iddynt fedru cymryd rhan yn y drafodaeth ond nid i bleidleisio.

 

Mewn perthynas ag Eitem 5, derbyniwyd gan yr isod ddatganiadau o ddiddordebau rhagfarnus a datganiad eu bod wedi cael caniatâd arbennig oherwydd bod aelodau o’u teuluoedd yn gweithio i’r Cyngor Sir :-

 

Y Cynghorwyr Lewis Davies, Jeff M. Evans, T.V. Hughes, Llinos M. Huws, H. Eifion Jones, R.Ll. Jones, R.O. Jones, Bob Parry OBE, J. Arwel Roberts, Dafydd R. Thomas, Ieuan Williams.

 

Datganodd y Cynghorwyr R. Meirion Jones a Dylan Rees eu bod yn gyn-weithwyr i’r Cyngor Sir. Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees ei fod wedi cael barn gyfreithiol gan y Swyddog Monitro ac wedi cael ei gynghori y gallai siarad ar Eitem 5 ond petai’n dadlau dros roi ôl-gyflog i gyn-weithwyr, yna byddai ganddo ddiddordeb rhagfarnus ac ni fyddai’n cael pleidleisio. Dywedodd y Cynghorydd R. Meirion Jones yntau na fyddai’n pleidleisio os byddai ôl-gyflog ar gyfer gweithwyr yn cael ei drafod.

 

Gwnaeth Swyddogion isod y Cyngor ddatganiadau o ddiddordeb rhagfarnus yn Eitem 5 ac aethant allano’r cyfarfod cyn y drafodaeth ar yr eitem oherwydd gall y mater effeithio’n uniongyrchol ar eu graddfeydd cyflog a’u telerau ac amodau cyflogaeth:-

 

Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, Rheolydd Cyfrifeg Dros Dro, Rheolydd Strategaeth AD a Swyddog Pwyllgor.

2.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 58 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y posibilrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

3.

Penodiadau Staff - Penodi Prif Weithredwr

I gadarnhau argymhellion y Panel Penodiadau a gynhaliwyd ar 27 Mawrth, 2015.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor penodi a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2015 i benodi Dr Gwynne Jones yn Brif Weithredwr o 1 Mehefin, 2015.

4.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 69 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y posibilrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

5.

Gweithredu Arfarnu Swyddi a Thal Cyfartal

  I ystyried argymhellion y Panel Tal a Graddfeydd a gynhaliwyd ar  17 Mawrth, 2015.

 

Atodiad B

 

  Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn.

Cofnodion:

  Ystyried argymhellion y Panel Tâl a Graddfeydd a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2015.

 

  Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn - Adnoddau Dynol.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Alwyn Rowlands argymhellion y Panel Adolygu Tâl a Graddfeydd a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2015 a chynigiodd y dylai’r Cyngor Llawn dderbyn yr argymhellion hynny. Diolchodd y Cynghorydd Rowlands i’r gwasanaeth Adnoddau Dynol a’r holl bartïon a fu’n ymwneud â’r mater hwn am eu hymrwymiad a’u gwaith caled dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Aeth y Pennaeth Proffesiwn - Adnoddau Dynol drwy’r adroddiad a’r argymhellion yn fanwl, gan amlinellu’r risgiau a oedd ynghlwm wrth argymhellion y Panel Tâl a Graddfeydd ar 17 Mawrth 2015. Yn ogystal, rhoes ddiweddariad llafar mewn perthynas â’r adroddiad a rhoes wybod i’r aelodau am y cyfaddawd a roddwyd ymlaen yn dilyn negodi pellach gyda’r Undebau Llafur yn dilyn y cyfarfod o’r Panel Adolygu Tâl a Graddfeydd ar 17 Mawrth 2015.  Amlinellodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro'r sefyllfa ariannol gan gadarnhau fod yr argymhelliad a gyflwynwyd i’r Panel Adolygu Tâl a Graddfeydd yn fforddiadwy.  

Wedi ystyried argymhellion y Panel Adolygu Tâl a Graddfeydd a’r wybodaeth ychwanegol, gan gynnwys y risgiau y dygwyd sylw atynt, a gyflwynwyd gan y Pennaeth Proffesiwn – Adnoddau Dynol a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro, cynigiwyd cefnogi argymhellion y Panel Adolygu Tâl a Graddfeydd.

O blaid:

Y Cynghorwyr Dylan Rees, R Meirion Jones, Alwyn Rowlands, Richard A Dew, Kenneth P Hughes, John Griffith, Gwilym O Jones, Peter Rogers,           Derlwyn R Hughes, William T Hughes, Aled Morris Jones, Raymond Jones, Jim Evans, Vaughan Hughes. 

Yn erbyn:

Dim pleidleisiau yn erbyn.

Gwnaeth yr isod ddatganiad o ddiddordeb rhagfarnus:

Y Cynghorwyr Robert G Parry OBE, Lewis Davies, Llinos M Huws, Jeffrey M Evans, Dafydd R Thomas, Richard O Jones, H Eifion Jones, Ieuan Williams, T V Hughes, J Arwel Roberts.

PENDERFYNWYD derbyn argymhellion y Panel Adolygu Tâl a Graddfeydd a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2015.