Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Mr Huw Jones
Rhif. | Eitem |
---|---|
Dywedodd y Prif Weithredwr bod y cyfarfod arbennig hwn o’r Cyngor wedi ei alw gan Gadeirydd y Cyngor o dan ddarpariaethau’r Cyfansoddiad, yn dilyn cael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru o gyllid Grant Tai Cymdeithasol ychwanegol ar gyfer datblygu 10 o gartrefi ar safle oedd ym mherchnogaeth y Cyngor ger Bryn Paun, Llangoed. Roedd y cyllid ychwanegol hwn wedi ei ddyrannu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a rhaid ei hawlio cyn 31 Mawrth 2015 ar yr hwyraf. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ceisiodd y Cynghorydd Lewis Davies gael eglurhad a oedd angen iddo ddatgan diddordeb yn y mater oherwydd iddo fod yn gysylltiedig â datblygiad Bryn Paun fel Aelod Lleol.
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro nad oedd ei ymwneud yn y capasiti hwnnw yn creu diddordeb.
Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad arall o ddiddordeb. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 67 KB Ystyried mabwysiadu'r canlynol:-
"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm". Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm. |
|
Datblygiad Tai Cymdeithasol - Bryn Paen, Llangoed Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Tai. Cofnodion: Cyflwynwyd er ystyriaeth y Cyngor adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai oedd yn egluro’r cefndir gyda nodi Bryn Paun, Llangoed fel safle datblygu tai cymdeithasol tebygol a’r ystyriaethau oedd ynglŷn â hyrwyddo’r safle. Cadarnhaodd y Deilydd Portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol lwyddiant y Cyngor yn sicrhau cyllid grant Tai Cymdeithasol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a chyfeiriodd at yr argymhellion yn yr adroddiad i symud ymlaen gyda’r mater hwn.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai mai’r amcan gwreiddiol i’r safle yn 2012 oedd gweithredu cynnig i gyfarfod â’r anghenion am dai fforddiadwy mewn cymunedau drwy ddatblygu model lle mae gwerth y tir yn cael ei ddefnyddio fel yn nawdd i sicrhau fforddiadwyaeth. Roedd y Galluogwr Tai Gwledig wedi nodi’r angen am dai fforddiadwy yn Llangoed ac roedd hwnnw wedi’i gefnogi gan y Cyngor Cymuned gyda safle datblygu tebygol yn gyfagos i Bryn Paun oedd ym mherchnogaeth y Gwasanaethau Tai wedi ei nodi. Dewisiwyd North Wales Housing i weithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaethau Tai i ddatblygu’r cynllun. Cyfeiriodd y Swyddog at faterion y bu’n rhaid rhoi sylw iddynt yn y tair blynedd diwethaf a chadarnhaodd bod bwriadau ar gyfer datblygiad ymarferol o 10 cartref wedi ei gynllunio gan North Wales Housing mewn partneriaeth â’r Gwasanaethau Tai. Cafwyd cytundeb ynglŷn â gosodiad y datblygiad a chafwyd caniatâd cynllunio llawn. Blaenoriaethwyd y cynllun ar gyfer bid grant tai cymdeithasol ychwanegol oherwydd yn dilyn cael caniatâd cynllunio llawn a chytundeb ar gostau datblygu roedd yn barod i’w ddechrau ac roedd yn gymwys i’w ystyried. Mae dyfarnu’r dyraniad ychwanegol hwn yn ei gwneud yn bosibl i ni ddatblygu’r cartrefi hyn y mae mawr alw amdanynt fel bonws i’r dyraniad grant blynyddol sydd wedi bod yn gostwng dros y blynyddoedd diwethaf. Cyfeiriodd y Swyddog at yr ystyriaethau ariannol oedd ynglŷn â’r cynllun a chadarnhaodd bod adroddiad prisio annibynnol ar werth y tir wedi’i dderbyn ers y cafodd yr adroddiad hwn ei ddrafftio.
Roedd y Cynghorydd Lewis Davies ac Alwyn Rowlands fel Aelodau Lleol yn croesawu’r dyraniad cyllid grant ychwanegol ac yn cydnabod y gwaith a’r ymdrechion oedd wedi’u gwneud i ddod â’r cynllun i rym.
Penderfynwyd yn unfrydol -
• I werthu safle Cyfrif Refeniw Tai yn gyfagos i Bryn Paun, Llangoed i North Wales Housing ar bris oedd yn adlewyrchu pwrpasau tai cymdeithasol, fydd yn cael ei dystiolaethu drwy adroddiad prisio annibynnol.
• I gymeradwyo gwerthu’r safle i North Wales Housing ar gyfer datblygu 10 o gartrefi rhent tai cymdeithasol oherwydd i’r grant Tai Cymdeithasol ychwanegol ddod ar gael. |