Rhaglen a chofnodion

Arbennig, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 3ydd Medi, 2015 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Huw Jones 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau o ddiddordeb personol a nodwyd isod mewn perthynas ac Eitem 5 – Gweithredu Arfarnu Swyddi a Thâl Cyfartal.  Caniatawyd i’r Aelodau hynny a oedd wedi datgan diddordeb gymryd rhan yn y trafodaethau a’r bleidlais ar y mater :-

 

Y Cynghorwyr Lewis Davies, Jeff M. Evans, T.Ll. Hughes, T. Victor Hughes,

Llinos M. Huws, H. Eifion Jones, R.Ll. Jones, Alun W. Mummery, Bob Parry OBE, J. Arwel Roberts, Nicola Roberts, Dafydd R. Thomas, Ieuan Williams.

 

 

2.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau isod :-

 

·           Estynnwyd llongyfarchiadau i bawb a fu’n llwyddiannus yn Sioe Frenhinol Cymru, Sioe Amaethyddol Môn a’r Eisteddfod Genedlaethol.

 

·           Estynnwyd llongyfarchiadau i ddisgyblion ysgolion uwchradd a lwyddodd yn eu harholiadau TGAU a Lefel ‘A’. Dymunodd y Cadeirydd yn dda iddynt ar gyfer y dyfodol a phob llwyddiant i’r rheiny a fydd yn mynd i’r coleg.

 

·           Llongyfarchiadaui staff y Cyngor sydd wedi llwyddo mewn arholiadau ac wedi ennill cymwysterau yn eu meysydd perthnasol.

 

·           Hefyd, llongyfarchiadau i’r sawl a fu’n cystadlu yng Ngemau’r Ynysoedd yn Jersey yn ddiweddar.

 

·           Fel mae pawb yn gwybod, cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn ardal Bodedern mewn dwy flynedd. Cynhelir y digwyddiad codi arian cyntaf yng Nghaergybi ar 12 Medi a bydd cyfle i glywed gan gystadleuwyr o Ynys Môn a gymerodd ran yn yr Eisteddfod lwyddiannus ym Meifod eleni.

 

·           Cynhelir Gwasanaeth Sul y Cadeirydd ar ddydd Sul, 11 Hydref, 2015 am 2.00 p.m. yng Nghapel Rhos y Gad, Llanfairpwll.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth gwraig y cyn Gynghorydd Gwyn Roberts o Benysarn.  Estynnodd ei gydymdeimlad i’r teulu ar ran y Cyngor Sir ac i unrhyw Aelod neu Swyddog sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar. Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion fel arwydd o barch.

 

3.

Cyflwyno Deisebau

Cyflwyno unrhyw ddeisebau yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Weithredwr y derbyniwyd deiseb ac arni 2,440 o lofnodion o 38 o ysgolion.  Nododd nad oedd pawb a oedd wedi llofnodi’r ddeiseb yn gweithio yn yr ysgolion.

4.

Cau allan y Wasg a’r Cyhoedd pdf eicon PDF 143 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y  caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

5.

Gweithredu Arfarnu Swyddi a Thâl Cyfartal

1.  Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) mewn ymateb i gais gan Grŵp Plaid Cymru i gynnal cyfarfod arbennig o’r Cyngor Sir i drafod effaith gweithredu Statws Sengl a Thâl Cyfartal ar rai aelodau o staff.

 

2.  Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) ar y materion cyfreithiol sy’n ymwneud â Gweithredu Arfarnu Swyddi a Thâl Cyfartal ynghyd â nodyn cynghori gan ein Cynrychiolwyr Cyfreithiol.

Cofnodion:

·           Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn - Adnoddau Dynol mewn ymateb i gais gan y Grŵp Plaid Cymru i gynnal cyfarfod arbennig o’r Cyngor Sir i ystyried effaith gweithredu Statws Sengl a Thâl Cyfartal ar rai staff.

 

Dygodd y Prif Weithredwr sylw at y prif fater a oedd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad i Aelodau’r Cyngor Sir ac argymhellion y Cyngor Sir llawn a gynhaliwyd ar 14 Mai, 2015.

 

Rhoes y Pennaeth Proffesiwn – Adnoddau Dynol gyflwyniad manwl i’r Cyngor Sir ar Statws Sengl a Thâl Cyfartal.

 

Eglurodd Arweinydd Grŵp Plaid Cymru y rheswm pam fod Grŵp Plaid Cymru wedi gofyn am Gyfarfod Arbennig o’r Cyngor Sir ac effaith y broses arfarnu swyddi ar staff.

 

Cynhaliwyd sesiwn cwestiynau ac ateb ar gyfer yr Aelodau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

·           Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – Adnoddau Dynol ar y materion cyfreithiol sy’n ymwneud â gweithredu Arfarnu Swyddi a Thâl Cyfartal. Roedd Nodyn Cynghori gan gynrychiolwyr cyfreithiol y Cyngor Sir ynghlwm wrth yr adroddiad.  

 

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Mrs. Kim Howells a Mrs. Lowri Phillips o Geldards LLP i’r cyfarfod. Rhoes Mrs. Howells gyflwyniad cynhwysfawr i’r Cyngor Sir mewn perthynas â’r strategaeth weithredu mewn perthynas â’r rhaglen Statws Sengl. 

 

Yn dilyn sesiwn cwestiwn ac ateb, PENDERFYNWYD:-

 

·         Bod y Cyngor yn cymryd y cam o gynnig ymestyn gweithrediad y strwythur tâl a graddfeydd a thelerau ac amodau Statws Sengl newydd yn orfodol i’r holl weithwyr nad ydynt, ar ddyddiad cyflwyno’r llythyr a.188, wedi cytuno’n wirfoddol i’r newidiadau, trwy derfynu eu contractau cyflogaeth presennol a chynnig eu hailgyflogi ar y telerau ac amodau Statws Sengl newydd, cyhyd â bod hyn, yn achos unrhyw staff sy’n gweithio yn yr ysgolion, wedi’i gyfyngu i ysgolion lle mae’r Corff Llywodraethu wedi penderfynu mabwysiadu’r cynigion Statws Sengl;

 

·         Bod y llythyr a.188 drafft yn cael ei gwblhau gan y Tîm Gweithredu a’i gyflwyno i’r tri Undeb Llafur cydnabyddedig mor fuan â phosib yn cadarnhau bod y cyfnod ymgynghori torfol yn cychwyn;

 

·         Bod y Tîm Gweithredu yn parhau i negodi gydag unrhyw Gyrff Llywodraethu nad ydynt eto wedi penderfynu mabwysiadu’r cynnig Statws Sengl gyda’r nod o’u hannog i fabwysiadu’r cynigion;

 

·      Bod gofyn i’r Tîm Gweithredu barhau i gynnal deialog gyda’r tri Undeb Llafur gyda’r nod o ddod i gytundeb gyda’r cynrychiolwyr priodol ar ffyrdd o:

 

·      osgoi diswyddiadau;

·      gostwng nifer y gweithwyr fydd yn cael eu diswyddo; a

·         lliniaru canlyniadau’r diswyddiadau.

 

·         Bod y Tîm Gweithredu yn parhau i wneud ymdrech i annog gweithwyr a effeithir i gytuno i’r telerau Statws Sengl, ar yr un telerau gwirfoddol ac a gymeradwywyd yn flaenorol gan y Cyngor, er mwyn lleihau nifer y staff a allai dderbyn rhybudd diswyddo yn y pen draw;

 

·         Bod y Prif Weithredwr neu ei gynrychiolydd dirprwyedig yn derbyn cyfrifoldeb dirprwyedig am reoli unrhyw broses ddiswyddo ac ailgyflogi gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, penderfynu a ddylid a pha bryd y dylid cyflwyno unrhyw rybuddion diswyddo a p’un a ddylid cynnal unrhyw broses ddiswyddo ar yr un pryd neu ar sail  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.